Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 13eg Mehefin, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ail-etholwyd y Cynghorydd Dylan Rees yn Gadeirydd y CYSAG.

 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Is-Gadeirydd y CYSAG.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol, gan ei fod yn

wirfoddolwr gyda Gobaith Môn.

4.

Cofnodion Cyfarfod 14 Chwefror, 2017 pdf eicon PDF 138 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2017.

 

Materion yn codi:-

 

Eitem 6 - Hunan Arfarniadau Ysgol

 

Y Swyddog Addysg Gynradd i adrodd yn ôl ar atgoffa ysgolion i ddefnyddio'r opsiynau cywir wrth ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol INCERTS.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2017, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Cyflwyniadau

Derbyn cyflwyniadau gan y canlynol ar eu gwaith yn y maes addysg grefyddol:-

 

(a)  Ysgol Llanfawr;

(b)  Ysgol Uwchradd Caergybi/Gobaith Môn.

Cofnodion:

Ysgol Uwchradd Caergybi

 

Cafwyd cyflwyniad gan Mr Joe Morino o Gobaith Môn ar waith y sefydliad gydag ysgolion uwchradd ar Ynys Môn, gan gyfeirio’n benodol at Ysgol Uwchradd Caergybi.

 

Cyflwynodd Mr Morino drosolwg o Gobaith Môn, elusen gofrestredig a chorff Cristnogol sydd â bwrdd o ymddiriedolwyr rhyng-enwadol. Mae’r sefydliad yn gweithio’n bennaf gyda phobl ifanc, gan ddod â Christnogion o’r holl enwadau at ei gilydd, ac yn annog a datblygu gwaith ieuenctid gydag ysgolion, eglwysi a chymunedau ar yr Ynys.

 

Adroddodd Mr Morino fod Gobaith Môn, yn ei waith ag Ysgol Uwchradd Caergybi, wedi edrych ar yr addoli ar y cyd yn ei gyfanrwydd, mewn gwasanaethau a dosbarthiadau cofrestru. Rhoddodd grynodeb o’r trefniadau addoli ar y cyd yn yr ysgol, a chyfeiriodd at y model a fabwysiadwyd er mwyn hwyluso sesiynau addoli ar y cyd. Nodwyd fod Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol i gyflwyno straeon aml-gyfrwng, dramâu a chlipiau. Rhennir straeon Beiblaidd fel rhan o wasanaethau sy’n seiliedig ar bwnc er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i edrych ar gwestiynau mawr bywyd.

 

Adroddodd Mr Adam Rhys Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi, fod y gwaith a wneir gan Gobaith Môn yn gynnil, yn ennyn brwdfrydedd ac yn berthnasol. Ymgysylltir â disgyblion yn y gwasanaeth boreol, ac maent yn ymwneud yn dda â’r tîm. Mae Gobaith Môn yn darparu brecwast i ddisgyblion yn yr ysgol; yn gweithio ar y newyddlen ysgol ac yn darparu cefnogaeth ar faterion bugeiliol mewn amgylchedd croesawgar a diogel.

 

Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

Cyflwynodd Ms Nicola Williams, athrawes yn Ysgol Llanfawr, bortffolio o waith a luniwyd gan ddisgyblion yr ysgol i aelodau’r CYSAG. Rhoddodd gyflwyniad ar y broses a fabwysiadwyd gan yr ysgol ar gyfer addoli ar y cyd, sy’n cynnwys cynnal gwasanaeth dyddiol ar wahân ar gyfer yr adran babanod a’r adran iau. Nodwyd fod yr ysgol yn cynnal sesiynau addoli ar y cyd er mwyn astudio’r Hen Destament a’r Testament Newydd; ac edrychir ar faterion moesol sy’n gysylltiedig â storïau a negeseuon Beiblaidd. Mae plant yr ysgol yn gyfrifol am un o’r sesiynau addoli ar y cyd.

 

Dywedodd Ms Williams fod Ysgol Llanfawr yn cymryd rhan yn y rhaglen ‘Llyfr Agored’, sydd wedi cael ei symleiddio ar gyfer y babanod a’i addasu ar gyfer disgyblion yr adran iau. Mae Gobaith Môn wedi cynnal sesiwn addoli ar y cyd anffurfiol yn yr ysgol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y ddwy ysgol am eu cyflwyniadau a’u gwaith caled.

6.

Adroddiadau Estyn - Gwanwyn 2017 pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno gwybodaeth o adroddiadau Arolwg Estyn, Gwanwyn, 2017, mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

(a)  Ysgol Gynradd Niwbwrch

(b)  Ysgol David Hughes, Porthaethwy

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan CYSAG, wybodaeth o adroddiadau Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Niwbwrch ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

 

Ysgol Gynradd Niwbwrch

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Cynradd nad yw Estyn wedi gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer gwella yn Ysgol Gynradd Niwbwrch. Mae’r ysgol yn cyfarfod â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Maes Llafur Cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol. Nodwyd fod darpariaeth briodol ar gyfer sesiynau addoli ar y cyd yn yr ysgol a bod y cwricwlwm yn cefnogi datblygiad ysbrydol yn effeithiol.

 

Ysgol David Hughes (Fframwaith Newydd)

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Cynradd y bydd Estyn, o fis Medi 2017, yn gweithredu fframwaith arolygu ysgolion newydd, fydd yn cynnwys pum cwestiwn yn hytrach na’r tri presennol. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn treialu’r fframwaith newydd ac mae Ysgol David Hughes ac Ysgol Llanfawr wedi cael eu harolygu’n barod fel rhan o’r cynllun peilot. Nodwyd y bydd Estyn yn rhoi tair wythnos o rybudd cyn cynnal arolygiad yn y dyfodol, felly mae’n rhaid i ysgolion fod yn barod am arolygiad.

 

Mae cynlluniau penodol yn eu lle ar gyfer datblygiad ysbrydol mewn Addysg Grefyddol yn Ysgol David Hughes, gyda phwyslais penodol ar ‘lais y plentyn’. Rhoddir cyfle i ddisgyblion ddylanwadu ar gynnwys y rhaglen er mwyn ymateb i’w hanghenion. Yn ddiweddar cynhaliwyd sesiynau yn yr ysgol i roi sylw i ragfarn hiliol cyn i ffoaduriaid o Syria ddod i fyw i’r ardal.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at arfer dda mewn llythrennedd a arsylwyd mewn gwersi Addysg Grefyddol yn yr ysgol, fel y nodir yn Adroddiad Estyn –

 

“Llwydda’r ysgol i gynnig profiadau gwerthfawr i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd buddiol i ysgrifennu’n estynedig mewn llawer o bynciau. Enghraifft symbylus o hwn yw’r cyfle mewn gwersi addysg grefyddol i ddisgyblion ddatblygu eu llythrennedd ochr yn ochr â datblygu empathi, drwy ddychmygu bywyd mewn diwylliannau a chrefyddau gwahanol.”

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd i ofyn i Ysgol David Hughes rannu eu harfer dda gyda'r CYSAG.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth.

7.

Hunan Arfarniadau Ysgol pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno adroddiad Hunan Arfarnu AG yr ysgolion a nodir:-

 

(a)  Ysgol Kingsland, Caergybi

(b)  Ysgol Esceifiog, Gaerwen

(c)  Ysgol Llanfairpwllgwyngyll

(d)  Ysgol Santes Fair, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y CYSAG, adroddiadau hunan-arfarnu gan Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi; Ysgol Esceifiog, Gaerwen; Ysgol Llanfairpwll, ac Ysgol Santes Fair, Caergybi.

 

Nododd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y pedair ysgol wedi barnu fod safonau yn dda yn gyffredinol o ran perfformiad mewn Addysg Grefyddol, ond amlygodd yr angen i nodi’r prif negeseuon o’r adroddiadau hunan-arfarnu yn glir, ac i weithredu ar faterion sydd angen eu gwella.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

  Efallai y byddai disgyblion Sikh a Mwslimaidd yn teimlo eu bod yn cael eu cau allan, ac efallai y gallai athrawon ystyried gweithio gyda theuluoedd, er mwyn cynnwys eu credoau crefyddol yn y gwersi, fel eu bod yn teimlo’n rhan o’r ysgol.

  Dylid datblygu geirfa a’r gallu i gwestiynau, gan roi cyfleoedd i ddisgyblion fynegi barn ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  Pwysigrwydd datblygu dealltwriaeth o effaith crefydd ar fywyd rhywun sydd yn grediniwr.

  CA2parhau i ddatblygu tasgau heriol ac estynedig ar gyfer y disgyblion mwy galluog ym mhob dosbarth.

 

Nododd yr Athro Euros Wyn Jones nad yw dimensiwn Cymreig bywyd yr ysgol wedi cael ei ddatblygu’n ddigonol yn Ysgol Santes Fair, gyda’r prif ffocws ar Dewi Sant, a defnydd cyfyngedig yn unig a wneir o’r iaith Gymraeg wrth addoli. Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE y dylai profiadau Addysg Grefyddol yn ysgolion Ynys Môn ganolbwyntio ar safbwynt lleol, Cymreig a byd-eang. 

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiadau hunan-arfarnu ac i nodi eu cynnwys. Diolchwyd i’r ysgolion dan sylw am ddarparu’r adroddiadau i'r CYSAG.

8.

Diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE

Derbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE (Miss Bethan James) gan gynnwys y Cynllun Gweithredu.

Cofnodion:

1.  Aelodau Newydd CYSAG

 

Cafwyd crynodeb o rôl aelodau CYSAG gan yr Ymgynghorydd Her GwE, a threfnodd fod yr aelodau newydd yn derbyn gwybodaeth am rôl a chyfrifoldebau’r CYSAG. Dywedodd wrth yr aelodau fod y cwricwlwm a chanllawiau Addysg Grefyddol yn cael eu penderfynu’n lleol, a bod pob awdurdod lleol a CYSAG yng Nghymru wedi mabwysiadu'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd i gylchredeg y dogfennau canlynol i aelodau newydd CYSAG:

 

a)  Rôl Aelodau CYSAG;

b)  Maes Llafur Cytûn Ynys Môn a Gwynedd;

c)  Dyfodol Llwyddiannus

 

2.  Cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol Newydd

 

Cafwyd diweddariad gan Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, ar y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol (AC) newydd. Adroddodd fod athrawon AG wedi rhannu adnoddau ar gyfer y cwrs, sy’n cael ei gyflwyno ym mis Medi, a byddant ar gael ar wefan GwE.

 

Codwyd pryderon na fyddai pob ysgol yn dyrannu’r un faint o amser ar gyfer cyflwyno’r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd. Codwyd pryderon hefyd nad yw rhai adnoddau masnachol wedi cael eu cyfieithu.

 

Diolchodd y CYSAG i’r athrawon am eu mewnbwn ac am gydweithio â Gwynedd:-

 

 Llawer o ddiolch i’r penaethiaid am eu cefnogaeth mewn perthynas â’r TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd drwy roi amser i athrawon gyfarfod fel HYB ac i fynychu cyrsiau perthnasol;

  Yn deall fod llawer iawn o waith paratoadol wedi ei wneud yn barod a’i rannu ag athrawon yn ystod y cyfarfod ar 12 Mehefin yng Nghaernarfon;

  Canmol yr athrawon am eu parodrwydd i gydweithio, cefnogi ei gilydd a rhannu adnoddau;

  Gobeithio y bydd athrawon yn derbyn amser digonol i addysgu’r cwrs newydd.”

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Cynradd, ar ran y CYSAG, i:-

 

  ysgrifennu at Benaethiaid yn Ynys Môn,

 

   a)  yn diolch iddynt am gefnogi eu hathrawon AG, fel eu bod yn gallu mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd er mwyn eu paratoi ar gyfer y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd;

   b)  llongyfarch eu hathrawon AG am eu gwaith caled, a,

   c)  gofyn fod amser yn cael ei ddyrannu i’r Adran AG, yn unol â chanllawiau CBAC, er mwyn addysgu’r cwrs AC newydd.

 

  Ysgrifennu at Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynegi pryderon y CYSAG fod cyrsiau diwinyddiaeth i israddedigion ac athrawon arfaethedig yn gostwng.

 

  Rhannu cofnodion y cyfarfod hwn gyda’r Pennaeth Dysgu.

 

3.  Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm Newydd

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ar y canlynol:-

 

  fod rhaid i’r cwricwlwm newydd ymateb i’r 4 pwrpas addysg canlynol y cyfeirir atynt yn Adroddiad Donaldson – sef y bydd pob un o’n plant a’n pobl ifanc yn:-

 

     ddysgwyr uchelgeisiol, galluog

     gyfranwyr mentrus, creadigol

     ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n fodolon gweithredu

     unigolion iach a hyderus

 

  Mae AG yn rhan o’r maes dysgu a phrofiad Dyniaethau. Mae’n rhaid i’r maes AG gysylltu â’r 5 maes dysgu a phrofiad arall, a disgwylir iddo gyfrannu at  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cyfansoddiad y Pwyllgor pdf eicon PDF 353 KB

Trafod Cyfansoddiad y CYSAG (Cylchlythyr 10/94).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Addysg Cynradd Gyfansoddiad CYSAG Ynys Môn a Chylchlythyr rhif 10/94 i’r CYSAG er gwybodaeth.

 

Gofynnwyd a ddylai’r Ymgynghorydd Her GwE fod â hawl pleidleisio pan fydd yn cynrychioli CYSAG Ynys Môn yng nghyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru Cytunodd y Pwyllgor y dylai Miss Bethan James bleidleisio ar ran CYSAG Ynys Môn yn y cyfarfodydd.

 

Cytunodd y CYSAG i nodi Cyfansoddiad y Pwyllgor er gwybodaeth.

 

10.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 407 KB

I ystyried y canlynol:-

 

(a)  Ethol Is-Gadeirydd CYSAGau Cymru, ac i Bwyllgor Gwaith CYSAGau Cymru;

(b)  Cyflwyno cofnodion Pwyllgor Gwaith CYSAGau Cymru, 1 Chwefror 2017.- I’W RANNU YN Y CYFARFOD

(c)  Cyflwyno cofnodion CYSAGau Cymru, 3 Mawrth 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor gofnodion drafft y Cymdeithas CYSAGau Cymru a

gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017.

 

11.

Dyddiadau Cyfarfodydd 2017/18

Nodi dyddiadau cyfarfodydd y CYSAG hyd at Mawrth, 2018 fel a ganlyn:-

 

  10 Hydref, 2017

  20 Chwefror 2018

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ddyddiadau cyfarfodydd y CYSAG sef 10 Hydref 2017 a 20 Chwefror 2018 am 2.00 pm.