Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 13 Mehefin, 2017 PDF 318 KB Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2017. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2017 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir, yn amodol ar y canlynol:-
Gofynnodd Mrs Catherine Jones am gywiriad i fersiwn Gymraeg y cofnodion, gan ei bod yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr ac nid yr Eglwys Bresbyteraidd fel y nodwyd yn yr ymddiheuriadau. |
|
Materion yn Codi • Ysgol David Hughes i rannu’i arferion da o’u hadroddiad Estyn. • Aelodau newydd y CYSAG i dderbyn dogfennau ar rôl a chyfrifoldeb y CYSAG. • Diolch i Brif Athrawon am gefnogi athrawon AG a dyrannu amser i addysgu’r cwrs AG newydd. • Bod pryderon y CYSAG bod diwinyddiaeth yn dirywio yn cael eu hanfon ymlaen at Ddeon Coleg Cenedlaethol Cymru. • Cofnodion i'w rhannu gyda'r Pennaeth Dysgu. • Dolen deiseb addoli ar y cyd i'w hanfon at Aelodau'r CYSAG. Cofnodion: Cadarnhaodd Mr Gareth Jones, y Swyddog Addysg:
6 - Bydd cynrychiolydd o Ysgol David Hughes yn mynychu cyfarfod nesaf y CYSAG i rannu'r arfer da yn y maes llythrennedd mewn AG, fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad Estyn. 8 (1) - Mae gwybodaeth am rôl a chyfrifoldeb y CYSAG wedi cael ei hanfon ymlaen at Aelodau newydd y CYSAG. 8 (2) - Diolchwyd i Benaethiaid am gefnogi athrawon Astudiaethau Crefyddol ac am neilltuo amser iddynt ddysgu'r cwrs AG newydd. Mae Mrs Mefys Edwards wedi mynegi ei gwerthfawrogiad o’r cymorth gan y CYSAG. 8 (2) - Mae gohebiaeth wedi'i hanfon at Ddeon Coleg Cenedlaethol Cymru yn cyfleu pryderon y CYSAG bod y niferoedd sy’n dilyn diwinyddiaeth mewn ysgolion a cholegau yn gostwng. 8 (2) - Mae cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG wedi cael eu rhannu gyda'r Pennaeth Dysgu. 8 (5) - Mae'r ddolen deiseb mewn perthynas ag Addoli ar y Cyd wedi'i hanfon ymlaen at aelodau'r CYSAG. Cafwyd diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas, aelod cyfetholedig, ar y sefyllfa gyfredol o ran y ddeiseb, ac adroddodd bod Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad wedi cyfarfod ar 3 Hydref, 2017 ac wedi gohirio gwneud penderfyniad ar y mater.
Cynigiodd y Cadeirydd, a chytunodd y CYSAG, ei fod yn ysgrifennu at Mr Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Cymru dros Ynys Môn, yn mynegi pryder y CYSAG am yr amser a gymerir gan y Pwyllgor Deisebau i wneud penderfyniad ar addoli ar y cyd.
Gweithredu:
Fel y nodwyd uchod. |
|
Adroddiad Blynyddol CYSAG Môn 2016/17 PDF 826 KB • Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17. • Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17 i'r Awdurdod i'w ystyried. Diolchodd y Cadeirydd i Miss Bethan James, yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella (GwE) am ei hymdrechion yn paratoi'r adroddiad. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn crynhoi gwaith y Pwyllgor hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Tynnodd yr Ymgynghorydd Cymorth sylw at y pwyntiau canlynol o'r adroddiad:
• Cyflwynwyd 11 o adroddiadau hunan-arfarnu yn ystod y flwyddyn, sy'n cyfateb i 21% o Ysgolion Môn ac sy’n gyson â'r nifer a gyflwynwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae yna ysgolion sydd dal heb gyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu yn dilyn llythyrau anfonwyd atynt ar 1 Gorffennaf, 2016, 23 Ionawr a 26 Medi, 2017. • Dywedodd bron pob ysgol fod eu safonau, eu darpariaeth a'r Addoli ar y Cyd yn dda. Roedd un ysgol wedi bod yn onest iawn a dweud bod ei safonau a'i darpariaeth yn ddigonol. Nodwyd bod pwyntiau gweithredu'r ysgol yn deg ac yn ddilys, ac roedd y CYSAG yn gwerthfawrogi parodrwydd yr ysgol i rannu ei chynlluniau gyda'r Pwyllgor.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella grynodeb o'r prif bwyntiau y mae pob ysgol neu grŵp o ysgolion wedi eu gwneud. Mae tueddiadau wedi dod i'r amlwg eleni oherwydd y defnydd o'r teclyn tracio. Nodwyd materion sydd angen sylw pellach yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Bwriad yr athrawon oedd: -
• sicrhau bod disgyblion, erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, yn datblygu ac yn deall effaith crefydd ar gredinwyr; • datblygu sgiliau rhesymu disgyblion wrth iddynt drafod cwestiynau crefyddol mawr; • datblygu gallu disgyblion i ddadansoddi a dehongli haenau o ystyr.
Mewn perthynas â darparu AG mewn ysgolion, nododd y CYSAG arferion da, sy'n dangos natur y profiadau y mae plant yn eu cael yn yr ysgol. Maent yn cynnwys mynychu ymweliadau addysgol; canolbwyntio ar sgiliau holi a gwneud gwaith ffilmio. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ei bod yn dda gweld plant ysgol uwchradd yn CA3 yn delio â chwestiynau mawr, sylfaenol.
Nododd CYSAG fod pob ysgol yn cydnabod eu bod yn deall natur Addoli ar y Cyd ac yn cydymffurfio â'r gofynion statudol.
Yn y crynodeb o argymhellion yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ar gyfer y Cyngor, rhoddwyd pwyslais arbennig ar annog yr Awdurdod i helpu cydlynwyr i wella canlyniadau AG mewn ysgolion, a chael mynediad at arweiniad ac arferion da.
Gan gyfeirio at ganlyniadau arholiadau allanol, argymhellwyd bod athrawon ysgol uwchradd yn parhau i weithio gyda'i gilydd. Mae dwy athrawes yn Ynys Môn, sef Mrs Mefys Edwards a Mrs Angharad Derham o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn Ymarferwyr Arweiniol ar draws y Gogledd, ac wedi gwneud gwaith ardderchog yn cydlynu athrawon yn Ynys Môn a Gwynedd yn benodol i weithio gyda'i gilydd i baratoi ar gyfer y maes llafur TGAU newydd.
Dywedwyd mai ychydig iawn o wybodaeth sy’n ymwneud ag AG yn yr Adroddiadau Arolygu gan Estyn. Dim ond pedwar adroddiad Estyn a gyflwynwyd eleni, tri yn y sector cynradd ac un yn y sector uwchradd.
Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu’r CYSAG i'w ystyried a chyfeiriwyd yn benodol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Safonau Addysg Grefyddol PDF 192 KB Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â'r uchod:-
• Asesiadau Athrawon CA3 (Haf 2011) • Canlyniadau arholiadau allanol (Haf 2011) • Arolygiadau ysgol • Hunan arfarniadau ysgol Cofnodion: Asesiadau Athrawon CA3 – heb eu trafod. Canlyniadau Arholiadau Allanol – heb eu trafod.
Arolygon Ysgolion
Cyflwynwyd gwybodaeth o adroddiadau Arolygu Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Dwyran, Ysgol Gynradd Henblas, Ysgol Gynradd Pencarnisiog ac Ysgol Uwchradd Caergybi ar gyfer ystyriaeth y CYSAG.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Rhian Hughes, Pennaeth Ysgol Pencarnisiog i'r cyfarfod.
Adroddodd y Pennaeth fod arolwg Estyn llawn wedi’i gynnal yn Ysgol Pencarnisiog ym mis Chwefror, 2016, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd yn arweinyddiaeth yr ysgol.
Nodwyd bod adroddiad Estyn wedi gwneud pum argymhelliad, y bu'n rhaid i'r ysgol ymateb iddynt o fewn deuddeng mis. Roedd argymhelliad 3 yn adroddiad Estyn yn dweud y dylai'r ysgol:
"Sicrhau bod cynlluniau gwaith yn ymateb yn llawn i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r maes llafur ar gyfer Addysg Grefyddol."
Dywedodd y Pennaeth wrth y CYSAG fod Estyn wedi dychwelyd i'r ysgol ar ôl deuddeng mis i fonitro cynnydd yn erbyn yr argymhellion.
Yn ystod yr arolwg Estyn, bu'r Pennaeth yn gweithio'n agos iawn gyda'r Ymgynghorydd Cymorth Ysgolion a'r Ymgynghorydd Cymorth GwE sy'n gwasanaethu CYSAG Ynys Môn, a wnaeth yn siŵr bod yr ysgol yn ymateb i argymhellion Estyn. Sefydlwyd Cynllun Gweithredu ôl-arolwg yn yr ysgol, a chydweithiodd staff a mapiwyd trosolwg cyffredinol ar gyfer AG, gan sicrhau bod eu cynlluniau ar draws yr ysgol yn bodloni'r gofynion AG. Defnyddiodd yr ysgol ganllawiau AG Llywodraeth y Cynulliad yn y Cyfnod Sylfaen a CA2 ar gyfer cynllunio ymlaen, a defnyddiwyd adnoddau a oedd ar gael ar wefan Cynnal.
Rhoddwyd cyflwyniad manwl gan y Pennaeth ar y camau a gymerwyd gan Ysgol Pencarnisiog i fodloni gofynion Estyn. Nodwyd bod gwaith i wella safonau yn yr ysgol yn parhau, ond mae’r ysgol wedi'i thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion y mae angen i Estyn eu monitro. Diolchodd y Pennaeth i'r Ymgynghorwyr GwE am eu cymorth a'u cyfarwyddyd ardderchog yn ystod yr amser anodd hwn.
Llongyfarchodd y CYSAG y Pennaeth am y gwaith da a'r cynnydd a wnaed yn yr ysgol, a diolchodd iddi am ei chyflwyniad heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ei fod wedi mynychu sesiwn addoli ar y cyd yn yr ysgol, ac roedd y plant yn ymateb yn dda yn ystod y drafodaeth ac yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrech.
Ysgol Gynradd Dwyran
Dywedodd y Swyddog Addysg fod gan Ysgol Gynradd Dwyran gynlluniau gwaith priodol sy'n ymateb i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Maes Llafur Cytûn ar gyfer AG. Nodwyd bod gwersi yn cael eu cynllunio yn y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir a bod yr addysgu yn yr ysgol wedi'i strwythuro.
Mae gweithgareddau allgyrsiol ar gael i ddisgyblion, ac mae'r ysgol yn meithrin datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol a chymdeithasol y disgyblion yn llwyddiannus, ac yn myfyrio ar bynciau megis Syria. Nodwyd o adroddiad Estyn bod safon yr addysgu yn yr ysgol yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Arolwg Thematig Estyn PDF 196 KB Derbyn ymateb i Arolwg Thematig Estyn. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn holiadur 'Cwestiynau i Gadeiryddion’ gan Estyn ac fe’i rhannodd gyda'r CYSAG. Gofynnwyd i aelodau'r Pwyllgor am eu sylwadau mewn ymateb i’r cwestiynau. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cymorth fod Estyn bellach yn cynnal adolygiadau thematig mewn ysgolion. Pwnc adolygiad y llynedd oedd y Dyniaethau h.y. Hanes a Daearyddiaeth. Mae’r canlyniadau wedi'u cyhoeddi ar wefan Estyn. Roedd canlyniadau'r arolygon yn galonogol yn y sector cynradd a’r sector uwchradd fel ei gilydd, ac fe gyflwynwyd argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Eleni, bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig ar AG, a bydd yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru yn ogystal â chynnal cyfweliadau dros y ffôn a choladu gwybodaeth a gasglwyd gan arolygwyr yn ystod eu hymweliadau arolygu ag ysgolion. Yr unig ysgol ym Môn yr ymwelir â hi fydd Ysgol Parc y Bont.
Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau a wnaed gan aelodau’r CYSAG mewn ymateb i’r holiadur. Awgrymwyd bod y Cadeirydd, yr Ymgynghorydd Cymorth a'r Swyddog Addysg yn gweithio gyda'i gilydd ar ymateb sy’n cynnwys sylwadau'r CYSAG. Cynigiwyd anfon ymateb drafft at yr Aelodau i'w gymeradwyo, ac i gynnwys unrhyw sylwadau pellach gan y CYSAG, cyn i'r fersiwn derfynol gael ei hanfon ymlaen at Estyn erbyn y dyddiad cau, sef 27 Hydref, 2017.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Cymorth ei bod hi wedi derbyn copi o'r cwestiynau y bydd Estyn yn eu gofyn i ysgolion yn ystod yr adolygiad thematig. Awgrymodd y dylid cynnwys rhai o'r cwestiynau yn y templed a fydd yn cael ei anfon at ysgolion i baratoi adroddiadau hunan-arfarnu.
PENDERFYNWYD bod y CYSAG yn cytuno i'r uchod.
Gweithredu:
• Anfon sylwadau'r CYSAG at y Swyddog Addysg. • Bod y Swyddog Addysg yn anfon ymateb drafft at aelodau’r CYSAG ar ran y Cadeirydd am sylwadau pellach ac i’w gymeradwyo. • Bod y Swyddog Addysg yn anfon fersiwn derfynol o ymateb y CYSAG i Estyn erbyn 27 Hydref, 2017. • Bod yr Ymgynghorydd Cymorth yn cynnwys cwestiynau o’r holiadur yn y templed ar gyfer adroddiadau hunan-arfarnu’r ysgolion. |
|
Diweddariad llafar am TGAU Astudiaethau Grefyddol Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r uchod.
Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon dan eitem 4 ar y rhaglen..
|
|
Diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE Derbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE (Miss Bethan James) ar unrhyw ddatblygiadau diweddar. Cofnodion: Atgoffodd yr Ymgynghorydd Cymorth y CYSAG fod cylchgrawn cyfrwng Cymraeg AG CA3 ar gael ar wefan HWB. Enw’r pedwerydd rhifyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw 'Yr Amgylchedd'. |
|
Cymdeithas Cysagau Cymru PDF 435 KB I ystyried cofnodion CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf, 2017. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor gofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Wrecsam ar 7 Gorffennaf, 2017. Dywedodd y Cadeirydd ei fod hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, ond nid oedd ei bresenoldeb wedi ei gofnodi.
Amlygodd Mr Rheinallt Thomas, yr aelod cyfetholedig, y prif bwyntiau a drafodwyd yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a mynegodd bryder ynghylch y protocol ar gyfer anfon cofnodion cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru. Roedd wedi atgoffa aelodau Cymdeithas CYSAGau Cymru y byddai'r cofnodion wedi cyrraedd cyn pen pythefnos i'r cyfarfod yn y gorffennol, ond mae'r broses gyfredol yn cymryd llawer mwy o amser, er bod rhai CYSAGau angen cael mynediad i’r cofnodion yn gynharach, cyn cyfarfodydd y CYSAG. Nodwyd bod y cofnodion yn cael eu hanfon yn Saesneg i ddechrau, gyda'r cyfieithiad Cymraeg i ddilyn. Cydnabuwyd y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal pan gylchredir y cofnodion. Adroddodd Mr Thomas nad oedd y ddau bwynt gweithredu wedi eu rhoi ar waith hyd yma, gan nad yw fersiwn Gymraeg y cofnodion wedi dod i law.
Cyfeiriodd Mr Thomas at gyflwyniadau ardderchog Mrs Mefys Edwards ar gynnydd Ymarferwyr Arweiniol yng ngogledd Cymru, a'u gwaith yn darparu cymorth i ysgolion sy'n cyflwyno'r fanyleb TGAU newydd. Llongyfarchwyd Mrs Edwards gan Mr Thomas ac aelodau eraill o Gymdeithas CYSAGau Cymru am ei chyflwyniad effeithiol iawn yn y cyfarfod.
Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 10 Tachwedd, 2017. |
|
Gohebiaeth Derbyn gohebiaeth gan Estyn. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf o’r CYSAG, sef 20 Chwefror 2018. Cofnodion: Mae dyddiad cyfarfod nesaf y CYSAG wedi'i aildrefnu i ddydd Mercher, 6 Mawrth 2018, oherwydd nad oedd rhai aelodau o’r CYSAG ar gael ym mis Chwefror. |