Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 - Hunan Arfarniad Ysgolion, gan ei fod yn Lywodraethwr yn Ysgol Y Fali.

 

 

2.

Cofnodion Cyfarfod - 9 Hydref. 2018 pdf eicon PDF 400 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

           

Materion yn Codi:-

 

  Yn dilyn cais gan y CYSAG i Gymdeithas CYSAGau Cymru gynnwys Addoli ar y Cyd ar raglen ei gyfarfod nesaf, cyfeiriodd y Cadeirydd at eitem 9 cofnodion cyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru, a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2018, sy’n datgan fod aelod o Gymdeithas CYSAGau Cymru wedi paratoi dogfen ar Addoli ar y Cyd fydd yn cael ei chylchredeg i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Adroddodd y Cadeirydd y bydd modd i’r Pwyllgor benderfynu a roddwyd sylw i’w pryderon ar ôl i’r CYSAG dderbyn copi ohoni.

  Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at eitem 7 yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru, sy’n datgan fod y Gymdeithas wedi ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, i fynegi pryder fod GwE wedi tynnu cefnogaeth arbenigol Addysg Grefyddol oddi ar y CYSAGau.

  Cadarnhaodd Clerc y CYSAG ei bod wedi cysylltu ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i’r Eglwys enwebu aelod fel cynrychiolydd ar y CYSAG, a disgwylir am ymateb ganddynt.

  Adroddodd y Clerc fod y Pennaeth Dysgu wedi cytuno y bydd Ms Meinir Hughes, cyn Ymgynghorydd Her GwE, yn cynorthwyo Mrs Helen Bebb a Mrs Heledd Hearn i baratoi Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2018/19.

  Nodwyd fod y Cadeirydd a’r Clerc yn cynnal trafodaethau ynghylch trefniadau i fynychu cyfarfod Penaethiaid Ysgolion Uwchradd Ynys Môn.

  Nodwyd fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am rôl a chyfrifoldeb y CYSAGau yn y sector cynradd.

 

Gweithredu:

 

Gwahodd y Cadeirydd i fynychu’r Fforwm Ysgolion Cynradd er mwyn profi arfer dda yn ysgolion Ynys Môn, yn ogystal â chodi proffil y CYSAG yn y sector.

 

  Cadarnhaodd y Clerc ei bod wedi ysgrifennu at Ysgol Rhosybol, Ysgol Bryngwran ac Ysgol Gynradd Llanfairpwll i’w llongyfarch ar eu llwyddiant ar ôl iddynt dderbyn adroddiadau arolygiadau Estyn ardderchog.

  Mewn ymateb i’r camgymeriad yn y papur arholiad Lefel A Addysg Grefyddol cyfrwng Cymraeg, cadarnhaodd Mrs Heledd Hearn fod pob ysgol uwchradd yn Ynys Môn wedi e-bostio CBAC er mwyn mynegi eu pryderon.

 

Nodwyd fod athrawon wedi derbyn ymatebion cyffredinol gan CBAC yn cydnabod y camgymeriad, gan ddweud y byddai’r amryfusedd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth farcio papurau. Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau Andrew Pearce yn eitem 10, cofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru, a oedd yn nodi:-

 

Ymdriniwyd yn effeithiol iawn â’r mater, ac ni roddwyd y disgyblion dan anfantais ac ni ddyfarnwyd graddau is iddynt o ganlyniad i’r sefyllfa”.

 

Yn groes i sylw Mr Pearce, roedd cynrychiolwyr athrawon ar y CYSAG o’r farn fod y disgyblion wedi dioddef oherwydd y camgymeriad.

3.

Cyflwyniad - Ysgol Gymuned Rhosybol

Derbyn cyflwyniad gan Ysgol Gymuned Rhosybol.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Gwennan Roberts, Pennaeth Ysgol Gymuned Rhosybol, i’r cyfarfod ac fe’i gwahoddwyd i roi cyflwyniad ar waith yr ysgol mewn perthynas â’r ddarpariaeth Addysg Grefyddol.

 

Adroddodd y Pennaeth fod yr ysgol, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi bod yn paratoi trosolwg o sut i symud ymlaen gyda'r cwricwlwm AG newydd a’i 4 egwyddor, a ddyfeisiwyd gan yr Athro Graham Donaldson.

 

Cafwyd cyflwyniad diddorol gan y Pennaeth a oedd yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a’r gweithgareddau a gyflawnir yn yr ysgol. Nodwyd fod y plant yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol e.e. ‘Llyfr Agored’, gwasanaeth boreol, gweithgareddau tymhorol, prosiectau cymunedol, ymweld â llefydd o ddiddordeb ayb. Cyflwynwyd enghreifftiau da i’r CYSAG o sut mae disgyblion yn ymwneud â’i gilydd ac yn gweithio’n dda gyda’i gilydd. Maent yn cynnwys prosiectau ysgol, lle mae’r plant yn rhannu adnoddau, dangos empathi ac awydd i helpu eraill, a dysgu am gredoau a thraddodiadau crefyddol eraill.

 

Tynnodd y Pennaeth sylw at bwysigrwydd rhoi llais i ddisgyblion, a chyfle i fod yn annibynnol ac yn gyfrifol am eu gweithredoedd.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Pennaeth am gyflwyniad diddorol ac am rannu arferion da'r ysgol gyda’r CYSAG.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad a’r gwaith ardderchog y mae Ysgol Gymuned Rhosybol yn ei wneud.

4.

Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Ynys Môn 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

  Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2017/18.

 

  Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG.

 

Cyflwyno Crynodeb y Cadeirydd ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft 2017/18 y CYSAG i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Cadeirydd y byddai Crynodeb y Cadeirydd yn cael ei gyflwyno maes o law, ar ôl cwblhau’r adroddiad drafft terfynol.

 

Nodwyd fod disgyblion oedd yn astudio AG yn CA4 a CA5 wedi perfformio’n dda, gyda thri chwarter yn ennill graddau A-C, a phob disgybl yn CA5 llwyddo.

 

Nodwyd bod AG yn bwnc poblogaidd, gan fod traen o ddisgyblion sy’n astudio’r cwrs TGAU yn dewis y pwnc ar gyfer Lefel A. Nodwyd fod y canlyniadau yn gadarnhaol, o ystyried yr heriau’n gysylltiedig â’r cwricwlwm a diffyg yr adnoddau dwyieithog sydd ar gael i athrawon, ac mewn cymhariaeth â’r niferoedd isel sy’n dewis pynciau yn y Dyniaethau.

 

Gofynnodd y CYSAG a oedd camgymeriadau yn y tabl yn Adran 2.3.3 yr adroddiad ynglŷn ag arolygiadau ysgolion cynradd Estyn? Cytunodd y CYSAG i godi’r mater gyda’r swyddog sy’n gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2017/18, fel y’i cyflwynwyd.

  Y Clerc i godi pryderon y CYSAG ynghylch y tabl yn Adran 2.3.3 yr adroddiad gyda’r swyddog sy’n paratoi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18.

  Bod fersiwn ddiwygiedig o Gyfansoddiad CYSAG, ynghyd ag unrhyw newidiadau a argymhellir gan y CYSAG, yn cael eu hanfon at y swyddog perthnasol cyn diwedd mis Chwefror, er mwyn i’r adroddiad drafft terfynol gael ei baratoi a’i gylchredeg i aelodau’r CYSAG. 

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

5.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag arolygiadau Estyn (Hydref 2018) ynglŷn â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Talwrn

  Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Clerc i’r CYSAG, yn ymgorffori gwybodaeth o adroddiadau Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Talwrn ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, i’r CYSAG eu hystyried.

 

Nodwyd fod Estyn wedi adrodd fod safonau'r ddarpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd yn dda yn y ddwy ysgol.

 

Adroddodd Mrs Mefys Jones-Edwards mai hi oedd cynrychiolydd yr ysgol yn ystod Arolygiad Estyn yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac roedd hi’n falch o fod yn rhan o drafodaethau gydag Ymgynghorwyr Her GwE. Dywedodd fod Estyn, wrth gyfeirio at safonau mewn AG, yn cyfeirio at sgiliau darllen, ysgrifennu a gwybyddol, a thynnodd sylw at y dyfyniadau a ganlyn o’r adroddiad:-

 

  Mae llawer o ddisgyblion yn ddarllenwyr hyderus. Maent yn distyllu gwybodaeth berthnasol o ffynonellau amrywiol yn llwyddiannus ac yn dadansoddi testunau yn effeithiol, gan ddod i gasgliadau synhwyrol...

  Mae llawer o ddisgyblion yn ymateb yn fedrus i gynnwys ac arddull testunau llenyddol...

  Mae llawer o ddisgyblion yn ysgrifennu’n estynedig i ystod eang o bwrpasau a chynulleidfaoedd...

 

Adroddodd Mrs Jones-Edwards ei bod yn falch fod AG yn derbyn sylw dyledus, yn gyfartal â phob un o bynciau eraill y cwricwlwm.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiadau hunanarfarnu.   

 

Gweithredu: Dim

6.

Hunan Arfarniad Ysgolion pdf eicon PDF 595 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan Ysgol Gymuned Rhosybol, Ysgol Llanfairpwll, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Y Fali. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau hunanarfarnu Ysgol Gymuned Rhosybol, Ysgol Llanfairpwll, Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel ac Ysgol y Fali i’r CYSAG eu hystyried.

 

Trafododd y CYSAG y diffyg ymateb cyffredinol gan ysgolion pan ofynnir iddynt gyflwyno adroddiad hunanarfarnu. Gofynnwyd a ddylai’r CYSAG roi pwysau ar ysgolion sydd heb gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu i wneud hynny bob dwy flynedd? Nodwyd yn y gorffennol mai’r arferiad oedd i’r CYSAG ofyn i ysgolion a oedd newydd gael eu harolygu gan Estyn i gyflwyno eu hadroddiadau.

 

Awgrymwyd, oherwydd newidiadau yn y cwricwlwm, fod GwE, yr awdurdod lleol a’r Eglwys yn gweithio gyda’i gilydd i lunio’r model gorau ar gyfer derbyn adroddiadau hunanarfarnu gan ysgolion.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, a chytunwyd i flaenoriaethu ysgolion sydd heb gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu yn y gorffennol. Nodwyd mai dim ond cyflwyno copi i’r CYSAG sydd angen i ysgolion ei wneud gan ei bod yn ofynnol i ysgolion baratoi’r adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys adroddiadau hunanarfarnu ysgolion.

  Bod y Cadeirydd yn gofyn am gefnogaeth y Pennaeth Dysgu i symud ymlaen â’r cynnig uchod.

  Bod y Clerc a Mrs Anest Frazer yn trafod yr opsiynau gorau ar gyfer symud ymlaen mewn perthynas ag adroddiadau hunanarfarnu ysgolion.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

7.

Cyfansoddiad y Pwyllgor pdf eicon PDF 350 KB

I adolygu Cyfansoddiad CYSAG Môn.

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor Gyfansoddiad y CYSAG.

 

Nodwyd fod dwy sedd wag o’r enwadau crefyddol ar y CYSAG, sef Undeb Annibynwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

 

Oherwydd diffyg presenoldeb, gofynnwyd ai’r Parch Kate McClelland yw cynrychiolydd yr Eglwys Fethodistaidd ar y CYSAG?

 

Nodwyd fod un sedd wag ar gyfer cynrychiolydd athrawon o’r sector cynradd ar y CYSAG.

 

Adroddodd y Clerc y byddai’n cysylltu ag Mrs Amanda Earnshaw, yr athrawes sy’n gyfrifol am AG yn Ysgol Cybi, Caergybi, er mwyn holi a fyddai ganddi ddiddordeb bod yn gynrychiolydd ysgolion cynradd ar y CYSAG.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Diweddaru Cyfansoddiad y CYSAG.

  Bod y Clerc yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Undeb Annibynwyr Cymru yn gofyn iddynt enwebu cynrychiolydd o’r Eglwys i fod yn aelod o CYSAG Ynys Môn.

  Bod y Clerc yn cysylltu ag Ysgrifennydd yr Eglwys Fethodistaidd i holi a yw’r wybodaeth sydd gan y CYSAG ynghylch ei gynrychiolydd yn gywir.

  Y Clerc i wahodd Mrs Amanda Earnshaw i gynrychioli’r sector cynradd ar y CYSAG.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

 

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 412 KB

Cyflwyno cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llanilltud Fawr ar 20 Tachwedd 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2018, i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Cyfeiriodd y Cydlynydd AG at eitem 10 ar y Rhaglenymateb Andrew Pearce i adborth ar ganlyniadau Lefel A 2018 CBAC.

 

Dywedodd y Cydlynydd AG ei bod yn anghytuno â datganiad Mr Pearce, oherwydd er bod y graddau lefel A yn dda iawn, mae ffiniau’r graddau Athroniaeth yn isel iawn yn Lefel A a TGAU. Nodwyd fod y ffiniau presennol ar gyfer derbyn gradd C yn 60%. Llynedd, aeth y ffin gradd C i lawr i 47%, sydd yn gallu bod yn gamarweiniol, gan fod safonau yn gostwng.

 

Codwyd pryderon oherwydd bod ysgolion yn dal i ddisgwyl am adnoddau dwyieithog ar gyfer maes llafur Lefel A AG. Nodwyd nad oes adnoddau Cymraeg na Saesneg ar gael ar gyfer nifer o unedau’r cwrs Lefel A. Roedd yr athrawon o’r farn ei bod yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’r mater hwn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Clerc yn anfon e-bost at Arweinydd y Cyngor er mwyn cyfleu pryderon y CYSAG i Mr Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am ddiffyg adnoddau Cymraeg mewn ysgolion.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

9.

Gohebiaeth

Derbyn unrhyw ohebiaeth.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ei fod, yn ei rôl fel Cadeirydd y Cyngor Sir a Chadeirydd y CYSAG, wedi anfon e-bost at bob un o Benaethiaid ysgolion cynradd Ynys Môn yn gwahodd ysgolion i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’r plant, drwy wneud y pethau bychan i gofio Dewi Sant. Gofynnodd i’r disgyblion adrodd yn ôl i CYSAG am yr hyn a wnaethant.

10.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi bydd y cyfarfod nesaf y CYSAG ar 25 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal am 2.00 pm, dydd Mawrth, 25 Mehefin, 2019.

 

 

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.

 

 

 

12.

Cynrychiolydd y Dyneiddwyr ar CYSAG Ynys Môn

I ystyried cais i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol gael ymuno â CYSAG Môn.

Cofnodion:

Rhoddodd y CYSAG ystyriaeth i gais i ganiatáu i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol ymuno â CYSAG Ynys Môn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn ymateb gan Mr Richard Speight, Cadeirydd Grŵp Dyneiddwyr Bangor, yn dilyn ei gais am wybodaeth ynghylch aelodaeth y Grŵp. Nodwyd fod gan y Dyneiddwyr 9 aelod lleol, 3 ohonynt yn byw ar Ynys Môn.

 

Trafododd y CYSAG gais y Dyneiddwyr a gofynnwyd am gyngor y Swyddog Monitro ynghylch yr opsiynau posib.

 

Ar ôl ystyried cyngor y Swyddog Monitro, PENDERFYNODD y CYSAG fel a ganlyn:-

 

  Peidio â chefnogi’r penodiad ar y sail ganlynol:-

 

  Er yn cydnabod cymhwyster posib, nid yw’r ymgeisydd wedi darparu unrhyw wybodaeth i awgrymu fod angen iddynt fod yn aelod er mwyn i CYSAG adlewyrchu’n briodol brif draddodiadau crefyddol Ynys Môn wrth ymgymryd â’i swyddogaethau;

  Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y ffaith, yn unol â’r wybodaeth a  gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, mai dim ond tri dilynwr sydd yn byw ar Ynys Môn; a

  Dim ond cynrychioli eu credoau eu hunain all yr ymgeiswyr ei wneud ac nid, fel yr awgrymir yn y cais, gredoau holl boblogaeth Ynys Môn nad oes ganddynt grefydd.

 

  Bod y Cadeirydd yn anfon e-bost at Mr Richard Speight o Grŵp Dyneiddwyr Bangor (a chopi i Glerc y CYSAG), er mwyn ei hysbysu am benderfyniad y CYSAG.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.