Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion - 15 Hydref 2019 pdf eicon PDF 419 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Aled Morris Jones wedi cael ei benodi’n aelod o’r CYSAG.

  Cadarnhawyd bod y Parch. Jim Clarke mewn cysylltiad â’r Eglwys Bresbyteraidd er mwyn i’r Eglwys enwebu cynrychiolydd i’r CYSAG.

  Adroddodd y Cadeirydd fod yr Eglwys Fethodistaidd wedi enwebu’r Parch. Sue Altree fel cynrychiolydd ar y CYSAG, a derbyniodd y CYSAG yr enwebiad.

  Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorwyr Gwilym O Jones ac Alun Mummery eu bod wedi ymweld ag ysgolion lleol i arsylwi Addoli ar y Cyd.

 

Cafwyd adroddiad llawn gwybodaeth gan y Cynghorydd Gwilym O Jones yn dilyn ei ymweliad ag Ysgol Kingsland, Caergybi pan yr arsylwodd y gwasanaeth boreol yn yr ysgol. Dywedodd mai thema’r sesiwn Addoli ar y Cyd oedd cyfeillgarwch, gyda phwyslais ar ofalu. Dywedodd bod y gwasanaeth yn un ardderchog, a’i fod yn codi ymwybyddiaeth am werthoedd, ystyr a phwrpas ac yn rhoi cyfle i’r disgyblion adlewyrchu ar ddigwyddiadau a oedd yn cael effaith ar yr ysgol a’r gymuned leol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Alun Mummery iddo fynychu sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol Llanfairpwll a’r thema oedd ar y bryn a thŷ ar y tywod. Dywedodd fod ei ymweliad yn un pleserus iawn, a gwelodd y disgyblion yn ymateb yn dda yn yr ysgol gan ddangos fod ganddynt sylfaen gadarn mewn Addysg Grefyddol.

 

Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol y Talwrn, a’i bod yn sesiwn ardderchog. Roedd y disgyblion yn dathlu’r ŵyl Hindŵ, Diwali, ac yn darllen straeon o’r Beibl.

 

Anogodd y Cadeirydd aelodau’r CYSAG i fynychu sesiynau Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts ei fod wedi trefnu i arsylwi sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch.

 

  Nodwyd bod yr Ymgynghorydd AG a chynrychiolwyr CYSAGau eraill wedi codi’r broblem o anghysondeb rhwng papurau arholiad a’r llwyth gwaith yn y Maes Llafur Cytûn AG o gymharu â phynciau eraill yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Aberaeron. Adroddwyd fod CBAC yn gwrthod cydnabod y broblem o hyd. Mewn perthynas â diffyg adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg, rhannwyd e-byst gydag athrawon er mwyn rhannu adnoddau a syniadau.

 

Adroddodd cynrychiolwyr athrawon y CYSAG fod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn sylweddol mewn AG ar lefel TGAU oherwydd y llwyth gwaith. Adroddwyd fod nifer y disgyblion sy’n astudio TGAU wedi gostwng o rhwng 50 a 60 o ddisgyblion yn y gorffennol i 18 mewn un ysgol eleni. Nodwyd fod disgyblion yn trafod y pwnc gyda’i gilydd ac yn cyfleu’r neges fod y maes llafur AG yn rhy drwm o gymharu â phynciau eraill.

 

Mynegodd aelodau’r CYSAG bryder bod llai o ddisgyblion yn astudio AG. Nodwyd bod y CYSAG wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Cysag Ynys Môn ar gyfer 2018/19 i’w fabwysiadu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2018/19 i’r CYSAG ei fabwysiadu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd AG a Chlerc y CYSAG am baratoi’r Adroddiad Blynyddol, a fabwysiadwyd gan y CYSAG, yn amodol ar wneud mân newidiadau.

           

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd a mabwysiadu Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2018/19.

  Bod copi terfynol o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2018/19 yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru, er gwybodaeth.

4.

Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion - Cylch Gorchwyl a Chynllun Gweithredu 2020/22 pdf eicon PDF 359 KB

  Cyflwyno Cylch Gorchwyl Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion.

 

  Derbyn diweddariad ar Gynllun Gweithredu CYSAG 2020/22.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG bod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo’r CYSAG i fonitro AG mewn ysgolion. Mae saith o gynrychiolwyr athrawon o’r sector cynradd ac uwchradd yn aelodau o’r Panel, ac mae tri ohonynt yn aelodau o’r CYSAG. Mae’r Ymgynghorydd AG yn edrych a oes modd i ddau aelod o’r Panel o’r sector cynradd, Mr Rhys Hearn a Ms Elin Owen, fod yn gynrychiolwyr athrawon (nad ydynt yn cynrychioli eglwys) ar y CYSAG.

 

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl a Chynllun Gweithredu’r Panel ar gyfer 2020/22 i’r CYSAG eu hystyried.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a ddylai’r Panel adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yna adrodd yn ôl i’r CYSAG. Cytunodd y CYSAG â’r cynnig hwn.

 

Nodwyd mai rôl y Panel yw annog ysgolion i rannu arfer dda ymysg ei gilydd, a thrwy hynny godi proffil y CYSAG a’r Panel mewn ysgolion, yn ogystal â chyflawni rôl monitro. Bydd yr Ymgynghorydd AG a Chlerc y CYSAG yn darparu canllawiau i’r Panel ac yn cyflwyno gwybodaeth newydd a diweddariadau gan Gymdeithas CYSAGau Cymru, Llywodraeth Cymru, Estyn, ac adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.

 

Cytunodd y CYSAG fod cyfraniad y Panel yn gam cadarnhaol i ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth y CYSAG o’r gwaith a wneir mewn ysgolion a bydd yn rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd rhwng cyfarfodydd, yn arbennig mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd. Adroddodd yr Ymgynghorydd AG ei bod wedi llwyddo i gael cyllid i ryddhau’r cynrychiolwyr athrawon ar y Panel o’u dyletswyddau.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG bod cyfarfod cyntaf y Panel wedi canolbwyntio ar AG a’r Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Panel ym mis Mawrth, pan fydd y Panel yn adolygu’r Fframwaith AG newydd ac adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG ynghylch eu canfyddiadau.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr angen i athrawon gael parhad wrth bontio rhwng y sector cynradd a’r uwchradd. Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn berthnasol i ddisgyblion o 3 i 16 oed, mae angen i athrawon ysgolion uwchradd fod yn ymwybodol o lefel y gwaith a gwblhawyd yn yr ysgolion cynradd. Nodwyd bod cyfathrebu da yn hanfodol rhwng staff fydd yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Nodwyd fod gan Ysgol Gatholig y Santes Fair, Caergybi broses adrodd wahanol ar gyfer AG ac nid yw’n cael ei chynrychioli yn y Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion. Awgrymwyd bod Clerc y CYSAG yn cysylltu â’r Pennaeth, Mr Richard Jones, i ofyn a fyddai’n ystyried bod yn aelod o’r Panel.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn Cylch Gorchwyl y Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion fel y’u cyflwynwyd.

  Cytuno fod y Panel Gweithredol yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yn cyflwyno ei sylwadau i’r CYSAG.

  Bod Clerc y CYSAG yn ysgrifennu at Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Santes Fair, Caergybi i’w wahodd i ymuno â’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno adroddiadau arolwg Estyn a gynhaliwyd yn yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Goronwy Owen, Benllech

  Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau arolygiadau a gynhaliwyd yn Ysgol Goronwy Owen,  Benllech ac Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu i’r CYSAG eu hystyried.

 

Cadarnhaodd Clerc y CYSAG fod safonau yn dda yn y ddwy ysgol, ac nad oedd unrhyw broblemau wedi codi.

   

Adroddodd Clerc y CYSAG fod Ysgol Goronwy Owen yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol disgyblion yn llwyddiannus, a bod disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr cydwybodol a hyderus sydd â sgiliau da o ran gweithi’n annibynnol.

 

Mae adroddiad arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Rhyd y Llan yn datgan fod disgyblion yn ymwneud yn dda â’i gilydd ac yn parchu safbwyntiau ei gilydd. Mae gan ddisgyblion agwedd bositif at eu gwaith ac mae’r mwyafrif yn gwneud cynnydd cadarn. Mae staff yn creu ethos gofalgar, hapus a chynhwysol yn yr ysgol, ac mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

 

Gwnaed argymhellion ar gyfer gwella gan Estyn ar gyfer y ddwy ysgol, a bydd yr ysgolion yn llunio Cynllun Gweithredu i fynd i’r afael â’r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn adroddiadau arolygu Estyn.

6.

Adroddiadau Hunan Arfarnu Ysgolion pdf eicon PDF 737 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol y Fali

  Ysgol Rhoscolyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau hunan arfarnu gan Ysgol y Fali ac Ysgol Rhoscolyn.

 

Adroddodd Pennaeth Ysgol y Fali fod safonau AG yn dda yn yr ysgol. Dywedodd fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu siarad am eu teimladau, gweithredoedd a’u barn erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen. Erbyn diwedd Blwyddyn 5 a 6 yng Nghyfnod Allweddol 2, gall nifer o ddisgyblion esbonio sut mae eu teimladau, gweithredoedd a’u barn effeithio ar eu bywydau.

 

Mae adroddiad hunan arfarnu Ysgol Rhoscolyn yn datgan fod safonau AG yn foddhaol yn yr ysgol a bod rhai meysydd angen sylw. Esboniodd y Pennaeth fod gan y mwyafrif o ddisgyblion agwedd gadarnhaol ac iach tuag at AG a’u bod yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion moesol, lles ac ysbrydol. Nodwyd fod safonau addysgu AG a chyfraniad AG at ddatblygiad disgyblion yn gyffredinol dda yn yr ysgol. Nodwyd fod rhywfaint o’r derminoleg yn adroddiad hunan arfarnu Ysgol Rhoscolyn yn anghywir. Awgrymodd y CYSAG fod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion yn cynnig cefnogaeth i’r ysgol ynghylch y mater.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion hysbysu Ysgol Rhoscolyn am y derminoleg gywir i’w defnyddio mewn adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG, er y derbyniwyd nifer o adroddiadau hunan arfarnu yn ddiweddar, dim ond dau a gyflwynwyd i’r CYSAG er mwyn lleihau’r llwyth gwaith ar y rhaglen. Awgrymodd fod y Panel yn adolygu’r adroddiadau hunan arfarnu ysgolion sy’n weddill ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG gydag enghreifftiau o arfer dda a rhagoriaeth, ac yn hysbysu’r CYSAG am feysydd sydd angen eu gwella o bosib.

 

Nodwyd y byddai’r fethodoleg hon yn caniatáu i’r CYSAG ganolbwyntio ar feysydd penodol a phwyntiau a godwyd gan y Panel, a’u monitro. Yn flaenorol, pan oedd y CYSAG yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu nid oedd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd. Drwy ddefnyddio arbenigedd y Panel i asesu’r adroddiadau, bydd modd codi pwyntiau da, a rhoi sylw i faterion sydd angen eu gwella.

 

Codwyd pryderon gan y CYSAG nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi ymatebion ysgolion yn eu hadroddiadau hunan arfarnu, a bod angen cyflwyno mwy o wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach na thicio bocsys yn unig. Nodwyd y gall y CYSAG gynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gwella safonau mewn AG drwy ddadansoddi adborth gan ysgolion. Nodwyd nad oes sicrwydd ar hyn o bryd bod y safonau sy’n cael eu hadrodd yn gywir.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod y Panel yn cadw at arfer orau drwy Gymdeithas CYSAGau Cymru mewn perthynas â chywirdeb gwybodaeth a gyflwynir mewn adroddiadau hunan arfarnu ysgolion. Awgrymwyd hefyd fod y Panel yn adolygu fformat a naratif adroddiadau hunan arfarnu maes o law.

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiadau hunan arfarnu AG ysgolion a gyflwynwyd.

  Bod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn y lle cyntaf ac yn cyflwyno ei sylwadau i’r CYSAG.

  Bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022

Derbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd AG ar y Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022 a’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG bod fersiwn drafft o’r Cwricwlwm newydd i Gymru 2022 wedi cael ei gyhoeddi, ac yr anfonir dolen at aelodau’r CYSAG iddynt gael mynediad i’r ddogfen.

 

Nodwyd fod y CYSAG eisoes wedi ymgynghori ar y Fframwaith drafft ar gyfer AG ond y bydd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach pan gyhoeddir y Fframwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod Libby Jones, yr Ymgynghorydd AG ar gyfer Wrecsam, wedi trefnu cyfarfod arbennig yn Wrecsam ar 26 Mawrth 2020 i GYSAGau Gogledd Cymru drafod y Fframwaith ar gyfer AG. Dywedodd y Cadeirydd bod angen cefnogaeth gan arbenigwyr sydd ag arbenigedd pwnc ar y CYSAGau i esbonio’r Fframwaith a pharatoi ymateb ar gyfer holl GYSAGau Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD  bod Clerc y CYSAG yn gwahodd aelodau’r CYSAG i fynychu’r cyfarfod am 10.30yb ar 26 Mawrth 2020 yn Ysgol Clywedog, Wrecsam.

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 638 KB

  Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2020 yn Aberaeron, Ceredigion.

 

  Ystyried enwebiadau i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

  Cyflwyno ymateb Pwyllgor Gweithredol CCYSAGauC i'r ymgynghoriad ar sicrhau mynediad i'r cwricwlwm llawn.

 

  Cyflwyno’r ohebiaeth ganlynol gan Gadeirydd CYSAGauC mewn perthynas ag:-

 

   AG Cyfnod Allweddol 4;

   Fframwaith AG 2022.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Aberaeron ar 21 Tachwedd 2019.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd AG am fynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. Ni dderbyniwyd yr un enwebiad gan CYSAG Ynys Môn.

 

Trafododd y CYSAG gynnwys llythyrau gan Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ynghylch AG yng Nghyfnod Allweddol 4, a’r Fframwaith AG ar gyfer 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas CYSAGau Cymru.

9.

Gohebiaeth

Y Cadeirydd i adrodd am unrhyw ohebiaeth a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Roedd Mr Chris Thomas, aelod o’r CYSAG nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod, wedi anfon gwybodaeth at y CYSAG am y Gwasanaeth Addysg Gatholig (CES) a Byd Olwg a Chrefyddau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Thomas am ei gyfraniad, a dywedodd ei fod wedi codi nifer o bwyntiau da.

10.

Cyfarfod Nesaf

Mae cyfarfod nesaf CYSAG wedi’i drefnu ar gyfer 23 Mehefin 2020 am 2.00 o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2020 am 2.00yp.