Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 467 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2019.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir.

           

 Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Gan gyfeirio at gais y Cadeirydd i fynychu cyfarfod o’r Fforwm Ysgolion Cynradd, mae Grŵp Cyswllt y Penaethiaid wedi cymeradwyo’r cais, a bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at y Cadeirydd a’r Cydlynydd AG i fynychu cyfarfod o’r Fforwm yn fuan. 

  Cadarnhawyd fod nifer yr adroddiadau Estyn a restrir yn y tabl yn Adran 2.3.3 a Adroddiad Blynyddol 2017/18 yn gywir.

  Nodwyd fod newidiadau i Gyfansoddiad y CYSAG mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor hwn yn cael eu trafod ar ddyddiad diweddarach.

  Mae Cadeirydd a Chlerc y CYSAG wedi cael trafodaeth gyda Mr Arwyn Williams, y Pennaeth Dysgu, ynglŷn â’r diffyg arbenigedd proffesiynol sydd ar gael i’r CYSAG allu ymgymryd â’i swyddogaeth statudol. Roedd Mr Williams yn cydnabod bod y CYSAG angen cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, nid dim ond gan yr Awdurdod hwn, ond hefyd gan GwE ac Estyn, sy’n ymwybodol o’r sefyllfa.

  Adroddodd y Clerc i’r CYSAG ei bod yn aros am ateb gan Ysgrifennydd Undeb Annibynwyr Cymru i gais y CYSAG i’r Eglwys enwebu cynrychiolydd i fod yn aelod ar CYSAG Ynys Môn.

  Mewn perthynas â phryderon y CYSAG ynglŷn â’r diffyg adnoddau dysgu dwyieithog, fe godwyd y mater mewn cyfarfod o Fforwm Iaith y Cyngor Sir. Cadarnhawyd fod Cadeirydd y Fforwm Iaith wedi ysgrifennu at Mr Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn mynegi pryderon y Fforwm. 

  Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi anfon e-bost at Mr Richard Speight o Grŵp Dyneiddwyr Bangor yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad y CYSAG i beidio penodi aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr ar y Pwyllgor hwn.

  Mewn perthynas ag adroddiadau hunan-arfarnu yr ysgolion, awgrymwyd a mabwysiadwyd fod ysgolion yn y 5 dalgylch yn cael eu targedu yn eu tro, sy’n golygu gofyn am 8 o adroddiadau bob tymor. Byddai unrhyw ysgolion sydd heb ddarparu adroddiad yn cael eu hamlygu ar y 6ed tymor dilynol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Clerc i’r CYSAG yn adolygu’r opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys aelodaeth o enwadau crefyddol eraill ar y CYSAG.

  Bod y Clerc i’r CYSAG yn gweithredu’r cynnig uchod mewn perthynas ag adroddiadau hunan-arfarnu ysgolion.

3.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

  Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2017/18 i’w gymeradwyo.

 

  Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2019/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y CYSAG am 2017/18 i’r Pwyllgor i’w gymeradwyo. 

 

Dywedodd aelod o’r CYSAG fod tabl heb ei gyfieithu yn Adran 2.3.2 y fersiwn Gymraeg o’r Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y CYSAG 2017/18, gyda’r cywiriad a nodir uchod.

 

  Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu y CYSAG am 2019/22 i’w ystyried ac er mwyn derbyn sylwadau, a chyfeiriwyd yn benodol at yr hyn mae’r Pwyllgor wedi’i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau a’r deilliannau sydd wedi eu rhestru yn y Cynllun, a fydd yn cael eu monitro gan y CYSAG yn flynyddol. 

 

Adroddodd y Cydlynydd AG fod y Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o Adroddiad Blynyddol y CYSAG, y Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022, ac adroddiad Estyn (Mehefin 2018) yn trafod AG yng CA2 a CA3. Pwysleisiodd fod angen i athrawon a disgyblion fod yn ymwybodol o’r newidiadau a ddaw yn sgil y cwricwlwm.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a fyddai’r sectorau cynradd ac uwchradd yn cydweithio mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd? Nodwyd nad oes unrhyw gydweithio ar hyn o bryd, ond y bydd yna yn y dyfodol. Nodwyd ymhellach fod y term ‘osgoi dyblygu’ yn cael ei ddefnyddio yn y cwricwlwm newydd, a bydd angen i ysgolion sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd yn y sector cynradd ac uwchradd i gynnal y parhad mewn AG fel pwnc. 

 

Cyfeiriwyd at y Fframwaith Cefnogi AG, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020, a bydd yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr.  Awgrymwyd a chytunwyd i gynnwys y Fframwaith yn y Cynllun Gweithredu at ddibenion monitro.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cydlynydd AG am ei gwaith yn paratoi’r Cynllun Gweithredu, a gafodd dderbyniad da gan y CYSAG.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Cynnwys y Fframwaith Drafft ar gyfer AG fel pwynt gweithredu yn y Cynllun Gweithredu 2019/22.

  Bod y CYSAG yn mabwysiadu Cynllun Gweithredu 2019/22.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

4.

Y Cwricwlwm Newydd a sut fydd hyn yn effeithio ar Addysg Grefyddol?

Derbyn diweddariad ar Y Cwricwlwm Newydd i Gymru (dolen ynghlwm).

 

https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y canllaw i’r Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022, a anfonwyd ymlaen at y pwyllgor gan Mr Rheinallt Thomas, yn gofyn i’r CYSAG roi adborth ar y cwricwlwm newydd. Adroddodd y Cadeirydd y byddai’n rhannu’r canllaw gyda’r CYSAG yn electronig. 

 

Ychwanegodd y Clerc i’r CYSAG y byddai’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 19 Gorffennaf 2019, yna byddai’r adborth yn cael ei ystyried gan swyddogion addysg sydd ynghlwm â’i ddatblygiad. Bydd y canllawiau yn cael eu mireinio, a’u cyflwyno yn 2022 ar gyfer yr holl grwpiau blwyddyn yn y sector cynradd a Blwyddyn 7 yn y sector uwchradd, ac wedyn i Flwyddyn 8 yn 2023, ac i bob blwyddyn ddilynol hyd at 2026.

 

Nodwyd y bydd yna amseroedd heriol i ddod i athrawon yn y sector uwchradd yn ystod y cyfnod trosiannol. Bydd ysgolion yn cael eu heffeithio’n fawr, gan y bydd angen i athrawon a staff gyflwyno’r hen gwricwlwm a’r cwricwlwm newydd ar yr un pryd. Mae canmoliaeth i’r cwricwlwm newydd am ei fod yn fwy cyfoes ac yn bositif o ran ei ddull thematig.

 

Codwyd pryderon ei bod yn hawdd colli’r agweddau AG o’r Dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, gan fod angen i’r fanyleb gael ei datblygu. Gobeithir y bydd y fframwaith cefnogi yn cael ei gyflwyno a’i fonitro i’r safonau uchaf.

 

Adroddodd y Cadeirydd y bydd ef a’r Cydlynydd AG yn mynychu cyfarfod o CYSAGau Gogledd Cymru yng Nghonwy ddydd Iau, i drafod ymatebion gan GYSAGau trwy Ogledd Cymru i’r cwricwlwm newydd. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022.

  Bod y Cadeirydd a’r Cydlynydd AG yn darparu adborth i’r CYSAG ar ôl mynychu cyfarfod CYSAGau Gogledd Cymru.

 

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

5.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 288 KB

Cyflwyno gwybodaeth am arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Gynradd Amlwch

  Ysgol y Graig, Llangefni

  Ysgol Gymuned Pentraeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arolygon Ysgolion EstynGaeaf 2018 a Gwanwyn 2019

 

Cafodd adroddiadau arolwg Estyn a wnaed yn Ysgol Gynradd Amlwch, Ysgol y Graig, Llangefni ac Ysgol Gymunedol Pentraeth eu cyflwyno i’r CYSAG i’w hystyried. 

 

Adroddodd y Clerc i’r CYSAG ei bod wedi darparu’r adroddiad arolwg llawn gan Estyn ar gyfer pob ysgol, yn hytrach na darnau o’r adroddiadau, er mwyn rhoi gwell blas a darlun o’r gwaith a wnaed yn yr ysgolion.

 

Adroddwyd nad oedd unrhyw faterion yn codi o’r arolygon Estyn a bod pob un o’r tair ysgol yn cwrdd â’r gofynion. Nodwyd fod yr ethos, y ddarpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd yn dda ym mhob un o’r ysgolion.

 

Tynnwyd sylw gan aelod o’r CYSAG at y ffaith fod Estyn yn anghyson yn eu defnydd o’r Gymraeg h.y. yn adroddiad Ysgol Gymuned Pentraeth, mae Estyn yn cyfeirio at ‘Collective Worship’ felCyd Addoli’, yn hytrach na’r cyfieithiad cywirAddoli ar y Cyd’.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn adroddiadau arolwg Estyn.

 

Gweithredu:  Dim

6.

Adroddiadau Hunan Arfarniadau Ysgolion pdf eicon PDF 675 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Y Talwrn

  Ysgol Pentraeth

  Ysgol Gynradd Amlwch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr adroddiadau hunan-arfarnu gan Ysgol Y Talwrn, Ysgol Gymunedol Pentraeth ac Ysgol Gynradd Amlwch eu cyflwyno i’r CYSAG i’w hystyried.

 

Nodwyd fod safon y dysgu a gyrhaeddwyd mewn AG yn yr ysgolion hyn naill ai’n ddigonol neu’n dda. 

 

Mynegodd y CYSAG bryder nad yw adroddiadau hunan-arfarnu yn cael eu gwirio gan gorff proffesiynol, ac nid oes unrhyw fath o gefnogaeth i ysgolion a allai fod angen cymorth i wella a chodi safonau.

 

Cynigiodd y Cadeirydd ei fod yn ymweld ag Ysgol Y Talwrn i arsylwi Addoli ar y Cyd, ac i weld y gwaith sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion yn yr ysgol.

 

Rhoddodd Mrs Mefys Jones-Edwards adroddiad llafar ar yr adroddiad hunan-arfarnu roedd hi wedi’i baratoi ar gyfer Ysgol Syr Thomas Jones, yn dwyn y teitl Y Gyfadran Dyniaethau. Tynnodd sylw at y 5 pwynt allweddol isod o’i hadroddiad mewn perthynas ag AG:-

 

1.  Safonau

 

     Mae canlyniadau CA4 a CA5 yn dda iawn, gyda phob disgybl yn ennill

   cymhwyster yn y pwnc;

     Mae canlyniadau CA3 yn ddigonol i dda, gan eu bod yn amrywio ymhlith

    gwahanol grwpiau;

     Mae safonau mewn perthynas â bechgyn angen gwella, gan fod bechgyn

   ar hyn o bryd yn tanberfformio ar draws yr ynys;

     Mae angen i safonau CA5 wella yn yr Uned Athroniaeth;

     Mae llythrennedd yn dda iawn, oherwydd y gwaith cynllunio sydd wedi

    digwydd i wella sgiliau llafar ac ysgrifenedig. 

     ’Does ond angen datblygu sgiliau rhifedd a TG fel bo raid.

 

2.  Llesiant ac Agwedd at Ddysgu

 

     Mae cyfranogiad disgyblion mewn gwersi yn dda iawn; maent yn

    mwynhau’r pwnc;

     Mae gan athrawon a phlant berthynas dda mewn gwersi AG;

     Mae angen datblygu agwedd y disgyblion at ddysgu’n fwy annibynnol, ac

   mae’n un o’r 12 maes yn y cwricwlwm newydd. 

 

3.  Addysgu a Phrofiadau Dysgu

 

     Mae’r ddarpariaeth AG o ran gwersi, llyfrau a siarad gyda dysgwyr yn

    dda;

     Mae’r disgyblion yn elwa o brofiadau trwy ymweliadau;  

     Mae sgiliau a gwybodaeth ar ddeall Cristnogaeth a chredoau eraill yn

    cael eu teilwra’n dda yn y cynlluniau gwaith.

 

4.  Gofal, Cymorth ac Arweiniad

 

     Mae athrawon yn cwestiynu dysgwyr pan fyddant yn darparu adborth i

    ddisgyblion, lle mae angen ymatebion craff, ac mae hynny yn ei dro yn

    gwella safon y gwaith yn yr ystafell ddosbarth;

     Mae’r deialog rhwng athrawon a disgyblion wedi gwella;

     Mae sesiynau addoli ar y cyd yn cael eu cynnal yn ddyddiol yn Ysgol Syr

    Thomas Jones.

           

5.  Arweinyddiaeth a Rheolaeth  

 

     Mae cydweithio strategol yn digwydd gydag ysgolion eraill yng nghyswllt

    TGAU a Lefel A, sy’n arwain at weithio ar y cyd yn well;

     Mae hunan-arfarnu yn digwydd yn flynyddol yn yr ysgol, ac mae Cynllun

    Gwella y flwyddyn ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd yn

    adroddiad hunan-arfarnu yr ysgol;

     Mae gan bob aelod o staff yn yr ysgol y cyfle i ddatblygu’n broffesiynol;

     Mae angen rhannu arfer dda fel ffordd o baratoi at y cwricwlwm newydd,

    gan y bydd yna newidiadau amlwg.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cymdeithas CYSAGau CYMRU (CYSAGauC) pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o CYSAGauC a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019, er gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Eitem 8 ar yr agenda – Cefnogaeth AG broffesiynol ar gyfer CYSAGau. 

 

Adroddodd y Cadeirydd fod CCYSAGauC nawr wedi derbyn ymateb gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i bryderon a godwyd ynglŷn â’r diffyg cefnogaeth broffesiynol i GYSAGau ar draws Cymru. Yn ei hymateb, roedd y Gweinidog wedi amlinellu’r trefniadau a oedd wedi cael eu rhoi mewn lle ar gyfer cyfarfodydd rhwng CCYSAGauC a Llywodraeth Cymru.

 

Nodwyd ymhellach fod Libby Jones a Paula Webber ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru, a’u bod wedi pwysleisio er mwyn gallu symud ymlaen a mabwysiadu’r cwricwlwm newydd, bod rhaid buddsoddi mewn adnoddau. Maent wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian mewn sefydlu ymgynghorwyr yn rhanbarthol i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol, ac mae’r cynnig hwn wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

 

Mynegodd y CYSAG bryder ynglŷn â datganiad yr Gweinidog bod y mater o ddarparu arbenigedd yn un y dylid ei ddatrys rhwng Awdurdodau Lleol, ysgolion a ChYSAGau unigol. Roedd y CYSAG yn siomedig gyda’r datganiad hwn, a theimlent gan fod CYSAGau wedi eu sefydlu trwy gyfraith, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod â’r cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth, anogaeth a chyllid i GYSAGau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghofnodion CCYSAGauC.

  Bod athrawon AG yn dod â samplau o gwestiynau arholi TGAU a Lefel A i gyfarfod nesaf y CYSAG.

  Bod y Clerc i’r CYSAG yn cynnwys eitem ar raglen cyfarfod nesaf y Pwyllgor i drafod canlyniadau TGAU a Lefel A.

 

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

8.

Gohebiaeth

Derbyn unrhyw ohebiaeth.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod Dr Peter Hemming o Brifysgol Caerdydd wedi anfon nodyn atgoffa ato ynglŷn ag e-bost blaenorol yr oedd Dr Hemming wedi ei rannu gyda’r CYSAG, ynglŷn ag arolwg gwerthuso mae’n ei gynnal ar Ganllawiau a Phecyn Adnoddau ar Amrywiaeth Crefydd a Chred. 

 

Adroddodd y Clerc i’r CYSAG fod ymatebion wedi eu derbyn oddi wrth yr ysgolion, ond nid y CYSAGau. 

 

PENDERFYNWYD fod y Clerc i’r CYSAG yn ail-anfon e-bost Dr Peter Hemming at aelodau CYSAG Ynys Môn.

 

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

9.

Cyfarfod Nesaf CYSAG Môn

Nodi dyddiad cyfarfod nesaf y CYSAG ar 8 Hydref 2019 am 2.00 o’r gloch yp. 

Cofnodion:

Nodwyd fod cyfarfod nesaf y CYSAG wedi’i drefnu ar gyfer 2.00pm ar ddydd Mawrth, 8 Hydref 2019.