Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 15fed Hydref, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

2.

Cofnodion - 9 Gorffennaf 2019 pdf eicon PDF 436 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Cadarnhawyd bod aelodau’r CYSAG wedi cytuno i gynnwys aelodau o enwadau crefyddol eraill ar y Pwyllgor. 

  Gan gyfeirio at y ddwy sedd wag sydd ar y CYSAG, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n mynd ar ôl mater y sedd wag ar gyfer Aelod etholedig o’r Cyngor. Mae’r Parchedig Jim Clarke wedi cynnig codi mater y sedd wag ar gyfer cynrychiolydd o’r Eglwys Bresbyteraidd gyda’r Eglwys. 

  Cadarnhawyd bod y Clerc i’r CYSAG wedi targedu un dalgylch o ran gofyn am adroddiadau hunan-arfarnu’r ysgolion.

  Nodwyd bod ymateb y CYSAG i’r holiadur ar y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022 wedi cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru.

  Rhoes y Cadeirydd a’r Clerc i’r CYSAG adborth o’r cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru yr aethant iddo yng Nghonwy ar 28 Mehefin 2019.  Nodwyd bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi bod yn lobïo’r Gweinidog Addysg i fuddsoddi arian i dalu am ymgynghorwyr i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i’r CYSAGau ar draws Cymru mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd.  

  Cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd yn ymweld ag Ysgol Talwrn yr wythnos nesaf i arsylwi Addoli ar y Cyd yn yr ysgol. Erfyniodd ar aelodau’r CYSAG i drefnu ymweliadau ag ysgolion lleol yn eu hardaloedd; i arsylwi sesiynau Addoli ar y Cyd, i edrych ar lyfrau gwaith y disgyblion, i siarad â’r plant ac yna adrodd yn ôl i’r CYSAG ar eu canfyddiadau.   

 

Trafododd y CYSAG yr opsiwn o fabwysiadu ymagwedd fwy strwythuredig, ffurfiol o gofnodi ymweliadau ag ysgolion a darparu adborth i bwrpas monitro. Awgrymwyd y dylid adolygu a diweddaru’r templed a baratowyd eisoes gan Miss Bethan James i gofnodi Addoli ar y Cyd ac i gofnodi ymweliadau ag ysgolion.

 

  Rhannodd yr Ymgnnghorydd AG gopïau o bapurau arholiad TGAU AG Cymraeg a Saesneg a Lefel A Athroniaeth a Moeseg fel y gall y CYSAG ddod yn gyfarwydd â’r Maes Llafur Cytȗn. 

 

Yn y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG, roedd cynrychiolwyr yr athrawon AG wedi mynegi pryderon fod cyflawni’r maes llafur AG wedi dod yn fwy heriol oherwydd prinder adnoddau Cymraeg a llwyth gwaith beichus athrawon AG o gymharu â phynciau eraill. Nodwyd bod adroddiad wedi ymddangos yn ddiweddar yn y wasg leol ar brinder adnoddau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mater yr oedd CYSAG Gwynedd wedi dwyn sylw ato.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y ddarpariaeth o adnoddau AG ac effaith tymor hir hyn ar ysgolion, yr anghysondeb rhwng papurau arholiad a’r llwyth gwaith yn y maes llafur AG o gymharu â phynciau eraill megis Hanes a Daearyddiaeth. Roedd y CYSAG yn teimlo’n gryf y dylid codi’r materion uchod gyda CBAC a Chymdeithas CYSAGau Cymru. Cytunodd y CYSAG y byddai’r materion uchod yn cael eu codi gan Mr Rheinallt Thomas yn y cyfarfod nesaf o Gymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Mynegodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cynrychiolaeth gan Enwadau Crefyddol ar y CYSAG

  Cadarnhau derbyn Crynwyr fel enwad crefyddol ar y CYSAG.

 

  Cadarnhau penodi Mr Gerald Hewitson, aelod o'r Crynwyr i CYSAG Môn.

Cofnodion:

Trafododd y CYSAG a chytuno i dderbyn Y Crynwyr fel enwad crefyddol ar y CYSAG. 

 

Cafodd Mr Gerald Hewitson, aelod o Grynwyr Ynys Môn ei enwebu a’i benodi’n aelod o’r CYSAG ac fe’i croesawyd yn ffurfiol gan y Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

4.

Cynllun Gweithredu CYSAG Môn ar gyfer 2019/22 pdf eicon PDF 434 KB

Ystyried Cynllun Gweithredu CYSAG ar gyfer 2019/22.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Cynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2019/22 wedi cael ei fabwysiadu yng nghyfarfod diwethaf y CYSAG ac y caiff ei adolygu’n rheolaidd.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar addasu’r ffordd y mae’r CYSAG yn gweithio a chyflwyno lefel o arbenigedd i’r CYSAG. Dywedodd y Clerc i’r CYSAG y bydd yn cymryd drosodd rôl yr Ymgynghorydd AG gan Mrs Helen Bebb, ac y bydd yn paratoi’r Cynllun Gweithredu yn y dyfodol ac yn cynrychioli’r CYSAG mewn cyfarfodydd. 

 

Gobeithir cynnal cyfarfodydd anffurfiol ychwanegol rhwng y Clerc ac athrawon o’r sector uwchradd i rannu eu harbenigedd pwnc ac arfer dda mewn AG. Bydd y Clerc wedyn yn rhannu hyn gyda’r CYSAG. Bydd cyfle wedyn i aelodau’r CYSAG rannu arferion da ar draws y sector cynradd yn eu hardaloedd gan sicrhau fod llais y CYSAG yn cyrraedd yr holl ysgolion a fod parhad o ran yr hyn y mae plant yn ei ddysgu.   

 

Cytunodd y CYSAG fod y cynnig uchod yn ffordd ymlaen ardderchog a chyffrous a hynny o safbwynt hyrwyddo proffil y CYSAG a chodi delwedd AG mewn ysgolion. Nodwyd y byddai sianelau cyfathrebu newydd yn agor ac y byddai modd pontio’r bwlch rhwng y sector cynradd ac uwchradd.   

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2019/22.

  Nodi arfer dda yn y sector uwchradd a hwyluso rhannu arfer dda er lles yr ysgolion a’r athrawon a pharhau i godi proffil y CYSAG.

5.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2018/19

Ystyried Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Dywedodd y Clerc i’r CYSAG y bydd yn paratoi Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2018/19, a fydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar ganlyniadau arholiadau TGAU a Lefel A. Nodwyd y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno ar ddiwyg drafft, naill ai’r tymor hwn, neu yng nghyfarfod nesaf y CYSAG. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

6.

Hunanarfarniadau Ysgolion pdf eicon PDF 704 KB

Cyflwyno adroddiadau hunanarfarnu AG gan yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Gynradd, Bodedern                            

  Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd                     

  Ysgol Gymraeg Morswyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau hunan-arfarnu ysgolion gan Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd ac Ysgol Gymraeg Morswyn.

 

Nodwyd bod adroddiad hunan-arfarnu Bodedern yn dwyn sylw at rai arferion da sef y cyfleoedd a roddir i ddisgyblion siarad, gofyn cwestiynau a mynegi eu barn yn effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen. Cyfeiriwyd at y ffaith fod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn defnyddio eu sgiliau llythrennedd yn llwyddiannus i ymchwilio i wybodaeth a chwblhau tasgau ysgrifenedig.

 

Mae’n amlwg bod yr adroddiad hunan-arfarnu gan Ysgol Gymuned Llannerch-y-Medd yn onest iawn, oherwydd dywed y Pennaeth bod y safonau yn yr ysgol yn foddhaol. Mae gan y disgyblion gefndir AG da; mae’r gwaith yn cael ei gynllunio ymlaen llaw; yn cael ei amserlennu’n gadarn ar sail wythnosol; ac yn cael ei restru fel blaenoriaeth yn y Cynllun Datblygu.  Ym marn y CYSAG, roedd yr enghreifftiau o waith y disgyblion yn yr ystafell ddosbarth yn ardderchog.  

 

Dywed adroddiad hunan-arfarnu Ysgol Morswyn fod y corff Llywodraethu wedi monitro AG yn yr ysgol, ac y dylid eu canmol am hynny.  Nodwyd bod cynnydd da wedi ei wneud mewn gwahanol feysydd a bod dealltwriaeth y disgyblion o arteffactau crefyddol yn dda. Cyfeiriodd yr adroddiad at ddiogelu disgyblion rhag cael eu radicaleiddio. Ym marn y CYSAG, roedd yr ymagwedd hon yn dda ond roedd yn pryderu mai dim ond Cristnogaeth sy’n cael ei thrafod yn y gwasanaethau boreol a bod angen o’r herwydd cyflwyno crefyddau eraill.  

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiadau hunan-arfarnu’r ysgolion mewn perthynas ag AG.

 

7.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Gynradd, Bodedern                            

  Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd                     

  Ysgol Gymraeg Morswyn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y CYSAG – adroddiadau arolwg Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd ac Ysgol Gymraeg Morswyn.

 

Nododd y Clerc i’r CYSAG nad oedd Estyn wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â’r ysgolion uchod.

 

Nodwyd bod safonau AG yn Ysgol Gynradd Bodedern yn cael eu canmol yn adroddiad Estyn.  Dywed yr adroddiad fod ymddygiad y disgyblion yn dda, eu bod yn gwrtais, yn dangos parch, gofal a chonsyrn tuag at eraill ac yn cael profiadau buddiol a datblygiad ysbrydol yn yr ysgol i ddatblygu’n ddinasyddion da.

 

Dywed adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd fod perfformiad yr ysgol yn dda ar hyn o bryd. Nodwyd bod y mwyafrif o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da o ran eu sgiliau ysgrifennu yn y Cyfnod Sylfaen. Mae’r disgyblion hefyd yn dangos parch a gofal tuag at eraill. 

 

Dywed adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Gymraeg Morswyn fod perfformiad yr ysgol yn dda ar hyn o bryd. Mae’r disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn o ran yr hyn y maent yn ei ddysgu ac yn dod yn eu blaenau’n dda yn yr ysgol. Nodwyd bod gan yr ysgol awyrgylch deuluol a chymuned hapus ar gyfer y disgyblion a’r staff.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth o’r adroddiadau Estyn a gyflwynwyd.  

8.

Cymdeithas CYSAGau CYMRU (CYSAGauC) pdf eicon PDF 352 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghonwy ar 28 Mehefin 2019, er gwybodaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, cofnodion drafft y cyfarfod diwethaf o Gymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2019.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth proffesiynol i’r CYSAGau ar draws Cymru.  Cyfeiriwyd hefyd at y Fframwaith Cefnogol ar gyfer AG sydd wrthi’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd. 

 

Dygodd y CYSAG sylw at y cyflwyniad a wnaed gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a oedd yn cyfeirio at ‘hawliau’ plant. Roedd y CYSAG yn teimlo y gallai plant sy’n cael eu haddysgu gartref fod dan anfantais o ran datblygu eu sgiliau cymdeithasol a bod angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i roi sylw i hyn, oherwydd mae’r mesurau monitro ac ymyrryd presennol yn annigonol. 

 

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Aberaeron ar 21 Tachwedd 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru.

9.

Gohebiaeth

Trafod Ymgynghoriad gan Llywodraeth Cymru ar gynnig sy'n cynnwys yr hawl i dynnu plant allan o AG ac ACR, a newid enw Addysg Grefyddol (dolenni ynghlwm).

 

https://llyw.cymru/sicrhau-mynediad-ir-cwricwlwm-llawn

 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-sicrhau-y-gall-pob-dysgwr-fanteisio-ar-y-cwricwlwm-llawn

 

 

Cofnodion:

Trafododd y CYSAG ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth Cymru ar yr hawl i dynnu plant o wersi Addysg Grefyddol ac Addysg Rhyw a Pherthynas, ac i newid enw AG.

 

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar a ddylai AG ac Addysg Rhyw a Pherthynas gael eu cyfuno mewn un holiadur a’r modd y dylai’r CYSAG ymateb. Cytunodd y CYSAG i beidio ag ymateb fel CYSAG Ynys Môn, oherwydd fod gwahaniaeth barn ymysg yr aelodau ar Addysg Rhyw a Pherthynas. Fodd bynnag, roedd y CYSAG yn cytuno’n unfrydol y dylai gwersi AG fod yn orfodol.

 

Dywedodd Mrs Anest Frazer fod yr Eglwys yng Nghymru yn credu po fwyaf y wybodaeth y gallwch ei rhoi i blant ac ymgysylltu â nhw o ran y broses gwneud penderfyniadau, mwyaf y cyfle y bydd gan blant i ymateb eu hunain i benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, yn hytrach na chael eu rhieni’n penderfynu drostynt.

 

Estynnodd Mr Gerald Hewitson wahoddiad i’r CYSAG fynychu Cynhadledd Comisiwn Tegwch ar gyfer Ynys Môn yn Neuadd y Dref yn Llangefni ar 21 Hydref 2019 rhwng 9.30am - 2.30pm. 

 

PENDERFYNWYD bod cynrychiolwyr yr athrawon yn ymateb ar y cyd i’r holiadur erbyn y dyddiad cau sef 28 Tachwedd 2019 mewn perthynas â’r cylch gorchwyl o ran AG, a bod aelodau’r CYSAG yn ymateb yn unigol os ydynt yn dymuno. 

 

 

10.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2019 am 2.00 o’r gloch yp. 

Cofnodion:

Nodwyd bod y cyfarfod nesaf o’r CYSAG wedi’i raglennu ar gyfer dydd Mawrth, 18 Chwefror 2020 am 2.00pm.