Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2020.
|
|
Cyflwyniad ar rannu gwybodaeth ag athrawon ar Blatfform Electronig I dderbyn adroddiad ar lafar gan Mr Owen Davies, Uwch Reolwr Cynradd, Adran Addysg ac Aelod o’r Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG ar yr uchod.
|
|
Cyflwyniad ar waith y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod a chyfle i aelodau’r panel gael eu cyflwyno i Mrs Helen Roberts, aelod proffesiynol o’r Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG. |
|
Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2019/20 I gyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer y cyfnod 2019/20. |
|
Hunan Arfarniadau Ysgolion Cyflwyno Adroddiad Hunan Arfarnu Addysg Grefyddol gan Ysgol Gynradd Kingsland. Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau TGAU a Lefel A Derbyn diweddariad gan gynrychiolwyr athrawon CYSAG ar sut maent yn asesu disgyblion er mwyn pennu canlyniadau TGAU a Lefel A. |
|
Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGauC) I ystyried y wybodaeth ganlynol a ddarparwyd gan CCYSAGauC:-
Gwelliannau a gytunwyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn Senedd Cymru – Cam 2 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Mr Rheinallt Thomas i roi diweddariad.
|
|
Cyfarfod Nesaf Mae’r cyfarfod nesaf o CYSAG wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth 22 Mehefin, 2021. |