Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 328 KB

   Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Adroddodd Mr Rheinallt Thomas y bu datblygiadau ers iddo godi pryderon y CYSAG yng nghyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 7 Hydref 2020, ynghylch y llwyth gwaith y mae ysgolion yn gorfod ei ysgwyddo mewn perthynas â’r Maes Llafur Cytûn. Dywedodd Mrs Mefys Jones-Edwards fod CBAC wedi ymateb i’r pryderon a godwyd a’u bod wedi addasu’r maes llafur TGAU ac AS drwy leihau’r llwyth gwaith i ysgolion. Dywedodd fod disgyblion yn awr yn gallu dewis 3 allan o 4 uned yn y maes llafur Addysg Grefyddol ym Mlynyddoedd 10 ac 11, o gymharu â 4 yn flaenorol. Er ei bod yn amlwg fod ysgolion yn falch o ymateb CBAC, roedd yr athrawon wedi mynegi pryder ynghylch dyfodol Addysg Grefyddol ar ôl i’r pandemig Covid-19 ddod i ben a’r hyn fydd yn digwydd ar ôl 2021. Roedd yr athrawon a’r CYSAG yn teimlo bod angen cyfleu eu pryderon i CBAC unwaith eto.

  Cadarnhawyd y bydd Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Santes Fair, Caergybi yn ymuno â Phanel Gweithredol Ysgolion CYSAG.

  Cytunwyd y byddai’r Parch Jim Clarke yn cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y CYSAG.

  Cadarnhawyd y bydd Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG yn cysylltu ag Ysgol Rhoscolyn i ddarparu cymorth ynghylch y derminoleg gywir i’w defnyddio wrth baratoi adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.     

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod Ymgynghorydd AG y CYSAG yn ysgrifennu at CBAC i ddiolch iddynt am roi sylw i bryderon CYSAG Ynys Môn, gan ddatgan hefyd pryderon y Pwyllgor ynghylch dyfodol Addysg Grefyddol yn 2022.

  Anfon copi o’r llythyr at Linda Maddock, Swyddog Addysg Grefyddol CBAC.

3.

Diweddariad gan yr Ymgynghorydd AG i'r CYSAG

Yr Ymgynghorydd AG i’r CYSAG i roi diweddariad llafar ar y canlynol:-

 

·      Adroddiad Blynyddol CYSAG a’r Cynllun Gweithredu

·      Y Cwricwlwm Newydd

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y data ar gyfer Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn wedi cael ei gasglu a’i ddadansoddi. Dywedodd fod cynnydd wedi bod yn arafach na’r disgwyl ac y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn wahanol i adroddiadau blaenorol, oherwydd Covid-19 ac am nad oedd disgyblion wedi sefyll arholiadau. Nodwyd y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2021.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y Cwricwlwm i Gymru 2022 a’r cynnig i newid yr enw Addysg Grefyddol i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno gyda chymorth y Fframwaith newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, a bydd angen i ysgolion ddylunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru yn llunio’r Fframwaith terfynol ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd pryderon y bydd risgiau’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd os nad yw ysgolion yn rhoi digon o bwyslais ar bob pwnc. Mewn perthynas ag Addysg Grefyddol, bydd rhaid i’r pwnc gystadlu â Hanes a Daearyddiaeth ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau er mwyn cael lle mewn ysgolion, ac efallai y bydd perygl y bydd Addysg Grefyddol yn cael ei wanhau ymhellach. Nodwyd, er bod y cwricwlwm yn gadarnhaol o ran ei ddull thematig, roedd y CYSAG yn teimlo nad yw’r themâu’n ddigon miniog, a bydd rhaid cynllunio’n ofalus i addasu’r cwricwlwm. Yn ogystal, nodwyd bod mwy o risg i Addysg Grefyddol na phynciau eraill gan fod llai o athrawon sy’n arbenigwyr yn y maes, a bod llai o ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer athrawon Addysg Grefyddol.

 

Mae’r amserlen gyfredol yn parhau er gwaethaf Covid-19, a bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu yn 2022. Bydd Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG yn gweithio i sicrhau nad yw Addysg Grefyddol yn mynd ar goll ymysg pynciau eraill.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr heriau sy’n wynebu CYSAGau mewn perthynas â’u rôl yn y cwricwlwm newydd. Bydd angen i’r CYSAGau fonitro a chynghori ysgolion, a chynnig eu cefnogaeth i sicrhau y rhoddir amser priodol i bob pwnc. Ni ddylai’r CYSAGau ystyried y Cwricwlwm Newydd fel rhwymedigaeth, ond fel cyfle i helpu ysgolion i gael gweledigaeth ehangach o’r byd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

4.

Crynodeb o Weithgareddau pdf eicon PDF 115 KB

Yr Ymgynghorydd AG i’r CYSAG i adrodd ar weithgareddau diweddar.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar y canlynol:-

 

  Cynhaliodd y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 11 Mawrth 2020 a chraffwyd ar adroddiadau hunan arfarnu a gyflwynwyd gan Ysgol Goronwy Owen, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Rhoscolyn, Ysgol y Tywyn ac Ysgol Llanfawr. Canolbwyntiodd y drafodaeth hefyd ar yr enw newydd arfaethedig ar gyfer Addysg Grefyddol, er mwyn derbyn barn athrawon ac ysgolion ar y mater. Nodwyd na chynhaliwyd yr un cyfarfod pellach hyd yma, ond y gobaith yw y bydd modd i’r Panel Gweithredol ailgychwyn y broses yn fuan.

  Nodwyd fod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r aelod cyfetholedig wedi mynychu cyfarfod NAPfRE. Gofynnwyd am farn y rhai oedd yn bresennol ar yr enw newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, sef Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Rhannwyd adnoddau ar gyfer athrawon yn y cyfarfod, ac maent wedi cael eu rhannu ag ysgolion ar Ynys Môn.

  Ymatebodd y CYSAG i’r Ymgynghoriad ar y cwricwlwm drwy ysgrifennu llythyr yn mynegi anfodlonrwydd y CYSAG fod y cwestiynau’n anodd eu deall ac yn amherthnasol.

  Mae Mr Owain Davies, Swyddog Addysg, wedi ymuno â’r Panel Gweithredol i oruchwylio gwaith y Panel.

  Gwahoddir Mrs Helen Robets o Brifysgol Bangor, sydd hefyd yn aelod o’r Panel Gweithredol, i gyfarfod nesaf y CYSAG ym mis Chwefror i gyflwyno trosolwg o waith y Panel yn yr ysgolion.

  Darparwyd cyllid i ryddhau aelodau’r Panel Gweithredol o’u dyletswyddau er mwyn mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi.

  Mewn perthynas â Chynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2020-22, cadarnhawyd fod llwyfan electronig wedi cael ei greu er mwyn i ysgolion rannu adnoddau ac arfer dda mewn Addysg Grefyddol, ynghyd â gwaith y CYSAG a’r Panel Gweithredol mewn ysgolion. Cytunodd y CYSAG fod y llwyfan yn syniad ardderchog ac y byddai’n codi proffil y CYSAG a’r Panel Gweithredol yn yr ysgolion ac yn rhoi cyfle i ysgolion ddatblygu eu gwaith a rhannu eu syniadau.

  Mae Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru a GwE wedi bod yn cydweithio i rannu adnoddau gydag ysgolion. Roedd yr Eglwys yn teimlo fod plant angen cymorth gydag Addoli ar y Cyd, gan nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn gwasanaethau dyddiol mewn ysgolion. Bu’r Eglwys yn recordio sesiynau Addoli ar y Cyd cyfrwng Cymraeg ac mae GwE wedi eu rhannu ag ysgolion. Cytunodd Mrs Anest Frazer i anfon yr adnoddau uchod at Owain Davies ar gyfer y Panel Gweithredol.

 

Codwyd pryderon nad yw athrawon yn cael cyfle bellach i fynychu cyrsiau a drefnir gan CBAC oherwydd y pandemig. Yn hytrach, maent yn cael gwahoddiad i fynychu sesiynau gweminar dwy awr o hyd ar gyfer TGAU a Lefel A, sy’n cael eu cynnal ar wahanol ddiwrnodau. Nodwyd fod pob sesiwn gweminar yn costio £100, sy’n dod i gyfanswm o £300 ar gyfer pob pwnc. Nid yw pob ysgol yn gallu fforddio’r gost gan olygu fod rhai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cymdeithas CYSAGau CYMRU

Derbyn diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas, aelod cyfetholedig CYSAG, ynglŷn â chyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.

Cofnodion:

Adroddodd Mr Rheinallt Thomas ar y prif bwyntiau a drafodwyd yng nghyfarfod rhithwir Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.

 

Cyfeiriwyd at y Fframwaith Cefnogi Addysg Grefyddol. Nodwyd bod yr oedi o ran cyhoeddi’r Fframwaith wedi cael ei achosi gan Adran Gyfreithiol Llywodraeth Cymru gan y bu’n rhaid iddynt ymateb i heriau ychwanegol mewn perthynas â deddfwriaeth newydd yn ystod y pandemig. Nodwyd fod y Fframwaith ar gael ers mis Mehefin, i’w gylchredeg i’r CYSAGau. Cytunodd Cymdeithas CYSAGau Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon ynghylch y diffyg gweithredu a’r oedi wrth rannu’r Fframwaith â’r CYSAGau a’i gyhoeddi wedi hynny. Gofynnwyd a ddylid gohirio’r amserlen ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion gan y bydd y Fframwaith yn ganllaw ar gyfer y cwricwlwm.

 

Mae ansicrwydd ynghylch a fydd Addysg Grefyddol yn cael ei alw’n Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae rhai’n ffafrio’r term Crefydd a Bydolygon.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar a ddylid caniatáu i grwpiau digrefydd ymuno â’r CYSAGau? Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu efallai y gellid creu grŵp CYSAG ychwanegol a’i alw’n Grŵp Aa ar gyfer grwpiau digrefydd, tra y byddai’r CYSAG presennol yn cael ei alw’n Grŵp A. Mae anghytundeb rhwng cynrychiolwyr o gefndiroedd crefyddol a Llywodraeth Cymru wrth geisio datrys y mater o gael cynrychiolaeth o blith grwpiau digrefydd ar y CYSAGau. Roedd Mr Thomas wedi awgrymu y dylai drafft newydd y ddeddf llywodraeth leol adlewyrchu’r ardal ac aelodau’r gymuned.

 

Rhoddwyd diweddariad i’r CYSAG ynghylch apwyntiadau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru, y cyfarfod blynyddol ac adroddiad y Trysorydd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru.

6.

Cyfarfod Nesaf

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ar ddydd Mawrth, 16 Chwefror 2021.

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ddydd Mawrth, 16 Chwefror 2021.

7.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.

8.

Gohebiaeth

I ystyried cais i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol gael ymuno â CYSAG Môn.

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais gan y Grŵp Dyneiddwyr Lleol i ymuno â CYSAG Ynys Môn.

 

Ystyriwyd cais y Dyneiddwyr gan y CYSAG a cheisiwyd cyngor gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr opsiynau oedd ar gael.

 

Ar ôl ystyried cyngor y Cyfreithiwr, PENDERFYNODD y CYSAG beidio â chefnogi’r penodiad ar y sail ganlynol:-

 

  Nid oes seddi gwag ar gyfer aelodau newydd ar GYSAG Ynys Môn ar hyn o bryd;

  Mae CYSAG Ynys Môn yn bwriadu adolygu ei Gyfansoddiad, pan gyhoeddir manylion pellach ar aelodaeth y CYSAG, yn unol â newidiadau deddfwriaethol arfaethedig fel rhan o ddatblygiadau yn ymwneud â Chwricwlwm i Gymru gan Lywodraeth Cymru.

 

Adroddodd y Cadeirydd y bydd Mrs Margaret Peters, Clerc y CYSAG, yn gadael ei swydd gydag Adran Addysg y Cyngor yn fuan, ac yn mynd i weithio i Gyngor Conwy. Ar ran y CYSAG, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Peters am ei gwaith rhagorol fel Clerc a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd.