Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 321 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod CYSAG blaenorol a gynhaliwyd 26 Mawrth 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir .

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Cadarnhawyd fod yr Ymgynghorydd AG wedi cyfleu gwerthfawrogiad CYSAG i Mr Rhys Hearn am gyflwyno adroddiad hunanwerthuso Ysgol Gynradd Kingsland i’r CYSAG.

3.

Rhannu Gwybodaeth gydag Athrawon ar Lwyfan Electronig

Derbyn adroddiad llafar gan Mr Owen Davies, Uwch Reolwr Cynradd, Adran Addysg ar yr adnoddau Astudiaethau Crefyddol sydd ar gael ar wefan CBAC isod:-

 

https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=4287&langChange=cy-GB

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG fod Mr Owen Davies, Adran Addysg wedi datblygu safle-micro i rannu adnoddau gydag ysgolion yn Ynys Môn. Gofynnwyd am adborth gan gynrychiolwyr athrawon CYSAG ynghylch y llwyfan electronig.

 

Fe wnaeth cynrychiolwyr athrawon CYSAG ymateb eu bod yn croesawu’r datblygiad o’r safle-micro, a oedd yn profi ei hun yn adnodd hynod ddefnyddiol i ysgolion, am ei fod yn cynnwys ystod o wybodaeth, sydd ar gael mewn un man penodol. Adroddodd yr athrawon fod polisïau, dolenni i hyfforddiant, diweddariadau Covid-19, ac unrhyw wybodaeth a rannir ag athrawon yn cael ei uwchlwytho i’r safle.

 

Er bod y llwyfan electronig yn ei gam cychwynnol, mae hi’n amlwg bod angen i athrawon ac ysgolion weithio gyda’r Adran Addysg i gynnal lefel wybodaeth sylweddol o fewn y safle-micro. Nodwyd y bydd cadw’r llwyfan wedi ei diweddaru gyda gwybodaeth sy'n esblygu'n barhaus yn her, ynghyd â sicrhau fod y cynnwys yn ddwyieithog. Bydd y Panel Gweithredol CYSAG ar gyfer Ysgolion yn rhan o’r broses.

 

Fe wnaeth CYSAG ganmol ansawdd ardderchog adnoddau CBAC ar Hwb, ond mynegwyd pryder fod diffyg o rai adnoddau AG Cymraeg ar y safle yn parhau. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd. 

4.

Cyflwyniad ar waith y Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion

Derbyn diweddariad llafar ynglŷn â’r uchod, a chyfle i aelodau’r panel gyfarfod Mrs Helen Roberts, aelod proffesiynol o Banel Gweithredol CYSAG ysgolion.

Cofnodion:

Am fod Mrs Helen Roberts yn absennol o gyfarfod heddiw, rhoddodd yr Ymgynghorydd AG ddiweddariad ar faterion presennol sy’n berthnasol i ysgolion yr Ynys. Adroddodd ei bod yn gyfnod hynod heriol i ysgolion Ynys Môn, gydag ysgolion uwchradd yn gweithredu fel canolfannau asesu ac arholi, gan osod graddau TGAU a Lefel A. Nodwyd fod athrawon o’r ysgolion uwchradd wedi cyfarfod ar sawl achlysur i drafod y broses asesu, ac i sicrhau cysondeb eu gwaith, fel bod yr holl ddisgyblion yn cael eu trin yn deg.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG fod Penaethiaid wedi gorfod ymateb i heriau o ran gofynion Iechyd a Diogelwch oherwydd Covid-19, yn benodol lles disgyblion a staff. Mae ysgolion hefyd wedi bod yn brysur yn gweinyddu grantiau cymorth, sydd wedi golygu llawer o waith gweinyddol a gweithio o fewn terfynau amser.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

5.

Diweddariad gan yr Ymgynghorydd AG ar Ymgynghoryddiadau Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 942 KB

Clerc y CYSAG i ddarparu diweddariad ar yr Ymgynghoriadau a ganlyn gan Lywodraeth Cymru:-

 

·      Cwricwlwm i Gymru – Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac

·      Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (canllawiau ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG ar Gwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE), a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2022. Nododd y bydd y newidiadau o’r cwricwlwm yn cael goblygiadau enfawr ar ysgolion ym mhob pwnc.

 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar p’un ai yw’r arweiniad yn ddigon eglur a chadarn ar gyfer athrawon? Amlygodd CYSAG fod athrawon angen cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau dwyieithog o safon er mwyn symud ymlaen, ac fe groesawyd penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi mwy o adnoddau i mewn i ddysgu proffesiynol. Nodwyd fod risgiau mewn caniatáu i ysgolion ddewis eu cwricwlwm eu hunain, am na fyddai rhai ysgolion o bosibl yn rhoi sylw dyladwy i AG o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Nodwyd hefyd y bydd rhaid i’r CYSAGau fod yn ddigon agored er mwyn galluogi ysgolion unigol gael eu syniadau eu hunain i’w datblygu.

 

Yn dilyn cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 16eg o Fehefin 2021, anfonwyd adborth gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSGau Cymru i’r CYSAGau ar ffurf cyflwyniad PowerPoint.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o’r sleidiau meddyliau cynnar gan Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru, ac awgrymodd y dylai CYSAG Ynys Môn ystyried eu hymatebion yn unigol cyn darllen adborth Cymdeithas CYSAGau Cymru. Gofynnodd i’r sylwadau ar yr ymgynghoriad gael eu hanfon ymlaen i’r Ymgynghorydd AG erbyn y 9fed o Orffennaf 2021, i’r CYSAG baratoi ymateb swyddogol erbyn y dyddiad cau o’r 16eg o Orffennaf 2021. 

 

Amlygodd Mr Chris Thomas y pwyntiau canlynol o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn ymateb i’r ymgynghoriad :-

 

  Rhaid rhoi amser digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, fel bod yr arweinyddion yn medru datblygu cwricwlwm sylweddol ac uchelgeisiol.

  Mae hyblygrwydd yn bwysig er mwyn i ysgolion fedru adeiladau ar yr hyn sydd wedi ei ddatblygu yn barod a chael perchnogaeth unigol o’u cwricwlwm. 

  Bod angen edrych ar gysylltiadau a bod angen dod a nhw at ei gilydd. Cyfeiriwyd at Ganolfan St Giles yn Wrecsam, sydd â fideo hynod ddiddorol a defnyddiol ar sut i ddefnyddio’r canllawiau a dolenni i’r hwb.

  O ran geirfaoedd, mae rhai geiriau penodol angen eglurhad gwell yn Saesneg e.e. “plurality”, “worldviews” a “cynefin”. Awgrymwyd y byddai defnyddio gair Cymraeg yn y cyfieithiad Saesneg yn pwysleisio ei arwyddocâd.

  Pwysleisiwyd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

  Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod angen cyllid canolog i ddatblygu adnoddau AG ar gyfer dysgu proffesiynol mewn fformat digidol a chopi caled.

  Nid oes optio allan o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, na gwersi perthnasoedd ac addysg rywiol (RSE).

 

Mynychodd Mr Rheinallt Thomas gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru hefyd, ac fe wnaeth ailadrodd beth ddywedodd Mr Chris Thomas, o ran ein bod angen bod yn eglur bod y Maes Llafur Cytûn yn mynd i fod yn wahanol i feysydd llafur y gorffennol. Adroddodd y bydd y Maes Llafur yn cynnwys  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad gan Glerc y CYSAG ar faterion Addysg Grefyddol Lleol a Chenedlaethol

·           Cydweithio rhwng ysgolion a GwE mewn perthynas â Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

·           Cyrsiau sydd ar gael i ysgolion ynghylch trosedd casineb.

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd AG ar y cyd-weithio rhwng ysgolion yn Ynys Môn a GwE, mewn perthynas â Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (AoLE). Nododd fod y CYSAG angen sicrwydd o ran beth fydd rôl y GwE o ran cefnogi ysgolion yr Ynys a’r CYSAGau, fel rhan o’r bartneriaeth ar y cyd.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd AG y bydd hi a Ms Bethan James, ynghyd â’r Ymgynghorydd Her GwE, yn gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu syniadau ac arbenigedd AG gydag ysgolion a’r CYSAG.

 

Er bod rhai gwelliannau wedi cael eu gwneud o ran adnoddau AG cyfrwng Cymraeg, mae angen gwneud mwy i wella’r sefyllfa. Teimlodd y CYSAG y dylai GwE roi mwy o bwysau ar y sefydliad i gyflawni, a bydd angen i’r CYSAG gael sicrwydd fod y materion hyn yn cael sylw ar hyn o bryd. 

 

Adroddodd Mrs Manon Williams fod rhai ysgolion yn y sector cynradd wedi dechrau hyfforddiant gyda GwE yn barod, ac yn y cam cyntaf o sut i gyflwyno eu cwricwlwm h.y. a yw’r plant am gael eu dysgu fesul pwnc, neu mewn ffordd fwy integredig, a allai golli neu bellhau oddi wrth AG? Nodwyd fod ysgolion yn y sectorau cynradd ac uwchradd yn gweithio ar y cyd i sicrhau fod y trosglwyddo rhwng y sector cynradd ac uwchradd yn digwydd heb lawer o darfu, sydd yn fwy o her yn yr ysgolion uwchradd.

 

Nodwyd fod ysgolion uwchradd Ynys Môn wedi cael cynnig hyfforddiant ar Athroniaeth i blant. Mae tair ysgol gynradd wedi cwblhau'r hyfforddiant eisoes, ac mae Ysgol Uwchradd Bodedern wedi cofrestru ar gyfer y cwrs, a fydd yn cyd-fynd ag AG o ran datblygu Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd ar y materion AG a godwyd.

7.

Cyfarfod y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol (NAPfRE) ar 15 Mehefin 2021 pdf eicon PDF 374 KB

Clerc y CYSAG i gyflwyno diweddariad.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhaglen NAPfRE ar y 15fed o Fehefin 2021 er gwybodaeth.  

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 524 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021, er gwybodaeth.

 

Cafwyd diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas ynghylch materion a godwyd gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yng nghyfarfod diwethaf CYSAG Ynys Môn (Eitem 8 yn y cofnodion).

 

Y Cadeirydd a’r Clerc i gyflwyno diweddariad i’r CYSAG yn dilyn cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 23ain o Fawrth 2021, er gwybodaeth. Nodwyd fod Mr Rheinallt Thomas wedi rhoi adborth o’r cyfarfod hwn i’r CYSAG yn y cyfarfod ar 26ain o Fawrth 2021.

 

Mae ymateb Cymdeithas CYSAGau Cymru i’r Ymgynghoriad Cwricwlwm i Gymru (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi ei drafod yn eitem 5 ar yr agenda.

 

Anfonwyd Adroddiad Blynyddol Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer 2020/21 a Datganiad o Gyfrifon at y CYSAG, yn dilyn cyhoeddiad yr agenda. Cytunodd y CYSAG i dalu ffi tanysgrifio flynyddol Cymdeithas CYSAGau Cymru o £480 ar gyfer aelodaeth eleni.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru.

  Nodi Adroddiad Blynyddol Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer 2020/21.

  Nodi’r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2020/21.

  Derbyn ffi aelodaeth Cymdeithas CYSAGau Cymru o £480.

9.

Unrhyw Faterion Eraill

Cynllun Newydd y Mudiad Meithrin ar gyfer Darparu Adnoddau Addysg Grefyddol.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG y bydd y Cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn berthnasol i blant o 3 i 16 oed. O ran Cylchoedd Meithrin, disgwylir y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei addasu i fod yn addas i blant o 3 oed.

 

Adroddodd y Parchedig Jim Clarke am ddarpariaeth y Mudiad Meithrin o adnoddau AG. Cyfeiriodd at yr adnoddDewch i Ddathlu’, a nododd ei fod yn becyn cynhwysfawr ac ardderchog ar gyfer addysg meithrin. Nodwyd mai Mrs Helen Roberts, aelod o Banel Gweithredol CYSAG, sydd wedi creu’r adnodd, a’i gomisiynwyd gyda chyllid grant gan Lywodraeth Cymru. 

 

Adroddodd Parch. Clarke fod chwe uned sy’n cwmpasu prif grefyddau’r byd, ynghyd ag amserlen i gyflwyno'r gwahanol ddathliadau crefyddol. Mynegodd bryder fod yr adnodd nawr yn orfodol i rai plant yn Ynys Môn o dair oed, ac yn agor y drws i aml-grefyddau i blant o dan 5 oed.

 

Codwyd pryderon na allai blant mewn addysg meithrin ymdopi gyda dysgu am wahanol grefyddau o oedran mor ifanc, ac fe awgrymwyd fod y CYSAG yn monitro addysg meithrin o fis Ionawr 2022.

 

Cynigwyd y dylai athro/athrawes ymgynghorol gydag arbenigedd mewn addysg meithrin gael eu gwahodd i ymuno a’r Panel Gweithredol.  Mi fyddai gan y Panel yna barhad o addysg meithrin (3-5 oed) i’r sector cynradd.

           

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

10.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ddydd Mawrth, 12 Hydref 2021 am 2.00pm.

Cofnodion:

Nododd y CYSAG y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal dydd Mawrth, y

12fed o Hydref 2021 am 2.00yh.