Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 - Hunan Arfarniad Ysgolion, gan ei fod yn Lywodraethwr yn Ysgol Y Fali.
|
|
Cofnodion Cyfarfod - 9 Hydref. 2018 PDF 400 KB • Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018.
• I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn Codi:-
• Yn dilyn cais gan y CYSAG i Gymdeithas CYSAGau Cymru gynnwys Addoli ar y Cyd ar raglen ei gyfarfod nesaf, cyfeiriodd y Cadeirydd at eitem 9 cofnodion cyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru, a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2018, sy’n datgan fod aelod o Gymdeithas CYSAGau Cymru wedi paratoi dogfen ar Addoli ar y Cyd fydd yn cael ei chylchredeg i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Adroddodd y Cadeirydd y bydd modd i’r Pwyllgor benderfynu a roddwyd sylw i’w pryderon ar ôl i’r CYSAG dderbyn copi ohoni. • Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at eitem 7 yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru, sy’n datgan fod y Gymdeithas wedi ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, i fynegi pryder fod GwE wedi tynnu cefnogaeth arbenigol Addysg Grefyddol oddi ar y CYSAGau. • Cadarnhaodd Clerc y CYSAG ei bod wedi cysylltu ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i’r Eglwys enwebu aelod fel cynrychiolydd ar y CYSAG, a disgwylir am ymateb ganddynt. • Adroddodd y Clerc fod y Pennaeth Dysgu wedi cytuno y bydd Ms Meinir Hughes, cyn Ymgynghorydd Her GwE, yn cynorthwyo Mrs Helen Bebb a Mrs Heledd Hearn i baratoi Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2018/19. • Nodwyd fod y Cadeirydd a’r Clerc yn cynnal trafodaethau ynghylch trefniadau i fynychu cyfarfod Penaethiaid Ysgolion Uwchradd Ynys Môn. • Nodwyd fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am rôl a chyfrifoldeb y CYSAGau yn y sector cynradd.
Gweithredu:
Gwahodd y Cadeirydd i fynychu’r Fforwm Ysgolion Cynradd er mwyn profi arfer dda yn ysgolion Ynys Môn, yn ogystal â chodi proffil y CYSAG yn y sector.
• Cadarnhaodd y Clerc ei bod wedi ysgrifennu at Ysgol Rhosybol, Ysgol Bryngwran ac Ysgol Gynradd Llanfairpwll i’w llongyfarch ar eu llwyddiant ar ôl iddynt dderbyn adroddiadau arolygiadau Estyn ardderchog. • Mewn ymateb i’r camgymeriad yn y papur arholiad Lefel A Addysg Grefyddol cyfrwng Cymraeg, cadarnhaodd Mrs Heledd Hearn fod pob ysgol uwchradd yn Ynys Môn wedi e-bostio CBAC er mwyn mynegi eu pryderon.
Nodwyd fod athrawon wedi derbyn ymatebion cyffredinol gan CBAC yn cydnabod y camgymeriad, gan ddweud y byddai’r amryfusedd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth farcio papurau. Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau Andrew Pearce yn eitem 10, cofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru, a oedd yn nodi:-
“Ymdriniwyd yn effeithiol iawn â’r mater, ac ni roddwyd y disgyblion dan anfantais ac ni ddyfarnwyd graddau is iddynt o ganlyniad i’r sefyllfa”.
Yn groes i sylw Mr Pearce, roedd cynrychiolwyr athrawon ar y CYSAG o’r farn fod y disgyblion wedi dioddef oherwydd y camgymeriad. |
|
Cyflwyniad - Ysgol Gymuned Rhosybol Derbyn cyflwyniad gan Ysgol Gymuned Rhosybol. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mrs Gwennan Roberts, Pennaeth Ysgol Gymuned Rhosybol, i’r cyfarfod ac fe’i gwahoddwyd i roi cyflwyniad ar waith yr ysgol mewn perthynas â’r ddarpariaeth Addysg Grefyddol.
Adroddodd y Pennaeth fod yr ysgol, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi bod yn paratoi trosolwg o sut i symud ymlaen gyda'r cwricwlwm AG newydd a’i 4 egwyddor, a ddyfeisiwyd gan yr Athro Graham Donaldson.
Cafwyd cyflwyniad diddorol gan y Pennaeth a oedd yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a’r gweithgareddau a gyflawnir yn yr ysgol. Nodwyd fod y plant yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol e.e. ‘Llyfr Agored’, gwasanaeth boreol, gweithgareddau tymhorol, prosiectau cymunedol, ymweld â llefydd o ddiddordeb ayb. Cyflwynwyd enghreifftiau da i’r CYSAG o sut mae disgyblion yn ymwneud â’i gilydd ac yn gweithio’n dda gyda’i gilydd. Maent yn cynnwys prosiectau ysgol, lle mae’r plant yn rhannu adnoddau, dangos empathi ac awydd i helpu eraill, a dysgu am gredoau a thraddodiadau crefyddol eraill.
Tynnodd y Pennaeth sylw at bwysigrwydd rhoi llais i ddisgyblion, a chyfle i fod yn annibynnol ac yn gyfrifol am eu gweithredoedd.
Diolchodd y Cadeirydd y Pennaeth am gyflwyniad diddorol ac am rannu arferion da'r ysgol gyda’r CYSAG.
PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad a’r gwaith ardderchog y mae Ysgol Gymuned Rhosybol yn ei wneud. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Ynys Môn 2017/18 PDF 1 MB • Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2017/18.
• Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG.
Cyflwyno Crynodeb y Cadeirydd ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2017/18. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft 2017/18 y CYSAG i’r Pwyllgor ei ystyried.
Adroddodd y Cadeirydd y byddai Crynodeb y Cadeirydd yn cael ei gyflwyno maes o law, ar ôl cwblhau’r adroddiad drafft terfynol.
Nodwyd fod disgyblion oedd yn astudio AG yn CA4 a CA5 wedi perfformio’n dda, gyda thri chwarter yn ennill graddau A-C, a phob disgybl yn CA5 llwyddo.
Nodwyd bod AG yn bwnc poblogaidd, gan fod traen o ddisgyblion sy’n astudio’r cwrs TGAU yn dewis y pwnc ar gyfer Lefel A. Nodwyd fod y canlyniadau yn gadarnhaol, o ystyried yr heriau’n gysylltiedig â’r cwricwlwm a diffyg yr adnoddau dwyieithog sydd ar gael i athrawon, ac mewn cymhariaeth â’r niferoedd isel sy’n dewis pynciau yn y Dyniaethau.
Gofynnodd y CYSAG a oedd camgymeriadau yn y tabl yn Adran 2.3.3 yr adroddiad ynglŷn ag arolygiadau ysgolion cynradd Estyn? Cytunodd y CYSAG i godi’r mater gyda’r swyddog sy’n gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2017/18, fel y’i cyflwynwyd. • Y Clerc i godi pryderon y CYSAG ynghylch y tabl yn Adran 2.3.3 yr adroddiad gyda’r swyddog sy’n paratoi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18. • Bod fersiwn ddiwygiedig o Gyfansoddiad CYSAG, ynghyd ag unrhyw newidiadau a argymhellir gan y CYSAG, yn cael eu hanfon at y swyddog perthnasol cyn diwedd mis Chwefror, er mwyn i’r adroddiad drafft terfynol gael ei baratoi a’i gylchredeg i aelodau’r CYSAG.
Gweithredu: Fel y nodir uchod. |
|
Safonau Addysg Grefyddol PDF 228 KB Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag arolygiadau Estyn (Hydref 2018) ynglŷn â’r ysgolion canlynol:-
• Ysgol Talwrn • Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Clerc i’r CYSAG, yn ymgorffori gwybodaeth o adroddiadau Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Talwrn ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, i’r CYSAG eu hystyried.
Nodwyd fod Estyn wedi adrodd fod safonau'r ddarpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd yn dda yn y ddwy ysgol.
Adroddodd Mrs Mefys Jones-Edwards mai hi oedd cynrychiolydd yr ysgol yn ystod Arolygiad Estyn yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac roedd hi’n falch o fod yn rhan o drafodaethau gydag Ymgynghorwyr Her GwE. Dywedodd fod Estyn, wrth gyfeirio at safonau mewn AG, yn cyfeirio at sgiliau darllen, ysgrifennu a gwybyddol, a thynnodd sylw at y dyfyniadau a ganlyn o’r adroddiad:-
• Mae llawer o ddisgyblion yn ddarllenwyr hyderus. Maent yn distyllu gwybodaeth berthnasol o ffynonellau amrywiol yn llwyddiannus ac yn dadansoddi testunau yn effeithiol, gan ddod i gasgliadau synhwyrol... • Mae llawer o ddisgyblion yn ymateb yn fedrus i gynnwys ac arddull testunau llenyddol... • Mae llawer o ddisgyblion yn ysgrifennu’n estynedig i ystod eang o bwrpasau a chynulleidfaoedd...
Adroddodd Mrs Jones-Edwards ei bod yn falch fod AG yn derbyn sylw dyledus, yn gyfartal â phob un o bynciau eraill y cwricwlwm.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiadau hunanarfarnu.
Gweithredu: Dim |
|
Hunan Arfarniad Ysgolion PDF 595 KB Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan Ysgol Gymuned Rhosybol, Ysgol Llanfairpwll, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Y Fali. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiadau hunanarfarnu Ysgol Gymuned Rhosybol, Ysgol Llanfairpwll, Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel ac Ysgol y Fali i’r CYSAG eu hystyried.
Trafododd y CYSAG y diffyg ymateb cyffredinol gan ysgolion pan ofynnir iddynt gyflwyno adroddiad hunanarfarnu. Gofynnwyd a ddylai’r CYSAG roi pwysau ar ysgolion sydd heb gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu i wneud hynny bob dwy flynedd? Nodwyd yn y gorffennol mai’r arferiad oedd i’r CYSAG ofyn i ysgolion a oedd newydd gael eu harolygu gan Estyn i gyflwyno eu hadroddiadau.
Awgrymwyd, oherwydd newidiadau yn y cwricwlwm, fod GwE, yr awdurdod lleol a’r Eglwys yn gweithio gyda’i gilydd i lunio’r model gorau ar gyfer derbyn adroddiadau hunanarfarnu gan ysgolion.
Awgrymodd y Cadeirydd, a chytunwyd i flaenoriaethu ysgolion sydd heb gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu yn y gorffennol. Nodwyd mai dim ond cyflwyno copi i’r CYSAG sydd angen i ysgolion ei wneud gan ei bod yn ofynnol i ysgolion baratoi’r adroddiadau.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys adroddiadau hunanarfarnu ysgolion. • Bod y Cadeirydd yn gofyn am gefnogaeth y Pennaeth Dysgu i symud ymlaen â’r cynnig uchod. • Bod y Clerc a Mrs Anest Frazer yn trafod yr opsiynau gorau ar gyfer symud ymlaen mewn perthynas ag adroddiadau hunanarfarnu ysgolion.
Gweithredu: Fel y nodir uchod. |
|
Cyfansoddiad y Pwyllgor PDF 350 KB I adolygu Cyfansoddiad CYSAG Môn. Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor Gyfansoddiad y CYSAG.
Nodwyd fod dwy sedd wag o’r enwadau crefyddol ar y CYSAG, sef Undeb Annibynwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Oherwydd diffyg presenoldeb, gofynnwyd ai’r Parch Kate McClelland yw cynrychiolydd yr Eglwys Fethodistaidd ar y CYSAG?
Nodwyd fod un sedd wag ar gyfer cynrychiolydd athrawon o’r sector cynradd ar y CYSAG.
Adroddodd y Clerc y byddai’n cysylltu ag Mrs Amanda Earnshaw, yr athrawes sy’n gyfrifol am AG yn Ysgol Cybi, Caergybi, er mwyn holi a fyddai ganddi ddiddordeb bod yn gynrychiolydd ysgolion cynradd ar y CYSAG.
PENDERFYNWYD:-
• Diweddaru Cyfansoddiad y CYSAG. • Bod y Clerc yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Undeb Annibynwyr Cymru yn gofyn iddynt enwebu cynrychiolydd o’r Eglwys i fod yn aelod o CYSAG Ynys Môn. • Bod y Clerc yn cysylltu ag Ysgrifennydd yr Eglwys Fethodistaidd i holi a yw’r wybodaeth sydd gan y CYSAG ynghylch ei gynrychiolydd yn gywir. • Y Clerc i wahodd Mrs Amanda Earnshaw i gynrychioli’r sector cynradd ar y CYSAG.
Gweithredu: Fel y nodir uchod.
|
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru PDF 412 KB Cyflwyno cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llanilltud Fawr ar 20 Tachwedd 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2018, i’r Pwyllgor eu hystyried.
Cyfeiriodd y Cydlynydd AG at eitem 10 ar y Rhaglen – ymateb Andrew Pearce i adborth ar ganlyniadau Lefel A 2018 CBAC.
Dywedodd y Cydlynydd AG ei bod yn anghytuno â datganiad Mr Pearce, oherwydd er bod y graddau lefel A yn dda iawn, mae ffiniau’r graddau Athroniaeth yn isel iawn yn Lefel A a TGAU. Nodwyd fod y ffiniau presennol ar gyfer derbyn gradd C yn 60%. Llynedd, aeth y ffin gradd C i lawr i 47%, sydd yn gallu bod yn gamarweiniol, gan fod safonau yn gostwng.
Codwyd pryderon oherwydd bod ysgolion yn dal i ddisgwyl am adnoddau dwyieithog ar gyfer maes llafur Lefel A AG. Nodwyd nad oes adnoddau Cymraeg na Saesneg ar gael ar gyfer nifer o unedau’r cwrs Lefel A. Roedd yr athrawon o’r farn ei bod yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’r mater hwn.
PENDERFYNWYD y byddai’r Clerc yn anfon e-bost at Arweinydd y Cyngor er mwyn cyfleu pryderon y CYSAG i Mr Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am ddiffyg adnoddau Cymraeg mewn ysgolion.
Gweithredu: Fel y nodwyd uchod. |
|
Gohebiaeth Derbyn unrhyw ohebiaeth. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd ei fod, yn ei rôl fel Cadeirydd y Cyngor Sir a Chadeirydd y CYSAG, wedi anfon e-bost at bob un o Benaethiaid ysgolion cynradd Ynys Môn yn gwahodd ysgolion i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’r plant, drwy wneud y pethau bychan i gofio Dewi Sant. Gofynnodd i’r disgyblion adrodd yn ôl i CYSAG am yr hyn a wnaethant. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Nodi bydd y cyfarfod nesaf y CYSAG ar 25 Mehefin 2019. Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal am 2.00 pm, dydd Mawrth, 25 Mehefin, 2019.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.
|
|
Cynrychiolydd y Dyneiddwyr ar CYSAG Ynys Môn I ystyried cais i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol gael ymuno â CYSAG Môn. Cofnodion: Rhoddodd y CYSAG ystyriaeth i gais i ganiatáu i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol ymuno â CYSAG Ynys Môn.
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn ymateb gan Mr Richard Speight, Cadeirydd Grŵp Dyneiddwyr Bangor, yn dilyn ei gais am wybodaeth ynghylch aelodaeth y Grŵp. Nodwyd fod gan y Dyneiddwyr 9 aelod lleol, 3 ohonynt yn byw ar Ynys Môn.
Trafododd y CYSAG gais y Dyneiddwyr a gofynnwyd am gyngor y Swyddog Monitro ynghylch yr opsiynau posib.
Ar ôl ystyried cyngor y Swyddog Monitro, PENDERFYNODD y CYSAG fel a ganlyn:-
• Peidio â chefnogi’r penodiad ar y sail ganlynol:-
• Er yn cydnabod cymhwyster posib, nid yw’r ymgeisydd wedi darparu unrhyw wybodaeth i awgrymu fod angen iddynt fod yn aelod er mwyn i CYSAG adlewyrchu’n briodol brif draddodiadau crefyddol Ynys Môn wrth ymgymryd â’i swyddogaethau; • Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar y ffaith, yn unol â’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, mai dim ond tri dilynwr sydd yn byw ar Ynys Môn; a • Dim ond cynrychioli eu credoau eu hunain all yr ymgeiswyr ei wneud ac nid, fel yr awgrymir yn y cais, gredoau holl boblogaeth Ynys Môn nad oes ganddynt grefydd.
• Bod y Cadeirydd yn anfon e-bost at Mr Richard Speight o Grŵp Dyneiddwyr Bangor (a chopi i Glerc y CYSAG), er mwyn ei hysbysu am benderfyniad y CYSAG.
Gweithredu: Fel y nodir uchod. |