Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 5ed Gorffennaf, 2013 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd Penrallt, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn nesaf.

 

(Mae Cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor yn dweud y penodir aelod o un awdurdod yn Gadeirydd ac aelod o’r awdurdod arall yn Is-Gadeirydd ac i’r gwrthwyneb y tymor canlynol fel bydd y gadeiryddiaeth a’r is-gadeiryddiaeth yn newid rhwng y ddau awdurdod bob yn ail.

 

(Roedd y Cadeirydd hyd at Fai, 2013 wedi cael ei ethol am gyfnod o ddwy flynedd ym mis Hydref, 2012 o blith cynrychiolwyr  etholedig Cyngor Sir Ynys Môn ar y Cyd-Bwyllgor.  Etholwyd yr Is-Gadeirydd ar yr un pryd o blith cynrychiolwyr etholedig Cyngor Gwynedd ar y Cyd-Bwyllgor).

Cofnodion:

Nodwyd bod y Cadeirydd hyd at Fai 2013 wedi cael ei ethol am gyfnod o ddwy flynedd [ yn unol â chyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor] o blith cynrychiolwyr etholedig Cyngor Sir Ynys Môn ar y Cyd-Bwyllgor. Etholwyd yr Is-Gadeirydd ar yr un pryd o blith cynrychiolwyr etholedig Cyngor Gwynedd ar y Cyd-Bwyllgor.Dywed y Cyfansoddiad y penodir aelod o un awdurdod yn  Gadeirydd ac aelod o’r awdurdod arall yn Is-Gadeirydd ac i’r gwrthwyneb y tymor canlynol.

 

Etholwyd y Cynghorydd Gwilym O.Jones o Gyngor Sir Ynys Môn yn Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’w gyd-aelodau am eu hymddiriedaeth ynddo ac estynnodd groeso cynnes i bawb oedd yn bresennol yn aelodau ac yn swyddogion. Diolchodd i’w ragflaenydd yn y Gadair, y cyn Gynghorydd Dylan  R.Jones o Gyngor  Sir Ynys Môn am ei wasanaeth fel Cadeirydd yn ystod y cyfnod y bu’n dal y swyddogaeth honno.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig - Cyflwyniad i Aelodau Newydd pdf eicon PDF 247 KB

Derbyn cyflwyniad ar rôl a swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Gareth Payne, y Prif Seicolegydd Addysgol gyflwyniad i’r  Aelodau ac yn benodol i’r Aelodau hynny oedd yn newydd i faes y Cyd-Bwyllgor ynglyn â’i swyddogaethau, gwaith yr Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig a rôl aelodau’r Cyd-Bwyllgor wedyn wrth ddal yr Uned Ddarparu i gyfrif. Yn ei gyflwyniad fe gyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at y materion a nodir isod 

 

·         Cefndir sefydlu’r Cyd-Bwyllgor ym 1996 a’r ffordd y caiff y swyddogaethau ynghlwm wrth ei weinyddiaeth eu didoli rhwng y ddwy sir.

·         Prif ddyletswyddau’r ddau Gyngor ym maes Anghenion Addysgol Arbennig, sef -

 

·         datblygu a gweithredu strategaeth AAA gynhwysol

·         cynllunio darpariaeth i ddiwallu anghenion disgyblion gydag AAA mewn ysgolion prif-lif, neu lle bo’n briodol a phan fo rhieni yn dymuno hynny, mewn ysgol arbennig

·         Rhoi sylw i’r Côd Ymarfer AAA Cymru, 2002

·         Sicrhau bod anghenion addysgol arbennig yn cael eu hadnabod a’u hasesu’n fuan fel bo’r disgybl yn derbyn ymyrraeth briodol yn gynnar

·         Rheoli’r drefn asesu statudol a llunio a monitro datganiadau

 

·         Gwasanaethau’r Uned Ddarparu yn cwmpasu’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg; y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r Adain Weinyddol sy’n rheoli’r drefn asesu a chynhyrchu data.

·         Mai trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth y gweithredir y trefniadau ac fe gynhelir y cyswllt gweithredol o ddydd i ddydd gyda’r ddau Gyngor trwy’r swyddogion cleient.

·         Adroddir yn dymhorol ar waith yr Uned Ddarparu i’r Cyd-Bwyllgor i bwrpasau craffu ac i sicrhau defnydd darbodus o adnoddau.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth fel y’i chyflwynwyd a diolch i’r Swyddog amdani.

4.

Cofnodion Cyfarfod 16 Hydref, 2012. pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Cyd-Bwyllgor  a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod –

 

·        16 Hydref, 2012

·        29 Ionawr, 2013 (cyfarfod arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2012 a 29 Ionawr, 2013 (cyfarfod arbennig) ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

 

Yn codi oddi ar gofnodion cyfarfod 29 Ionawr, 2013 –

 

Atgoffodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd bod y cyfarfod arbennig  a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, 2013 wedi’i gynnull yn neilltuol i ystyried crynodeb o hunan-arfarniad Gwasanaethau Addysg Cyngor Gwynedd mewn paratoad ar gyfer arolygiad o’r gwasanaethau hynny gan Estyn yn ystod mis Mawrth, 2013. Dywedodd bod adroddiad Estyn ar ganlyniadau’r arolygiad newydd ei gyhoeddi ac roedd am i’r Aelodau wybod beth oedd casgliadau’r corff arolygu mewn perthynas â’r cymorth a roddir ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy wasanaethau’r Cyd-Bwyllgor. Cyfeiriodd at rai o sylwadau Estyn oedd â chysylltiad â gwaith y Cyd-Bwyllgor fel a ganlyn

 

·         Bod yr Awdurdod yn gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid i nodi ac asesu anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gynnar.

·         Bod ganddo feini prawf clir [trwy’r Cyd-Bwyllgor] ar gyfer cael mynediad at gymorth ychwangeol, ac mae ysgolion yn deall eu cyfrifoldebau o ran mynd i’r afael ag anghenion disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. (Esboniodd y swyddog y drefn o gael mynediad at gymorth ychwanegol trwy Baneli CymedroIi’r ddwy sir).

·         Ei bod yn ofynnol i ysgolion ddarparu tystiolaeth gadarn o ymyriadau y maent wedi’u rhoi ar waith, ac effaith y rhain ar ddeilliannau disgyblion.

·         Bod canran y datganiadau a gwblhawyd o fewn graddfeydd amser statudol yn gyson uchel. (Dywedodd y Swyddog bod swyddogaeth graffu’r Cyd-Bwyllgor yng nghyswllt monitro ystadegau asesiadau a datganidau yn rhan greiddiol o’r gwaith).

·         Bod nifer yr apeliadau i Dribiwnlysoedd Anghenion Addysgol Arbennig Cymru dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn isel.

·         Bod yr Awdurdod yn gweithio’n dda gyda phartneriaid i ddarparu cymorth arbenigol effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys cymorth i ddisgyblion ag anghenion cymhleth o’r gwasanaethau allgymorth sefydledig.

·         Bod ysgolion a rhieni yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau hyn yn fawr.

·         Bod yr awdurdod yn gweithio’n dda gyda phartneriaid i ddarparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i ysgolion.(Dywedodd y Swyddog y gweithredir yr hyffordiant trwy waith y gwasanaeth seicoleg addysgol a gwaith y gwasanaeth athrawon arbenigol).

·         Bod yr awdurdod yn defnyddio data ADY yn effeithiol i olrhain cynnydd disgyblion, monitro effaith ymyriadau ar ddeilliannau disgyblion ac i herio ysgolion.

·         Bod yr awdurdod yn bodloni ei ofynion statudol yn dda mewn perthynas â disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Dywedodd  Pennaeth Addysg Gwynedd bod Estyn wedi dyfarnu’r cymorth a roddir ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyffredinol yn dda. Aeth y Swyddog rhagddo wedyn i sôn am gais y Cyd-Bwyllgor o’i gyfarfod ar 29 Ionawr, am wybodaeth mewn perthynas ag Adolygiad Strategol Cyngor Gwynedd o’r maes ADY a Cham 1 o’r broses honno. Eglurodd bod Cam 1 o’r adolygiad bellach wedi’i gwblhau a’i fod wedi golygu datblygu  opsiynau ar gyfer mynd â’r drafodaeth yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â gwaith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Hydref, 2012 a thymor y Gwanwyn, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Seicolgeydd Addysgol yn disgrifio gwaith Uned Ddarparu’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig yn ystod tymor yr Hydref, 2012 a thymor y Gwanwyn, 2013. Cyfeirodd y Prif Seicolegydd Addysgol at yr ystyriaethau a ganlyn

 

·         Gweinyddiaeth y prosesau asesu ac adolygu a newidiadau yn nhrefniadau a staffio’r tîm gweinyddu.

·         Gwaith y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r ystyriaeth a roddwyd trwy’r Grwp Cyswllt i ffyrdd o ehangu a datblygu’r gwasanaeth i’r dyfodol. Daethpwyd at gynllun a fyddai’n golygu cynyddu’r tîm presennol o ran athrawon a chyflogi nifer o gymorthyddion yn ogystal. Cydnabuwyd er nad oedd modd cyflawni’r newidiadau yn llawn, yr oedd yn bosib gwneud rhai ychwanegiadau dros dro o fewn cyllid y Cyd-Bwyllgor a phenderfynwyd mewn egwyddor i wneud hynny.

·         Gwaith y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r cynlluniau a phrosiectau y bu’r seicolegwyr yn ymhel â hwy yn ystod y cyfnod.

·         Canlyniadau’r Holiadaur i ysgolion. Bu’r ymateb gan ysgolion  i’r gwasanaethau a ddarperir eleni eto yn gyffredinol dda. Fodd bynnag, roedd yna 4 dangosydd lle nad oedd yr ymateb gan ysgolion cystal â’r llynedd a lle na ddynodwyd unrhyw welliant a’r rheini yn ymwneud ag effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran  disgyblion ag anawstaerau ymddygiad; effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran disgyblion sy’n fregus yn emosiynol; effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran disgyblion ag ansawsterau cymhleth ac effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran disgyblion â chyrhaeddiadau isel.

·         Ystadegau mewn perthynas â’r cyflwyniad yn erbyn dangosyddion perfformiad yng nghyswllt y nifer o ddatganiadau terfynol a gyhoeddwyd o fewn yr amserlen statudol o 26 wythnos yng Nghwynedd ac yn Ynys Môn.

·         Cyflenwi  gwasanaethau o fewn y gwasanaeth gweinyddol, y gwasanaeth athrawon arbenigol a’r gwasanaeth seicoleg addysgol yn ystod tymor y Gwanwyn, 2013 yn sgîl absenoldebau ac ymadawiadau i swyddi eraill. Yn fuan ar ôl dechrau tymor y Gwanwyn, roedd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn gweithredu gyda thri seicolegydd yn llai ac o ganlyniad i hyn bu gofyn addasu’r lefel o wasanaeth a gynigir i’r ysgolion. Hysbysebwyd am swyddi seicolegwyr i gymryd eu lle ac er y gwnaethpwyd penodiad i swydd gwerth 0.4, methwyd â llenwi’r swyddi eraill. Oherwydd hyn ac oherwydd absenoldeb seicolgeydd arall ar sail salwch, mae cynnal lefel gwasanaeth digonol wedi bod yn her. Fodd bynnag, llwyddwyd i ymweld â phob ysgol lle bu angen ac ymtebwyd i  broblemau oedd yn codi.

·         Ystadegau ynghylch y prosesau statudol. Dengys y data bod y nifer o ddatganiadau terfynol o anghenion addysgol arbennig a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yng Ngwynedd o  2008 i 2012 yn gyson heblaw am naid i fyny yn 2010, a bod y data yn dangos tueddiad ar i lawr ym Môn. Ar y llaw arall, mae nifer yr asesiadau statudol ar y gweill wedi cynyddu yn sylweddol yng Ngwynedd ac yn Ynys Môn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Seicolegydd Addysgol am yr adroddiad ac fe wahoddodd Aelodau’r Cyd-Bwyllgor i gynnig sylwadau ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Bu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor am y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Mawrth, 2013 pdf eicon PDF 4 MB

·                    Cyflwyno cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth, 2013.

 

·                    Cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor AAA.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig am y flwyddyn gylidol 2012/13 yn cynnwys adroddiad cyfrif incwm a gwariant refeniw 2012/13 a datganiad o’r cyfrifon ar ffurf statudol wedi’u hardystio ond heb eu harchwillio.

 

Adroddodd Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd bod yna ofynion adrodd penodol newydd ynghylch cyfrifo ac archwilio cyfrifon Cyd-Bwyllgorau. Mae Adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn datgan fod Cyd-Bwyllgor o ddau awdurdod (lleol) neu fwy yn gorff llywodraeth leol, ac mae Adran 13 o’r Ddedf yn mynnu bod corff o’r fath yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwiliwr annibynnol wedi’i gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Aeth y Swyddog rhagddo i ddweud er nad yw’r Cyd-Bwyllgor yn endid cyfreithiol annibynnol,  at ddibenion cadw cyfrifon fe’i hystyrir yn ddarostyngedig i’r un rheoliadau â chynghorau lleol eraill. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010 yn mynnu bod pob Cyd-Bwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol h.y. cyfrif incwm a gwariant a lle mae’r trosiant yn fwy na £1m, rhaid paratoi datganiad o’r cyfrifon yn unol â chôd CIPFA ar gyfer y Cyd-Bwyllgor. Bydd y Datganiad o’r Cyfrifon yn destun archwiliad ar wahân gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Adroddodd  yr Uwch Gyfrifydd Addysg am y Cyfrif Incwm a Gwariant am 2012/13 ac fe gyfeiriodd  at gefndir cyllidol y Cyd-Bwyllgor a’r rhaniad rhwng y ddau Awdurdod o ran cynnal y ddarpariaeth. Y llynedd roedd cyllideb y Cyd-Bwyllgor yn £1.2m gyda’r costau mwyaf yn rhai cynnal staff. Oherwydd trosiant staff yn y flwyddyn ddiwethaf  cafwyd tanwariant o oddeutu £93k sy’n awgrymu sefyllfa gyllidol iach lle mae’r ddarpariaeth yn cael ei chyflawni’n rhatach. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon wedi rhoi pwysau ar y staff presennol ac wedi dylanwadu ar y ddarpariaeth mae’r ysgolion yn ei derbyn. Aeth y Swyddog rhagddi i ymhelaethu ar rai o’r prif fannau hynny lle gwelwyd tanwariant fel a ganlyn

 

·                Seicolegwyr                                          -£56,813

·                Athrawon Cynhaliol                                -£19,440

·                Gweinyddol                                           -£18,682           

·                Costau teithio                                        -£5,033

·                Adnoddau/deunydd swyddfa                 -£7,031

·                Ffôn                                                     -£6,237

 

Roedd tanwariant net blwyddyn gyllidol 2012/13 yn £93,767 ac o’i ychwanegu at falans reserf y Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2012 mae cyfanswm balansau’r Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2013 yn £165,062. Er bod y sefyllfa yn ymddangos yn iach mae’n adlewyrchu anawsterau staffio dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Adroddodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd wedyn ynglyn â’r Datganiad o’r Cyfrifon a chyfeiriodd at yr elfennau canlynol o’r Datganiad

 

·    Datganiad o’r Symudiad mewn Reserfau

·    Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr 2012/13

·    Y Fantolen

·    Datganiad Llif Arian

·    Nodiadau ar y Cyfrifon

 

Bydd y Datganiad o’r Cyfrifon yn destun archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru a bydd yr Archwilydd Penodedig yn adrodd ar brif ddarganfyddiadau’r Swyddfa Archwilio yn dilyn yr archwiliad mewn adroddiad ISA260 i’w gyflwyno i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi, 2013.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiwn ar y cyfrifon. Pwysleisiwyd gan aelodau yng ngoleuni’r tanwariant am 2012/13 a’r prif reswm drosto yn ymwneud â staff ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y Flwyddyn i Ddod

10:30 y bore, 20 Medi, 2013 yn Llangefni (cyfarfod arbennig i dderbyn cyfrifon y Cyd-Bwyllgor)

 

10:30 y bore, 22 Tachwedd, 2013 yn Llangefni (cyfarfod cyffredin)

 

10:30 y bore, 14 Mawrth, 2014 yng Nghaernarfon (cyfarfod cyffredin)

Cofnodion:

Nodwyd y byddai cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn

 

Hanner awr wedi deg y bore ar 20 Medi, 2013 yn Llangefni (Cyfarfod arbennig)

Hannner awr wedi deg y bore ar 22 Tachwedd, 2013 yn Llangefni (Cyfarfod cyffredin)

Hanner awr wedi deg y bore ar 14 Mawrth, 2014 yng Nghaernarfon (Cyfarfod cyffredin)