Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croeso
Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i’r cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor i bawb oedd yn bresennol yn Aelodau ac yn Swyddogion. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 5ed Gorffennaf, 2013 PDF 266 KB Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 5ed Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 5ed Gorffennaf, 2013 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir. |
|
Pum Cam i Sefydlu Trefniadaeth Gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth ac Arweiniad Bydd Pennaeth Ysgol Glancegin, Bangor yn rhoi cyflwyniad ar destun y pum cam i sefydlu trefniadaeth gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth ac Arweiniad. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mrs Bethan Morris Jones, Pennaeth Ysgol Glancegin, Bangor i’r cyfarfod ac fe’i gwahoddodd i annerch y cyfarfod ar destun y pum cam i sefydlu trefniadaeth gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth, ac Arweiniad. Eglurodd Mrs Bethan Morris Jones ei bod wedi derbyn cais i roi trosolwg i’r Cyd-Bwyllgor fel y fforwm â goruchwyliaeth dros faterion anghenion dysgu ychwanegol yn y ddwy sir ar y gwaith a wnaed yn Ysgol Glancegin, Bangor yn ystod y cyfnod chwe blynedd diwethaf i fynd i’r afael â phroblemau yn yr ysgol a amlygwyd gan arolygiad Estyn a gynhaliwyd yn 2007. Dywedodd bod y cyfnod hwnnw wedi bod yn daith i holl boblogaeth yr ysgol yn arwain at gyhoeddi adroddiad arolygiad diweddaraf Estyn yn gynharach y flwyddyn hon oedd yn dyfarnu bod perfformiad presennol yr ysgol yn dda a bod ei rhagolygon ar gyfer gwella hefyd yn dda. Yn ogystal, bu i’r Arolygydd yn adroddiad 2013 ganfod bod safonau lles yr ysgol yn rhagorol a bod y gofal, cymorth ac arweiniad a rydd wrth hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol y disgyblion yn yr un modd yn rhagorol. Dywedodd y Pennaeth ei bod felly am ganolbwyntio yn ei chyflwyniad ar y rhan hwn o’r adroddiad arolygu sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol gan dynnu ohono i ddangos sut mae’r cynlluniau a’r strategaethau a roddwyd ar waith yn dilyn yr arolygiad chwe blynedd yn ôl wedi dwyn ffrwyth ac wedi esgor ar ddeilliannau cadarnhaol iawn yn yr ysgol ar ffurf ymddygiad arbennig o dda; agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu; y disgyblion yn ymfalchïo yn eu cyfrifoldebau ac yn cymryd rhan arweiniol mewn nifer o weithgareddau; y disgyblion yn teimlo bod eu llais yn bwysig a’u bod yn cael gwrandawiad gan oedolion, ynghyd â chynnydd sylweddol mewn lefelau presenoldeb ac mewn safonau fel ei gilydd.
Yn ei chyflwyniad wedyn, bu i Bennaeth Ysgol Glancegin gyfeirio at y wybodaeth a’r ystyriaethau canlynol –
· Y Cyd-Destun - Amgylchfyd cymdeithasol Ysgol Glancegin ar stâd Maesgeirchen ym Mangor, sef ardal y’i hystyrir yn un o dan anfantais cymdeithasol. Mae dros 97% o ddisgyblion yr ysgol yn byw mewn ardal sydd ymhlith yr 20% mywaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 42% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau cinio am ddim a 41% o’r disgyblion wedi’u hadnabod fel rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol. Sefydlwyd Cylch Meithrin yn yr ysgol wedi’i gyllido trwy Cymunedau’n Gyntaf sy’n derbyn 60 o blant ac yn darparu addysg Gymraeg ar eu cyfer am 12½ awr yr wythnos gyda’r bwriad o roi cychwyn cadarn iddynt.
· Y Pum Cam
· Hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol disgyblion
Barn yr Arolygydd oedd bod athrawon a staff ategol yr ysgol yn ymroi’n drwyadl i roi cefnogaeth fugeiliol o safon uchel sy’n ateb anghenion yr holl ddisgyblion. Gweithredwyd ystod o strategaethau effeithiol yn gyson a chadarn i feithrin parch at eraill a hybu ymddygiad da. Cyfeiriodd y Pennaeth yn neilltuol at strategaeth dan yr enw Therapi Canolbwyntio ar Ddatrysiad sy’n rhoi sylw i’r hyn sy’n dda mewn unrhyw sefyllfa yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2012/13 PDF 6 MB · Cyflwyno cyfrifon terfynol a Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyd-Bwyllgor am 2012/13.
· Cyflwyno adroddiad yr Archwiliwr Allanol ynglyn â’r Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1.1 Cyflwynwyd Datganiad Cyfrifon terfynol ôl-archwiliad y Cyd-Bwyllgor am 2012/13 ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Atgoffodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd yr Aelodau am y drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol ar 5 Gorffennaf pryd yr adroddwyd am y disgwyliadau adrodd ychwanegol ynghylch cyfrifo ac archwilio cyfrifon Cyd-Bwyllgorau, sef bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010 yn mynnu bod pob Cyd-Bwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol h.y. cyfrif inwcm a gwariant, a lle mae’r trosiant yn fwy na £1m, eu bod yn yn paratoi datganiad o’r cyfrifon yn unol â chôd CIPFA ar gyfer Cyd-Bwyllgor. Dywedodd y Swyddog y nodwyd yn y cyfarfod blaenorol bod y cyfrifon a gyflwynwyd bryd hynny yn ddarostyngedig i archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny wedi digwydd yn awr ac mae’r ychydig newidiadau ers cyflwyno fersiwn cyn archwiliad y cyfrion wedi’u hamlinellu yn adroddiad ISA260 gan Swyddfa Archwilio Cymru. Bwriad yr Archwilydd Penodedig yw cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau ariannol unwaith y cwblheir Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar yr hyn a amlinellir yn Atodiad 1 Adrodidad yr Archwilydd, sef ymateb Cyngor Gwynedd fel y corff â goruchwyliaeth ariannol dros weithrediadau’r Cyd-Bwyllgor. 1.2 Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynglyn â’r archwiliad o Ddatganiadau Ariannol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig. Cadarnhaodd Amanda Hughes, Swyddfa Archwilio Cymru mai barn yr Archwilydd Penodedig ar ddatganiadau cyfrifyddu’r Cyd-Bwyllgor yw eu bod yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2013 a’i incwm a’i wariant am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny a’u bod wedi’u paratoi’n briodol yn unol â’r Côd Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2012/13. Fodd bynnag, dygir sylw’r Aelodau at y ffaith nad oedd y Cyd-Bwyllgor fel corff llywodraeth leol i bwrpas Adran 12 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 cyn blwyddyn ariannol 2012/13 wedi cydymffurfio â’r gofyn yn Adran 13 y Ddeddf honno i gynnal cyfrifon sy’n ddarostyngedig i archwiliad blynyddol, a’i fod wedi methu cynhyrchu datganiadau ariannol yn unol â’r gofynion statudol.Dywedodd ei bod yn annhebygol bod hwn wedi cael effaith berthnasol ar gyfrifon y ddau awdurdod cyfansoddol (Ynys Môn a Gwynedd) ac mai mater cyfrifyddu ydyw gan bennaf ac nid mater yn ymwneud â thalu priod gyfraniadau’r awdurdodau cyfansoddol i’r Cyd-Bwyllgor. Fodd bynnag, er bod yr Archwilydd Penodedig yn arfaethu cyhoeddi adroddiad diamod ar y datganiadau ariannol fe nodir hyn fel mater arall i’w adrodd arno yn adroddiad yr Archwilydd Penodedig. Eglurodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd er na pharatowyd cyfrifon annibynnol gogyfer y Cyd-Bwyllgor yn y blynyddoedd cynt, fe adroddwyd yn flynyddol am weithrediadau ariannol y Cyd-Bwyllgor fel rhan o gyfrifon Cyngor Gwynedd fel y corff arweiniol ar faterion cyllidol y Cyd-Bwyllgor. Penderfynwyd cymeradwyo - · Adroddiad ISA 260 yr Archwilydd Penodedig ar yr Datganiadau Ariannol ynghyd â’r · Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad am 2012/13.
|
|
Cyfarfod Nesaf y Cyd-Bwyllgor Dydd Gwener, 22 Tachwedd, 2013 am 10:30 a.m. yn Llangefni. Cofnodion: Dydd Gwener, 22 Tachwedd, 2013 am 10:30 a.m.
|