Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 14eg Mawrth, 2014 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd Penrallt, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniad

Croesawodd y Cadeirydd pawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor ac estynnodd groeso arbennig i Ffion Edwards Ellis, Uwch Seicolegydd Addysgol a Mr Darren Jackson, Swyddog Addysg o Gyngor Gwynedd. Cyfeiriodd y Cadeirydd at benodiad Mrs Delyth Molyneux, cyn swyddog o Gyngor Gwynedd yn Bennaeth Gwasanaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn ac fe longyfarchodd hi ar ei phenodi i’r swydd.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion cyfarfod 10 Rhagfyr, 2013 pdf eicon PDF 179 KB

Bydd cofndion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor AAA a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2013, ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

3.

Yr Uned Ddarparu AAA pdf eicon PDF 457 KB

Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymhorau’r Hydref a Gwanwyn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig a materion perthynol yn ystod tymhorau’r Hydref, 2013 a Gwanwyn, 2014.

 

Adroddodd Mrs Mair Read, Swyddog Addysg AAA Cyngor Sir Ynys Môn ar y prif ystyriaethau yn codi o’r adroddiad fel  a ganlyn –

 

           Mewn perthynas â gweinyddu prosesau asesu ac adolygu, bod y tîm gweinyddol bellach yn gweithredu i’w lawn gapasiti yn dilyn penodi dau gymhorthydd clerigol am gyfnod o flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth, 2015. Bu’n gyfnod heriol i’r gwasanaeth gweinyddol a gwerthfawrogir ymdrech y staff a gymrodd arnynt faich gwaith sylweddol yn ystod yr amser hwn.

           Cwblhawyd y cyfan o’r asesiadau statudol o fewn y terfynau amser lle na fu eithriadau.

           Llwyddwyd i brosesu nifer sylweddol o adolygiadau blynyddol yn amserol er mwyn gosod cyllidebau datganoledig i ysgolion.

           Bod datblygiadau rhanbarthol ynglyn ag unioni prosesau busnes yn ymwneud â’r gyfundrefn gofnodi Capita ONE yn parhau. Bydd mabwysiadu’r newidiadau arfaethedig yn golygu arbedion amser sylweddol i’r cymorthyddion clerigol.

           Cyflwynwyd model gwasanaeth gweinyddol newydd i’r Swyddogion Cleient gyda golwg ar gyfarch yr angen i ail-strwythuro’r sefydliad gweinyddol ar gyfer 2015/16 i adlewyrchu newidiadau i ofynion gweithredol yr Uned Ddarparu.Cymeradwywyd yr egwyddor ym mis Tachwedd.

           Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol, hysbysebwyd am dair swydd sef – un llawn amser mewn iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth lle gwelwyd y twf mwyaf mewn achosion ynghyd â dwy swydd 0.6 yr un ym maes golwg ac ym maes clyw. Yn hanesyddol, cafwyd anawsterau recriwtio athrawon arbenigol sydd hefyd yn rhugl yn y Gymraeg ac i oresgyn hyn buwyd yn cyflogi athrawon dan hyfforddiant ac yn trefnu iddynt fynychu cyrsiau tra mewn cyflogaeth.Penderfynwyd y tro hwn i hysbysebu am athrawon cymwys gyda chymal ategol y byddir yn ystyried ceisiadau gan athrawon profiadol sy’n awyddus i hyfforddi. Llwyddwyd i benodi’n fewnol i’r swydd llawn amser ym maes iaith a chyfathrebu ond nid i’r ddwy swydd rhan amser, ac felly aethpwyd ati i hysbysebu’n allanol am y swyddi hyn.

           Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol parhawyd yn ystod y tymor i weithredu gyda nifer sylweddol yn llai o seicolegwyr o fewn y tîm yn sgîl absenoldebau oherwydd mamolaeth ac oherwydd ymadawiad dau seicolegydd rhan amser. Llwyddwyd i gynnig gwasanaeth i bob ysgol ond gyda llai o ymweliadau na’r arfer. Oherwydd hyn cyflogwyd tair seicolegwraig gynorthwyol i lenwi’r bwlch yn y gwasanaeth. Er nad oedd modd i un ohonynt ddechrau yn y gwaith tan y Nadolig maent wedi gwneud cyfraniad gyda nifer o dasgau ac wedi cyflwyno dau gwrs ar feysydd penodol.

           Cyfeiriodd yr Uwch Seicolgeydd Addysgol at yr atodiad i’r adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu oedd yn amlinellu’r trefniadau arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol o fis Medi, 2014 ymlaen. Mae’r cynllun a gynigir wedi’i seilio ar gais i’r Cyd-Bwyllgor hyrwyddo hyfforddi seicolegwyr, ac yn benodol rhoi cefnogaeth i ddwy seicolegwraig gynorthwyol ddilyn cwrs hyfforddi proffesiynol a fyddai’n galluogi sicrhau gwasanaeth seicoleg addysgol priodol i  ysgolion y ddwy sir i’r dyfodol. Dywedodd y Swyddog yn dilyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Materion Cyllidol - Cyllideb 2014/15 pdf eicon PDF 191 KB

Adrodd ar Gyllideb 2014/15.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori cyllideb y Cyd-Bwyllgor am 2014/15.

 

Adroddodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd bod y gyllideb yn ymgorffori cost cytundebau cyflog, incrementau cyflogau, addasiad yswiriant gwladol a chwyddiant am 2014/15, sef cynnydd o 0.99% i gyfraniadau cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn. Cyllidir cost net y gyllideb o £1.2m trwy gyfraniad o 61.37% gan Gyngor Gwynedd, sef £738,150  a chyfraniad o 38.63% gan Gyngor Sir Ynys Môn, sef £464,637. Nid yw’r Cyd-Bwyllgor yn wynebu toriad cyllidol yn 2014/15.

 

Dywedodd Swyddog Addysg AAA Cyngor Sir Ynys Môn bod y posibilrwydd o ofyn i’r Cyd-Bwyllgor weithredu toriad gwerth 5% ar gyfer 2014/15 a 2015/16 wedi cael ei ystyried wrth drafod y  cynlluniau cyllidebol.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg tra byddai modd cynnal y fath doriad yn y tymor byr trwy ddefnydd o’r balansau, mae lleihad o 5% gyfwerth â £60,000 sef swydd seicolegydd addysgol a byddai gweithredu toriad pellach o 5% yn gyfystyr â swydd seicolegydd arall. Gan fod crynswth gwariant y Cyd-Bwyllgor ar gyflogau staff y sefydliad staffio sydd yn gorfod dwyn baich unrhyw doriadau. Ychwanegodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn byddai gofyn ystyried proses o ail-strwythuro i alluogi ymdopi gyda cwtogiad cyllidol ar y gyfryw raddfa. At hynny, rhaid ymgorffori unrhyw doriadau o fewn y newidiadau sy’n digwydd yn rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru.

 

Bu i Aelodau’r Cyd-Bwyllgor bwysleisio’r pwyntiau canlynol

 

           Bod angen ymagweddu’n wahanol i’r broses o lunio cyllidebau ac edrych tu hwnt i doriadau tameidiog ar draws gwasanaethau, ac yn hytrach ystyried yr effaith ar wasanaethau unigol o’u torri a phwyso a mesur y risgiau ynghlwm.

           Os defnyddir y balansau i gynnal gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor am ddwy flynedd mae’n rhaid cynnal dadansoddiad o effaith ymarferol y toriadau ar y defnyddwyr h.y. sut fyddai colli swydd seicolegydd yn taro plant ag anghenion addysgol ychwanegol y maent angen y gwasanaeth.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r gyllideb am 2014/15 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Cyfarfodydd 2014/15

10:30 y bore, dydd Gwener, 4 Gorffennaf, 2014

 

2:00 y prynhawn, dydd Gwener, 19 Medi, 2014 (Cyfarfod Cyfrifon)

 

10:30 y bore dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2014

 

10:30 y bore, dydd Gwener, 13  Mawrth, 2015

 

Cofnodion:

Nodwyd byddai cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am 2014/15 yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol :

 

Dydd Gwener, 4ydd Orffennaf, 2014 am 10:30 y bore

Dydd Gwener, 19 Medi, 2014 am 2 o’r gloch  y prynhawn

Dydd gwenr, 21 Tachwedd, 2014 am 10 :30 y bore

Dydd Gwener 13, Mawrth, 2015 am 10:30 y bore.