Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Glyder Fawr Room, Penrallt Offices, Caernarfon
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 20 Medi, 2013 PDF 180 KB Bydd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2013, ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
|
|
· Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Haf, 2013.
· Cyflwyno gohebiaeth anfonwyd at Aelod Cynulliad Ynys Môn ac at Aelod Seneddol Ynys Môn ynglyn ag anawsterau mewn perthynas â hyfforddi Seicolegwyr Addysgol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg yn amlinellu gweithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2013.
Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg at y prif ystyriaethau’n codi o’r adroddiad fel a ganlyn –
• Newidiadau ymhlith staff sy’n gyfrifol am weinyddu prosesau asesu ac adolygu’r trefniadau a wnaed i gyflenwi’r gwaith. Nodir y penodwyd i swydd yr Uwch Swyddog Gweinyddol am gyfnod secondiad deilydd parhaol y swydd. • Parthed y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol cafwyd trafodaethau ar ddechrau’r tymor i ystyried cyflogi athrawon newydd am ei bod yn ymddangos nad oedd modd cwrdd ag anghenion y cyfan o’r plant ar sail maint y tîm presennol a hefyd oherwydd bod nifer o’r athrawon yn agosáu at oed ymddeoliad. Cynhaliwyd ymarferiad ym mis Mai a ddangosodd pa mor anodd ydyw i’r athrawon sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion addysgol yr holl blant. Er enghraifft, mae’r nifer o blant sy’n hysbys i’r Gwasanaeth Iaith a Chyfathrebu yn golygu byddai gofyn i athrawes llawn amser yn y maes weithio gyda 376 o blant yn flynyddol ac yn gyffelyb, byddai angen i athrawes yn y gwasanaeth anawsterau meddygol/corfforol ymwneud â 202 o blant yn flynyddol. Er nad yw’r niferoedd cyfuwch yn y gwasanaethau Clyw a Golwg, mae yna leiafrif pwysig o blant sydd angen mewnbwn arbenigol wythnosol gan athrawes i ddatblygu eu sgiliau arwyddo a Braille. Oherwydd yr anawsterau wrth recriwtio athrawon cymwys Cymraeg, yn hanesyddol mabwysidawyd trefn o gyflogi athrawon dan hyfforddiant gan drefnu iddynt wedyn fynychu cyrsiau hyfforddiant tra mewn cyflogaeth. • Bod patrwm tebyg i’w weld yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg gyda’r gwasanaeth yn rhedeg yn ystod tymor yr Haf gyda nifer sylweddol yn llai o seicolegwyr. Llwyddwyd i gynnig gwasanaeth i bob ysgol ond bu raid lleihau ar nifer yr ymweliadau a gynhaliwyd. O ganlyniad roedd yn siomedig ond nid yn annisgwyl na chafwyd ymateb mor ffafriol â’r llynedd i gwestiynau’r holiadur ansawdd a gylchredwyd i’r ysgolion yn ôl yr arfer. Bu i 78% ddatgan eu bod yn fodlon neu’n falch o’r gwasanaeth a dderbyniwyd o gymharu ag 85% y llynedd ac 83% yn y blynyddoedd cynt. Roedd nifer yr ysgolion wedi sgorio’r gwasanaeth yn is ar y sail nad oeddent yn gweld y seicolegydd mor aml ac nid oherwydd unrhyw anfodlonrwydd gyda safon y gwaith. Roedd 46% o’r ysgolion yn hapus gyda maint yr amser a ddynodwyd iddynt.Yng ngoleuni’r adborth hwn hysbysebwyd am seicolegwyr newydd am yr ail dro ond eto, ni chafwyd yr un cais gan seicolegydd cymwys gyda’r gallu i siarad Cymraeg. Dros y blynyddoedd, mae’r gwasanaeth wedi cyflogi seicolegwyr dan hyffoddiant ac wedi trefnu iddynt fynd ar gyrsiau wedyn. Ar hyn o bryd mae 7 o’r 9 seicolegydd o fewn y gwasanaeth yn seicolewgyr dan hyfforddiant. Cyflogwyd tair seicolegwraig gynorthwyol ar ddiwedd y tymor er mwyn lleihau’r baich a gyda golwg arnynt fynychu cyrsiau hyfforddiant o Fedi, 2014. Mae dwy ohnynt ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adolygiad Cyllideb 2013/14 PDF 91 KB Cyflwyno diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â chyllideb gyfredol 2013/14 y Cyd-Bwyllgor. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori cyllideb 2013/14.
Amlinellodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd y sefyllfa fel a ganlyn –
• Bod cyllideb 2013/14 yn ymgorffori costau cytundebau cyflogi, incrementau cyflog, addasiad yswiriant gwladol a chwyddiant ar y gyllideb am 2013/14. Mae cyfraniad Awdurdodau Gwynedd ac Ynys Môn wedi cynyddu 1.2%. • Bod sefydliad staffio gyfredol y Cyd-Bwyllgor yn cael ei nodi isod :
Nifer cymareb llawn amser:
• 8.1 seicolegwyr • 7.6 athrawon cynhaliol • 6.4 staff gweinyddol
• Bod nifer o swyddi wedi bod yn wag yn ystod y flwyddyn ynghyd ag absenoldebau mamolaeth Bu anhawster darganfod staff cyflenwol. Mae’r sefyllfa hon wedi arwain at amcangyfrif o danwariant sylweddol yng nghyfrifon y Cyd-Bwyllgor eleni wedi’i ddidoli rhwng y tri tîm staff fel a ganlyn –
• Seicolegwyr £99,950 • Athrawon Cynhaliol £24,200 • Staff Gweinyddol £14,050
Cyfanswm £138,200
At hynny, rhagwelir tanwariant o oddeutu £4,520 ar gostau hyfforddi yn ddibynnol ar argaeledd cyrsiau cyn diwedd Mawrth, 2014.
• Amcangyfrifir y bydd yna orwariant o oddeutu £1,700 o dan bennawd post a lleihad o oddeutu £5,890 yn yr incwm mae’r Cyd-Bwyllgor yn ei gynhyrchu trwy ddarparu hyfforddiant a gwerthu cyhoeddiadau i ysgolion a’r Awdurdodau. • Gyda’i gilydd golyga hyn amcangyfrif o danwariant gwerth oddeutu £135,000 yng nghyfrifon y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar ôl ychwanegu hynny at y balansau diwygiedig sy’n cario drosodd o 2012/13, amcangyfrifir bydd cyfanswm balansau’r Cyd-Bwyllgor oddeutu £300,000 ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2013/14 sef bron i 30% o gyllideb y Cyd-Bwyllgor. • Mae staff y Cyd-Bwyllgor ynghyd â swyddogion o’r ddau awdurdod wedi rhoi trefniadau dros dro mewn lle i atgyfnethu’r lefel staffio ac maent yn parhau i ystyried y defnydd gorau o’r balansau sydd yn weddill er budd plant ac ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd y bydd llenwi’r swyddi gwag yn dod â chostau ychwanegol felly nid yw’n bosibl i’r Cyd-Bwyllgor ymrwymo’i hun i wariant mewn ffordd sy’n ddibynnol ar y balansau.
Ystyriodd yr Aelodau’r Cyd-Bwyllgor y wybodaeth mewn perthynas â’r sefyllfa ariannol.Gwnaed awgrym y gallai rhywfaint o’r tanwariant gael ei ad-dalu i’r ddau awdurdod i fynd yn ôl i gyllideb blwyddyn nesaf.
Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd y byddai o fantais i’r Cyd-Bwyllgor dderbyn dadansoddiad pellach o’r sefyllfa ariannol gan gynnwys y balansau i ddangos beth sy’n gyllid parhaol, y gofynion o ran llenwi swyddi a’r balans ar ôl hynny. Os gwelir bod yna swm o sylwedd yn weddill yna efallai bod yna agoriad i drafod gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor y posiblirwydd o gefnogi pobl ifanc yn eu cyrsiau gyda golwg ar iddynt ystyried ymrwymo i’r ardal. Pwysleisiodd bod yma gyfle i’r Cyd-Bwyllgor fod yn rhagweithiol yn enwedig ym meysydd seicolegwyr addysg a’r athrawon arbenigol ac i edrych ar ddulliau recriwtio gwahanol yn y meysydd hyn a gweithredu mewn ffordd amgenach na hysbysebu yn unig. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hollbwysig i’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyfarfod Nesaf 10:30 y bore, dydd Gwener, 14 Mawrth , 2014 yng Nghaernarfon. Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon am 10:30 a.m. dydd Gwener, 14 Mawrth, 2014.
|