Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y cyfnod dwy flynedd nesaf.
(Mae Cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor yn dweud y penodir Aelod o un Awdurdod yn Gadeirydd ac Aelod o’r Awdurdod arall yn Is-Gadeirydd ac i’r gwrthwyneb y tymor canlynol fel bydd y gadeiryddiaeth a’r is-gadeiryddiaeth yn newid rhwng y ddau awdurdod bob yn ail)
(Mae’r Gadeiryddiaeth wedi cael ei dal am y cyfnod dwy flynedd blaenorol gan Aelod o Gyngor Sir Ynys Môn) Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Caerwyn Roberts o Gyngor Gwynedd yn Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig am y cyfnod dwy flynedd nesaf.
|
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y cyfnod dwy flynedd nesaf.
(Mae’r Is-Gadeiryddiaeth wedi cael ei dal am y cyfnod dwy flynedd blaenorol gan y Cynghorydd Caerwyn Roberts o Gyngor Gwynedd) Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Llinos M.Huws o Gyngor Sir Ynys Môn yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig am y cyfnod dwy flynedd nesaf. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog ynghylch unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cyfarfod 14 Mawrth, 2014 PDF 173 KB Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor AAA a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2014 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir yn amodol ar gywiro’r ddau gyfeiriad ynddynt at Mr Darren Jackson i ddarllen Mr Garem Jackson. |
|
Yr Uned Ddarparu AAA PDF 240 KB Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gwanwyn, 2014. (Adroddiad i ddilyn) Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol yn amlinellu gweithgareddau’r Uned Ddarparu yn ystod tymor y Gwanwyn, 2014.
Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at y prif ystyriaethau fel a ganlyn –
• Trefniadau gweinyddu prosesau asesu ac adolgu yn ystod y cyfnod. Ar ddechrau’r tymor roedd gan y tîm gweinyddol gyflenwad staff llawn a manteisiwyd ar hyn i ymateb yn dda i ddatblygiadau newydd gan gynnwys gweithredu fersiwn newydd o’r bas data ONE.Ym mis Mawrth, gadawodd yr Uwch Swyddog Gweinyddol a oedd wedi’i secondio i’r swydd, ac fe ddychwelodd i’w swydd flaenorol. Ail drefnwyd y dyletswyddau swyddfa yn y cyfamser ac fe ddechreuwyd ar y broses o hysbysebu i lenwi’r swydd tan fis Mawrth, 2015. • Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol, hysbysebwyd am athrawon arbenigol ym meysydd anawsterau iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth; anawsterau golwg, ac anaswsterau clyw. Penodwyd athrawes newydd i ymuno â’r tîm anawsterau iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth i gychwyn ar gwrs hyfforddiant ym mis Medi ond bu raid ail hysbysebu’n allanol am y swyddi yn y ddau faes arall. Cafodd absenoldeb salwch un o’r ddwy athrawes arbenigol nam ar y golwg effaith ar y gwasanaeth yn enwedig o du’r athrawes arall oedd yn ysgwyddo’r gwaith ychwanegol. Dwysawyd y sefyllfa gan nifer uchel y plant gyda nam ar y golwg yn trosglwyddo i’r sector uwchradd a hwythau angen mewnbwn rheolaidd dwys am eu bod angen mynediad i’r cwricwlwm trwy gyfrwng Braille. • Parthed y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, ceir yn yr adroddiad ddadansoddiad o oblygiadau cyllidol y penderfyniad a wnaethpwyd yn y cyfarfod blaenorol i fwrw ymlaen i drefnu i’r tair seicolegwraig cynorthwyol sydd ar hyn o bryd yn gweithio i’r gwasanaeth fynychu cwrs hyfforddi er mwyn sicrhau cyflenwad o seicolegwyr cymwysiedig i’r dyfodol. Mae dwy o’r seicolegwyr cynorthwyol wedi cael lle ar y cwrs hyfforddi tair blynedd yng Nghaerdydd o fis Medi ymlaen, un ar sail heb ei gyllido a’r llall ar le wedi’i gyllido. Penderfynodd y drydedd seicolegwraig cynorthwyol i beidio gwneud cais am le hyfforddi a pharhau i weithio yn ei swydd bresennol gyda’r Cyd-Bwyllgor am flwyddyn arall. Dengys yr adroddiad y gost o gefnogi’r ddwy seicolegwraig fel seicolegwyr dan hyfforddiant am y cyfnod tair blynedd. Bydd gofyn i’r gwasanaeth weithredu gyda 1.4 seicolegydd yn llai am y dair blynedd ond bernir bod y buddsoddiad yn un gwerthfawr i’w wneud ac y bydd yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol. Bydd rhan o waith maes y ddwy fyfyrwraig yn cael ei wneud yn lleol. • Mewn perthynas â hyfforddiant y tîm seicolegwyr addysgol, yn ystod y tymor fe fynychodd rhan fwyaf y seicolegwyr gwrs yn y dull o drefnu cyfarfodydd a elwir yn Gynllunio Person-Ganolog (Person Centred Planning - PCP). • Mae’r data ar gyfer Gwynedd yn awgrymu bod llai o ddatganiadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod statudol na’r arfer am y tymor hwn.
Cadarnhaodd Swyddog Addysg Anghenion Arbennig Ynys Môn bod ffigyrau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth, 2014 PDF 725 KB Cyflwyno cyfrifon cyn-archwiliedig terfynol y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn gyllidol yn diweddu 31 Mawrth, 2014. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor – Adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori adroddiad cyfrif inwcm a gwariant refeniw’r Cyd-Bwyllgor am 2013/14 ynghyd â datganiad o’r cyfrifon ar ffurf statudol wedi’i ardystio ond cyn archwiliad.
Adroddodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd bod gofynion adrodd penodol ynghylch cyfrifo ac archwilio cyfrifon cyd-bwyllgorau fel yr amlinellir yng nghorff yr adroddiad. Dywedodd bod y ddogfennaeth wedi’i rhannu’n ddwy fel a ganlyn –
• Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2013/14 ynghyd â sylwadaeth ar y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant. Dywedodd y Swyddog mai £110,805 oedd cyfanswm tanwariant net y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2013/14. O ychwanegu’r swm hwn at falans reserf y Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2013 sef £166,351 daw â chyfanswm y balans reserf i £277,156 ar ddiwedd Mawrth, 2014.
Ystyriodd Aelodau’r Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ac fe godwyd cwestiynau ynghylch y gwariant o dan rai penawdau gan gynnwys y cynnydd mewn costau post. Gofynnwyd a oedd yna gyllid ar gael o’r balansau i wella trefniadau’r swyddfa.Ymatebodd y Swyddogion bod ymdrech wedi cael ei wneud i foderneiddio‘r systemau swyddfa a bod lleihau costau post yn flaenoriaeth. Ar y llaw arall rhaid cadw mewn cof ofynion cyfrinachedd wrth drosglwyddo gwybodaeth a’r cyfrwng a ddefnyddir i wneud hynny ynghyd â’r ffaith bod rhai asiantaethau yn ymwneud trwy waith papur. Yn ogystal, er bod yna gynllun mewn lle i leihau balansau’r Cyd-Bwyllgor cafwyd anawsterau wrth geisio recriwtio unigolion i swyddi arbenigol. Gan hynny, aethpwyd ati i o fewn y fframwaith weithredu i ystwytho ychydig ar y patrymau cyflogi i recrwitio staff lle bo’r angen a thrwy hynny lleihau’r balansau. Ar y llaw arall, fe all y Cyd-Bwyllgor wynebu toriadau i’w gyllideb flynyddol yn y dyfodol gan olygu bydd raid iddo gynllunio yn yr hir dymor ar sail cyllidol llai.
Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd mai arian i bwrpas unwaith ac am byth yw balansau’r Cyd-Bwyllgor ac mai’n erbyn y gyllideb barhaol y gellir gwneud ymrwymiadau parhaol. Mae’r sefyllfa lle mae’r Cyd-Bwyllgor yn dal cyfwerth â chwarter o’i drosiant o £1m mewn reserfau yn un i gadw golwg arni er y gall fod yna resymau penodol dros wneud hynny.
Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd bod cael yr arian wrth gefn yn rhoi’r hyblygrwydd a’r sicrwydd ariannol i’r Cyd-Bwyllgor y gall weithredu i geisio denu unigolion addas i’w gyflogaeth a hefyd rhoi cymorth i mewn i sicrhau bod plant yn cael y sylw fel bo’r angen.
• Datganiad o’r cyfrifon ar ffurf statudol wedi’i ardystio ond cyn archwiliad.
Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd bod y datganiad wedi’i lunio a’i gyflwyno ar ffurf safonol statudol. Bydd y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru a bydd yr Archwilydd Penododig yn cynhyrchu adroddiad ISA260 yn amlinellu prif ddarganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru o’r archwiliad fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi gyda’r cyfrifon archwiliedig. Mae sawl ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2013/14 PDF 383 KB Cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyd-Bwyllgor AAA am 2013/14. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor – Y Datganiad o Lywodraethu Blynyddol am 2013/14 yn unol â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio Cymru (Diwygio) 2012 sy’n dweud bod yn rhaid i bob Cyd-Bwyllgor gynhyrchu Datganiad o Reolaeth Mewnol.
Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd y byddai’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gyfuno gyda’r cyfrifon archwiliedig i’w cyflwyno fel un dogfen gyfansawdd i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi.
Cyflwynodd Swyddog Addysg Anghenion Arbennig Ynys Môn y datganiad yn ffurfiol i’r Cyd-Bwyllgor a dywedodd ei fod yn seiliedig ar gyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2014. Awgrymodd yng ngholeuni’r newidiadau disgwyliedig sydd yn yr arfaeth gyda chyflwyno Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ynglyn ag anghenion dysgu ychwanegol bod angen adolygu’r cyfansoddiad i sicrhau ei fod yn gyfoes ac yn cyflawni’r gofynion. At hynny, mae angen adolygu hefyd y cytundeb lefel gwasanaeth gyda’r ddau awdurdod i adlewyrchu unrhyw newidiadau .
Dygwyd sylw at y ffaith bod y Datganiad Llywodraethu wedi’i ddylunio i ymateb y gofyn ffurfiol am ddatganiad o reolaeth mewnol ac nad oedd yr Archwilydd Allanol wedi gwneud unrhyw sylwadau ar ei gynnwys yn ei archwiliad y llynedd. Awgrymwyd y gallai unrhyw addasiadau i’r cyfansoddiad a/ neu’r cytundeb effeithio ar ffurf a chynnwys y datganiad i’r dyfodol.
Cytunwyd y dylai aelodau’r Cyd-Bwyllgor derbyn copi o gyfansoddiad cyfredol y Cyd-Bwyllgor fel cyfeirnod ar gyfer adolygiad i ddod.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol am 2013/14 fel y’i gyflwynwyd.
CAM GWEITHREDU’N CODI: Swyddog Pwyllgor i gylchredeg copi o gyfansoddiad cyfredol y Cyd-Bwyllgor i’w aelodau.
|
|
Cyfarfod Nesaf 2:00 y prynhawn, dydd Gwener 19 Medi, 2014 yn Siambr Hywel Dda, Pencadlys y Cyngor, Caernarfon (i dderbyn y cyfrifon archwiliedig). Cofnodion: Nodwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 2:00 y prynhawn, ddydd Gwener 19 Medi, 2014 yn Siambr Hywel Dda, Pencadlys y Cyngor, Caernarfon (i dderbyn y cyfrifon archwiliedig). |