Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Pencadlys y Cyngor, Caernarfon
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cyfarfod 4 Gorffennaf, 2014 PDF 181 KB Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 4ydd Gorffennaf, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 4ydd Gorffennaf, 2014 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA am y flwyddyn gyllidol o Ebrill, 2013 i Fawrth, 2014 ynghyd ag adroddiad yr Archwiliwr Allanol ynglyn â’r archwiliad o’r Datganiadau Ariannol (Adroddiad ISA 260). Cofnodion: Cyflwynwyd y ddogfennaeth ganlynol er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor
• Datganiad Cyfrifon terfynol ôl-archwiliad y Cyd-Bwyllgor am 2013/14 gyda’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. • Adroddiad Swyddfa Archwiliad Cymru yn amlinellu canfyddiadau’r archwiliad allanol o’r Datganiadau Ariannol. • Llythyr Cynrychiolaeth.
Adroddodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd bod y datganiad o gyfrifon drafft cyn-archwiliad 2013/14 y’u cyflwynwyd i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Gorffennaf bellach wedi’u harchwilio’n annibynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r mân newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwyno'r fersiwn cyn archwiliad yn cael eu hegluro yn Adroddiad ISA 260 Swyddfa Archwilio Cymru fel yr Archwiliwr Allanol. Mae gofyn i Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor ynghyd â’r Pennaeth Cyllid ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth a gyflwynir o dan Atodiad 1 i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i i’r Cyd-Bwyllgor ystyried y ddogfennaeth a bodloni’i hun ar y cynnwys. Wedi iddo dderbyn y Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i ardystio bydd yr Archwilydd Penodedig yn cyhoeddi’r tystysgrif ar y cyfrifon erbyn 30 Medi yn unol â’r amserlen statudol. Cadarnhaodd Amanda Hughes, Swyddfa Archwilio Cymru annibynniaeth yr archwilwyr a dywedodd mai barn yr Archwilydd Penodedig ar ddatganiadau cyfrifyddu’r Cyd-Bwyllgor yw eu bod yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2014 a’i incwm a’i wariant am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny, a’u bod wedi’u paratoi’n briodol yn unol â’r Côd Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2012/13. Bwriad yr Archwilydd Penodedig yw cyhoeddi adroddiad diamod ar y datganiadau ariannol unwaith y darperir y Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar yr hyn a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. Dywedodd y Swyddog na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau sy’n parhau heb eu cywiro ac mae’r camddatganiadau hynny a gywiriwyd gan y rheolwyr wedi’u nodi o dan Atodiad 3 yr adroddiad. Amlygir un mater yn ymwneud ag agwedd ansoddol ar yr arferion cyfrifyddu a’r broses o gyflwyno adroddiadau ariannol yr ymhelaethir arno o dan baragraff 13 yr adroddiad ISA 260. Fel arall, nid oes unrhyw faterion pellach yn codi mae gofyn dwyn sylw atynt. Diolchwyd i Amanda Hughes a Swyddfa Archwilio Cymru am eu gwaith yn gysylltiedig â’r cyfrifon.
Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo –
• Adroddiad ISA 260 yr Archwilydd Penodedig ar yr Datganiadau Ariannol ynghyd â’r • Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad am 2013/14.
|
|
Papur Gwyn Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 264 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan y Prif Seicolegydd Addysgol yn crynhoi’r prif newidiadau arfaethedig a gyflwynir gan Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yn nghyswllt y ddeddfwriaeth sydd yn gosod allan y trefniadau ar gyfer diwallu plant a chanddynt anawsterau addysgol a’u hoblygiadau i’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a’i ffordd o weithredu.
Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at y newidiadau mwyaf arwyddocaol fel a ganlyn –
• Egwyddorion – rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd diwallu anghenion bob plentyn • Terminoleg – cynigir defnyddio’r term, “Anghenion Dysgu Ychwanegol” yn lle “Anghenion Addysgol Arbennig”. • Cydweithio a Gwrthdaro – cryfhau prosesau cyd-weithio fel bo llai o wrthdaro rhwng awdurdodau a defnyddwyr. • Ymestyn Ystod Oed – cynigir bod y drefn yn cael ei hymestyn i gynnwys bob plentyn a pherson ifanc rhwng 0 a 25 oed y nodwyd bod ganddo/ganddi Anghenion Dysgu Ychwanegol ac sy’n derbyn neu’n dymuno derbyn addysg neu hyfforddiant. Rhoddir y cyfrifoldeb am hyn ar yr awdurdodau addysg lleol. • Cynllun Datblygu Unigol i gymryd lle’r Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig i gynnwys plant sydd ar hyn o bryd yn dilyn Cynlluniau Addysg Unigol anstatudol o fewn yr ysgolion a chynlluniau ôl-16 sy’n golygu y gall y Cynllun Datblygu Unigol fod yn eang iawn a gall amrywio yn ôl oed, lleoliad a dwyster anghenion yr unigolyn. • Côd Ymarfer Newydd - i’w gyhoeddi. Bydd yn darparu arweiniad ar weithredu’r newidiadau a bydd yn fandadol. • Barn y Plant a’u rheini – rhaid ymgynghori gyda’r rhiant a’r plentyn ei hun a gwrando ar eu barn. • Asiantaethau Eraill – mae’r pwyslais ar ymwneud yn gynnar ac ar rannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill. • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i’w leoli ym mhob ysgol. • Hawl apelio yn cael ei ymestyn i’r plant a phobl ifanc eu hunian a phobl ifanc oed 16 a mwy. • Cost – gyda chynllunio manwl, barn y Llywodraeth yw na ddylai’r gyfundrefn newydd gostio mwy na’r un bresennol. Fodd bynnag, mae yna botensial am gostau uwch yn deillio o apeliadau ynglyn â phlant nad ydynt ar ddatganiad ac wrth greu trefn mwy cynhwysfawr ar gyfer datrys anghydfodau.
Adroddod y Prif Seicolegydd Addysgol ar y ffyrdd y bydd y Papur Gwyn yn debygol o effeithio ar y Cyd-Bwyllgor yn enwedig o du cynyddu’r llwyth gwaith yn sgîl ymestyn oedran y garfan o blant a phobl ag anghenion addysgol arbennig y bydd y Cyd-Bwyllgor yn gyfrifol am eu diwallu. Dywedodd mai’r newid mawr fydd y gofyn i weithio gyda cholegau addysg bellach nad oes gan y Cyd-Bwyllgor bresenoldeb ynddynt ar hyn o bryd. Rhagwelir y posibilrwydd y bydd angen cynyddu’r gweithlu o 20%, sy’n gyfystyr â hanner seicolegydd ac un a hanner athrawes deithiol arbenigol er mwyn cynnal y bobl ifanc yma. O du’r adrannau addysg bydd y ddau awdurdod addysg yn gyfrifol am fonitro cynlluniau addysg unigol llawer mwy o blant a phobl ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd PDF 49 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.
Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan y ddeddfwriaeth berthnasol i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod am y rhesymau a roddir yn y ddalen Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
Adolygiad Strategol Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad - Cyngor Gwynedd Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r adolygiad strategol o Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad gan Gyngor Gwynedd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor yn amlinellu gweledigaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer meysydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad .
Adroddod Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd bod trawsnewid gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yn enwedig rhai bregus, yn un o brif flaenoriaethau Cynllun Strategol y Cyngor. Bydd cynllunio o gwmpas anghenion plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn ganolog i unrhyw gynlluniau fydd yn cael eu datblygu o’r newydd. Un o’r cynlluniau trawsnewidiol hynny yw’r Adolygiad Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad sy’n rhoi sylw i faes darpariaeth sy’n gymhleth, sensitif ac aml-asiantaeth. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg at amcan yr adolygiad a’r cyd-destun y’i cynhelir ynddo a hwnnw yn cynnwys newidiadau ar sail cenedlaethol megis y Papur Gwyn ac ar sail lleol megis y rhaglen ar gyfer adeiladu ysgol arbennig newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn sir Gwynedd. Crybwyllodd yr Aelod Portffolio y math o ddeilliannau y byddid yn deisyfu eu gwireddu drwy’r adolygiad ar gyfer yr unigolion fel defnyddwyr y gwasanaethau ac ar gyfer yr awdurdodau fel darparwyr a chomisiynwyr ac fe soniodd am y broses ymgysylltu a’r casgliadau y bu i’r broses honno arwain atynt.
Ategodd Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Gwynedd y sylwadau ac fe ddywedodd bod y Gwasanaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol yn faes y buddsoddir bron i £15m arno yn flynyddol.Y bwriad trwy gynnal adolygiad yw sicrhau’r deilliannau gorau i blant yr ardal y mae ganddynt anghenion dysgu ychwanegol fel eu bod yn cyflawni at eu llawn botensial. Edrychwyd ar y maes yn ei gyfanrwydd ac ar wasanaethau i blant a theuluoedd ac fe luniwyd cynigion cychwynnol gyda golwg ar wella effeithiolrwydd y gwasanaeth a’i effeithlonrwydd er mwyn sicrhau y ceir y gwerth gorau o’r adnoddau a fuddsoddir ynddo. Mae’r rhaglen waith ar ddiwedd yr adroddiad yn crynhoi’r ffrydiau gwaith presennol o dan y prif benawdau canlyniad y deisyfir i’r adolygiad eu cyflawni. Ymhlith y tasgau a adnabyddwyd mae adolgu swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor fel y corff y comisiynir darpariaeth ganddo ac yng ngoleuni’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn y maes. Bydd rhai o’r gweithgareddau yn y rhaglen waith yn gyffredin i’r ddau awdurdod.
Nododd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn y meysydd hynny o fewn rhaglen waith yr Adolygiad Strategol yr oedd yr Awdurdod ym Môn yn cydsynio iddynt ac eisoes yn symud i’r un cyfeiriad ac fe amlygodd y gweithgaredd lle’r oedd ymagwedd Ynys Môn yn wahanol. Cytunodd bod angen bod yn fwy eglur o ran comisiynu gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor ond bod Ynys Môn yn gweld hynny’n digwydd trwy ehangu’r Cyd-Bwyllgor a chomisiynu’n galetach.
Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd bod yr adolygiad strategol wedi awgrymu bod yna le i ystyried cyfuno swyddogaeth rheolwr addysg a chynhwysiad yng Ngwynedd gyda rôl seicolegydd addysgol yn yr ystyr bod gan y swydd ddeilydd arbenigedd ym maes seicoleg addysg. Mae’r maes Anghenion Addysgol Ychwanegol yn un eang o ran y niferoedd a ddaw o fewn cwmpawd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyfarfod Nesaf y Cyd-Bwyllgor Mae cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor wedi’i drefnu am 10:30 y bore, ddydd Gwener, 21 Tachwedd yn Llangefni. Cofnodion: Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor am 10:30 y bore, dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2014 yn Llangefni.
|