Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 9fed Ionawr, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Pencadlys y Cyngor, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 19 Medi, 2014 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2014, ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

3.

Yr Uned Ddarparu AAA pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uned Ddarparu AAA  ar gyfer Tymor yr Haf, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol yn amlinellu’r sefyllfa yn yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2014.

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysgol am sefyllfa staff y tri tîm o fewn yr Uned Ddarparu – y Gwasanaeth Gweinyddol, y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol. Ymhelaethodd ar gyfansoddiad y timau ar ddiwedd y tymor ac eglurodd beth fu effaith unrhyw fwlch mewn gwasanaeth oherwydd absenoldeb a hynny yn neilltuol yng nghyswllt y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r mesurau a gymerwyd i liniaru hynny,  i atgyfnerthu’r tîm ac i sicrhau parhâd gwasanaeth di-dor i’r ysgolion. Nododd y Swyddog bod y tîm gweinyddol yn gweithio i’w lawn gapasiti erbyn diwedd y tymor ac yn gyffelyb, roedd y tîm Seicoleg  Addysg hefyd yn gweithredu’n llawn am y tymor gyda’r seicolegwyr yn darparu gwasanaeth i’r ysgolion a’r seicolegwyr cynorthwyol yn gweithio ar ddarnau o waith penodol fel y’u disgrifir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at fodel gweithredu’r Uned Ddarparu sef bod y seicolegwyr addysgol yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r ysgolion ar sail ymatebol a’r athrawon arbenigol yn ymwneud â hwy mewn ffordd  sy’n llai amlwg. Mae’r tîm gweinyddol yn rheoli’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â phlant  sy’n derbyn cymorth ychwanegol.

 

Rhoddodd y Cyd-Bwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a thra’n cydnabod bod y sefyllfa staff wedi sefydlogi a’i fod yn gwerthfawrogi mewnbwn ychwanegol gan staff i gyflenwi am absenoldeb lle bu angen hynny, gwnaed y sylw y byddid wedi croesawu mwy o naratif am natur y gwaith a ymgymerir gyda phlant, yr allbynnau o ran cyfrannu at gynnydd y plant a’r gwerth ychwanegol mae hynny yn ei roi. Gofynnwyd a yw anawsterau recriwtio yn dramgwydd i’r gynhaliaeth a roddir i blant sydd angen cefnogaeth ychwanegol, ac a yw’r sefyllfa staff  mewn perthynas â’r maes anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu yn ddigonol i gyfarch y twf yn y gofyn o fewn y maes hwn. Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysgol nad ystyriai fod y sefyllfa staffio bellach yn llyffethair o ran y gallu i ddarparu  gwasanaeth teilwng a bod sefyllfa staffio’r Uned Ddarparu yn agos at gyflawnder yn ystod tymor y Haf. Cyfeiriodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn at unedau anhwylder iaith yr Awdurdod a bod athrawon arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â therapyddion iaith i ddiwallu’r gofyn ym Môn.

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a nodi sefyllfa’r Uned Ddarparu yn ystod tymor yr Haf, 2014.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI: Y Prif Seicolegydd Addysgol i gynnwys gwybodaeth am natur y gwaith a ymgymerir gyda phlant yn yr adroddiad nesaf.

4.

Y Sefyllfa Ariannol a Thoriadau Cyllidebol

Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn i adrodd ar lafar ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn y crybwyllwyd yn y cyfarfod blaenorol am gais a wnaed i bob gwasanaeth yng Nghyngor Sir Ynys Môn i ddarganfod hyd at gwerth 10% o arbedion fel rhan o’r broses o lunio cyllideb y Cyngor am 2015/16. Dywedwyd ar y pryd y gallasai hynny gael effaith ar y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig yn 2015/16. Dywedodd nad yw’r pwysau ariannol wedi lleihau ac y gallai gadarnhau felly y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn bwrw ymlaen i weithredu toriad o 10% yn ei gyfraniad at gyllideb y Cyd-Bwyllgor am 2015/16. Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn â beth fyddai’r disgwyl i’r  Cyd-Bwyllgor gwtogi arno o ran darpariaeth i ymdopi â’r toriad, dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Môn nad oedd y drafodaeth fanwl  honno eto wedi digwydd. Byddid yn y lle cyntaf yn ceisio adnabod arbedion effeithlonrwydd cyn edrych ar unrhyw wasanaethau, ond mae’r drafodaeth honno i’w chynnal.

 

Mynegwyd anghysur gan Aelodau’r Cyd-Bwyllgor ynglyn ag effaith bosib toriadau yn y maes ar garfan fregus o blant ac awgrymwyd y gall fod yna oblygiadau pellach o gwtogi ar ddarpariaeth mewn costau uwch yn y pen draw pan fyddai ymyrraeth gynnar ac amserol wedi arbed ar hynny.

 

Adroddodd Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd bod Sir Gwynedd wrthi’n cynnal adolygiad  o’r  maes anghenion dysgu ychwanegol yn ei gyfanrwydd yn hytrach na thorri canran o’r gyllideb, a bod strategaeth ddrafft i’r perwyl ar raglen y cyfarfod.

 

Dywedodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd ers sefydlu’r Cyd-Bwyllgor yn 1996 mae’r ddwy sir wedi symud ymlaen ar y cyd  o ran cyllido’r corff ac wedi bod yn gytun o ran ymagweddu tuag at doriadau.Efallai bydd angen adolygu’r ddarpariaeth os yw’r naill sir neu’r llall yn gwyro o’r trefniadau cytunedig.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Ynys Môn bod cyllido’r Cyd-Bwyllgor wedi bod yn destun trafodaeth ers cryn amser a’i fod wedi deall ei bod yn fwriad  symud i’r un cyfeiriad. Os yw strategaeth Cyngor Gwynedd yn debygol o olygu cyflwyno newidiadau bydd gofyn ystyried hynny yng nghyddestun y Cyd-Bwyllgor ond tebyg na fydd bwriadau Ynys Môn o ran gweithredu toriadau yn newid.

 

Gofynnwyd a oedd modd defnyddio balansau’r Cyd-Bwyllgor i wneud i fyny am unrhyw ddiffyg cyllidebol. Dywedodd Uwch Gyfrifydd  Addysg Cyngor Gwynedd bod yna ymrwymiadau sylweddol eisoes yn erbyn y cyllid wrth gefn.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a’r sefyllfa gyllidol gyfredol o ran Cyngor Sir Ynys Môn.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

5.

Adroddiad Ariannol - Adolygiad o Gyfrifon 2014/15

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Dosbarthodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd adroddiad yn crynhoi’r sefyllfa mewn perthynas â chyllideb 2014/15 o ran y gofynion arni fel a ganlyn

 

           Ar ddiwedd 2013/14 roedd balansau’r Cyd-Bwyllgor AAA yn £277 mil. Yn ystod 2014/15, mae newidiadau staffio wedi arwain at orwariant o oddeutu £68 mil yn erbyn cyllideb staffio  2014/15.

           Mae iawndal a chostau cyfreithiol o £25 mil wedi’u talu i gyn-aelod o staff fel dilyniant i ddwyn achos cydraddoldeb yn erbyn y Cyd-Bwyllgor.

           Mae yna gostau hyfforddiant cyfwerth â £15 mil sydd yn rhan o’r strategaeth i sicrhau cyflenwad o staff cymwys i’r dyfodol.

           Mae cynnydd o bron i £9 mil mewn costau rhent a gwasanaethau ar gefn adolygiad o gostau a defnydd y swyddfeydd presennol. Bydd y Cyd-Bwyllgor yn fuan yn ad-leoli i swyddfeydd eraill yng Nghaernarfon ar gost unwaith ac am byth o oddeutu £5 mil. Ysgwyddir elfen o gostau’r ad-leoli yn 2014/15 gan Gyngor Gwynedd. Mewn blwyddyn gyfan amcangyfrifir y bydd cost y swyddfeydd newydd oddeutu £20 mil yn fwy na chyllideb y Cyd-Bwyllgor yn 2015/16 a bydd gofyn darganfod arbedion i’w gyllido.

           Amcangyfrifir gorwariant ar gostau teithio staff o oddeutu £5 mil erbyn diwedd y flwyddyn.

           Rhagwelir gorwariant o oddeutu £7 mil ar gostau adnoddau, hysbysebu cyfrifon terfynol 2013/14 a chostau post.

           Mae yna ddiffyg o oddeutu £7 mil ar greu incwm a hynny’n bennaf oherwydd y sefyllfa staffio a diffyg capasiti i gynnal unrhyw hyfforddiant fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

           Mae effaith gyfan y newidiadau a’r buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn yn golygu y bydd angen defnyddio gwerth £143 mil o falansau’r Cyd-Bwyllgor yn 2014/15 fydd yn gadael gweddill o oddeutu £134 mil erbyn 31 Mawrth, 2015.

 

Cadarnhawyd y byddai’r swyddogion yn cyfarfod i drafod y sefyllfa  o ran cyllideb 2015/16.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r sefyllfa.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

6.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 50 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig. (Prawf i ddilyn)

 

 

 

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan y ddeddfwriaeth berthnasol i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod am y rhesymau a roddir yn y ddalen Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

7.

Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd yn ymgorffori Strategaeth ddrafft y Cyngor ar gyfer trawsnewid y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn cyflawni’r deilliannau canlynol gogyfer y plant a’r bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

 

           Bod plant yn derbyn y math cywir o gefnogaeth ac ymyrraeth yn y blynyddoedd cynnar

           Bod plant yn cael y profiadau addysgol gorau posibl, ac yn sgîl hynny, yn cyflawni eu potensial ac yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd

           Bod plant yn derbyn gwasanaeth o ansawdd gan dimau aml-ddisgyblaethol ac aml-asiantaethol ar draws Gwynedd, sy’n cyd-weithio, cyd-gynllunio ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth eglur i rieni bob plenty.

           Bod plant yn derbyn eu haddysg mewn amhylchedd dysgu ac ansawdd uchel (yn enwedig y plant efo anghenion dwys a chymhleth) a bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o ddatblygiad newydd y Ganolfan Rhagoriaeth ADY.

 

Adroddodd Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd mai ffrwyth adolygiad o’r maes ADY cyfan yw’r strategaeth ddrafft a gyflwynir. Bydd y strategaeth yn destun ymgynghori yn y cyfnod o 19 Ioanwr tan ddiwedd  Chwefror, 2015 cyn iddi gael ei chyflwyno’n derfynol i’r Cyd-Bwyllgor a wedyn Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystod Ebrill, 2015. Bu sawl ffactor yn ysgogiad i lunio’r strategaeth yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol; y dymuniad i roi mwy o sylw i blant yn eu blynyddoedd cynnar a sicrhau ynmyrraeth briodol yn gynt ; y rhaglen ar gyfer datblygu’r Ganolfan Rhagoriaeth yng Ngwynedd a’r angen i wneud y mwyaf a’r defnydd gorau o adnoddau prin. Y desiyfiad yw tynnu’r holl agweddau o ddarpariaeth ADY ynghyd mewn tîm integredig.

 

Ategodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd y sylwadau uchod ac fe fanylodd ar y rhesymau tu cefn i’r adolygiad a’r hyn y bwriedir ei gyflawni trwy ei weithredu o ran creu gwasanaeth sy’n effeithiol ac yn effeithlon ac un sy’n ymateb yn briodol ac yn amserol i anghenion plant a phobl ifanc yng Ngwynedd.

 

Rhoddodd Uwch Gyflenwr Trawsnewid Gwasanaethau ADY a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd gyflwyniad gweledol oedd yn ymhelaethu ar y camau unigol y byddir yn eu cymryd i  wireddu’r pedwar amcan/deilliant allweddol a nodir uchod.

 

Dywedodd  Prif Seicolegydd Addysgol y Cyd-Bwyllgor ei fod yn siomedig gyda’r cynnig yn y Strategaeth i ddad-gomisiynu’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig yn enwedig o ran sicrhau eglurder mewn perthynas â chyfrifoldebau ac atebolrwydd; teimlai bod hynny’n bosib o fewn strwythur y Cyd-Bwyllgor a’i fod eisoes yn gweithredu fel canolfan arbenigol i’r ddwy sir.

 

Mynegwyd siomedigaeth o du cynrychiolwyr Ynys Môn hefyd na chafwyd y cyfle i  siapio’r strategaeth ar sail cyd-gynllunio fel partneriaid. Nodwyd bod Adroddiad Williams yn annog cyd-weithio rhwng awdurdodau ar raddfa ehangach, sef yr hyn mae’r Cyd-Bwyllgor wedi bod yn ei gyflawni’n adeiladol ers ei sefydlu. Awgrymwyd bod yma wanhau’r bartneriaeth trwy fod Cyngor Gwynedd yn gosod allan ei weledigaeth ei hun ar gyfer y ddarpariaeth o fewn y sir honno yn benodol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Gwener, 13 Mawrth, 2015 am 10:30 y bore yn Llangefni.

Cofnodion:

Nodwyd y trefnwyd i’r Cyd-Bwyllgor gyfarfod nesaf am 10:30 y bore, ddydd Gwener, 13 Mawrth, 2015 yn Llangefni.