Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 26ain Mehefin, 2015 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd Penrallt , Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 9 Ionawr, 2015 pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar  9 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Derbyn diweddariad ar lafar gan Swyddogion/Aelod Portffolio Cyngor Gwynedd.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Portffolio Addysg i Gyngor Gwynedd wybod i’r Pwyllgor fod y broses ymgynghori ar strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer ADY a Chynhwysiad nawr wedi’i chwblhau ac y cafwyd  cytundeb cyffredinol ymysg yr ymatebwyr ynghylch beth fyddai egwyddorion sylfaenol y Strategaeth.  Byddai’r cam nesaf yn cynnwys cyfnod modelu gwasanaeth a fyddai’n destun trafodaeth ac ymgynghori pellach gan gynnwys gyda’r Cyd-bwyllgor AAA, cyn adrodd i Gabinet Cyngor Gwynedd yn yr hydref.

 

Adroddodd Swyddog Cynhwysiad Cyngor Gwynedd y cafwyd ymateb da i’r ymgynghoriad; roedd nifer o ymatebion wedi ceisio gwell eglurder a manylion ynghylch natur y ddarpariaeth ac wedi pwysleisio’r pwysigrwydd o sicrhau bod modelau darpariaeth yn gallu cwrdd ag anghenion.  Roedd gwaith eisoes wedi cychwyn ar fodel Ymddygiad.

 

Dywedodd Pennaeth Dysgu CSYM fod rhai pryderon o safbwynt Ynys Môn ynghylch effeithiau posibl yr adolygiad ADY a Chynhwysiad a wnaed gan Gyngor Gwynedd ar wasanaethau i blant yn Ynys Môn. Pwysleisiodd fod angen i’r trafodaethau arfaethedig fod yn glir ynglŷn â'r modelau darparu a bod angen iddynt hefyd roi sylw i unrhyw effeithiau ar y bartneriaeth gyfredol rhwng Gwynedd ac Ynys Môn cyn y caiff cynigion eu cyflwyno i’r Cabinet yng Ngwynedd.

 

Roedd cynrychiolwyr Cyngor Môn ar y Cyd-bwyllgor yn eilio’r farn hon ac fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith fod yr amserlen adrodd wedi llithro gan nad oedd y Cyd-bwyllgor wedi cwrdd ers mis Ionawr.  Pwysleisiwyd ganddynt fod trafodaethau ar y cyd ynghylch siâp y ddarpariaeth gwasanaeth i’r dyfodol yn y ddwy sir yn hanfodol.

 

Cytunodd Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd ei bod yn bwysig fod y ddwy ochr yn cael eu diweddaru’n gyson a chadarnhaodd mai dyma yw’r amcan.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Dysgu CSYM at drafodaethau a oedd yn parhau rhwng swyddogion ynghylch modelau cychwynnol i ddarparu’r gwasanaeth, ac awgrymodd y dylai unrhyw drafodaethau o’r fath yn y dyfodol gynnwys gwahoddiad i’r cynrychiolwyr etholedig o Wynedd ac Ynys Môn ar y Cyd-bwyllgor fod yn rhan ohonynt.

 

Roedd aelodau’r Cyd-bwyllgor yn cytuno y byddai cael eu diweddaru’n gyson yn gymorth iddynt ddeall yn well a gwerthfawrogi’r achos am adolygiad, a’r ffactorau a’r materion sydd ynghlwm.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa ynghylch bwrw ymlaen â Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer ADY a Chynhwysiad.

           Bod cynrychiolwyr etholedig o Wynedd ac Ynys Môn ar y Cyd-Bwyllgor yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau yn y dyfodol ar ddatblygu modelau darparu gwasanaeth fel rhan o’r strategaeth ar gyfer ADY a chynhwysiad.

 

GWEITHRED YN CODI: Swyddogion Gwynedd ac Ynys Môn i gysylltu gyda’i gilydd i gyflwyno gwahoddiadau i aelodau’r Cyd-bwyllgor i fynychu trafodaethau.

4.

Uned Ddarparu AAA pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gwanwyn, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y gwanwyn 2015 i’r Cyd-bwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysg ar yr agweddau a ganlyn

 

           Gweinyddu prosesau asesu ac adolygu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y sefyllfa staffio a’r ffaith fod yr Uwch Swyddog Gweinyddol wedi gadael ar ôl i’w chyfnod secondiad ddod i ben. Dywedodd y Swyddog hefyd fod y broses Arfarnu Swyddi wedi dod i’w therfyn yn Ynys Môn ac y rhoddwyd gwybod am ganlyniad y broses i staff yn gynharach yr wythnos honno.  Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at ddiwedd y broses Arfarnu Swyddi ym Môn yng nghyswllt  ei oblygiadau i staff gweinyddol a chefnogol yr Uned. 

 

           Y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysg fod gan yr Uned Ddarparu dîm cryf o athrawon arbenigol ar hyn o bryd sy’n gweithio ym mhob maes arbenigedd, gan gynnwys athrawon profiadol; athrawon sydd wedi cael eu penodi i gymryd cyfrifoldeb am ddyletswyddau staff sydd bron ag ymddeol, a chymorthyddion arbenigol sy’n gallu gwneud agweddau penodol o’r gwaith gan felly ryddhau athrawon i wneud dyletswyddau eraill.  Mae’r Cyd-Bwyllgor yn gorfod cystadlu â chyllideb sy’n lleihau am fod Ynys Môn wedi dyrannu llai o arian i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn ariannol 2015/16 ynghyd â chanlyniadau tebygol hynny.  Mae angen i’r Cyd-Bwyllgor fod yn ymwybodol o effeithiau posib ar ddarpariaeth gwasanaethau oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i’w reolaeth.

 

           Y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg fod y gwasanaeth yn gweithio gyda llai o staff nag arfer oherwydd bod dau seicolegydd rhan amser wedi gadael y gwasanaeth a bod dau seicolegydd dan hyfforddiant yn cael eu cefnogi ar y cwrs proffesiynol yng Nghaerdydd.  Mae un o’r uwch seicolegwyr hefyd ar secondiad i Gyngor Gwynedd i gynorthwyo gyda datblygu systemau’r Cyngor ar gyfer trefnu a darparu addysg anghenion arbennig.  Mae’r gwasanaeth yn parhau i weithredu system lle caiff seicolegydd ei ddyrannu i bob ysgol ac mae seicolegydd cynorthwyol wedi bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ac yn gweithio gydag ysgolion gyda phlant unigol.

 

           Data Perfformiad

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg at y tablau yn adran 4 yr adroddiad oedd yn dangos nifer y datganiadau terfynol a gynhyrchwyd o fewn yr amserlen statudol o 26 wythnos yn ystod blwyddyn ysgol 2013/14.  Mae’r ffigurau’n dangos bod y tîm gweinyddol wedi cynhyrchu nifer sylweddol fwy o ddatganiadau yn 2013/14 nag a wnaeth yn 2012/13 gyda chynnydd o 75% i Wynedd a chynnydd o 64% i Ynys Môn.

 

Rhoddodd y Cyd-Bwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y materion a ganlyn

 

           Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai’n fuddiol iddo, er mwyn deall y sefyllfa staff, dderbyn gwybodaeth ar ffurf tabl yn dangos y gofynion staffio yn erbyn sefyllfa wirioneddol y staff.  Dywedodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn ei bod yn anodd recriwtio staff dwyieithog sydd wedi cymhwyso’n briodol, felly er mwyn goresgyn hynny a phontio unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mae’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014/15 pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwyno Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyd-Bwyllgor am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Datganiad Llywodraethiant Blynyddol y Cyd-bwyllgor AAA ar gyfer 2014/15 i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyo yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 sy’n gofyn i bob Cyd-bwyllgor gynhyrchu Datganiad o Reolaeth Fewnol.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol ar gyfer 2014/15.

6.

Cyfrifon Terfynol 2014/15 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno  cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cymeradwyo gan y Pwyllgoradroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori Cyfrifon Gwariant ac Incwm Refeniw'r Cyd-Bwyllgor AAA ar gyfer 2014/15 (Atodiad A) ynghyd â’r dychweliad Blynyddol Swyddogol ar y Cyfrifon cyn yr archwiliad, ond wedi’i ardystio gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol (Atodiad B).

 

Adroddodd yr Uwch Swyddog Cyllid fod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn gofyn i bob Cyd-Bwyllgor baratoi cyfrifon diwedd blwyddyn.  Os yw’r trosiant yn llai na £2.5m pennir bod y cyd-bwyllgor yw gyd-bwyllgor bach ac mae’n rhaid paratoi dychweliad blynyddol yn unol ag arferion priodol fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth.  Bydd y dogfennau’n cael eu harchwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru a phe bai angen gwneud unrhyw newidiadau, byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Cyd-bwyllgor a drefnwyd ar gyfer mis Medi cyn iddi gael ei hardystio gan yr Archwiliwr cyn 30 Medi.

 

Rhoddodd y Cyd-Bwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a cheisiodd eglurhad ar rai materion penodol o fewn y Cyfrif Gwariant ac Incwm Refeniw ar gyfer 2014/15 fel a ganlyn

 

           Y gwahaniaeth rhwng y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer hyfforddiant (£9,520) a’r gwariant gwirioneddol (£25,159).  Dywedodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn y gwnaed penderfyniad tua dwy flynedd yn ôl i ddefnyddio swm a gytunwyd o gronfeydd wrth gefn y Cyd-bwyllgor i ariannu hyfforddiant ar gyfer seicolegwyr addysg ac athrawon arbenigol newydd i sicrhau fod gan y Cyd-bwyllgor weithlu sydd wedi cymhwyso’n addas.

           Y cyfiawnhad dros gadw lefel uchel o arian wrth gefn – £150,530 ar 31 Mawrth 2015.  Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg fod yna gynllun mewn lle ar gyfer 2014/15 i wario rhan o’r cronfeydd wrth gefn i ariannu cwrs hyfforddiant ar gyfer seicolegwyr addysg sydd dan hyfforddiant.

           Y cynnydd mewn treuliau teithio a chostau nwyddau swyddfa.  Holodd y Cyd-Bwyllgor a fyddai wedi bod modd rhagweld y cynnydd hwn ac addasu’r gyllideb yn unol â hynny.  Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg fod y newidiadau wedi digwydd ar ôl i’r gyllideb wreiddiol gael ei gosod.  Pe bai’r Cyd-Bwyllgor yn dymuno ariannu gweithgareddau penodol ar gost sy’n uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd, byddai’n rhaid canfod y gwahaniaeth o rywle arall yn y gyllideb. Gan mai prif ffynhonnell wariant y Cyd-Bwyllgor yw ei staff, mae’n debygol y byddai’n rhaid ariannu’r adnoddau o’r pennawd cyllideb hwn gyda goblygiadau i’r lefel staffio.  Cynghorwyd y Cyd-Bwyllgor, os oedd yn dymuno diwygio’r gyllideb i gwrdd â gwariant ychwanegol dan benawdau penodol e.e. costau teithio, yna byddai’n rhaid iddo ail-ddyrannu adnoddau o benawdau eraill er mwyn gwneud hynny, neu resymoli teithio.  Roedd gan y Cyd-Bwyllgor gynllun wedi’i gytuno ar gyfer 2014/15 i dynnu arian i lawr o’r cronfeydd wrth gefn er mwyn ariannu cwrs hyfforddi ar gyfer seicolegwyr dan hyfforddiant; fel arall roedd yn rhaid i’r Cyd-Bwyllgor sicrhau bod y gwariant yn aros oddi mewn i’r gyllideb a ddyrannwyd.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo'r wybodaeth ariannol a gyflwynwyd oedd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyllideb 2015/16

Cyflwyno adroddiad ynglyn â chyllideb y Cyd-Bwyllgor am 2015/16.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg nad oedd hi mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gyflwyno cyllideb bendant i’r Cyd-bwyllgor ar gyfer 2015/16 oherwydd ansicrwydd ynghylch nifer o ffactorau yn cynnwys Uwch Seicolegydd ar secondiad i Gyngor Gwynedd; y gostyngiad o 10% yng nghyfraniad Ynys Môn; adleoli’r Cyd-Bwyllgor a chostau mynychu; defnyddio’r balansau a’r ymrwymiad parhaol i ariannu’r ddau seicolegydd addysg dan hyfforddiant.  Dywedodd y Swyddog y gobeithiai y byddai’r materion hyn wedi cael eu datrys erbyn cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi.  Byddai’r broses o osod y gyllideb hefyd yn rhoi ystyriaeth i allbwn y gyllideb ar gyfer 2014/15, gan gynnwys y gorwariant ar nifer o benawdau cyllideb.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa.

8.

Cyfarfodydd am y Flwyddyn i Ddod

Dydd Gwener 18ed Medi, 2015 am 2:00 y. p. (Llangefni)

Dydd Gwener, 20ed Tachwedd, 2015 am 10:30 y.b. (Caernarfon)

Dydd Gwener, 18ed  Mawrth, 2016 at 10:30 y.b. (Llangefni)

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd y byddai cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2015/16 yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn

 

           Dydd Gwener, 18 Medi, 2015 am 2:00 p.m.

           Dydd Gwener, 20 Tachwedd, 2015 am 10:30 a.m.

           Dydd Gwener, 18 Mawrth, 2016 am 10:30 a.m.