Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 20fed Tachwedd, 2015 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Glyder Fawr Room, Penrallt Offices, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb oedd yn bresennol a chyfeiriodd at absenoldeb y Cynghorwyr Peter Read a Trefor Lloyd Hughes oherwydd salwch. Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau personol a dymuniadau ei gyd-Aelodau at y Cynghorydd Read a'r Cynghorydd Hughes am adferiad llwyr a buan.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 26 Mehefin, 2015 pdf eicon PDF 190 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor AAA a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor AAA a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Yr Uned Ddarparu AAA pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uned Ddarparu ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ar weithgareddau a gyflawnwyd yn ystod tymor yr haf, 2015 i’r Cyd-bwyllgor ei ystyried.

 

Amlygodd y Prif Seicolegydd Addysgol ddatblygiadau mewn perthynas â newidiadau staff yn y Gwasanaeth Gweinyddol, y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r Gwasanaeth Seicolegwyr Addysgol a lle'r oedd y newidiadau hynny’n golygu colli swyddi h.y. trwy ymddiswyddo, newid swydd neu gwblhau cyfnod secondiad. Esboniodd yr effaith bosib ar y gwasanaeth perthnasol a’r camau lliniaru a gymerwyd naill ai drwy gynnig i lenwi swydd wag neu drwy aildrefnu llwythi gwaith o fewn y cyflenwad staff cyfredol. Cyfeiriodd y swyddog at y pwyntiau canlynol -

 

           Bydd dau o'r cynorthwywyr gweinyddol o fewn y Gwasanaeth Gweinyddol yn gadael y gwasanaeth, y naill oherwydd ymddeoliad (0.4 llawn amser) a'r llall (llawn amser) i swydd allanol. Er y gobeithir y gellir llenwi’r swydd llawn amser am gyfnod dros dro, y bwriad yw peidio â llenwi'r swydd 0.4 arall.

           Mae'r Gwasanaeth Clyw yn parhau i weithredu ar sail tîm cryf gyda thri o athrawon cymwys, sy'n gyfwerth â 2.6 llawn amser, yn ogystal ag athro llawn amser sydd heb gymhwyso ac sy’n hyfforddi ar hyn o bryd. Er bod un o’r athrawon yn ymddeol adeg y Nadolig ac y bydd y gwasanaeth yn colli cynorthwy-ydd profiadol, bydd y gwasanaeth yn parhau i fod â thîm sy’n gyfwerth â 2.7 o athrawon llawn amser o’r Nadolig ymlaen.

           Mae 2.1 o athrawon llawn amser cyfwerth ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Nam ar y Golwg ynghyd â dau gynorthwy-ydd cymwys (cyfwerth ag 1.6 llawn amser).

           Bu gostyngiad yn y gwasanaeth ar gyfer iaith a chyfathrebu ac yn arbennig ar gyfer awtistiaeth. Mae dau athro o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd, cyfwerth ag 1.8 llawn amser. Mae'r gwasanaeth wedi colli dau athro (h.y. cyfwerth ag 1 llawn amser) ynghyd â chynorthwy-ydd profiadol a oedd ar secondiad o Wynedd. Mae'r tîm ar hyn o bryd yn ei chael yn heriol cwrdd â’r holl anghenion ar draws y ddau awdurdod.

           Mae'r gwasanaeth ar gyfer anawsterau meddygol a chorfforol yn parhau i weithredu ar sail dau athro, un llawn amser a'r llall sy'n gweithio i’r gwasanaeth am 0.3 llawn amser ond sydd hefyd yn darparu 0.2 i'r gwasanaeth gweledol.

           Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn parhau i weithredu gyda llai o staff nag arfer gydag un uwch seicolegydd ar secondiad i Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd.  Mae dau seicolegydd rhan-amser  wedi gadael y gwasanaeth sy’n golygu bod modd cefnogi dau seicolegydd dan hyfforddiant ar gwrs proffesiynol yng Nghaerdydd.  Mae'r gwasanaeth yn parhau i weithredu system lle mae seicolegydd wedi’i neilltuo ar gyfer ysgolion unigol ac mae nifer o sesiynau’n cael eu trefnu ar gyfer pob ysgol; mae'r gwasanaeth yn ceisio gwneud newidiadau i'r system hon er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolion yn cael eu gwasanaethu’n deg. Mae cyfwerth â 5.9 o seicolegwyr llawn amser (10 o unigolion) o fewn y gwasanaeth ynghyd ag un hyfforddai profiadol sy'n gallu cymryd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Côd Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 939 KB

Y Prif Seicolegydd Addysgol i roi cyflwyniad ar y Côd Drafft newydd. (Sylwadaeth ynghlwm)

 

(Fersiwn Saesneg o’r Côd ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg a oedd yn ymgorffori'r fersiwn ddrafft o’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol i’w ystyried gan y Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg fod y Côd drafft wedi cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r Mesur Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), sy'n destun ymgynghoriad tan 18 Rhagfyr, 2015 ac i helpu i lunio ymateb iddo. Mae'r Mesur yn cynnwys cynigion am system newydd o ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.  Aeth y Swyddog ymlaen i amlygu meysydd lle mae’r Côd drafft newydd yn wahanol i'r Côd Ymarfer cyfredol a'r goblygiadau tebygol i’r awdurdodau a’r Cyd-bwyllgor o ran amser ac adnoddau o ganlyniad i’r newidiadau a gynigir.

 

Nododd y Cyd-bwyllgor y pwyntiau canlynol -

 

           Bod angen gwaith pellach ar y Côd drafft i'w ddatblygu i fod yn gôd ymarfer ac yn ganllaw ymarferol.

           Bod gan y Côd drafft oblygiadau i’r holl asiantaethau sy'n cyfrannu tuag at gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a bydd angen newidiadau o ran ymarfer.

           Teimlir bod y Côd drafft yn benagored mewn sawl maes ac nad yw'n rhoi diffiniad digon penodol o anghenion dysgu ychwanegol.

           Bod gan y Côd drafft oblygiadau sylweddol o ran y disgwyliadau ar ysgolion gan ei fod yn rhoi’r un lefel o hawliau cyfreithiol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ar ddau ben y continwwm p’un a yw’r anghenion hynny’n rhai ysgafn, cymedrol neu aciwt.

           Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'r ysgol o'r farn bod yr anghenion hynny y tu hwnt i'w gallu i gwrdd â nhw, gall gyfeirio'r mater at yr awdurdod lleol. Gan nad yw'r Côd yn darparu meini prawf penodol er mwyn penderfynu trothwy gallu, y perygl yw y bydd yn rhaid i awdurdodau ddatblygu eu meini prawf eu hunain gan arwain felly at amrywiadau cenedlaethol a allai fod yn fawr.

           Bod cyfle wedi'i golli i sicrhau unffurfiaeth a chysondeb ar draws Cymru drwy ddatblygu un gyfres glir o feini prawf a fyddai'n berthnasol i bob un o'r 22 awdurdod lleol trwy’r wlad.

           Bod y Prif Seicolegydd Addysgol wedi drafftio ymateb i'r Mesur drafft ar ran Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Gofynnodd y Cyd-bwyllgor am gopi o ymateb y Prif Seicolegydd Addysgol i'r Mesur drafft, a bod  Aelodau'r Cyd-bwyllgor sy'n dymuno ychwanegu eu sylwadau eu hunain ar gynnwys y Mesur yn gwneud hynny drwy'r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd fel bod yna hefyd ymateb ar ran y Cyd-bwyllgor ei hun.

 

Penderfynwyd nodi'r Côd drafft ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a chrynodeb y Prif Seicolegydd Addysg o'r prif newidiadau.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Bod y Prif Seicolegydd Addysg yn anfon copi o'r ymateb i'r Mesur drafft i Aelodau’r Cyd-bwyllgor.

 

 

5.

Cyllideb y Cyd-Bwyllgor AAA 2015/16 pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno cyllideb y Cyd-Bwyllgor AAA am 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys Cyllideb y Cyd-bwyllgor AAA ar gyfer 2015/16 i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor.

 

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg fod y gyllideb yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y newidiadau arferol e.e. chwyddiant, cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ac ati, ond hefyd ostyngiad o 10% yn y cyfraniad gan Gyngor Sir Ynys Môn. Dyma'r tro cyntaf i doriadau cyllidebol beidio â chael eu gweithredu ar y ddwy ochr gan y ddwy sir sy'n golygu bod cyfraniad canrannol Gwynedd i'r Cyd-bwyllgor wedi cynyddu o 61.37% i 64.27% (£752,046) gyda chyfraniad Ynys Môn yn gostwng o 38.63% i 35.73%

(£464,637 i £418,174). Dywedodd y Swyddog fod angen i Ynys Môn adnabod toriad o 10% yn barhaol, sef £55,210 (11.9% mewn termau real) a bod angen i swyddogion o’r Cyd-bwyllgor a’r ddau awdurdod  gytuno ar y toriadau arfaethedig i'w cyflwyno i'r Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn y byddai'n adrodd yn ôl i Bennaeth Dysgu’r Cyngor i sefydlu statws y trafodaethau o ran adnabod toriadau gwasanaeth sy'n gyfwerth â’r gostyngiad o £55k yn y cyfraniad a wneir gan Ynys Môn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu'r gyllideb ar gyfer 2015/16 a gofyn i Swyddogion gyflwyno toriadau arfaethedig i'r cyfarfod nesaf.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL YN CODI

6.

Adolygu Cyfrifon y Cyd-Bwyllgor 2015/16 pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd a oedd yn ymgorffori adolygiad o gyfrifon y Cyd-bwyllgor am 2015/16 i'w ystyried gan y Cyd-bwyllgor.

 

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg fel a ganlyn -

 

           Bod newidiadau hyd yma yn 2015/16 i sefydliad staffio’r Cyd-bwyllgor ar draws y Gwasanaeth Seicolegwyr Addysgol, y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r Gwasanaethau Gweinyddol yn golygu gorwariant net o £36k ar gostau staff yn 2015/16 o gymharu â'r gyllideb.

           Bydd tua £9k o gostau hyfforddi’n cael eu hariannu o arbedion ar gyflogau Seicolegwyr Addysg yn unol â chynllun strategol i sicrhau seicolegwyr cymwys Cymraeg yn y dyfodol.

           Bod cynnydd net o £17k yng nghostau rhent y Cyd-bwyllgor yn dilyn ail-leoli i Swyddfeydd Penrallt sy'n golygu bod angen adnabod arbedion parhaol i ariannu'r cynnydd hwn. Roedd costau ail-leoli unwaith ac am byth o tua £4k yn 2015/16.

           Bod y Cyd-bwyllgor wedi tynhau gwariant ar adnoddau oherwydd y gorwariant a bod hynny wedi  arwain at gyfanswm arbedion net o £11k.

           Oherwydd y sefyllfa staffio a diffyg capasiti i gynnal hyfforddiant, mae'r targed incwm a osodwyd yn afrealistig erbyn hyn. Mae'n debygol y bydd diffyg o £8k yn yr incwm eleni ac o’r herwydd mae angen adnabod arbedion parhaol i bontio'r bwlch hwn.

           Bod yr ystyriaethau uchod yn arwain at orwariant o £65k yn 2015/16.

 

Dywedodd y Swyddog bod gan y Cyd-bwyllgor falansau cyfun o £150k ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2014/5. Mae defnyddio £65k o’r balansau i gysoni'r gorwariant yn 2015/16 yn lleihau'r balansau i £85k ar 31 Mawrth, 2016.  Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gweithredu toriad o 10% yn ei gyfraniad at gyllideb y Cyd-bwyllgor sy'n gadael diffyg o £55k mewn termau gwirioneddol ar gyfer y Cyd-bwyllgor i’w bontio’n barhaol. Mae angen adnabod darpariaeth wahaniaethol rhwng Gwynedd ac Ynys Môn i ddelio â'r toriad hwn. Awgrymodd y Swyddog hefyd eu bod o bosib wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen ystyried rhannu’r balansau rhwng Ynys Môn a Gwynedd i ganiatáu i’r ddau awdurdod benderfynu ar wahân sut y gellid defnyddio eu cyfran o’r balansau hynny.

 

Dywedodd y Swyddog wrth y Cyd-bwyllgor ei bod yn pryderu am sefyllfa ariannol y Cyd-bwyllgor wrth symud ymlaen i 2016/17 yn arbennig o ran yr ansicrwydd ynghylch y cyfeiriad a’r amserlen.

 

Penderfynwyd -

 

           Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo defnyddio £65k o'r balansau cyfun i ariannu'r gorwariant yn 2015/16.

           Gofyn i Swyddogion symud yn gyflym i nodi’r gostyngiad yn y gwasanaethau ar gyfer Ynys Môn er mwyn nodi’r arbedion o £55k y mae eu hangen.

           Rhagamcanu sefyllfa ariannol 2016/17 cyn gynted â phosibl a chymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau ariannol.

           Gofyn i Gynghorau Gwynedd a Môn am arweiniad ynghylch cyllideb 2016/17.

 

 DIM CAMAU PELLACH YN CODI

 

7.

Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Derbyn diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â gweithredu Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

Cofnodion:

Rhoddodd Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyd-bwyllgor ar lafar ynghylch bwrw ymlaen â'r Strategaeth yn dilyn adolygu’r ddarpariaeth a phrofiadau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngwynedd. Dywedodd fod bwriadau deddfwriaethol a phwysau ariannol wedi cyflymu’r amserlen weithredu. Bydd adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf a chaiff yr adroddiad ei gyflwyno wedi hynny i’r Cabinet ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr, 2015. Mae proses ymgynghori gynhwysfawr wedi’i chynnal gyda thua 400 o randdeiliaid ac mae’r adborth ohoni wedi cyfrannu at lunio Strategaeth ADY diwygiedig sy'n cynnwys rhai addasiadau o ran y model darparu ond mae ei egwyddorion sylfaenol yn aros yr un fath. Cadarnhaodd y Swyddog bod y Strategaeth ADY ddiwygiedig yn cynnig digomisiynu’r Cyd-bwyllgor AAA a symud i fodelau lleol o ddarpariaeth yn seiliedig ar ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.

 

Gwnaeth y Cyd-bwyllgor y pwyntiau canlynol -

 

           Y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i'r Cyd-bwyllgor fod wedi cael yr adroddiad sydd i'w gyflwyno i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyngor Gwynedd i'w gynorthwyo i ddeall y sefyllfa a’r manylion ynghylch y cynigion ar gyfer newid sydd dan ystyriaeth gan Wynedd, a’i bod yn siomedig nad oedd ar gael i'r Aelodau yn y cyfarfod hwn.

           Ei fod yn resyn nad oedd Aelodau'r Cyd-bwyllgor wedi cael eu hysbysu a'u cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu modelau darparu fel rhan o'r Strategaeth fel y cytunwyd y byddai'n digwydd yn y cyfarfod blaenorol.

           Er bod Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn rhannu'r un weledigaeth o ran ceisio sicrhau’r profiadau a’r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu ychwanegol nododd y Cyd-bwyllgor fod strategaethau’r ddau gyngor ar gyfer cyflawni'r weledigaeth yn wahanol i raddau sydd bellach yn codi amheuaeth ynghylch dyfodol tymor hir y Cyd-bwyllgor.  Nodwyd hefyd bod angen egluro’r sefyllfa o safbwynt rôl Ynys Môn yn y bartneriaeth.

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a'r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

DIM CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL YN CODI

 

8.

Cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor

Dydd Gwener, 18 Mawrth, 2016 am 10:30 y.b. yn  Llangefni.

Cofnodion:

Nodwyd bod cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor yn cael ei gynnal am 10:30 am ddydd Gwener 18 Mawrth, 2016 yn Llangefni.