Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 18fed Mawrth, 2016 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i'r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes a oedd yn bresennol ar ôl cyfnod o salwch. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Cyd-bwyllgor fod y Cynghorydd Peter Read dal yn wael ac ar ran ei gyd Aelodau estynnodd ei ddymuniadau gorau iddo am ei adferiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at absenoldeb nifer o gynrychiolwyr Gwynedd ar y Cyd-bwyllgor ac eglurodd bod hynny o ganlyniad i gyfarfod arbennig o Gyngor Gwynedd a oedd wedi’i drefnu ar gyfer y bore yma.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 20 Tachwedd, 2015 pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwllgor a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Adolygu Strwythur y Bartneriaeth ar y Cyd pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan Gynghorau Ynys Môn a Gwynedd.

 

(Bydd y Cyd-Bwyllgor yn cael cyflwyniad ar y mater – copi o’r cyflwyniad ar gael ar wahân)

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth ac i’w ystyried gan y Cyd-bwyllgor, ddatganiad ar y cyd gan Swyddogion Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn amlinellu'r trefniadau cydweithio arfaethedig rhwng y ddau gyngor ar gyfer darparu Strategaeth ar y Cyd i fynd i'r afael yn effeithiol ac yn effeithlon ag anghenion dysgu ychwanegol disgyblion a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn. Byddai'r strategaeth yn cael ei seilio ar ailfodelu a chryfhau'r bartneriaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng y ddau gyngor a byddai'n cynnwys yr holl ystod o wasanaethau a darpariaethau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod swyddogion o Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers dechrau mis Ionawr, 2016 a bod y datganiad wedi’i lunio o’r cychwyn i gadarnhau'r cydweithio. Daethpwyd i gytundeb i gydweithio ar y blaenoriaethau a restrir yn y datganiad. Mae'r datganiad yn cyfeirio hefyd at gynnydd cynigion trwy brosesau democrataidd priodol y ddau gyngor – sef, yn achos Gwynedd, canlyniad cyfarfod y Cabinet ar 19 Ionawr, 2016 y cyflwynwyd y Strategaeth ADY a Chynhwysiad iddo ac, yn achos Ynys Môn, adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Mawrth yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cydweithio a beth fyddai hynny’n ei olygu. Mae swyddogion o'r ddwy sir wedi cyfarfod yn wythnosol ers mis Ionawr i greu Strategaeth ar y Cyd o fewn dogfen gynhwysfawr sy’n ymhelaethu ar y gwasanaethau unigol. Bydd y ddogfen yn darparu eglurder ar rolau ac atebolrwydd, yn ogystal â llywodraethiant ac ymgysylltu. Yn ogystal, darperir esboniad manwl o nodau, amcanion, mesuriadau, mynediad a strwythur staffio pob gwasanaeth. Mae'r meysydd gwasanaeth yn cwmpasu'r rheini a nodir yn y datganiad ac maent wedi eu rhannu ar sail Cynhwysiad, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth a Chydlynu.

 

Ymhelaethodd Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd a Swyddog ADY Cyngor Sir Ynys Môn ar y cynigion ar gyfer cydweithio drwy dynnu sylw at yr ystyriaethau a ganlyn - 

 

           Y cyd-destun ehangach, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol sylweddol sy'n digwydd yn y  maes ADY a’r heriau cyllidebol y mae awdurdodau lleol yn parhau i’w hwynebu; roedd y rhain yn ffactorau wrth ysgogi adolygiad o ba mor effeithiol yw’r gwasanaethau o ran mynd i’r afael ag  anghenion plant a phobl ifanc a chanddynt ADY a diwallu’r anghenion hynny.

           Mae'r ddau awdurdod wedi cytuno i adolygu'r trefniant Cyd-bwyllgor AAA cyfredol ac i wneud hynny mewn dau gam. Bwriedir gweithredu Cam 1 (ffurfio’r Tîm Integredig craidd ac ailfodelu'r gweithlu i gyd-fynd â gofynion y ddwy sir o fewn timau penodol) erbyn mis Medi, 2016 a gweithredu Cam 2 (cwblhau'r ailfodelu staff ac adolygu’r trefniadau a’r meini prawf ar gyfer datganoli cyllid) erbyn mis Medi, 2017.

           Bydd cydweithredu ar y sail ddiwygiedig newydd yn wahanol i'r trefniant sy’n ei le ar hyn o bryd a bydd yn golygu ffurfio timau arbenigol i fod ar gael; ehangu'r bartneriaeth i gynnwys meysydd cynhwysiad ehangach megis lles, presenoldeb, Saesneg fel iaith ychwanegol a Phlant sy’n Derbyn Gofal; llunio meini prawf a disgwyliadau eglurach ar gyfer ysgolion a staff o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyllideb 2016-17 pdf eicon PDF 96 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â chyllideb 2016-17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried a’i gymeradwyo, adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys Cyllideb y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg ar y gwahanol ddarpariaethau a wnaed yn y gyllideb, gan gynnwys newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol a oedd yn golygu cost ychwanegol o £22k a chwyddiant cyffredinol fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac a oedd yn arwain at gynnydd cyffredinol o tua £47k yn y costau. Nid yw toriad 10% Ynys Môn ar gyfer 2015/16 wedi ei weithredu hyd yma.

 

Mae cymharu sefydliad staff cyfredol y Cyd-bwyllgor gyda’r lefelau staffio gwirioneddol ym mis Ebrill, 2016 yn golygu bod gostyngiad o £40k yn y costau staffio.

 

Mae’r rhent a’r tâl gwasanaethau wedi cynyddu oherwydd bod y Cyd-bwyllgor wedi symud i adeilad Penrallt.

 

Mae cyfraniad Cyngor Gwynedd i’r Cyd-bwyllgor yn codi o £752k i £777k ac mae cyfraniad Cyngor Sir Ynys Môn yn codi o £418k i £432k yn 2016/17.  Mae cyfraniad Ynys Môn yn amodol ar gyflawni arbedion o £55,210 ar wasanaethau yn Ynys Môn yn ystod 2016/17 sy'n golygu y bydd cynnydd ychwanegol o £55,210 yng ngyfraniad Ynys Môn os na chaiff yr arbedion hynny eu cyflawni.

 

Gofynnodd y Cyd-bwyllgor am eglurhad ar y cynnydd mewn perthynas â nodi’r arbedion i'w gwneud gan Ynys Môn.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg at swyddi gwag o fewn y sefydliad gydag arbedion o £51k yn y  Gwasanaeth Seicoleg Addysg o gymharu â'r gyllideb staffio ac arbedion o £38k yn y Gwasanaeth Gweinyddol, er bod rhaid gosod y rhain yn erbyn gorwariant o £49k ar gostau athrawon a chynorthwywyr dysgu uwch.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Ynys Môn fod rhai swyddi wedi dod i ben yn ystod yr haf gan arwain at ostyngiad mewn costau. Er nad yw Ynys Môn wedi adnabod yr arbedion angenrheidiol hyd yma yn 2015/16, rhybuddiodd y Swyddog yn erbyn symud yn rhy gyflym i weithredu toriadau ar hyn o bryd, yn arbennig yn wyneb y gwaith sy'n mynd rhagddo i sefydlu partneriaeth newydd a’r ailstrwythuro a fydd yn gysylltiedig â’r broses honno. Dywedodd y byddai'n ddoeth disgwyl hyd nes y bydd hanfodion y strwythur newydd yn eu lle a hyd nes y bydd y gofynion yn gliriach cyn mynd ati i wneud toriadau, yn arbennig felly mewn meysydd lle mae'r arbenigedd yn benodol iawn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu'r gyllideb ar gyfer 2016/17 a gofyn i'r swyddogion roi ystyriaeth i doriadau posib.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

5.

Adolygiad Blwyddyn Ariannol 2015-16

Cyflwyno adolygiad diweddaraf o flwyddyn ariannol 2015/16. (Adroddiad llafar)

Cofnodion:

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg ar lafar fod y Cyd-bwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2015, wedi cael gwybod bod gorwariant o £120k yn debygol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gydag oddeutu £55k ohono yn cronni ar gyfer Ynys Môn a'r gweddill i'w briodoli i gostau uwch. Disgwylir na fydd y sefyllfa wedi newid erbyn pryd y byddir yn cau’r cyfrifon.  Gyda golwg ar ddefnyddio’r balansau cyfun yn 2016/17, sef £150k, cynigir bod £65k o'r gorwariant ar y cyd yn cael ei glirio a bod gweddill y balansau’n cael eu dyrannu’n ôl i Ynys Môn a Gwynedd. Er bod Ynys Môn wedi penderfynu defnyddio ei chyfran o'r balansau i fynd i'r afael â'r diffyg, erys swm gweddilliol y bydd rhaid ei ddarganfod.  Y  canlyniad yw na fydd gan y Cyd-bwyllgor unrhyw falansau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015/16 ac felly os bydd unrhyw orwariant yn 2016/17 bydd yr awdurdodau unigol yn cael eu bilio am y swm.

 

Cyfeiriwyd at secondio seicolegydd i Gyngor Gwynedd a gofynnwyd am eglurhad ar sut mae'r secondiad yn ffitio i mewn i’r sefyllfa arbedion.

 

Er bod hynny wedi bod yn rhan o'r trafodaethau, dywedodd Pennaeth Addysg Gwynedd mai’r farn oedd bod y secondiad o fudd i’r ddwy sir gan y bydd y naill sir a’r llall yn elwa o’r mewnbwn i’r Strategaeth ar y Cyd.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r sefyllfa.

6.

Yr Uned Ddarparu - Tymor yr Hydref pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ar waith yr Uned Ddarparu yn ystod tymor yr Hydref 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth i'r Cyd-bwyllgor, adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg a oedd yn amlinellu gwaith yr Uned Ddarparu yn ystod tymor yr hydref, 2015.

 

Gan gyfeirio at berfformiad mewn perthynas â nifer y datganiadau terfynol a gynhyrchwyd o fewn yr amserlen statudol, ac yn benodol, y gwahaniaeth rhwng perfformiad Ynys Môn mewn perthynas â DP 15a (o’r holl achosion yn ystod 6 mis cyntaf 2015/16, y ganran o fewn y 26 wythnos, eithriadau ai peidio) sef 8% yn Ynys Môn o gymharu â 36.8% yng Ngwynedd, dywedodd Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn bod hynny'n ganlyniad i oedi gan y Gwasanaeth Iechyd o ran ymateb a rhoi mewnbwn.  Yn dilyn trafodaethau gyda'r Gwasanaeth Iechyd, cyflogwyd pediatregydd ychwanegol a thynhawyd y prosesau o fewn y Cyd-bwyllgor ei hun i hyrwyddo ymateb mwy prydlon gan y Gwasanaeth Iechyd. Gan fod perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn DP corfforaethol yn Ynys Môn hefyd, gall effeithio ar berfformiad y gwasanaeth ar lefel gorfforaethol.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg Gwynedd fod y ganran o ddatganiadau o fewn y ddwy sir yn parhau i fod ar lefel rhy uchel; gobeithir y bydd gweithredu’r model newydd o weithio yn arwain at ymyrraeth gynt a gwell.

 

Nododd y Cyd-bwyllgor fod cyfwerth â 4.9 o seicolegwyr yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion - 1.8 yn Ynys Môn (37%) a 3.1 yng Ngwynedd (63%) a bod y lefel hon yn cymharu'n anffafriol â'r ffigwr ym mis Chwefror, 2011 pan oedd cyfwerth ag 8.1 o seicolegwyr. Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai  argaeledd mwy o seicolegwyr i weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion yn debygol o wella ymyrraeth gan ostwng nifer y datganiadau a gyhoeddir.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r adroddiad.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

7.

Swyddi Seicolegwyr - Trefniadau Ôl-Hyfforddiant pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ynglyn â’r trefniadau ôl-hyfforddiant a’r goblygiadau cyllidol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i'r Cyd-bwyllgor, adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg ar y trefniadau ôl-hyfforddiant ar gyfer y ddau seicolegydd sy’n cael eu hyfforddi ar hyn o bryd a'r goblygiadau ariannol.

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg at y mewnbwn sydd gan seicolegwyr i’w roi mewn ystod o feysydd ar wahân i weithio gyda phlant yn uniongyrchol mewn ysgolion,  gan gynnwys y meysydd arbenigol hynny a nodwyd yn yr adroddiad e.e. gwaith ymchwil, cynhyrchu deunyddiau a darparu hyfforddiant a allai gyfrannu at wella sefyllfa plant ag ADY. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bresennol yn golygu ei bod yn anodd iddynt ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r ddarpariaeth graidd.

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor y canlynol

 

           Sefyllfa’r ddau seicolegydd dan hyfforddiant ac yn arbennig y telerau yn eu trefniadau ôl-hyfforddiant a ph’un a oedd y rheini’n cynnwys amod a fyddai’n eu hymrwymo i weithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn am gyfnod ar ôl iddynt ennill eu cymwysterau.

           Y posibilrwydd o wneud cais i Brifysgol Caerdydd i ganiatáu i'r ddau hyfforddai dreulio blwyddyn ymarfer olaf eu hyfforddiant naill ai yng Ngwynedd neu ym Môn i ennill profiad o weithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

           Gofynion a swyddi staff yn sgil ymgorffori gwasanaethau cynhwysiad eraill o fewn y modelau partneriaeth newydd. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod y ffocws cychwynnol ar anghenion plant ac ysgolion ac y bydd rôl y seicolegwyr o fewn y model newydd yn eglurach unwaith y bydd y strwythur drafft yn ei le.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r adroddiad.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Prif Swyddogion Addysg y ddwy sir i ystyried y posibilrwydd o wneud cais i Brifysgol Caerdydd er mwyn caniatáu i'r ddau seicolegydd dan hyfforddiant dreulio blwyddyn ymarfer olaf eu hyfforddiant yng Ngwynedd neu Ynys Môn.

8.

Cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y Flwyddyn i Ddod

Dydd Gwener, 24 Mehefin, 2016 am 10:30 y.b. yng Nghaernarfon

Dydd Gwener, 23 Medi, 2016 am 2:00 y.p. yn Llangefni (Cyfrifon)

Dydd Gwener, 18 Tachwedd, 2016 am 10:30 y.b. yng Ngaernarfon

Dydd Gwener, 17 Mawrth, 2017 am 10:30 y.b. yn Llangefni

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd y trefniadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn sydd i ddod:

 

Dydd Gwener 24 Mehefin am 10:30 yn y bore yng Nghaernarfon

Dydd Gwener, 23 Medi, 2016 am 2:00 yn y prynhawn yn Llangefni

Dydd Gwener 18 Tachwedd, 2016 am 10:30 yn y bore yng Nghaernarfon

Dydd Gwener 17 Mawrth, 2017 am 10:30 yn y bore yn Llangefni