Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cyfarfod 24 Mehefin, 2016 PDF 218 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor AAA a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
|
|
Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA ac Adroddiad yr Archwiliwr Allanol Diweddaru’r Cyd-Bwyllgor ar gyfrifon terfynol archwiliedig y Cyd-Bwyllgor AAA am 2015/16 ynghyd ag adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar y datganiadau cyllidol. Cofnodion: Adroddwyd nad oedd gan yr Archwiliwr Allanol unrhyw newidiadau o bwys i gyfrifon y Cyd-Bwyllgor i adrodd amdanynt ac felly nid oedd rheswm dros eu hail-gyflwyno gerbron y cyfarfod heddiw.
Penderfynwyd derbyn a nodi’r wybodaeth.
|
|
Diweddariad ar Drefniadau Newydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yng Ngwynedd ac Ynys Môn PDF 6 MB Derbyn diweddariad ar drefniadau newydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Mae’r adroddiad sydd wedi’i atodi yn cynnwys y ddogfennaeth ganlynol:
· Adroddiad i Gabinet Gwynedd 13 Medi, 2016 · Adroddiad i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn 19 Medi, 2016 · Model Llywodraethiant – Atodiad 1 · Crynodeb Gweithredol o Strategaeth Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer ADY a Chynhwysiad – Atodiad 2 · Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn – Atodiad 3 Cofnodion: Cyflwynwyd dogfennaeth Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn fel y’i chyflwynwyd i Gabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod ar 13 Medi, 2016 ac i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 19 Medi, 2016.
Adroddodd Uwch Reolydd Cynhwysiad Cyngor Gwynedd bod Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn wedi bod drwy brosesau democrataidd y ddwy sir ac wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn yn eu cyfarfodydd yn gynharach yn y mis. Gan hynny fe ellir yn awr gychwyn ar y broses o roi’r strategaeth ar waith yn y ddwy sir a bydd y trafodaethau sydd wedi bod hyd yma yn canolbwyntio yn awr ar wneud hynny. Bellach, daethpwyd i gytundeb ynghylch 14 o wasanaethau gwahanol a’r rheini’n cwmpasu nifer o feysydd ar draws anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad a fydd yn dod o dan yr un to o dan y Strategaeth. Bydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad newydd yn cael ei letya gan Gyngor Gwynedd ond bydd y ddau gyngor yn monitro’r darpariaethau trwy fyrddau monitro ADYaCh fydd yn adrodd yn ôl i Fwrdd Gweithredol Partneriaethau Addysg Gwynedd ac Ynys Môn fydd yn ei dro yn bwydo i mewn i gyfundrefnau craffu’r ddwy sir a’r Cabinet wedyn yng nghyswllt Cyngor Gwynedd a’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt Ynys Môn.
Dywedodd y Swyddog bod y model llywodraethiant sydd yn cael ei gynnig yn un eithaf cymhleth (Atodiad 1 yn y ddogfennaeth) a bod rhagor o waith mireinio i’w wneud arno i sicrhau bod llais aelodau etholedig yn cael ei glywed yn ddigonol drwy’r strwythur yn enwedig o ran ansawdd y ddarpariaeth. Y cam nesaf yw llythyru staff y Cyd-Bwyllgor a’r ddau awdurdod ar wahan sy’n ymwneud â’r meysydd dan sylw i’w hysbysu’n ffurfiol am ddyfodiad y drefn newydd o weithredu fydd yn di-sodli sefydliad y Cyd-Bwyllgor presennol a’r swyddi ynddo a bydd cyfnod o ymgynghori gyda staff yn dilyn hynny. Felly, mae’n bosibl y gall elfennau o’r Strategaeth newid yn sgîl y broses honno.
Ymhlith prif yrrwyr y strategaeth newydd oedd yr angen i gryfhau trefniadau monitro a chraffu gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad ar draws y ddwy sir. Mae’r darpariaethau hyn yn rhai drudfawr, ac mae angen dangos yn fwy eglur gwerth y darpariaethau, a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud i’r sawl sy’n eu derbyn a hefyd yr effaith maent yn ei gael ar gynnydd y plant. Mae’r gyfundrefn newydd hefyd yn un y mae elfen gryfach o atebolrwydd ynddi. Yn ogystal, mae’r strategaeth yn cyfarch y gofynion newydd a ddaw ar gefn Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod rhagarweiniol y bu hi a’r Is-Gadeirydd yn bresennol ynddo cyn cyfarfod ffurfiol y Cyd-Bwyllgor a dywedodd bod y cyfarfod hwnnw wedi amlygu rhai ystyriaethau y dymunai ddwyn i sylw’r Cyd-Bwyllgor a chael ei gefnogaeth yn eu cylch. Adroddodd am y prif ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyfarfod Nesaf Dydd Gwener, 18 Tachwedd, 2016 yng Nghaernarfon am 10:30 y bore. |