Rhaglen a chofnodion

Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 18fed Tachwedd, 2016 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd Penrallt, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 23 Medi, 2016 pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2016 i sylw’r Pwyllgor a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Yr Uned Ddarparu AAA pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ar waith yr Uned Ddarparu AAA.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Cyd-Bwyllgor, adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg yn nodi gwaith y gwasanaethau o fewn yr Uned Ddarparu yn ystod y cyfnod ers mis Mehefin, 2016.

 

Amlygodd y Prif Seicolegydd Addysg y materion canlynol:

 

           Oherwydd absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth a hefyd absenoldeb estynedig swyddog gweinyddol profiadol, bu peth pwysau ar y Tîm Gwasanaethau Gweinyddol sy'n gyfrifol am weinyddu'r prosesau asesu ac adolygu. Mae'r aelodau o staff sy'n weddill wedi ysgwyddo  rhai o'r cyfrifoldebau ychwanegol ac mae'r gwasanaeth wedi parhau i gwrdd â'r galwadau sydd arno.  Mae aelodau o'r tîm wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Technegau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd a fydd yn disgwyl i Awdurdodau Addysg yng Nghymru ddefnyddio'r cyfryw dechnegau pan fyddant yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol plant. Mae’r technegau hyn yn ceisio sicrhau bod y plentyn unigol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ganolbwynt y cyfarfodydd adolygu a’i fod yn cymryd rhan lawn ynddynt. Rhagwelir y bydd y ffordd newydd hon o gynnal cyfarfod adolygu yn sicrhau mwy o fanylder a chysondeb o ran natur a maint y cymorth ychwanegol y mae plant yn ei dderbyn.

           Mae aelodau o'r gwasanaeth addysgu arbenigol hefyd wedi mynychu'r hyfforddiant ar y Technegau PCP a byddant, ar y cyd â'r Seicolegwyr Addysg, yn gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo’r dull hwn ac i sicrhau cysondeb yn y ffordd y cynhelir cyfarfodydd adolygu. Mae un athro arbenigol ar gyfer plant sydd â nam ar y clyw wedi gadael y gwasanaeth i ddilyn swydd mewn sir arall.

           Yn dilyn secondio aelod o'r gwasanaeth i weithio ar y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd, mae gan y Gwasanaeth Seicolegwyr Addysg aelod ychwanegol o staff. Mae'r gwasanaeth wedi parhau i roi cymorth i ysgolion y ddau awdurdod gan gynnwys gweithio gyda phlant unigol, ymgynghori ar faterion sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a darparu hyfforddiant mewn ysgolion ar eu cais.

           Mae data ystadegol ar gyfer y 10 mlynedd diwethaf o 2006 i 2016 yn dangos nad yw nifer y datganiadau o anghenion addysgol arbennig a gyhoeddwyd yn y ddwy sir wedi gostwng i raddau sy’n awgrymu bod y tueddiad hwn at i lawr yn un dueddiad parhaol. Mae'r gymhareb rhwng Ynys Môn a Gwynedd yn amrywio, ac er y bu canran y datganiadau a gyhoeddwyd yn Ynys Môn o dan 40% am gyfnod estynedig, ‘roedd y ganran ar gyfer 2014/15 a 2015/16 yn is yng Ngwynedd nag yn Ynys Môn, sef 49% a 39% yng Ngwynedd o gymharu â 51% a 61% ar gyfer Ynys Môn.  Cwblheir y rhan fwyaf o ddatganiadau o fewn y 26 wythnos statudol os na chyfrir yr oedi a achosir oherwydd derbyn gwybodaeth yn hwyr gan bersonél o du allan i'r Awdurdodau Addysg. Mae canran y datganiadau a gwblheir o fewn yr amserlen statudol o 28 diwrnod heb eithriadau tua 95% ar gyfer Gwynedd a 94% ar gyfer Ynys Môn. Os cymerir eithriadau i ystyriaeth, mae'r ganran gyfartalog yn 71% ar gyfer Gwynedd a 67%  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rheolaeth y Cyd-Bwyllgor

Ystyried trefniadau ar gyfer rheolaeth dydd i ddydd y Cyd-Bwyllgor.

Cofnodion:

O ganlyniad i absenoldeb y Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol, adroddodd Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd fod y Cyd-Bwyllgor AAA, ers mis Medi diwethaf, wedi cael ei reoli ar y cyd ar sail anffurfiol gan yr Uwch Reolwr Cynhwysiad, Swyddog ADY Ynys Môn a'r Prif Seicolegydd Addysg. Gofynnir am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i ffurfioli’r trefniant hwn er mwyn darparu sefydlogrwydd ar gyfer y staff. Er mwyn hwyluso'r trefniant y bwriad yw ail-leoli'r swyddfa i Adran Addysg Gwynedd.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg na fyddai'r trefniant arfaethedig yn golygu cost ychwanegol i'r Cyd-Bwyllgor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r trefniant ar gyfer rheoli Swyddfa Weinyddol y Cyd-Bwyllgor fel y cynigiwyd.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH

5.

Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol y Cyd-Bwyllgor

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd.

 

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg mai’r arwyddion yw y bydd y Cyd-Bwyllgor yn gallu talu ei ffordd a mantoli'r gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn.  Fodd bynnag, mae sganio ffeiliau ar gyfer eu cadw yn y Cwmwl wedi costio £30k yn fwy na'r gyllideb a rhennir y gost honno rhwng y ddau  awdurdod ar sail £20k ar gyfer Gwynedd a £10k ar gyfer Ynys Môn yn ychwanegol at eu cyfraniadau, a hynny fel y cytunwyd pe bai unrhyw orwariant yn y gyllideb. Fodd bynnag, efallai y bydd tanwariant mewn rhannau eraill o’r gyllideb a fydd o gymorth i leihau’r gorwariant.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Chynhwysiad fod symud i system storio ffeiliau’n ddigidol yn ei gwneud yn llawer haws i gael mynediad i wybodaeth a chael gafael ar wybodaeth a’i fod yn golygu bod gwybodaeth yn llawer mwy diogel nag y byddai fel arall pe bai ar ffurf papur mewn un lleoliad. Yn ogystal, mae ail-leoli’r Swyddfa Weinyddol i Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn golygu nad oes lle ar gael i gadw’r llwyth o waith papur perthnasol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH 

 

6.

Diweddariad ar y Strategaeth ADY a Chynhwysiad

Derbyn diweddariad ar lafar ar y sefyllfa mewn perthynas â gweithredu Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Prosiect ar y materion a oedd yn codi o gyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi o ran gweithredu’r Strategaeth Cynhwysiad ADY ar y Cyd newydd fel a ganlyn:

 

           Y bydd y Model Llywodraethiant yn rhan o'r cytundeb ffurfiol rhwng y Cyd-Bwyllgor a’r Penaethiaid Addysg yn y ddau awdurdod. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cael ei ddrafftio, sy’n ddogfen gyfreithiol, i fynd law yn llaw â’r newidiadau sy'n digwydd a bydd y  model llywodraethu yn cael ei adolygu.

           Mae trafodaethau gydag ysgolion a chyrff llywodraethu yn parhau ac maent yn cael eu diweddaru ynghylch y datblygiadau trwy'r cydlynwyr. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr.

           Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn hwyluso’r newid i'r model newydd.

           Gellir ymgorffori cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar y gwasanaethau a gwmpesir gan y Strategaeth ADY a Chynhwysiad newydd o fewn y cytundeb ffurfiol terfynol.

           Trafodwyd diogelu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ac mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio mesurau i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ariannu cyrsiau hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer seicolegwyr addysg ac athrawon arbenigol.

           Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl 16 i 25 oed wedi cael ei chydnabod yn y Strategaeth ADY a Chynhwysiad newydd fel ail gam.  Disgwylir am fwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru o ran pwy sy'n gyfrifol yn ariannol am y ddarpariaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn.

           Mae ymgynghoriad ar y broses ailstrwythuro wedi cychwyn ers 5 Hydref ac mae pob aelod o staff yr effeithir arnynt o fewn y Cyd-Bwyllgor a’r ddau awdurdod wedi cael cyfle i gyflwyno eu sylwadau mewn cyfarfodydd un i un gyda chynrychiolwyr Personél. Yn ogystal, mae pob gwasanaeth wedi cael cyfle i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ac i roi atborth ar y strwythur arfaethedig sydd bellach yn cael ei fireinio. Cynhelir cyfarfod ar gyfer holl aelodau'r staff ar 6 Rhagfyr, 2016 lle bydd Penaethiaid Addysg Cynghorau Gwynedd a Môn yn cyflwyno'r strwythur staffio terfynol. 

 

Nododd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a gofynnodd am eglurhad ar weithredu’r llinell amser ac, o ganlyniad, yr amserlen ar gyfer dirwyn y Cyd-Bwyllgor i ben fel endid ac fel fforwm, yn enwedig o ystyried bod cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor, a’r cyfarfod olaf o bosib,  wedi ei drefnu ar gyfer 17 Mawrth, 2017.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor y bydd y Cyd-Bwyllgor yn peidio a bod yn gyflogwr ar 31 Awst, 2017; bwriedir y bydd y newidiadau staff a weithredir fel rhan o'r Strategaeth yn dod i rym ar 1 Medi, 2017 a bryd hynny bydd Cyngor Gwynedd yn dod yn gyflogwr fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd.  Bwriedir y bydd y cytundeb partneriaeth rhwng y ddau awdurdod yn ei le erbyn 31 Mawrth, 2017 a gwneir pob ymdrech  i ffurfioli'r trefniadau llywodraethu erbyn mis Mawrth, fel y gellir cyflwyno’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyfarfod Nesaf

10:30 y. b. ddydd Gwener, 17 Mawrth, 2017 yn Llangefni.

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor am 10:30 o’r gloch y bore ar ddydd Dydd Gwener, 17 Mawrth 2017 yn Llangefni.