Rhaglen a chofnodion drafft

Cyfrifon Drafft (Cyfarfod Terfynol y Cyd-Bwyllgor), Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (dadgomisiynwyd 31 Awst, 2017) - Dydd Gwener, 23ain Mehefin, 2017 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Glyder Fawr Room, Penrallt Offices, Caernarfon

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd pawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod newu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 17 Mawrth, 2017 pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2017, ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

 

Yn codi – cadarnhaodd Rheolwr Prosiect Cyngor Gwynedd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau ar  Fodel Llywodraethu’r Strategaeth ADY a Chynhwysiad newydd yn ychwanegol i’r rhai a gyflwynwyd yn y cyfarfod ar 17 Mawrth. Dywedodd bod drafft o’r cytundeb rhwng y ddwy sir wedi cael ei gyflwyno i Adain Gyfreithiol Cyngor Sir Ynys Môn gael bwrw golwg drosto o du Ynys Môn. Roedd y trefniadau o ran cael yr elfennau i gyd yn eu lle yn mynd rhagddynt.

3.

Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor am y Flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth, 2017 pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno cyfrifon y Cyd-Bwyllgor cyn archwiliad am y flwyddyn gyllidol yn diweddu 31 Mawrth, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori adroddiad cyfrif incwm a gwariant refeniw y Cyd-Bwyllgor am 2016/17 ynghyd â ffurflen swyddogol flynyddol o’r cyrifon wedi’i hardystio ond cyn archwiliad.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Cyllid bod yna ofynion adrodd penodol ar gyfer cyfrifo ac archwilio cyfrifon cyd-bwyllgorau. Mae deddfwriaeth yn datgan fod cyd-bwyllgor o fwy nag un awdurdod lleol yn gorff llywodraeth leol ac mae’n mynnu bod cyrff o’r fath yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwiliwr annibynnol wedi’i gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn dweud bod pob Cyd-Bwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol. Lle mae’r trosiant yn llai na £2.5m (megis yn achos y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig) ystyrir y cyd-bwyllgor yn “gyd-bwyllgor llai ei faint”  ac mae’n rhaid paratoi’r cyfrifon ar ffurf ffurflen flynyddol gan ddilyn arferion priodol yn unol â’r ddeddfwriaeth.Bydd y ffurflen Flynyddol o’r Cyfrifon (sef Atodiad B i’r adroddiad) sydd wedi’i harwyddo gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel y Swyddog Cyllid Statudol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor yn destun archwiliad gan archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd. Os bydd angen diwygio’r cyfrifon yn sgîl yr archwiliad allanol, a chan mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod arweiniol sy’n gyfrifol am faterion cyfrifo ac adrodd cyllidol y Cyd-Bwyllgor, y bwriad yn ddarostyngedig i gadarnhad terfynol, yw cyflwyno’r fersiwn ddiwygiedig i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd ym mis Medi, 2017. Ar ôl archwiliad, ac yn dilyn unrhyw addasiadau fydd eu hangen, bydd cynrychiolydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ardystio’r ffurflen cyn 30 Medi.

 

Adroddodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd y dywedwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd, 2016, y rhagwelwyd y byddai’r Cyd-Bwyllgor yn diweddu’r flwyddyn ariannol gyfredol gyda chyllideb gytbwys. Fodd bynnag, cafwyd gwybodaeth ar y pryd am gost ychwanegol o £30,000 ar gyfer sganio dogfennau er mwyn eu cadw ar ffurf digidol yn hytrach nag ar bapur. Cytunwyd y byddai cynghorau Gwynedd a Môn yn cyfarfod â chost y gwasanaeth. Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw beth newydd wedi codi yn y cyfnod ers hynny.Cyflogwyd un Seicolegydd Addysgol ychwanegol dros dro ar gost o £21,984 ond mae’r gost honno yn cael ei chyd-bwyso gan wariant o £20,245 yn llai o dan bennawd yr Athrawon Arbenigol. Yn ogystal, derbyniwyd grant o £10, 230 yn hwyr yn y flwyddyn am waith a wnaed sydd wedi cyfrannu tuag at gyd-bwyso’r gyllideb. Dengys y cyfrifon terfynol felly gynnydd bychan o £2,856 yn y gwariant yn erbyn y gyllideb gydag arbedion o £55,210 nas darganfuwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Penderfynwyd 

 

           Derbyn a chymeradwyo’r Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2016/17 fel y’i gyflwynwyd o dan Atodiad A i’r adroddiad.

           Derbyn a chymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2017 (yn ddarostyngedig i archwiliad), fel y’i chyflwynwyd o dan Atodiad B i’r adroddiad.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cyd-Bwyllgor fel fforwm, diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion ac aelodau etholedig  o’r ddwy sir a gyfrannodd at ei weithgareddau dros y blynyddoedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.