Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 14eg Medi, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 93 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016 fel rhai cywir.

 

·           Materion yn codi o gofnodion y Panel Caniatâd Arbennig ar 24 Medi, 2015

 

Holodd yr Is-Gadeirydd a fyddai hyfforddiant yn cael ei gynnal ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Safonau ar Ganiatadau Arbennig. Ymatebodd y Swyddog Monitro y bydd trefniadau’n cael eu gwneud i gynnal hyfforddiant ar Ganiatadau Arbennig.  Dywedodd ymhellach fod staff y Cyngor yn cael sesiynau hyfforddiant ynghylch y penderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Gwaith ac a gyfeirir wedyn i'r Cyngor llawn i'w cadarnhau. ‘Roedd y Swyddog Monitro yn ystyried y byddai rhan o'r sesiwn hyfforddi honno yn ddefnyddiol ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Safonau. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y cynhelir sesiynau hyfforddi gydag aelodau etholedig newydd ynghylch Cyfansoddiad y Cyngor yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai 2017. Bydd aelodau'r Pwyllgor Safonau yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol hefyd.

 

·           Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefan

 

Dywedodd y Swyddog Monitro nachafwyd ymateb hyd yma gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch pa gamau y bydd yn eu cymryd mewn perthynas â Chynghorau Cymuned nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofyniad i sefydlu gwefan.

 

 

3.

Diweddariad ar Gofrestrau Ar-Lein yr Aelodau

Pensaer Gwasanaethau Digidol i fynychu i roi diweddariad ar lafar ar y gwaith o symud datganiadau o ddiddordeb / rhoddion a lletygarwch ar-lein.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pensaer Gwasanaethau Digidol ddiweddariad llafar ar y gwaith o symud datganiadau o ddiddordeb / rhoddion a lletygarwch ar-lein a thynnodd sylw at y prif faterion fel a ganlyn: -

 

·           Cofrestr o Diddordebau ar-lein - aelodau i allu dewis p'un ai i lenwi'r ffurflen ar y safle Cymraeg neu'r safle Saesneg

 

Eglurwyd y broses gyfredol i'r Pwyllgor ac fe nodwyd nad oedd y system Modern.Gov wedi cael ei datblygu i weithredu'n ddwyieithog.  Y gwaith a wnaed i ganiatáu i aelodau etholedig ac aelodau lleyg roi manylion i mewn yn ddwyieithog oedd bod yr aelod yn rhoi ei manylion / fanylion i mewn yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y ffurflen Cofrestru Diddordeb drwy system allrwyd y gwasanaethau democrataidd. Nid oes unrhyw opsiwn i’r aelod roi manylion dwyieithog i mewn yn uniongyrchol i’r ffurflen Gymraeg ar gyfer Cofrestru Diddordeb.  Mae’n rhaid i’r Tîm Gwasanaethau Digidol wedyn gyfieithu'r manylion a gofrestrwyd gan yr aelodau.  Dywedodd y Pensaer Gwasanaethau Digidol fod Modern.Gov wedi cyflwyno cais grant i'r Cynulliad yn 2015 yn gwneud cais am arian i  wneud y system yn gwbl ddwyieithog, ond yn anffodus fe’i gwrthodwyd.  Nododd y byddai  datblygiad sydd wedi ei deilwrio’n bwrpasol i’r diben yn costio oddeutu £10k.

 

·           Ffurflen ar-lein ar gyfer cofrestru Rhoddion a Lletygarwch - newidiadau i’r ffurflenni ar-lein Cymraeg a Saesneg i ffurf pdf

 

Gall aelodau roi gwybodaeth am roddion a lletygarwch i mewn i’r system yn ddwyieithog trwy  ddefnyddio'r ffurflen ar-lein gyfredol. Mae'r gofyniad i ychwanegu 'meysydd' i'r ffurflen gyfredol i  adlewyrchu'r fformat pdf atodedig yn golygu y bydd angen datblygiad a deilwriwyd yn arbennig i’r pwrpas.  Gellir ychwanegu ‘swigen gymorth' at y labelu i gynorthwyo.  Nodwyd y byddai angen rhoi hyfforddiant i'r aelodau i sicrhau eu bod yn llenwi'r blwch sylwadau gyda data sy'n adlewyrchu cwestiynau a ofynnwyd yn y fformat pdf.  Fodd bynnag, dywedwyd bod ychwanegu ychydig o flychau ychwanegol i'r system yn cael sgil-effaith sylweddol ar rannau eraill o’r system a rhagwelwyd y byddai'r costau'n oddeutu £10k.

 

·           Datgan diddordebau mewn cyfarfodydd - galluogi aelodau i gofrestru eu diddordebau eu hunain ar-lein cyn y cyfarfod

 

Mae Aelodau yn cwblhau ffurflenni datgan diddordeb cyn neu yn ystod cyfarfodydd.  Y system ar hyn o bryd yw bod y ffurflenni’n cael eu hanfon ymlaen i'r Gwasanaethau Pwyllgor sy'n cyfieithu ac yn ychwanegu’r datganiadau i'r system Modern.Gov wrth baratoi cofnodion cyfarfodydd.  Mae’r datganiadau o ddiddordeb mewn cyfarfodydd yn ymddangos ar wefan y Cyngor ar gyfer pob aelod unigol.  Rhagwelwyd y byddai’n costio oddeutu £ 7,500 i ychwanegu blychau ychwanegol at y system.

 

Oherwydd bod gan yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n defnyddio'r  system Modern.Gov yr un gofynion o ran dwyieithrwydd ac e-ddemocratiaeth, dywedodd y Pensaer Gwasanaethau Digidol y byddai'n rhesymol i godi'r materion hyn yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Defnyddwyr ym mis Tachwedd ac awgrymu bod datblygiad ar y cyd yn cael ei ariannu gan yr awdurdodau sydd â diddordeb.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a chael diweddariad am y cynnydd a wnaed mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rhaglen Hyfforddiant Ddrafft ar gyfer Aelodau Newydd ym mis Mai 2017 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwynir adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a'r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â'r rhaglen hyfforddiant ddrafft ar gyfer Aelodau newydd ym mis Mai 2017. 

 

       Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol fod y cynllun datblygu yn 'rhaglen dreigl' o sesiynau gyda'r bwriad o barhau i atgyfnerthu’r gwaith o gefnogi aelodau yn eu rolau ac i wella safonau a datblygu arferion da ar gyfer yr Aelodau cyfredol a’r aelodau newydd a etholir ym mis Mai 2017.  Cyn belled ag y bo modd, mae'r rhaglen yn ceisio darparu ar gyfer anghenion hyfforddi’r  Aelodau.  Paratowyd y Cynllun Datblygu a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad am y cyfnod Ebrill 2016 - Mawrth 2017 er mwyn tynnu sylw at y prif gyfleoedd hyfforddiant a gynigir ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.  Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers iddo gael ei fabwysiadu gan y Cyngor llawn ym mis Mai 2016 er mwyn cymryd i ystyriaeth y sesiynau hyfforddi ychwanegol a roddwyd i Aelodau.   Dywedodd y Swyddog ymhellach y bydd yr aelodau newydd a etholir ym Mai 2017 yn cael holiadur er mwyn gallu darganfod lefel eu sgiliau TG fel y gellir gweld pa hyfforddiant y byddant ei angen. Yn ogystal, mae cyfres o becynnau e-ddysgu ar gael i gefnogi aelodau yn eu rolau hefyd.

 

Yn ogystal, mae Rhaglen Gynefino ddeuddeng mis wedi cael ei datblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y cyd â'r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru i baratoi am y cyfnod yn dilyn etholiadau 2017. ‘Roedd y Rhaglen gynefino arfaethedig ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a bod y Pwyllgor Safonau yn cael gwybodaeth am yr hyfforddiant a ddarperir gan y Cyngor.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

5.

Canllawiau Diwygiedig gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar y Côd Ymddygiad i Aelodau pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i aelodau (a) cynghorau sir a bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol, a  (b) cynghorau cymuned.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer (a) Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a (b) Cynghorau Cymuned.

 

Amlygodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y prif newidiadau (a) i’r canllawiau i aelodau awdurdodau lleol : -

 

·       Sancsiynau

·       Caniatâd i apelio

·       Rhoi gwybod am dorri amodau

·       Diddordeb Personol – Materion Ward a materion yr Awdurdod

·       Diddordebau Personol a Diddordebau sy’n Rhagfarnu - Enghraifft Newydd

·       Diddordeb Personol a Diddordebau sy’n Rhagfarnu - Sylwadau Ysgrifenedig

·       Diddordeb Personol a Diddordebau sy’n Rhagfarnu - Enghraifft Ychwanegol

·       Goddefebau

·       Cofrestr Diddordebau

·       Cofrestru Diddordebau

 

a

 

(b) ‘roedd y canllawiau i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned ychydig yn wahanol i'r uchod, gyda gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r canlynol: -

 

·       Cofrestr o Ddiddordebau

·       Rhoi gwybod am dorri amodau

·       Diddordeb Personol a Diddordebau sy’n Rhagfarnu - Enghraifft Newydd

·       Cofrestru Diddordebau

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd am eglurhad mewn perthynas â’r pennawd 'Goddefebau' ac yn arbennig yr ymadrodd 'anabledd person'; yn enwedig y geiriad yn fersiwn Gymraeg y canllawiau diwygiedig.  Ymatebodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y gellir gofyn am eglurhad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhelir  ym mis Hydref.

 

Cododd yr Is-Gadeirydd fater ynghylch beth fyddai disgwyliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pan fo Cynghorwyr Tref / Cymuned yn gwneud cwynion am ei gilydd a chrybwyllodd y  mater 'Datrysiad Lleol' hefyd. Ymatebodd y Swyddog Monitro trwy ddweud, pe bai’n cael cwyn gan Gynghorwyr Tref / Cymuned, y byddai’n cynghori y dylid delio â’r mater yn lleol yn y lle cyntaf cyn i’r gŵyn gael ei throsglwyddo, os yn briodol, i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Byddai'n dibynnu ar amgylchiadau'r achos.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Nodi'r canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon.

·           Cyfarwyddo'r Swyddog Monitro i sicrhau bod y canllawiau newydd, a'r newidiadau cyfreithiol perthnasol, fel y disgrifir nhw ym mharagraff 3 yr adroddiad, yn cael eu dwyn i sylw Aelodau'r Cyngor Sir.

·           Gofyn i'r Swyddog Monitro sicrhau bod y canllawiau newydd, ynghyd a'r newidiadau cyfreithiol perthnasol, fel y disgrifir nhw ym mharagraff 3, yn cael eu dwyn i sylw Clercod y Cynghorau Tref / Cymuned a gofyn iddynt gadarnhau yn ysgrifenedig bod y canllawiau wedi eu rhannu gyda'u haelodau.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

6.

Nodyn briffio i Aelodau ar y newidiadau statudol i'r Côd Ymddygiad i Aelodau pdf eicon PDF 212 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn amgáu nodyn brifo y bwriedir ei gylchredeg i Aelodau ar y newidiadau statudol i’r Côd Ymddygiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn atodi nodyn briffio y bwriedir ei ddosbarthu i aelodau Cyngor Sir Ynys Môn ar y newidiadau statudol i'r Côd Ymddygiad. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·       Nodi cynnwys y Nodyn Briffio;

·       Cadarnhau y gellir dosbarthu’r Nodyn Briffio i'r Aelodau Etholedig yn enw'r Pwyllgor Safonau.

·       Addasu’r nodyn briffio ar gyfer aelodau etholedig Cyngor Sir Ynys Môn fel bod modd dosbarthu dogfen debyg i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned i’w rhannu gyda'u haelodau.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

7.

Cwynion ynghylch ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 199 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi'i ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref a Chymuned.

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

GWEITHREDU: Dim  

 

8.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 713 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys crynodeb o’r penderfyniadau diweddaraf. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - a nodwyd er gwybodaeth,  grynodeb o benderfyniadau diweddaraf  Panel Dyfarnu  Cymru .

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

 

GWEITHREDU: Dim

 

9.

Fforwm Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 278 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhelir ar 17 Hydref, 2016 yn Llangefni.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn bresennol yn y Fforwm ac os oes gan aelodau’r Pwyllgor Safonau unrhyw gwestiynau iddo rhaid eu cyflwyno i'r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) erbyn 4 Hydref,  2016 .

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Rhaid cyflwyno unrhyw gwestiynau y mae aelodau’r Pwyllgor Safonau yn dymuno eu gofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i'r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) erbyn 4 Hydref 2016.

 

10.

Cyfansoddiad y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 11 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y newidiadau y bwriedir eu gwneud i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ei bod yn ofynnol i Bwyllgorau Safonau gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 penderfynodd y Pwyllgor Safonau ostwng nifer y cyfarfodydd cyffredin o 4 i 2 bob blwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd arbennig o'r Pwyllgor Safonau hefyd i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw rwymedigaethau statudol a bydd cyfarfodydd anffurfiol yn parhau fel y bo angen. Nid oes angen newid Cyfansoddiad y Cyngor, ond mae angen newid Cyfansoddiad y Pwyllgor Safonau.

 

‘Roedd Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn cynnwys newidiadau i Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau a gwahoddwyd y Pwyllgor i awgrymu newidiadau eraill y bernir bod eu hangen. Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod angen gwneud newid pellach i’r ddogfen 'Gweithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol' – 14 Apeliadau; rhaid bellach cael caniatâd yn gan Banel Dyfarnu cyn y gellir cyflwyno apêl.

 

Soniodd yr Is-Gadeirydd am y pennawd 'Penderfyniad i gynnal gwrandawiad lleol' o fewn y Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol (tudalen 152 yn yr Adroddiad) ac ‘roedd yn ystyried y dylai'r geiriad ddarllen 'y gall bod tystiolaeth o fethiant gan yr Aelod i gydymffurfio â'r Côd Ymddygiad’. Cyfeiriodd ymhellach at y 'Weithdrefn Cyn-Gwrandawiad' pennawd (e) (tudalen 152 yn yr adroddiad) a bod angen ei ddiwygio i adlewyrchu'r broses dau gam a ddilynir. Yn ogystal, mae angen diwygio’r pennawd ‘Camau gweithredu yn dilyn methiant i gydymffurfio gyda’r Côd Ymddygiad’ (tudalen 159 a rhan (dd) o’r adroddiad) i adlewyrchu pan fydd unrhyw sancsiwn yn cael ei osod. Ymatebodd y Swyddog Monitro y gellid cynnwys hyn fel cwestiwn i'r Ombwdsmon yn ystod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·       Mabwysiadu Cyfansoddiad Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn fel y sefydlwyd ef yn unol â Rhan III Deddf Llywodraeth Leol 2000 gyda'r newidiadau anodedig a geir yn Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a'r newidiadau pellach a drafodwyd;

·       Codi cwestiwn gyda'r Ombwdsmon yn ystod Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru a gynhelir ar 17 Hydref, 2016 mewn perthynas â chanllawiau i'r Pwyllgor Safonau ar sancsiynau. 

·       Wedi hynny, cyhoeddi Cyfansoddiad diwygiedig y Pwyllgor Safonau, ynghyd â’r atodiadau, ar wefan y Cyngor Sir.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

11.

Mabwysiadu'r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig a'r gofynion hysbysebu pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i roi gwybod i aelodau am y drefn o ran mabwysiadu’r Côd Ymddygiad diwygiedig sydd wedi ei gynnwys yn y Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Model o Gôd Ymddygiad) (Cymru) (Diwygiad) 2016 a’r gofynion o ran hysbysebu yn dilyn ei fabwysiadu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi gwybod i Aelodau am fabwysiadu’r Côd Ymddygiad diwygiedig a gynhwysir yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygiad) 2016 a’r gofynion mabwysiadu yn dilyn ei fabwysiadu. Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill, 2016.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan bob awdurdod y mae’r Côd yn berthnasol iddo tan 26 Gorffennaf i fabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig. Nodwyd bod y Cyngor llawn, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016, wedi mabwysiadu’r Cod Ymddygiad diwygiedig.   

 

Anfonwyd e-bost ar ran y Pwyllgor Safonau i holl Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned ar 25 Mai 2016 yn gofyn am gopi o'r cofnod perthnasol o gyfarfodydd y Cyngor sy'n cadarnhau y mabwysiadwyd y Côd diwygiedig. ‘Roedd matrics yn dangos sut mae pob Cyngor Tref a Chymuned wedi ymateb ynghlwm fel Atodiad 3 i'r adroddiad a rhoddwyd diweddariad llafar ynghylch y Cynghorau hynny a oedd wedi ymateb ar ôl i’r matrics gael ei lunio. Hyd yma nid yw 5 Cyngor Cymuned wedi ymateb.  ‘Roedd y Pwyllgor Safonau yn ystyried y dylid gofyn i Aelod(au) Etholedig lleol sôn wrth y Cynghorau Cymuned hynny bod rhaid mabwysiadu’r Côd diwygiedig ac y dylid ymateb i gais y Swyddog Monitro bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu'r Côd diwygiedig.

 

Ar ôl ei fabwysiadu, yn unol ag Adran 51 (6)  Deddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid gosod hysbyseb mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal leol yn cadarnhau y mabwysiadwyd y Côd Ymddygiad ac yn nodi pa bryd ac ym mha le y mae ar gael i'w harchwilio. 

 

Holodd Aelodau'r Pwyllgor a oedd cynnwys hysbyseb mewn Papur Cymunedol lleol (Papur Bro) yn ddigonol o ran cwrdd â’r gofynion bod Cynghorau Tref / Cymuned yn hysbysu'r gymuned fod y Côd Ymddygiad wedi ei fabwysiadu ynghyd â manylion ynghylch ble a phryd yr oedd ar gael i'w harchwilio.  Eglurodd y Swyddog Monitro bod y ddeddfwriaeth yn dweud 'papurau newydd sy'n cylchredeg yn eu hardal' ac felly ymatebodd ei bod yn ystyried ei bod yn briodol i hysbysebu yn y Papur Bro ar yr amod ei fod yn cylchredeg yn yr ardal y mae’r cyngor tref neu'r cyngor cymuned yn gweithredu ynddi. Fodd bynnag, crybwyllwyd hefyd fod angen i'r hysbyseb fod yn ddwyieithog ac fel arfer mae’r Papurau Bro yn y Gymraeg yn unig ac felly gallai fod yn fwy priodol i ystyried hysbysebu yn y ‘Chronicle’ neu'r ‘Mail’.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·       Nodi cynnwys yr adroddiad;

·       Cysylltu â Chlercod y Cynghorau Cymuned / Tref sydd heb ymateb i ofyn eto am gadarnhad bod eu Cynghorau wedi mabwysiadu’r Côd Ymddygiad a gofyn iddynt ddarparu copi o'r cofnod perthnasol o gyfarfodydd y Cyngor sy'n cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu'r Côd  diwygiedig;

·       Gofyn i'r Aelod(au) Lleol Etholedig ar gyfer yr ardaloedd lle nad yw’r Cynghorau Cymuned wedi cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu’r Côd Ymddygiad i godi’r mater yng nghyfarfod nesaf y Cynghorau Cymuned hynny ac i adrodd yn ôl i'r Safonau Pwyllgor.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Y gofynion sydd ar Gynghorwyr Cymuned o ran datgan diddordebau pdf eicon PDF 295 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y gofynion cyfredol sydd ar Gynghorwyr Cymuned o ran datgan diddordeb.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y gofynion cyfredol mewn perthynas â datgan diddordeb gan Gynghorwyr Cymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2015 wedi egluro'r sefyllfa o ran cofrestru diddordeb gan Gynghorwyr Tref a Chymuned.  Cyn yr adolygiadau a wneir gan y Pwyllgor Safonau, mae angen i'r Pwyllgor fod yn ymwybodol o'r disgwyliadau statudol ar Gynghorau Tref a Chymuned gam mai’r rhain yw’r safonau y bydd yr adolygiadau yn asesu cydymffurfiaeth yn eu herbyn.

 

Nodwyd bod dyfyniad o gyngor dyddiedig 10 Awst, 2015 a roddwyd gan Unllais Cymru i’w aelodau ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Roedd y cyngor hwnnw yn datgan nad oes raid i Gynghorwyr Tref a Chymuned gwblhau cofrestr ‘sefydlog’ o ddiddordebau. Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn ymddangos fod peth dryswch ar y mater hwn gyda gwahanol gynghorion yn cael eu cyhoeddi i Gynghorau Tref / Cymuned gyda disgwyliadau sy’n tynnu’n groes i’w gilydd. Fodd bynnag, derbyniwyd bod y nodyn o gyngor gan Unllais Cymru yn Atodiad 1 yr adroddiad yn egluro’r sefyllfa gyfredol yn gwbl gywir. Yn ogystal, mae canllawiau dyddiedig 2 Mawrth 2016 gan Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod 'yr eithriad ar gyfer cynghorwyr cymuned rhag y gofyniad i gofrestru rhai diddordebau ariannol a rhai diddordebau eraill ymlaen llaw yn parhau'.

 

Amlygwyd y gofynion cofrestru o dan y côd ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned yn rhannau 2 (a) i (i) yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·       Nodi'r gofynion o ran y Gofrestr o Ddiddordebau y mae'n ofynnol i Glercod ei chynnal  yn dilyn datgeliadau gan aelodau o’u Cyngor Cymuned / Tref.

·       Ystyried y gofynion hyn pan fydd y Pwyllgor Safonau yn adolygu Cofrestrau o Ddiddordebau sampl o Gynghorau Tref a Chymuned.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

13.

Adolygiad gan y Pwyllgor Safonau o'r Cofrestrau Diddordeb ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 725 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiad a gynhelir gan y Pwyllgor Safonau o’r Cofrestrau Diddordeb a gedwir gan gynghorau tref a chymuned.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr adolygiad sydd i'w gynnal gan y Pwyllgor Safonau o’r Cofrestrau o Ddiddordeb a gedwir  gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod gohebiaeth wedi ei hanfon ar 27 Mehefin, 2016 at glercod y 40 Cyngor Tref / Cymuned yn gofyn a yw’r cofnodion ar gyfer y cyfnod o fis Mai 2013 ar gael ar wefannau Cynghorau Cymuned / Tref neu ar bapur fel y gellir gwneud trefniadau i’w hadolygu o bell neu i adolygu'r cofnodion perthnasol yn y lleoliad priodol. ‘Roedd matrics yn dangos sut mae pob Cyngor Tref a Chymuned wedi ymateb ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Cafwyd diweddariad llafar ynghylch y Cynghorau hynny a oedd wedi ymateb ar ôl i’r matrics gael ei gyhoeddi.  Hyd yma nid yw 5 Cyngor Cymuned wedi ymateb.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ymhellach bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi nodi yr adolygir Cofrestrau o Ddiddordeb 6 Chyngor Cymuned / Tref 6 fel y nodir yn yradroddiad. 

 

‘Roedd Aelodau'r Pwyllgor Safonau yn ystyried y dylid anfon gohebiaeth bellach at y rheini sydd heb ymateb i holi pam nad ydynt wedi ymateb i'r cais am wybodaeth ynghylch cadw cofnodion ac y dylid gofyn i Aelod (au) Etholedig y Cyngor Sir godi'r mater yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Cymuned ac adrodd yn ôl i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. 

 

Ystyriwyd hefyd y dylid adolygu Cynghorau Tref Caergybi ac Amlwch yn gyntaf gan y Pwyllgor Safonau.  Cynhelir cyfarfod ar ôl hynny cyn trafod y Cynghorau eraill a adolygir. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Nodi cynnwys yr adroddiad a'r matrics yn Atodiad 1, yn amodol ar y diweddariad llafar;

·           Anfon gohebiaeth bellach at y Cynghorau Tref / Cymuned sydd heb ymateb i'r cais a wnaed gan y Pwyllgor Safonau i adolygu eu cofnodion;

·           Gofyn i'r Aelod (au) Etholedig sy'n mynychu cyfarfodydd y Cyngor Tref / Cymuned nad ydynt wedi ymateb i gais y Pwyllgor Safonau i godi'r mater yn y cyfarfodydd hynny ac adrodd yn ôl i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau;

·           Bod y Cadeirydd a Mrs. Dilys Shaw (Aelod Lleyg) yn adolygu cofnodion Cyngor Tref Caergybi a bod yr Is-Gadeirydd a Mrs. Denise Harris Edwards (Aelod Lleyg) yn adolygu cofnodion Cyngor Tref Amlwch ac yn adrodd yn ôl wedyn i'r Pwyllgor Safonau.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.