Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 317 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Medi 2016 yn gywir.

 

Materion yn codi o'r cofnodion -

 

Eitem 2

 

Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefannau

 

Holodd yr Is-Gadeirydd a yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymateb ynglŷn â’r camau a gymerir ganddo oni fydd Cynghorau Cymuned wedi cydymffurfio â'r gofyniad i sefydlu gwefan. Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad hyd yma gan yr Ombwdsmon ynghylch y mater.

 

Eitem 3

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gofrestrau Ar-lein yr Aelodau

 

Holodd yr Is-Gadeirydd a ellid gwneud cais ar y cyd am gyllid gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i ddiweddaru’r ffurflen ar-lein ar gyfer Cofrestru Diddordeb yn y system Modern.Gov, a fyddai’n rhoi'r dewis i Aelodau roi eu manylion i mewn yn ddwyieithog yn y Gofrestr Gymraeg.

 

Ymatebodd y Swyddog Monitro trwy ddweud bod y Pensaer Gwasanaethau Digidol wedi dweud yn y cyfarfod diwethaf y byddai'n codi'r mater yn rhanbarthol yn y Grŵp Defnyddwyr Modern.Gov, yn y gobaith o gael cefnogaeth gan awdurdodau lleol eraill i ariannu system ddwyieithog ar draws Gogledd Cymru. Nodwyd bod y mater wedi ei drafod yn y cyfarfod Grŵp Defnyddwyr Modern.Gov, ond yn anffodus nid oedd gan unrhyw awdurdodau eraill ddiddordeb yn y cynnig.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n siarad â Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor parthed ffurflen Cofrestru Diddordeb ar-lein ar gyfer Aelodau i holi a ellid gwneud cais am gyllid. Nodwyd y gall Aelodau lenwi'r ffurflenni’n ddwyieithog ar-lein, ond ni allant ond ymateb i gwestiynau sy'n ymddangos yn y Saesneg yn unig.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Bod y Swyddog Monitro yn codi'r mater gyda Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor i ganfod a oes unrhyw gymorth ariannol ar gael.

  Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar ran y Pwyllgor Safonau, yn gofyn bod meddalwedd ar gyfer defnyddio'r iaith Gymraeg yn cael ei chynnwys yn y pecyn pan ddaw’n amser adnewyddu’r contract Modern.Gov.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Eitem 4

             

Rhaglen Hyfforddiant ddrafft ar gyfer Aelodau Newydd ym Mai 2017

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau yn cael rhybudd digonol o ddyddiadau sesiynau hyfforddi ym mis Mai i ganiatáu amser i’r holl Aelodau  fynychu.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cynllun Hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 28 Chwefror 2017 a bod y  drafft cyfredol ar gael yn awr ar wefan y Cyngor.

3.

Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 334 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ffurf tabl wedi ei ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.  Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics diweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref / Cymuned.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod cwyn arall wedi dod i law heddiw yn erbyn Cynghorydd Tref / Cymuned, a bod yr Ombwdsmon yn ystyried a yw’n werth ymchwilio i'r gŵyn.

 

Mynegwyd pryder gan Aelodau ynghylch yr amser a gymerwyd hyd yma i  ymchwilio i gŵyn a wnaed ym Medi 2016 yn erbyn Cynghorydd Tref / Cymuned ac sy’n cael sylw ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod cynnydd yn cael ei wneud, ond nad oes gan yr Ombwdsmon amserlen benodol ar gyfer delio â'r ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar natur y cwynion a wnaed yn erbyn Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref / Cymuned, ond cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y wybodaeth hon dan embargo.  Gofynnodd yr Aelodau eu bod yn cael eu diweddaru ynghylch datblygiadau mewn perthynas â'r cwynion y cyfeirir atynt yn y matrics.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

  Bod y Swyddog Monitro yn diweddaru  Aelodau o'r Pwyllgor Safonau bob 3 mis drwy gyflwyno’r matrics cwynion diweddaraf ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r cwynion yr ymchwilir iddynt gan yr Ombwdsmon.

  Bod y Swyddog Monitro yn rhoi dadansoddiad blynyddol i Aelodau o’r Pwyllgor Safonau ar natur y cwynion a gyfeirir at yr Ombwdsmon.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

4.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 210 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys crynodeb o’r penderfyniadau diweddaraf.  Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn cynnwys crynodeb o benderfyniadau diweddaraf Panel Dyfarnu Cymru a wnaed  rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod un mater arall wedi ei benderfynu gan y Panel ers cyhoeddi’r rhaglen ar gyfer y Pwyllgor hwn, sef  ynglŷn â Chynghorydd o Gyngor Caerdydd. Bydd crynodeb o'r penderfyniad hwnnw’n cael ei gynnwys fel eitem ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Panel Dyfarnu wedi cyfeirio mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau, gydag argymhelliad o ran cosb, ac roeddent yn pryderu efallai na fyddai  Cynghorwyr yn mynd â materion i apêl pe bai’r dull hwn o ymdrin â chwynion yn dod yn gyffredin gyda chosbau llymach yn cael eu pennu ar apêl.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

  Anfon copi o'r adroddiad at Aelodau Etholedig.

  Anfon copi o'r adroddiad at Glercod y Cynghorau Cymuned a gofyn iddynt ei ddwyn i sylw eu Haelodau.

 

GWEITHREDU: Cynnwys penderfyniad a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru ar 2 a 3 Mawrth, 2017 ynghylch Aelod o Gyngor Caerdydd mewn adroddiad ar gyfer cyfarfod mis Medi 2017.

5.

Diweddariad ar Bresenoldeb yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru pdf eicon PDF 725 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar gyflwyniad a chwestiynau’r Ombwdsmon ar 17 Hydref, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ymweliad yr Ombwdsmon i Gyngor Sir Ynys Môn ar 17 Hydref 2016, pan fynychodd gyfarfod o Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru. (Y Fforwm).

Cafwyd cyflwyniad gan yr Ombwdsmon ac atebodd gwestiynau gan Aelodau'r Fforwm ac Aelodau'r Pwyllgor Safonau.

 

Cododd yr Ombwdsmon y materion canlynol yn ystod y drafodaeth: -

 

  Croesewid ymestyn y trefniadau Datrysiad Lleol i Gynghorau Tref / Cymuned.

  Mae nifer y cwynion am Gynghorau Sir wedi gostwng ond mae nifer y cwynion am Gynghorau Cymuned / Tref wedi cynyddu. Mae 3 Chyngor Cymuned yn gyfrifol am un o bob tair o'r holl gwynion am Gynghorau Tref / Cymuned.

  Parheir i ddefnyddio’r prawf dau gam a’i nod yw parhau i gael gwared ag unrhyw gwynion blinderus. Fodd bynnag, mae swyddfa'r Ombwdsmon yn derbyn mwy o gwynion.

  Mae'r rhan fwyaf o gyllideb yr Ombwdsmon wedi ei neilltuo ar gyfer  ymchwiliadau iechyd, ond dywedodd yn glir na fyddai’n goddef bwlio, llygredd neu gamddefnyddio grym, h.y. torri'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig.

  Mae'n credu bod Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru Gogledd o fudd i  awdurdodau Gogledd Cymru, a byddai'n falch o gwrdd â'r Fforwm yn fwy rheolaidd os ystyrir y byddai gwneud hynny’n ddefnyddiol.

 

Codwyd cwestiwn gyda'r Ombwdsmon yn y Fforwm ynghylch a gynigir neu a drefnir hyfforddiant cyfryngu i Aelodau'r Pwyllgor Safonau yng ngoleuni'r gofyniad i wneud mwy trwy’r trefniant datrysiad lleol. Ymatebodd yr Ombwdsmon y byddai hyfforddiant yn fuddiol, yn enwedig felly i gefnogi Cynghorau Cymuned, ond nid oedd adnoddau ar gael i’w ariannu. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n trefnu i'r mater gael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod Un Llais Cymru yn datblygu Protocol Datrysiad Lleol drafft, i'w ddefnyddio gan Gynghorau Tref / Cymuned. Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd Un Llais Cymru yn ymgynghori gyda gwahanol bartïon cyn cwblhau dogfen o'r fath fel y gellid cynnwys unrhyw adborth yn y ddogfen ddrafft.  Nodwyd y rhennir y Protocol gydag Aelodau cyn gynted ag y derbynnir y fersiwn derfynol gan Un Llais Cymru. Fodd bynnag, nodwyd ymhellach y byddai'r Pwyllgor Safonau wedi hoffi i Un Llais Cymru ymgynghori ag ef ar y drafft cyntaf.

 

Unwaith y bydd y Protocol Datrysiad Lleol wedi ei weithredu drwy Un Llais Cymru, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai'r Pwyllgor Safonau gynnig cymorth ar sut i ddefnyddio'r Protocol i’r Cynghorau Tref / Cymuned hynny sydd â phŵer cymhwysedd cyffredinol.

 

 PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

  Dosbarthu copi o Atodiad 2 i Swyddogion Monitro awdurdodau eraill Gogledd Cymru.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ceisio cadarnhad o'r trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn cysylltu ag Un Llais Cymru  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad ar Fabwysiadu'r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig pdf eicon PDF 228 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar fabwysiadu’r Côd Ymddygiad diwygiedig, sydd wedi ei gynnwys yn y Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016, gan Gynghorau Tref a Chymuned

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi diweddariad i Aelodau ar Gynghorau Tref / Cymuned yn mabwysiadu Côd Ymddygiad diwygiedig a gynhwysir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) 2016 (Cymru).

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod 'Mabwysiadu Côd Ymddygiad Diwygiedig' wedi ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Medi, 2016. ‘Roedd yr adroddiad ysgrifenedig hwnnw’n  cadarnhau nad oedd 17 o Gynghorau Tref / Cymuned wedi ymateb i gais i  gadarnhau eu bod wedi mabwysiadu'r Côd. Ar y pryd, cadarnhawyd bod 12 o'r 17 wedi bod mewn cysylltiad ers i'r adroddiad gael ei baratoi. Felly ‘roedd 5 o Gynghorau Tref a Chymuned nad oeddent wedi ymateb.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 1 yr adroddiad, sy'n amlygu mewn coch y Cynghorau Tref / Cymuned hynny sydd wedi ymateb ers paratoi’r adroddiad ysgrifenedig diwethaf; mae 1 Cyngor Cymuned wedi ymateb, ond nid yw wedi cadarnhau y dyddiad y mabwysiadwyd y Côd. Nid yw’r 3 Chyngor Cymuned a ganlyn wedi ymateb o hyd:

 

  Cyngor Cymuned Bodorgan

  Cyngor Cymuned Llangristiolus

  Cyngor Cymuned Rhoscolyn

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

  Gofyn i'r Swyddog Monitro ysgrifennu ar ran Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i'r 3 Chyngor Cymuned sydd heb ymateb er mwyn eu hatgoffa o'r gofyniad i fabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig, ac i ofyn iddynt anfon copi i'r Swyddog Monitro o gofnodion y cyfarfod lle gwnaed penderfyniad i fabwysiadu’r Côd

  Dylid anfon copi o'r llythyr uchod hefyd at yr Aelodau Etholedig lleol er gwybodaeth.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

7.

Diweddariad ar y cyflwyniad a roddwyd i'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 665 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y cyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ar 24 Tachwedd, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y cyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yn y Fforwm Cynghorau Tref / Cymuned ar 24 Tachwedd 2016 mewn perthynas â 'Materion yn codi o'r Pwyllgor Safonau '.

 

Trafodwyd y materion canlynol yn y cyfarfod: -

 

  Mabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig;

  Canllawiau’r Ombwdsmon ar y Côd Ymddygiad diwygiedig;

  Gofynion ar Gynghorau Tref / Cymuned mewn perthynas â chofrestru diddordebau personol;

  Adolygu’r Cofrestrau o Ddiddordebau;

  Cyflwyniad yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru;

  Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru.

 

Nodwyd bod Clerc y Fforwm wedi anfon copi o'r cyflwyniad at holl Aelodau’r Fforwm yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cyflwyniad a roddwyd (fel yn Atodiad 1 i'r adroddiad) a'r diweddariad o ran y camau gweithredu a gwblhawyd, fel y gwelwyd yn yr adroddiad.

 

Gweithredu: Dim

8.

Diweddariad ar Gofrestr o Ddiddordebau Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 13 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â’r Gofrestr o Ddiddordebau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref/ Cymuned mewn perthynas â'u Cofrestrau o Ddiddordebau.

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Safonau ar 14 Medi 2016 – ‘Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau o Ddiddordebau a gedwir gan y Cynghorau Tref / Cymuned' – yn nodi nad yw rhai Cynghorau wedi ymateb i gais am gadarnhad ynghylch sut mae Cynghorau Tref / Cymuned yn cynnal eu Cofrestrau h.y. ar bapur a / neu ar-lein.

 

Ar 29 Medi 2016 anfonwyd gohebiaeth at Glercod y Cynghorau sydd heb ymateb. Anfonwyd gohebiaeth hefyd at Aelodau Etholedig Cyngor Sir Ynys Môn sy’n cynrychioli’r ardaloedd lle lleolir y Cynghorau Tref / Cymuned hynny. Nodwyd bod y 5 Cyngor Tref / Cymuned nad oedd wedi ymateb wedi gwneud hynny bellach.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad a'r ymatebion a gafwyd gan Gynghorau Tref / Cymuned.

  Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at yr holl Gynghorau Tref / Cymuned yn nodi nad yw rhai cynghorau yn cyhoeddi eu Cofrestrau o Ddiddordeb ar lein ar hyn o bryd, a hynny’n groes i’r gofyniad statudol.

  Bod y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at Gynghorau Tref a Chymuned / ym Mawrth 2018 i gael diweddariad i ganfod pa Gynghorau sydd â gwefan.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

9.

Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefannau pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i ddiweddaru aelodau ar yr ymateb a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn ag a oes ganddynt wefan ai peidio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y gofyniad statudol i bob Cyngor Tref / Cymuned gael presenoldeb ar y we a chyhoeddi gwybodaeth benodol ar eu gwefannau. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i'r Pwyllgor Safonau oherwydd gwnaed cwynion am dryloywder mewn Cynghorau Cymuned / Tref, yn enwedig mewn rhai Cynghorau Cymuned nad oes ganddynt adnoddau digonol.

 

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sefydlu pa Gynghorau Tref / Cymuned sydd â gwefan, ac a yw’r Cynghorau nad oes ganddynt wefan ar hyn o bryd yn bwriadu cydymffurfio.

 

‘Roedd yr Aelodau'n pryderu bod rhai Cynghorau Tref / Cymuned angen cymorth i greu gwefan. Awgrymwyd y dylid gwneud cais i Un Llais Cymru i ofyn a fyddent yn codi'r mater ar raglen un o'u cyfarfodydd, a gellid anfon atynt ddolen gyswllt i'r adroddiad hwn ar wefan y Cyngor.

                           

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran ymatebion y Cynghorau Tref / Cymuned (Atodiad 1 yr adroddiad);

  Nodi cynnwys Canllawiau Un Llais Cymru (Atodiad 2 yr adroddiad).

  Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Un Llais Cymru i ofyn a ydynt yn bwriadu rhoi cymorth i Gynghorau Tref / Cymuned sefydlu gwefannau (ar wahân i'r Canllawiau), neu'n bwriadu eu cynorthwyo i sefydlu dull cydlynol o weithredu?

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

10.

Fideo'r Ombwdsmon i Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 295 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ba Gynghorau Tref a Chymuned sydd wedi cadarnhau eu bod wedi dwyn y fideo i sylw'r aelodau etholedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ynghylch pa Gynghorau Tref / Cymuned sydd wedi cadarnhau eu bod wedi dod â fideo newydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sylw eu Haelodau Etholedig.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y cafwyd e-bost ym mis Gorffennaf 2016 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gyda dolen i fideo newydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar You Tube.   Anfonwyd y ddolen at Aelodau Etholedig y Cyngor Sir ar 21 Gorffennaf 2016. Anfonwyd copi o'r fideo hefyd at Glercod Cynghorau Tref / Cymuned yn gofyn iddynt ddwyn y fideo i sylw eu Haelodau Etholedig ac i adrodd yn ôl i'r Cyngor i gadarnhau’r dyddiad yr edrychwyd ar y fideo. Hyd yn hyn, dim ond 3 Chyngor sydd wedi cadarnhau’r dyddiadau yr edrychwyd ar y fideo.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad ynghyd â'r ymatebion a nodir yn Atodiad 1.

 

Gweithredu: Dim.

11.

Strwythur Rheoli pdf eicon PDF 291 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys dogfen Strwythur Rheoli i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn amgáu dogfen Strwythur Rheoli i'w chymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ar 14 Medi 2016, wedi trafod fod rhai Aelodau Etholedig yn ansicr pwy oedd yn gyfrifol am wahanol faterion gweithredol o fewn y Cyngor. Mae dogfen Strwythur Rheoli (ar gyfer defnydd mewnol) wedi ei chreu sy'n cynnwys enw, manylion cyswllt a phrif gyfrifoldebau gweithredol pob Pennaeth Gwasanaeth a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Nodwyd y trafodwyd y ddogfen ddrafft yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor Safonau ar 8 Rhagfyr 2016.  Gofynnodd yr aelodau o'r Pwyllgor Safonau am i’r ddogfen gynnwys enw a manylion cyswllt Rheolwyr Canol, er mwyn sicrhau nad y Penaethiaid Gwasanaeth fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater.  Fodd bynnag, casglodd y Penaethiaid Gwasanaeth y byddai hyn yn groes i Brotocol y Cyfansoddiad, sy'n ymdrin â'r berthynas rhwng Aelodau a Swyddogion, ac felly gwrthododd y Penaethiaid Gwasanaeth y cais, ond caiff y mater ei adolygu cyn pen blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

  Cadarnhau y cymeradwyir y ddogfen yn Atodiad 1.

  Cymeradwyo cyhoeddi ffurflen 'Manylion Cyswllt a Chyfrifoldebau Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Phenaethiaid Gwasanaeth Cyngor Sir Ynys Môn’  ar MonITor ar gyfer staff ac Aelodau'r Cyngor Sir.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

12.

Nodyn Briffio i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned ar y gofynion ar gyfer datgelu a Chofrestru Diddordebau Personol pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn cynnwys nodyn briffio arfaethedig i’w ddosbarthu i Aelodau ynglŷn â’r newidiadau statudol i’r Cod Ymddygiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn atodi Nodyn Briffio a ddosbarthwyd i Glercod Cynghorau Tref / Cymuned ar Rhagfyr 14, 2016 ar y gofynion statudol ar gyfer Cynghorwyr Tref / Cymuned i ddatgelu a chofrestru diddordebau personol.

 

Gofynnwyd i Glercod Cynghorau Tref / Cymuned ddod â'r Nodyn Briffio i sylw eu Haelodau ac anfon copi o gofnodion perthnasol y cyfarfod pan drafodwyd y  mater. Gofynnwyd am gadarnhad o hynny erbyn 20 Chwefror 2017.

 

Yn ychwanegol at y 10 a nodir yn y tabl (Atodiad 2 o'r adroddiad), nodwyd bod 4 o Gynghorau Cymuned eraill wedi ymateb ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, sef Aberffraw, Bryngwran, Llanddyfnan a Phenmynydd.

                           

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad a’r Nodyn Briffio yn Atodiad 1.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at Glercod y Cynghorau Tref / Cymuned yn gofyn iddynt ddod â'r Nodyn Briffio a’r Côd Ymddygiad diwygiedig i sylw eu Haelodau, pan fyddant yn llofnodi i dderbyn eu swydd yn dilyn etholiadau mis Mai.  Bydd copïau o'r ddau  ynghlwm wrth y llythyr.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.