Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 13eg Medi, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Trefor Lloyd Hughes a Dafydd Rhys Thomas ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 8 - 'Caniatadau Arbennig / Indemniadau Generig' fel Aelodau'r Cyngor Sir.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 467 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2017 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o'r cofnodion

 

Eitem 3 - Diweddaru Cofrestrau Ar-lein yr Aelodau

 

  Ni chafwyd ymateb ffurfiol gan Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor ond cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd nad oes unrhyw gymorth  ariannol ar gael i ddiweddaru ffurflen Cofrestru Diddordebau ar-lein y system Modern.Gov er mwyn sicrhau bod yr un nodweddion ar gael yn y system yn y ddwy iaith fel y gall  aelodau weithio’n gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd cais am y gofyniad hwn yn cael ei gynnwys yn y fanyleb pan gaiff y contract ei adnewyddu.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn y ffordd ymlaen a awgrymwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a chadarnhawyd nad ydynt yn argymell cyflwyno cais am y £10k yr amcangyfrifir y byddai ei angen i fedru cynnig y nodwedd hon.

 

Cam Gweithredu: Dim byd pellach i'r Pwyllgor Safonau.

 

Eitem 3 - Cwynion Ymddygiad a gyflynwyd i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Mewn ymateb i gais am ddiweddariad bob tri mis ar gwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan yr Ombwdsmon, adroddodd y Swyddog Monitro fod matrics cwynion wedi ei gylchredg i'r Aelodau ar 11 Gorffennaf 2017, ynghyd â'r diweddariad blynyddol.

 

Cam Gweithredu: Cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau eu bod yn hapus gyda'r trefniant a'r fformat newydd a fabwysiadwyd ac y bydd yn disgwyl adroddiadau pellach bob chwarter.

 

Eitem 4 - Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod copi o'r adroddiad wedi ei gylchredeg i Aelodau'r Cyngor Sir a Chlercod Cynghorau Tref / Cymuned ar 9 Mawrth, 2017.

 

Cam Gweithredu: Wedi'i gwblhau. Dim byd pellach.

 

Eitem 5 - Diweddariad ar Bresenoldeb yr Ombwdsmon yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru

 

  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant ar y Protocol Datrysiad Lleol wedi ei gynnwys ar raglen y Fforwm ar 10 Ebrill  2017, yn dilyn cais gan y Pwyllgor Safonau

 

 Roedd Swyddog Monitro Cyngor Sir Ddinbych wedi ysgrifennu at Un Llais Cymru ar 9  Mawrth 2017 i ofyn am ddiweddariad ar yr ymgynghoriad ar y Protocol Datrysiad Lleol.

 

  Roedd Un Llais Cymru wedi ymateb a dweud bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ac mai dim ond yr Ombwdsmon yr ymgynghorwyd ag ef ynghylch y Protocol.

 

  Cylchredwyd copi o'r ymatebion o gyfarfod diwethaf y Fforwm, lle’r oedd yr Ombwdsmon yn bresennol, at bob Aelod o'r Cyngor Sir ar 28 Mawrth, 2017.

 

  Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf o’r fforwm yn Wrecsam ym mis Tachwedd, 2017. Nid oes dyddiad penodol wedi'i gadarnhau.

 

Cam Gweithredu: Dim

 

Eitem 6 - Diweddariad ar Fabwysiadu'r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y tri Chyngor Cymuned nad oeddent, fe ymddengys,  wedi mabwysiadu'r Côd Ymddygiad statudol diwygiedig, bellach wedi ymateb fel a ganlyn:

 

  Cadarnhaodd Cyngor Cymuned Rhoscolyn ar 18 Ebrill 2017  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cwynion ynghylch ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 327 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ynghylch (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref / Cymuned.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar ffurf matrics wedi'i ddiweddaru ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorau Tref / Cymuned.

 

Nodwyd na chyflwynwyd unrhyw gwynion am Gynghorwyr Sir neu Gynghorwyr Tref / Cymuned am y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin, 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog yn ei gylchredeg i holl Aelodau'r Cyngor Sir a holl Glercod Cynhgorau Tref a Chymuned.

4.

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 366 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) a chrynodeb gan y Swyddog Monitro o wybodaeth a gyhoeddwyd yn y Coflyfr Achosion chwarterol o Gwynion Côd Ymddygiad. Nodwyd bod cwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan yr Ombwdsmon yn ymwneud ag achosion honedig o dorri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau rhwng Ebrill, 2016 a Ebrill, 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

Cam Gweithredu: Bod y Swyddog Monitro yn ei gylchredeg i holl Aelodau'r Cyngor Sir a’r holl Glercod Cyngor Tref a Chymuned.

5.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 247 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor Safonau ar 8 Mawrth, 2017. ‘Roedd y ddau achos yr adroddwyd arynt yn ymwneud â Chyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Powys.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Cyngor Dinas Caerdydd wedi derbyn 18 o gwynion lefel isel ar gyfer y Pwyllgor Safonau. Nodwyd bod gan Gyngor Caerdydd Brotocol Datrysiad Lleol ar gyfer datrys materion ac i osgoi ymyrraeth gan yr Ombwdsmon.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol, sydd wedi'i gynllunio i ddelio â materion rhwng aelodau mewn perthynas â chwynion sy’n ymwneud â materion parch ac ystyriaeth ond na chyflwynwyd cwynion o'r fath erioed.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys y crynodebau achos.

  Bod y Swyddog Monitro yn cysylltu â'r Prif Weithredwr / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'r rheol 5 munud ar gyfer areithiau yn y Cyngor a’r rhyddid a roddir gan y Cadeirydd i aelodau siarad am gyfnod hwy na hynny.

  Bod y Swyddog Monitro yn adolygu / yn diwygio Protocol Datrysiad Lleol y Cyngor, yng ngoleuni model Caerdydd, i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau nesaf.

 

Camau Gweithredu: Fel y nodwyd uchod a bod y Swyddog Monitro yn cylchredeg adroddiadau Panel Dyfarnu Cymru i holl Aelodau'r Cyngor Sir a’r holl Glercod Cyngor Tref a Chymuned.

6.

Hyfforddi Aelodau pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar sesiynau cynefino i Gynghorwyr Sir yn dilyn yr etholiadau a threfniadau ar gyfer hyfforddi Cynghorwyr Tref a Chymuned.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar drefniadau hyfforddi a sesiynau cynefino ar gyfer yr aelodau ar ôl yr etholiadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod Rhaglen Gynefino wedi'i datblygu ers etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai i gwrdd ag anghenion hyfforddiant yr aelodau a galwadau newidiol yr Awdurdod hwn. Sefydlwyd y Cynllun Datblygu gyda mewnbwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru, ac mae'n ddogfen sy'n esblygu'n barhaus. Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu ar gyfer 2017/18 i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror 2017 ac fe’i mabwysiadwyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod cyfnod cychwynnol y Cynllun yn canolbwyntio ar raglen gynefino ar gyfer aelodau newydd yr Awdurdod, a chynigiwyd 20 o sesiynau datblygu ffurfiol i'r aelodau rhwng Mai a diwedd mis Awst, 2017.

 

Nodwyd y bydd angen hyfforddiant pellach ar rai aelodau ynghylch sut i defnyddio IPads. Mae trefniadau wedi eu gwneud i'r tîm TGCh ddarparu hyfforddiant pellach ar sut i ddefnyddio’r IPad ar ddiwedd y mis hwn.

 

Nodwyd ymhellach fod yr holl gyflwyniadau yn y sesiynau hyfforddi yn cael eu llwytho i fyny ar MonITor. Anogir yr aelodau i gwblhau taflenni gwerthuso yn dilyn pob sesiwn hyfforddi, ac i roi atborth, fel y gellir cadw cofnod o gynnydd pob aelod. Mae'r Cyngor Sir hefyd yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Gwynedd, ac mae'n rhannu gwybodaeth a gasglwyd i asesu a chwrdd yn well ag anghenion hyfforddi.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd ar y Rhaglen Datblygu Aelodau.

 

Camau Gweithredu:

 

  Bod y Swyddog Monitro yn sefydlu a all aelodau cyfetholedig y Pwyllgor Safonau gael mynediad i'r modiwlau e-ddysgu ac, os felly, o ba bryd.

 

  Bod y Swyddog Monitro yn sefydlu a oes modiwl, ynteu a fydd modiwl, ar y Côd Ymddygiad / Moeseg.

 

  Bod y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi gwybodaeth ar lefelau presenoldeb aelodau unigol yn y Rhaglen Hyfforddi a Chynefino a gynhaliwyd ôl yr etholiad, gan nodi at bwy oedd y sesiynau wedi eu targedu, a bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn adrodd i'r Arweinyddion Grwpiau i ennyn cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad parhaus ac i nodi unrhyw fylchau / pryderon.   

 

  Bod y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu, os oes modd, fod un neu ddau aelod o'r Pwyllgor Safonau yn mynychu'r sesiwn gynefino ranbarthol ar gyfer aelodau newydd ym mis Tachwedd 2017.

 

  Bod y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol yn cael dyddiadau ym mis Tachwedd ar gyfer sesiynau hyfforddi i gynghorwyr tref a chymuned. Bod y Pwyllgor Safonau hefyd yn cael gwybod am y dyddiadau gan y byddai o leiaf un ohonynt yn dymuno mynychu pob un o'r sesiynau.

7.

Adroddiad Blynyddol yr Aelodau pdf eicon PDF 739 KB

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y wybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi am waith Cynghorwyr Sir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol 2016/17.

 

Yn unol ag Adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mae’n ofynnol i’r Cyngor  sicrhau bod trefniadau wedi eu sefydlu i Aelodau baratoi adroddiadau blynyddol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr amserlen i’r 21 o aelodau a ailetholwyd i gyflwyno adroddiadau blynyddol ar gyfer 2016/17 ac ar gyfer eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Medi, 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa o ran cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2016/17.

 

Cam Gweithredu: Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn hysbysu aelodau'r Pwyllgor Safonau unwaith y bydd yr adroddiadau blynyddol wedi eu cyhoeddi.

8.

Caniatâd Generig - Indemniadau pdf eicon PDF 524 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar gael caniatâd arbennig generig i Gynghorwyr Sir er mwyn osgoi unrhyw geisiadau unigol yn ystod tymor y Cyngor cyfredol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y drefn y dylai aelodau ei dilyn wrth wneud cais i'r Pwyllgor Safonau am ganiatâd arbennig.

 

Datganodd y Cynghorwyr Trefor Lloyd Hughes a Dafydd Rhys Thomas ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â'r eitem hon, a gadawsant y cyfarfod.

 

Yn unol â Chôd Ymddygiad y Cyngor Sir, gwaherddir unrhyw aelod etholedig sydd â diddordeb sy’n rhagfarnu rhag cymryd rhan yn y drafodaeth ar y mater hwnnw. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig a phenodol, gall aelodau ofyn am ganiatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau i gymryd rhan a chodi’r gwahardddiad sy’n gysylltiedig â diddordeb sy’n rhagfarnu.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 yn caniatáu i'r Cyngor roi indemniadau ar gyfer costau cyfreithiol i aelodau, yn enwedig mewn perthynas â chostau wrth iddynt amddiffyn eu hunain yn erbyn unrhyw honiad eu bod wedi torri’r Côd. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r rheoliadau mewn polisi.

 

Mae'r Cyngor wedi dirprwyo ei bwerau gwneud penderfyniadau i'r Is-Bwyllgor Indemniadau, ac mae'n rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno gwneud cais am indemniad gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Is-Bwyllgor, a fydd wedyn yn cwrdd i ystyried y cais.

 

Yn dilyn trafodaeth, nododd yr aelodau fod gan y Pwyllgor Safonau ddisgresiwn o ran penderfynu ar gyfraniad terfynol y Cyngor tuag at gostau cyfreithiol mewn rhai amgylchiadau penodol a ddisgrifir yn y rheoliadau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Rhoi caniatâd generig fel y cyfeirir ato yn Atodiad B yr adroddiad ar y sail a ddisgrifir yn y cais;

  Bod y caniatâd arbennig yn parhau i fod mewn grym am weddill tymor y Cyngor.

 

Cam Gweithredu: Dim

9.

Adolygiad o Gofrestrau Diddordebau Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 27 MB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr adolygiadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr arolygon sampl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau o Diddordebau Aelodau Cynghorau Tref / Cymuned, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Côd Ymddygiad. Cynhaliwyd yr adolygiadau rhwng mis Hydref, 2016 a mis Chwefror, 2017.

 

Yn dilyn yr adolygiad, dosbarthwyd adroddiad i Gynghorau Tref / Cymuned yn manylu ar y canfyddiadau, yn rhannu arferion da ac yn tynnu sylw at faterion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod adroddiad wedi ei anfon at Glercod Cynghorau Tref / Cymuned ar 7 Ebrill 2017 yn gofyn iddo gael ei gynnwys ar raglen pob Cyngor Tref / Cymuned yn eu cyfarfod nesaf. Gwnaed cais hefyd bod copi o'r cofnodion, sy’n cadarnhau bod yr adroddiad wedi cael ei drafod, yn cael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Safonau erbyn diwedd Gorffennaf, 2017. Anfonwyd llythyr at yr holl Gynhorau a fu’n destun adolygiad a oedd yn rhoi cyngor a deilwriwyd yn  benodol iddynt.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro mai dim ond 13 o’r 40 o Gynghorau Tref / Cymuned y cysylltwyd â hwy oedd wedi ymateb hyd yma. Dywedodd nad oes unrhyw ffordd o orfodi Cynghorau Tref / Cymuned i gydymffurfio, gan nad yw'r Ombwdsmon yn fodlon mynd i'r afael â'r mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad yn Atodiad 1.

  Nodi cynnwys y tabl yn Atodiad 2.

   Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Glercod y Cynghorau Tref /

   Cymuned nad nad ydynt wedi ymateb, gan eu hannog i gydymffurfio

   â chais y Pwyllgor Safonau.

 

Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod.

10.

Adolygiad o'r Tair Cofrestr o Ddiddordebau'r Cynghorwyr Sir pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar yr adolygiad a gynhaliwyd o’r cofrestrau gan y Pwyllgor Gwaith eleni.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar adolygiad y Pwyllgor Safonau eleni o'r tair Cofrestr o Ddiddordeb sydd gan y Cyngor ar gyfer ei aelodau.

 

Y Cofrestrau yw: -

 

  Y Gofrestr "Sefydlog"

  Datganiadau mewn Cyfarfodydd

  Anrhegion a Lletygarwch

 

Adroddodd y Swyddog Monitro y bydd aelodau annibynnol o'r Pwyllgor Safonau yn cynnal yr adolygiad. Bydd yr aelodau yn dewis cofrestrau chwe aelod etholedig ar hap, ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn fis Mawrth nesaf.

 

Nodwyd bod y Gofrestr Sefydlog a'r Gofrestr Anrhegion a Lletygarwch ar gael i'r aelodau eu cwblhau ar ffurf electronig, tra bod y Gofrestr o Ddatganiadau mewn Cyfarfodydd ar gael i Aelodau ar ffurf bapur yn unig.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1.  Bod aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cynnal adolygiad o’r tair cofrestr o ddiddordeb sydd gan yr aelodau, gyda'r niferoedd i'w rhannu'n gyfartal a'r enwau i'w dewis ar hap;

2.  Bod aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cynnal adolygiad o gofrestrau o ddiddordebau aelodau cyfetholedig y Pwyllgorau Sgriwtini a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu;

3.  Bod yr aelodau newydd sy’n cynrychioli’r Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau, unwaith y penodwyd nhw, yn cynnal adolygiad o ddiddordebau aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau;

4.  Bod y broses adolygu yn 1 a 2 uchod yn dechrau yng nghanol mis Ionawr, 2018, ac yn dod i ben erbyn diwedd mis Chwefror; a chyn gynted ag y bo modd ar ôl y dyddiad ar gyfer cwblhau, bod  aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cyfarfod yn anffurfiol i drafod canfyddiadau'r adolygiad;

5.  O leiaf fis cyn dyddiad dechrau'r adolygiad, bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at bob aelod etholedig ac aelodau cyfetholedig o'r Cyngor i'w hysbysu bod yr adolygiad yn digwydd, er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau wedi'u cwblhau, ac i gadarnhau y gall aelodau'r Pwyllgor Safonau gysylltu â nhw i drafod eu datganiadau o ddiddordeb;

6.  Yn dilyn trafodaeth anffurfiol gan y Pwyllgor Safonau, cylchredir llythyr at yr holl aelodau sy'n cadarnhau canlyniad yr adolygiad, o fewn amserlen i'w chytuno yn y cyfarfod anffurfiol y cyfeirir ato ym mharagraff 4 uchod. Bydd cyngor cyffredinol o'r fath yn cael ei gyhoeddi ar raglen y cyfarfod nesaf sydd ar gael o’r Pwyllgor Safonau  wedi hynny a bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn codi unrhyw faterion cyffredinol yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael o’r Grŵp Arweinyddion ar ôl yr adolygiad.

7.  Bod y Swyddog Monitro yn cysylltu â’r Gwasanaeth TGCh i ofyn am i gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau a diwygio cofrestrau ar-lein gael eu dosbarthu i aelodau'r Pwyllgor Safonau.

 

Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod.

11.

Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau - Swydd Wag Achlysurol pdf eicon PDF 466 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y broses ddethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod y drefn o recriwtio aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau yn dilyn proses statudol, sy'n golygu sefydlu Panel Dewis.

 

Mae'r Cyngor Sir wedi penodi tri Chynghorydd Sir, un Cynghorydd Tref / Cymuned, ac un aelod annibynnol o'r cyhoedd i'r Panel. Mae'r Panel yn awr yn bwrw ymlaen i sefydlu Panel gyda chworwm o bedwar, a fydd yn cwrdd ar 20 Medi 2017.

 

Nodwyd y gwahoddir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer am gyfweliad ar ddyddiad i'w gytuno. Yn dilyn y broses gyfweld, bydd y Panel yn gwneud penodiad, a fydd yn amodol ar gadarnhad gan y Cyngor llawn ar 12 Rhagfyr 2017.

 

Mynegodd aelodau'r Pwyllgor Safonau bryder bod y broses benodi'n un faith, a holwyd a fyddai'n bosib symleiddio'r broses i’r dyfodol.Ymatebodd y Swyddog Monitro bod yn rhaid dilyn y broses ac eglurodd yn fanwl yr anawsterau a gafwyd wrth benodi'r aelod o'r Cynghorau Tref / Cymuned ar gyfer y Panel ac yn arbennig yr aelod annibynnol.  Y gobaith yw y bydd yr unigolion hynny'n aros yn eu swyddi er mwyn dewis y Pwyllgor Safonau newydd yn 2019.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Diweddaru'r Pwyllgor ar y statws cyfredol a'r dyddiad y disgwylir  cwblhau'r broses.

  Bod y Swyddog Monitro yn codi'r mater gyda Swyddogion Monitro eraill Gogledd Cymru ynghylch a oes opsiwn i rannu aelod annibynnol o'r Panel Dewis.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

12.

Aelodau'r Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau - Swyddi Gwag Awtomatig yn dilyn yr Etholiadau pdf eicon PDF 7 MB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y sefyllfa gyfredol o ran penodi aelodau newydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas phenodi aelodau newydd.

 

Yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, 2017, daeth cyfnod y ddau gynrychiolydd Cynghorau Tref / Cymuned ar y Pwyllgor Safonau i ben yn awtomatig, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddechrau proses ddewis newydd.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y broses o ddewis cynrychiolwyr Cyngor Tref / Cymuned ar y Pwyllgor Safonau wedi'i diwygio oherwydd diddordeb cyfyngedig y tro diwethaf, ac erbyn hyn mae’n cael ei wneud trwy  bleidlais bost. Anfonwyd llythyr at yr holl Gynghorau Tref / Cymuned ar 31 Mai , 2017. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau oedd 31 Gorffennaf, 2017 a chafwyd 7 enwebiad. Dosbarthwyd yr enwebiadau i bob clerc Cyngor Cymuned / Tref ar 4 Awst 2017. Nodwyd y dylid dychwelyd y papurau pleidleisio  i'r Cyngor Sir erbyn 29 Medi, 2017. Hyd yn hyn, dim ond 3 papur pleidleisio sydd wedi'u dychwelyd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r adroddiad.

  Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn papurau pleidleisio am gyfnod o fis tan ddiwedd mis Hydref a bod y Swyddog Monitro yn  ysgrifennu at Glercod Cynghorau Tref / Cymuned i’w hysbysu o'r dyddiad cau newydd.

 

Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod.

13.

Caniatâd(au) Arbennig pdf eicon PDF 25 MB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar weithgareddau Panel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar weithgareddau Panelau Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro, os oes gan Gynghorydd Sir / Cynghorydd Tref / Cymuned ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn mater i'w ystyried gan eu Hawdurdod, mae’r Côd Ymddygiad yn dweud bod raid datgan / cofrestru’r diddordeb, a bod raid i’r aelod adael y cyfarfod a pheidio cymryd rhan yn y penderfyniad na dylanwadu arno.

 

Os rhoddir caniatâd arbennig, bydd yn goresgyn yr elfen o’r diddordeb sy'n rhagfarnu, a gall yr aelod gymryd rhan; er efallai i raddau cyfyngedig.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi'r caniatâd arbennig a roddwyd ac ar ba sail ac ym mha amgylchiadau y rhoddwyd ef.

  Bod aelodau'r Panel (Michael Wilson, Dilys Shaw a Denise Harris-Edwards) yn unig yn cadarnhau'r cofnodion drafft yn Atodiad 2, a’u bod wedi gwneud hynny.

 

Cam Gweithredu:  Dim

14.

Datrysiad Lleol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 1 MB

I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar Protocol Datrysiad Lleol Un Llais Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ar Brotocol Datrysiad Lleol Un Llais Cymru, sef protocol y mae'r Cyngor hwn wedi'i fabwysiadu. Mae'r Protocol wedi'i ddosbarthu i bob Cyngor Tref a Chymuned ar Ynys Môn, ac mae angen i bob Cyngor ei fabwysiadu yn unigol.

 

Nodwyd fod yr Ombwdson, yn ei adroddiad blynyddol, wedi gwneud  sylwadau ar gwynion am Gynghorwyr Sir o dan y Côd Ymddygiad a mynegi barn bod y Protocol wedi lleihau nifer y cwynion a dderbyniwyd. Mae'r Ombwdsmon yn dal i gael nifer sylweddol o gwynion mewn perthynas â Chynghorwyr Tref / Cymuned, ac ‘roedd wedi gofyn i Un Llais Cymru lunio'r Protocol hwn i sicrhau bod Cynghorau Tref / Cymuned yn ceisio datrys eu anghydfodau lefel isel eu hunain.

                           

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys y Protocol.

  Cyfarwyddo'r Swyddog Monitro i ysgrifennu at Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned lleol yn gofyn am gadarnhad a ydynt wedi mabwysiadu a gweithhredu’r Protocol yn ffurfiol ai peidio neu’n bwriadu gwneud hynny.

  Bod y Pwyllgor Safonau (yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor Safonau), yn cynnig cefnogaeth i Gynghorau Tref a Chymuned weithredu'r Protocol pan fo’r Cadeirydd o'r farn bod hynny’n briodol ac ar ôl derbyn unrhyw gais am gyngor.

  Bod y Swyddog Monitro yn gofyn i Glercod Cynghorau Tref / Cymuned gynnwys cost hyfforddiant, yn enwedig i glercod, yn y praesept wrth gyfrifo eu cyllidebau.

 

Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod.