Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynasd ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 341 KB

Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Mae’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) wedi darparu dogfenmaterion yn codii holl aelodau’r Pwyllgor Safonau yn rhoi manylion am y camau gweithredu a gymerwyd yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018.

 

Fe wnaeth y drafodaeth ganolbwyntio ar y materion canlynol:-

 

Eitem 5 – Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau’r Aelodau

 

  Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod Arweinyddion Grŵp mewn perthynas â Chynghorydd a enwyd, nad oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau, ac nid oedd ychwaith wedi cysylltu â’r aelod o’r Pwyllgor Safonau a oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau ac wedi gofyn i gael trafod y canfyddiadau. Er i’r mater gael ei godi, ac er i ni anfon e-bost at yr Arweinydd Grŵp dan sylw, ni chlywyd unrhyw beth ganddo ef chwaith mewn perthynas â’r mater hwn. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor nad oeddent am gymryd unrhyw gamau pellach ar y pwynt hwn, ond y byddent yn codi’r sefyllfa eto gyda’r aelod perthnasol yn ystod yr adolygiad o’r cofrestrau ar gyfer 2019 sydd ar y gweill. 

 

  Dywedodd y Swyddog Monitro fod TGCh wedi cysylltu â Mod.Gov sawl gwaith, ond nid ydynt wedi derbyn ymateb eto. Darllenwyd yr e-bost diweddar oddi wrth y Rheolwr Gwasanaethau Digidol i’r Pwyllgor. Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid mynd ar ôl hyn ymhellach oherwydd fe hoffai’r Pwyllgor ateb terfynol.

 

PENDERFYNWYD peidio mynd ar ôl y mater cyntaf a grybwyllir uchod, ond i swyddogion fynd ar ôl yr ail fater ymhellach.

 

Gweithredu: Parhau i geisio cael ymateb gan Mod.Gov ar y ddarpariaeth o naratif.

 

  Mewn perthynas â chynnig y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019 o’r cofrestrau a dogfennau eraill sy’n ymwneud ag Aelodau Etholedig, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019, PENDERFYNWYD cytuno i gynnull cyfarfod, yn dilyn y cyfarfod ffurfiol hwn o’r Pwyllgor, i drafod cynigion y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019.

 

Eitem 11 – Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg ar gyfer Adolygu Cofrestrau Diddordeb yr Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig

 

Nodwyd fod y Nodyn Cynghori uchod wedi cael ei addasu a’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgora Safonau. 

 

Gweithredu: Anfon y linc i’r Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg i holl Aelodau’r Cyngor ac aelodau annibynnol.

 

Eitem 12 – Rhoddion a LletygarwchNodyn Briffio i Aelodau

 

Adroddwyd nad yw’r Cadeirydd eto wedi cyflwyno’r Nodyn Brifio sy’n cyd-fynd â’r Protocol Rhoddion a Lletygarwch i’r Arweinyddion Grwpiau. 

 

Nodwyd fod y Protocol wedi cael ei adolygu, a bod y Swyddog Monitro wedi argymell oedi cyn ei gylchredeg i Aelodau, oherwydd faint o wybodaeth sy’n cael ei anfon i’r Aelodau ar hyn o bryd.

 

Eitem 13 – Hawliau Unigol fel AelodauNodyn Briffio i Aelodaumae’r argymhelliad uchod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Datblygu a Hyfforddiant Aelodau pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad cynnydd gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau etholedig ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn ar 12 Medi 2018.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD fod 10 o sesiynau datblygu ffurfiol ychwanegol wedi cael/yn cael eu cynnig i Aelodau rhwng 12 Medi 2019 a Mawrth 2019, yn ymwneud ag ystod o feysydd pwnc, rhai ohonynt yn fandadol. Nodwyd fod nifer dda wedi mynychu’r Sesiynau Sgriwtini ar Ddatblygu Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y canlynol:-

 

  Yn ystod 2019/20 bwriedir datblygu a marchnata E-ddysgu ymhellach er mwyn annog yr Aelodau i gynyddu eu defnydd o’r modiwlau. Nodwyd y gellid newid y llwyfan mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd am fersiwn mwy llyfn, sy’n haws cael mynediad ati. Yn y cyfamser mae AD yn gwneud gwaith gyda CLlLC a’r Bwrdd Iechyd i wella’r system gyfredol. 

 Cafodd holiadur sgiliau TGCh ei gylchredeg i’r holl Aelodau ym mis Ionawr i sefydlu anghenion hyfforddiant. Mae’r adborth wedi’i ddwyn ynghyd a bydd sesiynau hyfforddiant pwrpasol yn cael eu trefnu i gwrdd ag anghenion hyfforddiant unigol yr Aelodau. Mynegwyd pryder nad oedd wedi bod yn bosib cael mynediad i wybodaeth benodol trwy I-pads, yn arbennig y modiwlau E-ddysgu. Nodwyd fod staff AD yn gweithio’n agos gyda’r tîm TGCh ar ddarpariaeth amgen i wneud y broses yn haws i ddefnyddwyr.

  Mae rhai Aelodau wedi mynegi yr hoffent fynd ar hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pellach ar Twitter a Facebook.

  Amlygwyd yr angen i Aelodau gofnodi eu hyfforddiant ar-lein yn syth ar ôl mynychu unrhyw sesiynau hyfforddiant. Cafwyd cais i gael ffordd i’r Aelodau allu cofnodi hyfforddiant yn electronig.

  Mewn perthynas ag Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP), roedd rhywfaint o adborth wedi’i dderbyn gan yr Arweinyddion Grwpiau. Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn monitro cynnydd trwy gyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau. 

  Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Rhaglen Ddatblygu ar gyfer 2019/20.  Bydd adborth a gafwyd ar anghenion datblygu yr Aelodau o ADP, arweiniad gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen. Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019, ac wedi hynny gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Mai 2019.

 

Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r diffyg presenoldeb gan Aelodau mewn rhai sesiynau hyfforddiant, a’r angen i roi sylw i’r mater hwn. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr Arweinyddion Grwpiau yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd am y cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i’r Aelodau.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a fyddai’r Aelodau efallai’n wynebu canlyniadau am beidio mynychu hyfforddiant mandadol. Ymatebodd y Swyddog Monitro nad oes unrhyw gosbau clir am beidio mynychu, ond eglurodd y gallai’r Pwyllgor Safonau gyhoeddi data cydymffurfiaeth o’r fath mewn adroddiad i’r Pwyllgor Safonau, petaent yn dymuno gwneud hynny  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Materion Aelodau pdf eicon PDF 433 KB

Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar nifer o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyddiweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y materion canlynol sy’n ymwneud â’r Aelodau:-

 

  Gan gyfeirio at Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2017/18, nodwyd bod 29 o Aelodau wedi cwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau ar-lein bellach. 

  Cafodd y mater o Aelod oedd heb gwblhau ei Gofrestr o Ddiddordebau ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau. Roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r mater, ac rydym bellach wedi derbyn cadarnhad fod yr Aelod dan sylw wedi ymateb i gais y Cadeirydd.   

  Disgwylir Mesur Llywodraeth Leol newydd ar ddiwedd 2019. Nodwyd nad yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd y newidiadau o ran disgwyliadau a gofynion ar aelodau etholedig mewn perthynas â pherfformiad/cyhoeddi gwybodaeth; na sut bydd y rhain yn cael eu rheoli.

  Trefnwyd y bydd yr Adroddiadau Blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2019.

  Nodwyd nad oedd y bwriad i ailgyflwyno cais y Cyngor am y Siarter Cefnogi a Datblygu Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi digwydd yn ystod Chwarter 3, 2018/19; yn groes i’r ymrwymiad blaenorol, oherwydd penderfynwyd fod angen i’r Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf fod mewn lle cyn cyflwyno’r cais. Bydd y Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019 i’w chymeradwyo, ac wedyn caiff ei chyflwyno i CLlLC, gyda’r cais am statws siarter, erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

  Gan gyfeirio at y gwiriadau GDG, mae’r holl Aelodau wedi cwblhau’r broses gofrestru. Bydd y gwiriadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn unol â gofynion y polisi.

  Mae Bywgraffiadau’r Aelodau nawr ar gael ar wefan y Cyngor ac maent yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd Pwyllgor a chofnodion hyfforddiant. Fodd bynnag, tra bod y wybodaeth am bresenoldeb yn cael ei diweddaru’r awtomatig, bydd angen i’r Aelodau ddiweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn rheolaidd ar hyfforddiant. 

  Mewn perthynas ag aelodaeth yr Aelodau ar gyrff allanol, mae dolenni bellach ar gael ar wefan y Cyngor. Nodwyd y bydd angen adolygu’r atodlen o gyrff allanol mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau a’i hadrodd i’r Cyngor ym mis Mai 2019. Bydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn monitro gwaith y prif bartneriaethau ar Raglen Waith y Pwyllgor.

  Nodwyd nad oes cyfleuster ar y system Modern.Gov i aelodau cyfetholedig allu cyhoeddi eu datganiadau o ddiddordeb ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Unwaith y daw disgwyliadau’r Mesur Llywodraeth Leol newydd yn glir, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y disgwyliadau hynny yn ei adroddiad nesaf i’r Pwyllgor Safonau, a sut y byddant yn cael eu mesur, eu monitro, eu hadrodd a’u cefnogi. 

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg copi o’r cais am Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau gan CLlLC i aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 253 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â:-

 

(a)    Cynghorwyr Sir, a

(b)    Cynghorwyr Tref/Cymuned

 

Ar gyfer Chwarteri 2 a 3, 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol am gwynion a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ffurf matrics, ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro na chyflwynwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn yn ystod Chwarter 2, 2018/19 (Gorffennaf i Medi 2018). Nododd fod un cwyn wedi’i gwneud yn erbyn Cynghorydd Tref a Chymuned am yr un cyfnod, ac mae’r Ombwdsmon yn ystyried y gŵyn honno.

 

Nodwyd na chyflwynwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn ar gyfer Chwarter 3, 2018/19 (Hydref i Ragfyr 2018).

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, ers mis Rhagfyr, fod dwy gŵyn arall wedi’i derbyn yn erbyn yr un Cyngor Tref a Chymuned, un gan aelod o’r cyhoedd, a’r llall gan aelod etholedig. Cafodd un o’r cwynion ei gwrthod, ac mae’r llall dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas y cyfarfod am 3.15 pm

 

Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd un gŵyn wedi cael ei datrys o fewn cyfnod targed yr Ombwdsmon o chwe mis.   

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

  Bodd y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon yn mynegi pryder y Pwyllgor Safonau ynglŷn â’r oedi wrth gwblhau ei ymchwiliad i’r gŵyn hon yn erbyn Cynghorydd Tref a Chymuned, gan i’r gŵyn gael ei chyflwyno ym mis Awst 2018. 

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod

6.

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 3 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn crynhoi’r wybodaeth a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ei Lyfrau Achosion chwarterol o gwynion o dan y Cod Ymddygiad. 

 

Roedd y cwynion yr oedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt yn ymwneud â honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad i Aelodau, fel roedd wedi’i gynnwys yn ei Lyfrau Achosion chwarterol ar gyfer Gorffennaf a Hydref 2018.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) at gŵyn a wnaed yn erbyn aelod o Gyngor Tref Saltney mewn perthynas â thorri’r Cod Ymddygiad yng nghyswllt eithriad (i bob pwrpas, eithriad yw caniatâd arbennig sydd wedi’i ymgorffori yn y Cod). Roedd y Cynghorydd wedi gofyn am gyngor gan swyddog ac wedi cael cyngor. Fodd bynnag, nid oedd yn amlwg o’r crynodeb p’un a gredai’r Ombwdsmon fod cyngor y swyddog yn gywir ai peidio, oherwydd y data annigonol a gyflwynwyd fel rhan o grynodeb yr Ombwdsmon. Awgrymwyd bod y Pwyllgor Safonau yn cysylltu â’r Ombwdsmon i gael eglurhad ynghylch p’un a oedd y cyngor a roddwyd yn gywir ai peidio.

 

Cyfeiriwyd at gŵyn a wnaed gan unigolyn yn erbyn Cynghorydd o Gyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â thorri’r Cod Ymddygiad. O’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, nid oedd yn glir p’un a oedd yr achwynydd yn swyddog, yn aelod neu’n drydydd parti.

 

Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau sylw hefyd at gofnodion cyfarfod Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd yn Hwlffordd ar 5 Medi, 2018, oedd yn nodi bod Cynghorydd a oedd wedi torri’r Cod, ac wedyn wedi ymddeol o’r Cyngor, wedi derbyn cerydd cyhoeddus am ei ymddygiad.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon i geisio:

 

  eglurhad ynghylch a oedd y cyngor a roddwyd i aelod o Gyngor Tref Saltney yn gywir mewn gwirionedd.

  cadarnhadynghylch a oedd yr achwynydd yn achos Cyngor Sir Ceredigion yn swyddog, yn aelod neu’n drydydd parti.

  yn amodol ar yr ymateb gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â Chyngor Tref Saltney, bod y Swyddog Monitro yn ceisio cael gwybodaeth bellach os oes angen gan Glerc Cyngor Tref Saltney, ar y

sail y byddai’r fath wybodaeth yn cael ei golygu a’i rhannu’n gyfrinachol gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig.

  Ar ôl cael digon o wybodaeth, bod y Swyddog Monitro yn trafod canlyniad achos Cyngor Tref Saltney gyda’r Swyddogion Monitro rhanbarthol eraill.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod

 

7.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 304 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2018. 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod un achos wedi’i adrodd i’r Panel, oedd yn ymwneud â chyn Gynghorydd Sir o Gyngor Sir Fynwy yn torri’r Cod Ymddygiad, am ei fod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth i eraill, ac wedi anfon e-byst at Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy oedd yn cynnwys datganiadau homoffobig. Cafodd yr achos yn erbyn y Cynghorydd ei adrodd yng nghyswllt ei rôl fel Chynghorydd Cymuned, nid fel Cynghorydd Sir.

 

Roedd yr Ombwdsmon wedi codi’r mater yn y Gynhadledd Pwyllgorau Safonau, lle teimlwyd yn gyffredinol fod penderfyniad y Panel Dyfarnu i wahardd y Cynghorydd am ddau fis, yn rhy drugarog. Roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau hefyd yn teimlo nad oedd y gwaharddiad yn ddigon.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a’r crynodeb o’r achos. 

 

Gweithredu: Dim

8.

Panel Dyfarnu Cymru (PDC) - Canllaw ar Gosbau pdf eicon PDF 713 KB

Mae canllaw ar gosbau newydd wedi cael ei gynhyrchu gan Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas ag achosion o dorri’r Côd Ymddygiad Lleol.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y Canllaw Cosbau newydd a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru, ac a ddaw i rym ar 1 Medi 2019. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod copi o’r Canllaw wedi’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor Safonau ar 4 Hydref 2018. Dywedodd efallai na fyddai’r Canllaw ond yn berthnasol i’r Pwyllgor Safonau pan fydd yn ystyried cyfeiriad gan yr Ombwdsmon mewn perthynas ag achos o dorri’r Cod Ymddygiad. Nodwyd fod y Pwyllgor Safonau yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r Canllaw a gyhoeddwyd gan PDC pan fydd yn delio gyda chwynion ac yn pennu cosbau.

 

Tynnodd yr Is-gadeirydd sylw at y ffaith fod y gaircosbiyn cael ei ddefnyddio yn y Canllaw ar Gosbau. Teimlai y dylai’r geiriad gael ei addasu i ddarllenhyrwyddo ymddygiad da’ yn hytrach na chosbi.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn y Canllaw ar Gosbau.

  Nad oes gofyn i aelodau cyfredol y Pwyllgor Safonau fynd ar hyfforddiant ar y Canllaw ar Gosbau (er hyn, efallai y daw hyn yn berthnasol petai’r Pwyllgor yn derbyn cyfeiriad gan yr Ombwdsmon); ond,

  Dylid darparu hyfforddiant i unrhyw aelodau newydd o’r Pwyllgor Safonau ar ôl mis Ionawr 2019.

9.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 15 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn manylu ar y ceisiadau am Ganiatâd Arbennig a ystyriwyd gan Banel o’r Pwyllgor Safonau ers ei gyfarfod diwethaf.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn rhoi manylion am y ceisiadau am ganiatâd/au arbennig a gafodd eu hystyried gan Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau er cyfarfod diwethaf y  Pwyllgor Safonau.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar y ceisiadau canlynol am ganiatâd/au arbennig:-

 

  28 Ionawr, 2019 – rhoddwyd caniatâd arbennig heb gyfyngiadau i Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â diddordebau sy’n rhagfarnu yng nghyd-destun y rhaglen moderneiddio ysgolion yn nalgylch Amlwch a’r prosiect moderneiddio ar gyfer Addysg Ôl-16 yn y Sir.

  7 Mawrth 2019 – rhoddwyd caniatâd arbennig bloc i 8 aelod o Gyngor Cymuned Llaneilian i oresgyn nifer o wahanol ddiddordebau sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn nalgylch Amlwch.

  Bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig ar ganiatadau arbennig eraill a nodwyd yn 3.3 (Cyngor Cymuned Llaneilian) a 3.4 (caniatâd arbennig bloc gan 5 aelod o’r Pwyllgor Gwaith) yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi, 2019.

 

Nodwyd fod gwrandawiad wedi’i drefnu ar gyfer 22 Mawrth 2019 i ystyried cais bloc am ganiatâd arbennig gan 5 Aelod o’r Pwyllgor Gwaith sy’n neiniau/teidiau i bobl ifanc ar Ynys Môn a allai gael eu heffeithio gan unrhyw benderfyniad ar y prosiect moderneiddio ar gyfer Addysg Ôl-16.

             

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod aelodau’r Pwyllgor Safonau yn nodi’r caniatadau arbennig a roddwyd a’r seiliau a’r amgylchiadau y rhoddwyd hwy ynddynt.

  Bod cofnodion drafft y Panel Caniatadau Arbennig a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019, wedi cael eu cadarnhau’n gywir gan aelodau’r Panel yn unig (Michael Wilson, Denise Harris-Edwards a John R Jones).

  Bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig ar ganiatadau arbennig eraill a nodwyd yn 3.3 (Cyngor Cymuned Llaneilian) a 3.4 (caniatâd arbennig bloc gan 5 aelod o’r Pwyllgor Gwaith) yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi, 2019.

  Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i newid i’r Ffurflen Gais/Caniatâd Safonol am Ganiatâd Arbennig i gynnwys cyfeiriad pendant fel rhan o’r gwymplencaniatâd”, i ganiatáu i Aelod sy’n cael caniatâd arbennig  gymryd rhan ym mhob cyfarfod cyhoeddus, cyfarfodydd cyrff allanol a chyfarfodydd anffurfiol ac ati. Cytunwyd i gynnwys y geiriad canlynol ar y ffurflen: “os yn berthnasol, i gynnwys cyfranogiad llawn mewn cyfarfodydd cyhoeddus, cyfarfodydd unrhyw gyrff allanol ac unrhyw gyfarfodydd neu drafodaethau eraill nad ydynt wedi eu nodi’n benodol yn y caniatâd arbennig”.

10.

Cynghorau Tref a Chymuned - Y Praesept a Hyfforddiant i Glercod pdf eicon PDF 783 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â chynnwys elfen ar gyfer hyfforddiant yn y praesept a godir.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2018, lle trafodwyd y mater o gynnwys swm ar gyfer hyfforddiant (Clercod ac aelodau) yn y swm praesept sy’n cael ei osod gan bob Cyngor Tref a Chymuned.  

 

Adroddodd y Cyfreithiwr yr anfonwyd gohebiaeth ar 6 Tachwedd 2018 at 16 o Gynghorau Tref a Chymuned a oedd eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i e-bost yn gofyn iddynt gynnwys swm ar gyfer hyfforddiant wrth osod y praesept. Derbyniwyd 12 ymateb allan o’r 16 ac mae pob Cyngor Tref a Chymuned sydd wedi ymateb wedi cynnwys elfen o hyfforddiant yn y praesept. Nodwyd na fu unrhyw gyswllt pellach gyda’r 24 o Gynghorau Tref a Chymuned nad oedd wedi ymateb i gais y Pwyllgor Safonau.

 

Awgrymwyd anfon llythyr gan y Pwyllgor Safonau at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r Pwyllgor Safonau yn amgáu matrics sy’n rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd, ac yn enwi’r Cynghorau sydd heb ymateb, er mwyn amlygu pwysigrwydd yr hyn mae’r Pwyllgor yn ei ofyn.

 

PENDERFYNWYD:-

           

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â’r Cynghorau Tref a Chymuned.

  Anfon llythyr gan y Pwyllgor Safonau at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r Pwyllgor Safonau yn amgáu matrics sy’n rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd, ac yn enwi’r Cynghorau sydd heb ymateb, er mwyn amlygu pwysigrwydd yr hyn mae’r Pwyllgor yn ei ofyn.

11.

Adolygu Cofrestrau Diddordeb y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 11 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Tref yn ystod Rhagfyr 2018 ac Ionawr a Chwefror 2019. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) ar adolygiadau a wnaeth y Pwyllgor Safonau mewn pum Cyngor Tref a Chymuned yn ystod mis Rhagfyr 2018, a Ionawr a Chwefror 2019, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

Yn dilyn yr adolygiad, anfonwyd llythyr personol at Glerc a Chadeirydd pob Cyngor Tref a Chymuned a gymerodd ran, yn rhoi cyngor penodol iddynt. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau oedd ar gael mewn perthynas â dosbarthu’r adroddiad cyffredinol a baratowyd ym mis Chwefror 2019 i holl aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned yn rhoi manylion am ganlyniad yr ymarfer.

 

Cadarnhau y gellir anfon yr adroddiad a baratowyd ym mis Chwefror 2019 at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned, gyda chais eu bod yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref neu Gymuned a bod copi o’r cofnodion yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau.

 

Bod y Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad diweddaru i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2019, yn rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd.

 

Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) adolygu’r Nodyn Cyngor Methodoleg a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym mis Medi 2018 a’r Nodyn Cyngor ar Ddiddordebau Personol ac sy’n Rhagfarnu i Gynghorau Tref a Chymuned a ddylai gael ei gylchredeg gyda’r Nodyn Cyngor y cyfeirir ato ym mhwynt bwled 2 uchod.

 

Atgoffa Cynghorau Tref a Chymuned y bydd gwybodaeth ynglŷn â chynigion y Pwyllgor Safonau uchod yn cael ei chofnodi yn nghofnodion y cyfarfod hwn a’i chyhoeddi ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cadarnhau y gellir anfon yr adroddiad a baratowyd ym mis Chwefror 2019 at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned, gyda chais eu bod yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref neu Gymuned a bod copi o’r cofnodion yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau.

  Bod y Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad diweddaru i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2019, yn rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd.

  Derbyn newidiadau i’r Nodyn Briffio yn yr adroddiad.

  Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) adolygu’r Nodyn Cyngor Methodoleg a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym mis Medi 2018 a’r Nodyn Cyngor ar Ddiddordebau Personol ac sy’n Rhagfarnu i Gynghorau Tref a Chymuned a ddylai gael ei gylchredeg gyda’r Nodyn Cyngor y cyfeirir ato ym mhwynt bwled 2 uchod.

  Atgoffa Cynghorau Tref a Chymuned y bydd gwybodaeth ynglŷn â chynigion y Pwyllgor Safonau uchod yn cael ei chofnodi yn nghofnodion y cyfarfod hwn a’i chyhoeddi ar-lein.