Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynasd ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 341 KB Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, fel rhai cywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
Mae’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) wedi darparu dogfen “materion yn codi” i holl aelodau’r Pwyllgor Safonau yn rhoi manylion am y camau gweithredu a gymerwyd yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018.
Fe wnaeth y drafodaeth ganolbwyntio ar y materion canlynol:-
Eitem 5 – Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau’r Aelodau
• Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod Arweinyddion Grŵp mewn perthynas â Chynghorydd a enwyd, nad oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau, ac nid oedd ychwaith wedi cysylltu â’r aelod o’r Pwyllgor Safonau a oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau ac wedi gofyn i gael trafod y canfyddiadau. Er i’r mater gael ei godi, ac er i ni anfon e-bost at yr Arweinydd Grŵp dan sylw, ni chlywyd unrhyw beth ganddo ef chwaith mewn perthynas â’r mater hwn.
Penderfynodd y Pwyllgor nad oeddent am gymryd unrhyw gamau pellach ar y pwynt hwn, ond y byddent yn codi’r sefyllfa eto gyda’r aelod perthnasol yn ystod yr adolygiad o’r cofrestrau ar gyfer 2019 sydd ar y gweill.
• Dywedodd y Swyddog Monitro fod TGCh wedi cysylltu â Mod.Gov sawl gwaith, ond nid ydynt wedi derbyn ymateb eto. Darllenwyd yr e-bost diweddar oddi wrth y Rheolwr Gwasanaethau Digidol i’r Pwyllgor. Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid mynd ar ôl hyn ymhellach oherwydd fe hoffai’r Pwyllgor ateb terfynol.
PENDERFYNWYD peidio mynd ar ôl y mater cyntaf a grybwyllir uchod, ond i swyddogion fynd ar ôl yr ail fater ymhellach.
Gweithredu: Parhau i geisio cael ymateb gan Mod.Gov ar y ddarpariaeth o naratif.
• Mewn perthynas â chynnig y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019 o’r cofrestrau a dogfennau eraill sy’n ymwneud ag Aelodau Etholedig, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019, PENDERFYNWYD cytuno i gynnull cyfarfod, yn dilyn y cyfarfod ffurfiol hwn o’r Pwyllgor, i drafod cynigion y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019.
Eitem 11 – Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg ar gyfer Adolygu Cofrestrau Diddordeb yr Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig
Nodwyd fod y Nodyn Cynghori uchod wedi cael ei addasu a’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgora Safonau.
Gweithredu: Anfon y linc i’r Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg i holl Aelodau’r Cyngor ac aelodau annibynnol.
Eitem 12 – Rhoddion a Lletygarwch – Nodyn Briffio i Aelodau
Adroddwyd nad yw’r Cadeirydd eto wedi cyflwyno’r Nodyn Brifio sy’n cyd-fynd â’r Protocol Rhoddion a Lletygarwch i’r Arweinyddion Grwpiau.
Nodwyd fod y Protocol wedi cael ei adolygu, a bod y Swyddog Monitro wedi argymell oedi cyn ei gylchredeg i Aelodau, oherwydd faint o wybodaeth sy’n cael ei anfon i’r Aelodau ar hyn o bryd.
Eitem 13 – Hawliau Unigol fel Aelodau – Nodyn Briffio i Aelodau – mae’r argymhelliad uchod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Datblygu a Hyfforddiant Aelodau PDF 2 MB Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau etholedig ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn ar 12 Medi 2018.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD fod 10 o sesiynau datblygu ffurfiol ychwanegol wedi cael/yn cael eu cynnig i Aelodau rhwng 12 Medi 2019 a Mawrth 2019, yn ymwneud ag ystod o feysydd pwnc, rhai ohonynt yn fandadol. Nodwyd fod nifer dda wedi mynychu’r Sesiynau Sgriwtini ar Ddatblygu Aelodau.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y canlynol:-
• Yn ystod 2019/20 bwriedir datblygu a marchnata E-ddysgu ymhellach er mwyn annog yr Aelodau i gynyddu eu defnydd o’r modiwlau. Nodwyd y gellid newid y llwyfan mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd am fersiwn mwy llyfn, sy’n haws cael mynediad ati. Yn y cyfamser mae AD yn gwneud gwaith gyda CLlLC a’r Bwrdd Iechyd i wella’r system gyfredol. • Cafodd holiadur sgiliau TGCh ei gylchredeg i’r holl Aelodau ym mis Ionawr i sefydlu anghenion hyfforddiant. Mae’r adborth wedi’i ddwyn ynghyd a bydd sesiynau hyfforddiant pwrpasol yn cael eu trefnu i gwrdd ag anghenion hyfforddiant unigol yr Aelodau. Mynegwyd pryder nad oedd wedi bod yn bosib cael mynediad i wybodaeth benodol trwy I-pads, yn arbennig y modiwlau E-ddysgu. Nodwyd fod staff AD yn gweithio’n agos gyda’r tîm TGCh ar ddarpariaeth amgen i wneud y broses yn haws i ddefnyddwyr. • Mae rhai Aelodau wedi mynegi yr hoffent fynd ar hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pellach ar Twitter a Facebook. • Amlygwyd yr angen i Aelodau gofnodi eu hyfforddiant ar-lein yn syth ar ôl mynychu unrhyw sesiynau hyfforddiant. Cafwyd cais i gael ffordd i’r Aelodau allu cofnodi hyfforddiant yn electronig. • Mewn perthynas ag Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP), roedd rhywfaint o adborth wedi’i dderbyn gan yr Arweinyddion Grwpiau. Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn monitro cynnydd trwy gyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau. • Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Rhaglen Ddatblygu ar gyfer 2019/20. Bydd adborth a gafwyd ar anghenion datblygu yr Aelodau o ADP, arweiniad gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen. Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019, ac wedi hynny gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Mai 2019.
Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r diffyg presenoldeb gan Aelodau mewn rhai sesiynau hyfforddiant, a’r angen i roi sylw i’r mater hwn. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr Arweinyddion Grwpiau yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd am y cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i’r Aelodau.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a fyddai’r Aelodau efallai’n wynebu canlyniadau am beidio mynychu hyfforddiant mandadol. Ymatebodd y Swyddog Monitro nad oes unrhyw gosbau clir am beidio mynychu, ond eglurodd y gallai’r Pwyllgor Safonau gyhoeddi data cydymffurfiaeth o’r fath mewn adroddiad i’r Pwyllgor Safonau, petaent yn dymuno gwneud hynny ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar nifer o faterion yn ymwneud ag Aelodau. Cofnodion: Cyflwynwyd – diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y materion canlynol sy’n ymwneud â’r Aelodau:-
• Gan gyfeirio at Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2017/18, nodwyd bod 29 o Aelodau wedi cwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau ar-lein bellach. • Cafodd y mater o Aelod oedd heb gwblhau ei Gofrestr o Ddiddordebau ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau. Roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r mater, ac rydym bellach wedi derbyn cadarnhad fod yr Aelod dan sylw wedi ymateb i gais y Cadeirydd. • Disgwylir Mesur Llywodraeth Leol newydd ar ddiwedd 2019. Nodwyd nad yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd y newidiadau o ran disgwyliadau a gofynion ar aelodau etholedig mewn perthynas â pherfformiad/cyhoeddi gwybodaeth; na sut bydd y rhain yn cael eu rheoli. • Trefnwyd y bydd yr Adroddiadau Blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2019. • Nodwyd nad oedd y bwriad i ailgyflwyno cais y Cyngor am y Siarter Cefnogi a Datblygu Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi digwydd yn ystod Chwarter 3, 2018/19; yn groes i’r ymrwymiad blaenorol, oherwydd penderfynwyd fod angen i’r Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf fod mewn lle cyn cyflwyno’r cais. Bydd y Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019 i’w chymeradwyo, ac wedyn caiff ei chyflwyno i CLlLC, gyda’r cais am statws siarter, erbyn diwedd mis Mawrth 2019. • Gan gyfeirio at y gwiriadau GDG, mae’r holl Aelodau wedi cwblhau’r broses gofrestru. Bydd y gwiriadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn unol â gofynion y polisi. • Mae Bywgraffiadau’r Aelodau nawr ar gael ar wefan y Cyngor ac maent yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd Pwyllgor a chofnodion hyfforddiant. Fodd bynnag, tra bod y wybodaeth am bresenoldeb yn cael ei diweddaru’r awtomatig, bydd angen i’r Aelodau ddiweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn rheolaidd ar hyfforddiant. • Mewn perthynas ag aelodaeth yr Aelodau ar gyrff allanol, mae dolenni bellach ar gael ar wefan y Cyngor. Nodwyd y bydd angen adolygu’r atodlen o gyrff allanol mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau a’i hadrodd i’r Cyngor ym mis Mai 2019. Bydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn monitro gwaith y prif bartneriaethau ar Raglen Waith y Pwyllgor. • Nodwyd nad oes cyfleuster ar y system Modern.Gov i aelodau cyfetholedig allu cyhoeddi eu datganiadau o ddiddordeb ar-lein.
PENDERFYNWYD:-
• Unwaith y daw disgwyliadau’r Mesur Llywodraeth Leol newydd yn glir, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y disgwyliadau hynny yn ei adroddiad nesaf i’r Pwyllgor Safonau, a sut y byddant yn cael eu mesur, eu monitro, eu hadrodd a’u cefnogi. • Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg copi o’r cais am Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau gan CLlLC i aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 253 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â:-
(a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned
Ar gyfer Chwarteri 2 a 3, 2018/19. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol am gwynion a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ffurf matrics, ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.
Adroddodd y Swyddog Monitro na chyflwynwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn yn ystod Chwarter 2, 2018/19 (Gorffennaf i Medi 2018). Nododd fod un cwyn wedi’i gwneud yn erbyn Cynghorydd Tref a Chymuned am yr un cyfnod, ac mae’r Ombwdsmon yn ystyried y gŵyn honno.
Nodwyd na chyflwynwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn ar gyfer Chwarter 3, 2018/19 (Hydref i Ragfyr 2018).
Adroddodd y Swyddog Monitro, ers mis Rhagfyr, fod dwy gŵyn arall wedi’i derbyn yn erbyn yr un Cyngor Tref a Chymuned, un gan aelod o’r cyhoedd, a’r llall gan aelod etholedig. Cafodd un o’r cwynion ei gwrthod, ac mae’r llall dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Gadawodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas y cyfarfod am 3.15 pm
Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd un gŵyn wedi cael ei datrys o fewn cyfnod targed yr Ombwdsmon o chwe mis.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r adroddiad a’r atodiadau. • Bodd y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon yn mynegi pryder y Pwyllgor Safonau ynglŷn â’r oedi wrth gwblhau ei ymchwiliad i’r gŵyn hon yn erbyn Cynghorydd Tref a Chymuned, gan i’r gŵyn gael ei chyflwyno ym mis Awst 2018.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 3 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn crynhoi’r wybodaeth a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ei Lyfrau Achosion chwarterol o gwynion o dan y Cod Ymddygiad.
Roedd y cwynion yr oedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt yn ymwneud â honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad i Aelodau, fel roedd wedi’i gynnwys yn ei Lyfrau Achosion chwarterol ar gyfer Gorffennaf a Hydref 2018.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) at gŵyn a wnaed yn erbyn aelod o Gyngor Tref Saltney mewn perthynas â thorri’r Cod Ymddygiad yng nghyswllt eithriad (i bob pwrpas, eithriad yw caniatâd arbennig sydd wedi’i ymgorffori yn y Cod). Roedd y Cynghorydd wedi gofyn am gyngor gan swyddog ac wedi cael cyngor. Fodd bynnag, nid oedd yn amlwg o’r crynodeb p’un a gredai’r Ombwdsmon fod cyngor y swyddog yn gywir ai peidio, oherwydd y data annigonol a gyflwynwyd fel rhan o grynodeb yr Ombwdsmon. Awgrymwyd bod y Pwyllgor Safonau yn cysylltu â’r Ombwdsmon i gael eglurhad ynghylch p’un a oedd y cyngor a roddwyd yn gywir ai peidio.
Cyfeiriwyd at gŵyn a wnaed gan unigolyn yn erbyn Cynghorydd o Gyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â thorri’r Cod Ymddygiad. O’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, nid oedd yn glir p’un a oedd yr achwynydd yn swyddog, yn aelod neu’n drydydd parti.
Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau sylw hefyd at gofnodion cyfarfod Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd yn Hwlffordd ar 5 Medi, 2018, oedd yn nodi bod Cynghorydd a oedd wedi torri’r Cod, ac wedyn wedi ymddeol o’r Cyngor, wedi derbyn cerydd cyhoeddus am ei ymddygiad.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r adroddiad a’r atodiadau. • Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn ysgrifennu at yr Ombwdsmon i geisio:
• eglurhad ynghylch a oedd y cyngor a roddwyd i aelod o Gyngor Tref Saltney yn gywir mewn gwirionedd. • cadarnhadynghylch a oedd yr achwynydd yn achos Cyngor Sir Ceredigion yn swyddog, yn aelod neu’n drydydd parti. • yn amodol ar yr ymateb gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â Chyngor Tref Saltney, bod y Swyddog Monitro yn ceisio cael gwybodaeth bellach os oes angen gan Glerc Cyngor Tref Saltney, ar y sail y byddai’r fath wybodaeth yn cael ei golygu a’i rhannu’n gyfrinachol gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig. • Ar ôl cael digon o wybodaeth, bod y Swyddog Monitro yn trafod canlyniad achos Cyngor Tref Saltney gyda’r Swyddogion Monitro rhanbarthol eraill.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod
|
|
Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru PDF 304 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2018.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod un achos wedi’i adrodd i’r Panel, oedd yn ymwneud â chyn Gynghorydd Sir o Gyngor Sir Fynwy yn torri’r Cod Ymddygiad, am ei fod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth i eraill, ac wedi anfon e-byst at Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy oedd yn cynnwys datganiadau homoffobig. Cafodd yr achos yn erbyn y Cynghorydd ei adrodd yng nghyswllt ei rôl fel Chynghorydd Cymuned, nid fel Cynghorydd Sir.
Roedd yr Ombwdsmon wedi codi’r mater yn y Gynhadledd Pwyllgorau Safonau, lle teimlwyd yn gyffredinol fod penderfyniad y Panel Dyfarnu i wahardd y Cynghorydd am ddau fis, yn rhy drugarog. Roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau hefyd yn teimlo nad oedd y gwaharddiad yn ddigon.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a’r crynodeb o’r achos.
Gweithredu: Dim |
|
Panel Dyfarnu Cymru (PDC) - Canllaw ar Gosbau PDF 713 KB Mae canllaw ar gosbau newydd wedi cael ei gynhyrchu gan Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas ag achosion o dorri’r Côd Ymddygiad Lleol. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y Canllaw Cosbau newydd a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru, ac a ddaw i rym ar 1 Medi 2019.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod copi o’r Canllaw wedi’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor Safonau ar 4 Hydref 2018. Dywedodd efallai na fyddai’r Canllaw ond yn berthnasol i’r Pwyllgor Safonau pan fydd yn ystyried cyfeiriad gan yr Ombwdsmon mewn perthynas ag achos o dorri’r Cod Ymddygiad. Nodwyd fod y Pwyllgor Safonau yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r Canllaw a gyhoeddwyd gan PDC pan fydd yn delio gyda chwynion ac yn pennu cosbau.
Tynnodd yr Is-gadeirydd sylw at y ffaith fod y gair ‘cosbi’ yn cael ei ddefnyddio yn y Canllaw ar Gosbau. Teimlai y dylai’r geiriad gael ei addasu i ddarllen ‘hyrwyddo ymddygiad da’ yn hytrach na chosbi.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn y Canllaw ar Gosbau. • Nad oes gofyn i aelodau cyfredol y Pwyllgor Safonau fynd ar hyfforddiant ar y Canllaw ar Gosbau (er hyn, efallai y daw hyn yn berthnasol petai’r Pwyllgor yn derbyn cyfeiriad gan yr Ombwdsmon); ond, • Dylid darparu hyfforddiant i unrhyw aelodau newydd o’r Pwyllgor Safonau ar ôl mis Ionawr 2019. |
|
Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig PDF 15 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn manylu ar y ceisiadau am Ganiatâd Arbennig a ystyriwyd gan Banel o’r Pwyllgor Safonau ers ei gyfarfod diwethaf. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn rhoi manylion am y ceisiadau am ganiatâd/au arbennig a gafodd eu hystyried gan Banel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau er cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Swyddog Monitro ar y ceisiadau canlynol am ganiatâd/au arbennig:-
• 28 Ionawr, 2019 – rhoddwyd caniatâd arbennig heb gyfyngiadau i Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â diddordebau sy’n rhagfarnu yng nghyd-destun y rhaglen moderneiddio ysgolion yn nalgylch Amlwch a’r prosiect moderneiddio ar gyfer Addysg Ôl-16 yn y Sir. • 7 Mawrth 2019 – rhoddwyd caniatâd arbennig bloc i 8 aelod o Gyngor Cymuned Llaneilian i oresgyn nifer o wahanol ddiddordebau sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn nalgylch Amlwch. • Bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig ar ganiatadau arbennig eraill a nodwyd yn 3.3 (Cyngor Cymuned Llaneilian) a 3.4 (caniatâd arbennig bloc gan 5 aelod o’r Pwyllgor Gwaith) yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi, 2019.
Nodwyd fod gwrandawiad wedi’i drefnu ar gyfer 22 Mawrth 2019 i ystyried cais bloc am ganiatâd arbennig gan 5 Aelod o’r Pwyllgor Gwaith sy’n neiniau/teidiau i bobl ifanc ar Ynys Môn a allai gael eu heffeithio gan unrhyw benderfyniad ar y prosiect moderneiddio ar gyfer Addysg Ôl-16.
PENDERFYNWYD:-
• Bod aelodau’r Pwyllgor Safonau yn nodi’r caniatadau arbennig a roddwyd a’r seiliau a’r amgylchiadau y rhoddwyd hwy ynddynt. • Bod cofnodion drafft y Panel Caniatadau Arbennig a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019, wedi cael eu cadarnhau’n gywir gan aelodau’r Panel yn unig (Michael Wilson, Denise Harris-Edwards a John R Jones). • Bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig ar ganiatadau arbennig eraill a nodwyd yn 3.3 (Cyngor Cymuned Llaneilian) a 3.4 (caniatâd arbennig bloc gan 5 aelod o’r Pwyllgor Gwaith) yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Medi, 2019. • Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i newid i’r Ffurflen Gais/Caniatâd Safonol am Ganiatâd Arbennig i gynnwys cyfeiriad pendant fel rhan o’r gwymplen “caniatâd”, i ganiatáu i Aelod sy’n cael caniatâd arbennig gymryd rhan ym mhob cyfarfod cyhoeddus, cyfarfodydd cyrff allanol a chyfarfodydd anffurfiol ac ati. Cytunwyd i gynnwys y geiriad canlynol ar y ffurflen: “os yn berthnasol, i gynnwys cyfranogiad llawn mewn cyfarfodydd cyhoeddus, cyfarfodydd unrhyw gyrff allanol ac unrhyw gyfarfodydd neu drafodaethau eraill nad ydynt wedi eu nodi’n benodol yn y caniatâd arbennig”. |
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Y Praesept a Hyfforddiant i Glercod PDF 783 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â chynnwys elfen ar gyfer hyfforddiant yn y praesept a godir. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2018, lle trafodwyd y mater o gynnwys swm ar gyfer hyfforddiant (Clercod ac aelodau) yn y swm praesept sy’n cael ei osod gan bob Cyngor Tref a Chymuned.
Adroddodd y Cyfreithiwr yr anfonwyd gohebiaeth ar 6 Tachwedd 2018 at 16 o Gynghorau Tref a Chymuned a oedd eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i e-bost yn gofyn iddynt gynnwys swm ar gyfer hyfforddiant wrth osod y praesept. Derbyniwyd 12 ymateb allan o’r 16 ac mae pob Cyngor Tref a Chymuned sydd wedi ymateb wedi cynnwys elfen o hyfforddiant yn y praesept. Nodwyd na fu unrhyw gyswllt pellach gyda’r 24 o Gynghorau Tref a Chymuned nad oedd wedi ymateb i gais y Pwyllgor Safonau.
Awgrymwyd anfon llythyr gan y Pwyllgor Safonau at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r Pwyllgor Safonau yn amgáu matrics sy’n rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd, ac yn enwi’r Cynghorau sydd heb ymateb, er mwyn amlygu pwysigrwydd yr hyn mae’r Pwyllgor yn ei ofyn.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â’r Cynghorau Tref a Chymuned. • Anfon llythyr gan y Pwyllgor Safonau at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ac aelodau’r Pwyllgor Safonau yn amgáu matrics sy’n rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd, ac yn enwi’r Cynghorau sydd heb ymateb, er mwyn amlygu pwysigrwydd yr hyn mae’r Pwyllgor yn ei ofyn. |
|
Adolygu Cofrestrau Diddordeb y Cynghorau Tref a Chymuned PDF 11 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Tref yn ystod Rhagfyr 2018 ac Ionawr a Chwefror 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) ar adolygiadau a wnaeth y Pwyllgor Safonau mewn pum Cyngor Tref a Chymuned yn ystod mis Rhagfyr 2018, a Ionawr a Chwefror 2019, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.
Yn dilyn yr adolygiad, anfonwyd llythyr personol at Glerc a Chadeirydd pob Cyngor Tref a Chymuned a gymerodd ran, yn rhoi cyngor penodol iddynt.
Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau oedd ar gael mewn perthynas â dosbarthu’r adroddiad cyffredinol a baratowyd ym mis Chwefror 2019 i holl aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned yn rhoi manylion am ganlyniad yr ymarfer.
Cadarnhau y gellir anfon yr adroddiad a baratowyd ym mis Chwefror 2019 at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned, gyda chais eu bod yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref neu Gymuned a bod copi o’r cofnodion yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau.
Bod y Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad diweddaru i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2019, yn rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd.
Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) adolygu’r Nodyn Cyngor Methodoleg a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym mis Medi 2018 a’r Nodyn Cyngor ar Ddiddordebau Personol ac sy’n Rhagfarnu i Gynghorau Tref a Chymuned a ddylai gael ei gylchredeg gyda’r Nodyn Cyngor y cyfeirir ato ym mhwynt bwled 2 uchod.
Atgoffa Cynghorau Tref a Chymuned y bydd gwybodaeth ynglŷn â chynigion y Pwyllgor Safonau uchod yn cael ei chofnodi yn nghofnodion y cyfarfod hwn a’i chyhoeddi ar-lein.
PENDERFYNWYD:
• Nodi cynnwys yr adroddiad. • Cadarnhau y gellir anfon yr adroddiad a baratowyd ym mis Chwefror 2019 at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned, gyda chais eu bod yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref neu Gymuned a bod copi o’r cofnodion yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau. • Bod y Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad diweddaru i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ym mis Medi 2019, yn rhoi manylion yr ymatebion a dderbyniwyd. • Derbyn newidiadau i’r Nodyn Briffio yn yr adroddiad. • Bod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno i’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Gorfforaethol) adolygu’r Nodyn Cyngor Methodoleg a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ym mis Medi 2018 a’r Nodyn Cyngor ar Ddiddordebau Personol ac sy’n Rhagfarnu i Gynghorau Tref a Chymuned a ddylai gael ei gylchredeg gyda’r Nodyn Cyngor y cyfeirir ato ym mhwynt bwled 2 uchod. • Atgoffa Cynghorau Tref a Chymuned y bydd gwybodaeth ynglŷn â chynigion y Pwyllgor Safonau uchod yn cael ei chofnodi yn nghofnodion y cyfarfod hwn a’i chyhoeddi ar-lein. |