Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cais am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 14 MB

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Arweinydd y Cyngor), yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhyddhau caniatadau arbennig mewn perthynas â diddordebau a oedd yn rhagfarnu ynghylch yr isod:-

 

  Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn nalgylch Amlwch;

  Darpariaeth Addysg Ôl-16 yn y Sir. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd mis Mawrth 2019 gyda golwg ar gychwyn y broses o ymgynghoriad statudol cyhoeddus ffurfiol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Amlwch. Mae ysgol gynradd Llanfechell, ble mae nith y Cynghorydd Huws yn ddisgybl, yn un o’r ysgolion a fydd dan ystyriaeth. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch dyfodol ysgol gynradd Llanfechell yn cael effaith ar y plentyn gan olygu bod y diddordeb personol hefyd yn un sy’n rhagfarnu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Côd Ymddygiad i Aelodau ac eglurodd bod perthynas agos y Cynghorydd Huws gyda’r plentyn a chyda mam y plentyn, yn creu diddordeb personol yng nghyd-destun y prosiect ac o dan y Côd. Byddai hynny ynddo’i hun yn golygu bod angen i’r Arweinydd ddatgan ei diddordeb personol. Fodd bynnag, oherwydd y berthynas agos, a’r posibilrwydd y câi’r penderfyniad effaith sylweddol ar y plentyn, mae’r diddordeb hefyd yn un sy’n rhagfarnu, sy’n golygu na fyddai modd i’r ymgeisydd gymryd rhan heb gael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2018.  Mae’r Strategaeth yn nodi cyfeiriad yr Awdurdod mewn perthynas â’r broses o foderneiddio ysgolion dros y degawd nesaf. Mae’r tri band isod wedi cael eu sefydlu ar gyfer Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Cymru:-

 

Band A – prosiectau sydd wedi cael eu cwblhau neu sydd bron â’u cwblhau;

Band B – prosiectau sydd yn mynd rhagddynt neu rai a fydd yn cychwyn yn fuan;

Band C – prosiectau ar gyfer y tymor hwy a fydd yn cael eu cyflawni yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Cymru yn golygu moderneiddio ysgolion drwy sicrhau bod modelau dysgu newydd yn cael eu sefydlu a fydd o fudd i blant y Sir rŵan ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cynllun tymor hir yn un o gonglfeini Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf y mae’r Cyngor yn cyflawni yn ei herbyn. Nodwyd mai’r Cynghorydd Huws yw llefarydd y Cyngor ar y Ddeddf a’i bod yn cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – Ardal Amlwch

 

O ran y broses ymgysylltu i drawsnewid ysgolion Ynys Môn, cynhaliwyd trafodaethau anffurfiol yn ddiweddar gydag aelodau’r cyhoedd, rhieni, athrawon ac ati i asesu teimladau’r cyhoedd o fewn y cymunedau yn ardal Amlwch; sy’n cynnwys Ysgol Llanfechell. Nodwyd y bydd y cam nesaf o’r broses yn cynnwys cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w ystyried, ac yna i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo gyda chyfnod ymgynghori statudol ffurfiol o 6 wythnos wedyn i ystyried yr opsiynau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.