Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 275 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:-

 

  6 Chwefror 2019

  17 Medi 2019 yn cynnwys materion sy’n codi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

  17 Medi 2019

  6 Chwefror 2020

 

Adroddodd y Cadeirydd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 yn cael eu cyflwyno heddiw oherwydd nad oedd cworwm yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf. Gan fod aelodau’r Pwyllgor yr oedd angen iddynt gadarnhau’r cofnodion yn absennol heddiw, cyflwynir y cofnodion i’w cadarnhau yn awr yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.

 

Cadarnhawyd fel rhai cywir cofnodion cyfarfod Arbennig y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020.

 

Gofynnwyd pam fod presenoldeb aelodau’r Pwyllgor ar wefan y Cyngor yn cael ei gofnodi felmynychwydyn hytrach napresennol’, a gofynnwyd a fyddai modd newid hyn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Swyddog Monitro yn trafod â’r adran TGCh a oes modd newid y term a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd ipresennol’.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod.

3.

Materion sy’n ymwneud ag Aelodau pdf eicon PDF 402 KB

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn darparu diweddariad ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar amryw o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y gofynnwyd i Aelodau gwblhau adroddiadau blynyddol ar gyfer y cyfnod 2018/19. Hyd yma, mae 28 o Aelodau wedi cyhoeddi eu hadroddiadau a gellir eu gweld ar y we.

 

Nodwyd fod Arweinyddion Grwpiau wedi cael eu diweddaru ar drefniadau ar gyfer adroddiadau blynyddol 2019/20, a bydd Aelodau’n derbyn y pecyn hwn ym mis Mawrth i’w gwblhau erbyn diwedd Ebrill, gyda’r adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin. Awgrymwyd fod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn mynychu cyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau yn y dyfodol i drafod materion perthnasol, gan gynnwys adroddiadau blynyddol.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar lwfansau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 i Aelodau ac aelodau lleyg. Nodwyd y bu cynnydd bychan yn y taliadau sylfaenol i Aelodau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod darpariaeth yn y fframwaith i ad-dalu costau gofal plant a chostau gofal i’r henoed. Ychydig o Aelodau sy’n defnyddio’r ddarpariaeth, ac anogir Aelodau i fanteisio ar y gefnogaeth ariannol. Cyflwynir adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd maes o law, ac yna i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y Bil Drafft Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Tynnodd sylw at gyhoeddi cyfeiriadau Aelodau ar wefannau Cynghorau, a chyfeiriodd at bryderon am y mater hwn a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Rhagfyr 2019, ac yn genedlaethol. Dywedodd fod 21 Aelod o Gyngor Sir Ynys Môn wedi gofyn i’w cyfeiriadau beidio â chael eu rhannu’n gyhoeddus. Daethpwyd i’r casgliad y byddai’r Cyngor yn cyhoeddi enwau’r Aelodau hynny yn unig yn y dyfodol, ac yn defnyddio cyfeiriad y Cyngor fel pwynt cyswllt.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a fyddai’r un rheol yn berthnasol yn ystod cyfnod etholiadau mewn perthynas â chyfeiriadau ymgeiswyr. Nodwyd y gellid defnyddio cyfeiriad neu e-bost y Cyngor fel pwynt cyswllt i bwrpasau etholiad. Bydd papurau enwebu yn parhau i ddangos cyfeiriadau oni bai y derbynnir ceisiadau i wneud newidiadau i’r system bresennol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn mynychu cyfarfodydd

   Arweinyddion Grwpiau maes o law i drafod materion perthnasol, gan

   gynnwys Adroddiadau Blynyddol Aelodau.

 

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

4.

Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar Hyfforddiant Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan y Swyddog Datblygu AD dan Hyfforddiant a’r Rheolwr Datblygu AD ar gyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau ers yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 17 Medi 2019.

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu AD dan Hyfforddiant fod y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau yn nodi’r sesiynau hyfforddi sydd ar gael i Aelodau ar hyn o bryd. Mae’r tîm AD yn gweithio’n agos â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ac uwch reolwyr i nodi hyfforddiant addas i Aelodau. Mae adborth gan Aelodau ar gyrsiau y maent wedi’u mynychu yn cael ei werthuso i ganfod a lwyddodd yr hyfforddiant i ddiwallu anghenion y gynulleidfa, ac i nodi unrhyw anghenion hyfforddiant ychwanegol ar gyfer unigolion. Nodwyd fod y Cynllun Datblygu (sy’n esblygu ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd) yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bob chwarter, er gwybodaeth.

 

Anogir Aelodau i ddefnyddio pecynnau E-ddysgu ac mae cefnogaeth ddigidol ar gael i Aelodau ar faterion TGCh. Mae canllawiau ar gael e.e. ar ddefnyddio iPads, mynediad i’r llwyfan E-ddysgu, ac mae’r tîm TGCh yn cynnal sesiynau ‘galw i mewn’ rheolaidd ar gyfer Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y gofynnir i Aelodau gwblhau ffurflenni arfarnu cyrsiau ar ôl iddynt dderbyn hyfforddiant. Dywedodd fod y ffurflenni’n cael eu dadansoddi er mwyn penderfynu ar anghenion hyfforddi pellach Aelodau unigol. Nodwyd fod staff AD yn asesu anghenion hyfforddi Aelodau drwy’r adborth a dderbynnir yn eu Cynlluniau Datblygu Personol.

 

Mynegwyd pryder nad oes cyfleusterau i aelodau lleyg gofnodi eu presenoldeb mewn cyfarfodydd ar-lein. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau wedi edrych ar yr opsiynau sydd ar gael gyda’r adran TGCh a’r Swyddog Adran 151 yn barod a daethpwyd i’r casgliad na fyddai’n gost effeithiol i’r Cyngor fabwysiadu’r cyfleusterau hyn. Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y byddai’n edrych ar y mater o gofnodi presenoldeb ar gyrsiau hyfforddiant yn ganolog ar y system AD ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law.

 

Roedd Mrs Sharon Warnes, aelod o’r Pwyllgor Safonau, wedi gofyn am gael cynnwys ‘Asesiad Risg’ yn y Rhaglen Datblygu Aelodau. Nid oedd y Pwyllgor Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am eglurhad ar y mater gan dîm Archwilio’r Cyngor.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un ai yw ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir yn fewnol yn cael ei arfarnu’n allanol. Nodwyd fod Adnoddau Dynol yn defnyddio ffurflenni arfarnu i gael adborth gan Aelodau ac aelodau cyfetholedig sy’n mynychu hyfforddiant. Yn ogystal, yn aml bydd aelodau o staff AD yn bresennol yn y sesiynau hyfforddi. Nodwyd hefyd y bydd swyddogion AD yn cysylltu ag awdurdodau eraill i drafod darparwyr hyfforddiant cyn cyflogi darparwyr allanol. Mae cyswllt â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd, er mwyn derbyn cyngor ac arweiniad ar ddarpariaeth hyfforddiant. Lle bynnag y bo’n bosib, ystyrir yr opsiwn o ddefnyddio swyddogion i ddarparu hyfforddiant.

 

Er yr anogir Aelodau i fynychu sesiynau hyfforddiant, atgoffodd y Cynghorydd J Arwel Roberts mai dim ond rhai cyrsiau sy’n orfodol. Os yw Aelodau’n gweithio’n llawn amser, dywedodd eu bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Hyfforddiant ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 214 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y gofynion hyfforddiant ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y gofynion hyfforddi ar gyfer Aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig y Pwyllgor Safonau.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro grynodeb manwl o bob pennawd yn y cynllun hyfforddi arfaethedig, a nodwyd fel rhai hanfodol neu fuddiol i aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Cyflwynwyd yr opsiynau hyfforddi i’r Pwyllgor Safonau roi sylwadau arnynt, a fydd yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Safonau i gynnwys y penawdau canlynol yn y cynllun hyfforddi:-

 

·      Côd Ymddygiad

·      Caniatâd Arbennig

·      Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru / Panel Dyfarnu Cymru – adolygu achosion

·      Cyfansoddiad CSYM

·      Cyfryngu yng nghyd-destun y Protocol Datrysiad Lleol

·      Gwrandawiadau’r Pwyllgor Safonau (i’w trefnu yn ôl yr angen)

·      Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

·      Diogelwch Seibr

·      GDPR

·      Iechyd a Diogelwch

·      Cadeirio Pwyllgorau

·      Diogelu (Sylfaenol)

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod sesiynau Cadeirio ar y cyd yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd ar draws Gogledd Cymru. Awgrymwyd a chytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn cysylltu â Swyddogion Monitro eraill yng Nghonwy a Gwynedd i holi a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn cynnal sesiwn Gadeirio ar y cyd rhwng y tri awdurdod lleol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno fod hyfforddiant ar y pynciau uchod yn briodol ac yn ddigonol ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Safonau.

·      Bod y Swyddog Monitro’n cysylltu â Swyddogion Monitro eraill yng Nghonwy a Gwynedd gyda golwg ar gynnal sesiwn Gadeirio ar y cyd rhwng y tri awdurdod lleol.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

6.

Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 263 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â:-

 

(a)  Cynghorwyr Sir, a

(b)  Cynghorwyr Tref a Chymuned

ar gyfer Chwarteri 2 a 3 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol ar gwynion ar ffurf tablau ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro y gwnaed un gŵyn yn erbyn Cynghorydd Sir gan aelod o’r cyhoedd rhwng mis Gorffennaf a Medi 2019 (Chwarter 2), a phenderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio iddi. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Tref/Cymuned yn ystod yr un cyfnod.

 

Ni wnaed cwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir yn ystod y cyfnod Hydref i Ragfyr 2019 (Chwarter 3). Gwnaed 2 gŵyn yn erbyn Cynghorwyr Tref/Cymuned gan aelodau o’r cyhoedd yn ystod yr un cyfnod, a phenderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio iddynt. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion pellach ers mis Rhagfyr 2019. Nodwyd, er gwybodaeth, bod yr Ombwdsmon yn hysbysu’r Aelodau etholedig a’r Pwyllgor Safonau pan wneir cwyn yn eu herbyn.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar gwynion a ddatryswyd yn fewnol gan y Cyngor Sir a gofynnodd y Pwyllgor Safonau am enghreifftiau fel astudiaethau achos. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n fwy na bodlon i rannu copïau wedi eu golygu o achosion unigol gyda’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad ac Atodiadau 1 – 4.

  Bod y Swyddog Monitro yn rhannu Atodiadau 1 – 4 gydag Aelodau ac

   aelodau cyfetholedig y Cyngor a Chlercod Cynghorau Tref/Cymuned.

  Bod y Swyddog Monitro yn rhannu fersiynau wedi eu golygu o

   gwynion a dderbyniwyd yn erbyn Aelodau o’r Cyngor a Chynghorau

   Tref/Cymuned gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

7.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 489 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr Cod Ymddygiad OGCC ar gyfer Ebrill – Mehefin 2019 (Rhifyn 21 – cyhoeddwyd Medi 2019), a Gorffennaf – Medi 2019 (Rhifyn 22 – cyhoeddwyd Hydref 2019). 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o gwynion Côd Ymddygiad ar gyfer Medi a Hydref 2019.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro grynodeb o wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon, a dywedodd y byddai’n paratoi cylchlythyr i aelodau a Chlercod Cynghorau Tref/Cymuned yn tynnu sylw at bwyntiau allweddol o’r adroddiad.

 

Nodwyd fod y Pwyllgor Safonau yn gofyn bob blwyddyn i Gynghorau Tref/Cymuned ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer eu haelodau etholedig a Chlercod. Mae rhai Cynghorau Tref/Cymuned wedi cwyno nad ydynt yn gallu fforddio hyfforddiant, er bod arian ar gael drwy eu praesept. Nodwyd fod Un Llais Cymru’n cynnig hyfforddiant i aelodau Cynghorau Tref/Cymuned a bod dolenni i gyrsiau hyfforddiant ar gael ar eu gwefan.

 

Dywedodd y Cadeirydd y bydd yn orfodol i Gynghorau Tref a Chymuned sefydlu rhaglen hyfforddi dan y Bil newydd, ac y bydd rôl i’r Pwyllgor Safonau adolygu hyfforddiant a sicrhau fod y gofynion yn cael eu diwallu. Codwyd pryderon nad oes gan rhai Cynghorau Tref/Cymuned wefan lle gallant gyhoeddi eu rhaglenni a’u cofnodion, sy’n ofyniad statudol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

  Bod y Swyddog Monitro yn anfon cylchlythyr ar ran y Pwyllgor

   Safonau at Aelodau a Chlercod Cynghorau Tref/Cymuned yn tynnu

   sylw at bwyntiau allweddol a godwyd yn y cyfarfod heddiw.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn atgoffa

   Cynghorau Tref/Cymuned fod Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd

   hyfforddi, gan gynnwys gwefan gyda dolenni a all fod yn ddefnyddiol i

   aelodau a Chlercod.

  Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei ddwyn i sylw Aelodau etholedig

   ac aelodau cyfetholedig y Cyngor hwn.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

8.

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 341 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf Panel Dyfarnu Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â dau benderfyniad diweddar a ystyriwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor ar 17 Medi 2019.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod yr achos cyntaf yn ymwneud â Chynghorydd o Gyngor Sir Powys a oedd wedi torri’r Côd Ymddygiad. Ystyriwyd fod yr honiad yn rhy ddifrifol i beidio â chymryd camau, ac roedd y Tribiwnlys yn ystyried mai gwaharddiad am gyfnod o bedwar mis oedd y gost fwyaf priodol.

 

Gan fod yr Ombwdsmon wedi cyfeirio’r achos hwn at y Panel Dyfarnu yn hytrach na’i gyfeirio’n ôl at y Pwyllgor Safonau, mae’n debygol y byddai’r Ombwdsmon yn siomedig â’r canlyniad hwn, ac y byddai wedi disgwyl i’r aelod gael ei wahardd am o leiaf chwe mis.

 

Mae’r ail achos yn cyfeirio at Gynghorydd o Gyngor Sir Fflint a oedd wedi torri’r Côd Ymddygiad dan dri phennawd. Roedd y Tribiwnlys yn ystyried fod dau o’r honiadau yn rhai difrifol ac yn ystyried mai gwaharddiad am gyfnod o dri mis oedd y gosb fwyaf priodol. Dywedodd y Cyfreithiwr fod yr achwynydd wedi newid ei datganiad yn ystod y Tribiwnlys. Gan fod y Cynghorydd wedi cydnabod ei fethiant i lynu at y Côd, a’i fod wedi mynegi edifeirwch dwys am ei gamymddygiad, roedd y Tribiwnlys o’r farn fod y gost yn briodol. Pe na bai tystiolaeth yr achwynydd wedi newid gallai’r cynghorydd fod wedi cael ei wahardd am gyfnod hirach.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y crynodebau achosion. 

  Bod cynnwys y crynodebau achosion yn cael eu dwyn i sylw Aelodau

   etholedig ac aelodau cyfetholedig y Cyngor hwn ac aelodau

   Cynghorau Tref/Cymuned.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

9.

Cyfarwyddyd Ymarfer Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 633 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Gyfarwyddyd Ymarfer PDC dyddiedig 1 Ionawr, 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Gyfarwyddyd Ymarfer Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â’r prosesau sy’n llywodraethu gweithdrefnau Panel Dyfarnu Cymru.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Panel Dyfarnu Cymru wedi anfon canllawiau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Dywedodd y bydd y Panel yn cyflymu’r amserlen ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i bersonau a gyhuddir ymateb i hysbysiad y Panel o achos yn eu herbyn. Nodwyd fod rhaid i’r person a gyhuddir ymateb i’r achos hwnnw ymhen 21 diwrnod, ac na chaniateir ymestyn y cyfnod hwnnw yn arferol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y Cyfarwyddyd Ymarfer.

  Bod cynnwys y Cyfarwyddyd Ymarfer yn Atodiad 1 yn cael ei ddwyn i

   sylw Aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig y Cyngor hwn ac

   aelodau Cynghorau Tref/Cymuned.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

10.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig

Mae’n arferol i’r Swyddog Monitro baratoi adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Safonau. Yn ystod y cyfnod rhwng y Pwyllgor Safonau ar 17 Medi, 2019 a dyddiad cyhoeddi’r agenda hwn, does dim ceisiadau am ganiatâd arbennig wedi eu derbyn. Ar y sail hwn, does dim adroddiad wedi’i atodi. 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ceisiadau am ganiatâd arbennig yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 17 Medi 2019, a dyddiad cyhoeddi’r agenda hwn.

11.

Protocol Datrysiad Lleol pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Brotocol Datrysiad Lleol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Brotocol Datrysiad Lleol Cyngor Sir Ynys Môn a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2018.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mai amcan yr Ombwdsmon yw annog awdurdodau lleol i ddelio â chwynion lefel isel am gwynion eu hunain, a lleihau nifer y cwynion a gyfeirir at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Diweddarwyd y Protocol Datrysiad Lleol drafft yn Atodiad 2 yr adroddiad i adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol o ran sut y gweithredwyd Datrysiad Lleol yn ddiweddar ac ehangu ystod y sefyllfaoedd sy’n berthnasol dan y Protocol. Nodwyd y cyflwynwyd achosion i’r Pwyllgor Safonau yn y gorffennol sydd â seiliau ehangach na’r ddwy sail a nodir yn y Protocol presennol.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y gall y Cadeirydd ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth adolygu cwyn a hysbysu’r parti/partïon dan sylw o’r broses, os yw’n credu fod yr achos yn rhy ddifrifol i ddelio ag ef dan y Protocol. Mae’r Pwyllgor Safonau wedi ceisio symud oddi wrthgwynion’ a ‘phryderoner mwyn dangos proses gyfryngu rhwng y partïon, gyda chymorth Aelod o’r Pwyllgor Safonau.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro y bydd holl Aelodau’r Pwyllgor Safonau’n derbyn hyfforddiant cyfryngu o fewn cyd-destun Protocol Datrysiad Lleol y Cyngor hwn ym mis Mai/Mehefin 2020, yn ddibynnol ar argaeledd.

 

Trafododd y Pwyllgor Safonau gynnwys y Protocol drafft gan gyflwyno eu sylwadau a oedd yn cynnwys y pwyntiau gweithredu a ganlyn:-

 

  Ynglŷn â Pharagraff 11.8, gofynnwyd a yw 14 diwrnod yn amser digonol i hysbysu’r Cadeirydd/Is-gadeirydd ac i ymchwilio’r gŵyn. Cytunodd y Pwyllgor Safonau y byddai gan y Cadeirydd ddisgresiwn i benderfynu p’un ai i ystyried pryder a godir tu allan i’r cyfyngiad amser hwn.

  Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor Safonau at y defnydd o ‘hi/o’ ym Mharagraffau 12 a 13 y Protocol yn hytrach nanhw’. Gofynnodd yr aelod inhwgael ei ddefnyddio i gyfeirio at bersonau yn y dyfodol er mwyn bod yn niwtral o ran y rhywiau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn y Protocol Datrysiad Lleol (yn unol ag Atodiad 2) a chynnwys y

   newidiadau uchod yn y Protocol.

  Nodi y bydd y Pwyllgor Safonau yn derbyn hyfforddiant cyfryngu yng

   nghyd-destun y Protocol Datrysiad Lleol ym mis Mai/Mehefin 2020, yn

   amodol ar argaeledd.

  Derbyn bod yr amser a ganiateir i gyflwyno cwyn yn cynnwys cyfeiriad

   at ddisgresiwn y Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd.

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cyflwyno’r Protocol Datrysiad

   Lleol i Arweinyddion Grwpiau a’r Cyngor Sir maes o law.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

12.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf eicon PDF 261 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar gynigion y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, ynghylch sut mae Awdurdodau Lleol yn gweithredu ac etholiadau’n cael eu gweinyddu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar brif bwyntiau’r Bil gan roi crynodeb o’r tri maes diddordeb sy’n rhan o gyfrifoldebau’r Pwyllgor Safonau:-

 

2.1.1 - Mae dyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan eu Haelodau. Bydd y Pwyllgor Safonau’n gyfrifol am sicrhau fod Arweinyddion Grwpiau’n cael mynediad at gyngor a hyfforddiant i gefnogi’r dyletswyddau hyn, a monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau dan y ddarpariaeth hon, fel y gwnaed yn y gorffennol.

 

2.1.2 – Mae Cadeirydd y Pwyllgor Safonau eisoes yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor ym mis Mai bob blwyddyn; mae angen sicrhau fod adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys y materion a restrir yn y ddeddfwriaeth newydd hefyd. Bydd angen ystyried cyfrifoldebau Cyfansoddiadol y Pwyllgor Safonau o ganlyniad i’r datblygiad hwn.

 

Nodwyd y cafwyd adborth gan awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru mewn perthynas â chynnwys eu Rhaglen Waith ar gyfer yr adroddiadau blynyddol, a chysylltwyd â’r Ombwdsmon i dderbyn ei sylwadau. Roedd ei ymateb yn gadarnhaol a chafwyd y dyfyniad a ganlyn gan ei swyddfa:-

 

Byddai’r unig awgrym y byddem yn ei wneud yn ymwneud â’r Cynghorau Tref/Cymuned yn eich ardal. Mae’r Ombwdsmon yn ystyried y byddai’n arbennig o ddefnyddiol petai’r Pwyllgor Safonau yn ffafrio cynnwys tasgau ychwanegol a allai gynorthwyo i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel yn y Cynghorau hyn. Efallai y byddech yn dymuno ystyried cynnwys cam penodol i hyrwyddo’r hyfforddiant Côd Ymddygiad ymysg aelodau’r Cynghorau hyn. Yn yr un modd, rydym yn ymwybodol o Bwyllgor Safonau lle mae eu haelodau’n mynychu cyfarfodydd y Cynghorau Tref/Cymuned yn eu hardal o bryd i’w gilydd i arsylwi safonau ymddygiad yr aelodau. Yn yr un modd, rydym yn ymwybodol o un arall sy’n ymgysylltu â Chadeiryddion Cynghorau o’r fath o dro i dro i drafod y Côd a safonau ymddygiad yn gyffredinol.”

 

2.1.3 – Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Cymuned ddatblygu cynlluniau hyfforddi. Bydd angen i’r Pwyllgor Safonau ystyried y mater hwn (fel y gwnaeth yn flaenorol) wrth gynnal adolygiadau o Gynghorau Tref/Cymuned.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad yn Atodiad A.

 

Gweithredu:  Dim

13.

Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd

O dan Adran 100 (A) (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae'r wasg a'r cyhoedd i gael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth ar yr eitem hon ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Mae gwybodaeth gyfrinachol yn golygu gwybodaeth a roddir i'r Cyngor gan Adran y Llywodraeth ar delerau sy'n gwahardd ei datgelu cyhoeddus neu wybodaeth na ellir ei datgelu'n gyhoeddus trwy Orchymyn Llys. Nid yw'r gwaharddiad yn destun Prawf Budd y Cyhoedd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

O dan Adran 100 (A) (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae'r wasg a'r cyhoedd i gael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth ar yr eitem hon ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Mae gwybodaeth gyfrinachol yn golygu gwybodaeth a roddir i'r Cyngor gan Adran y Llywodraeth ar delerau sy'n gwahardd ei datgelu cyhoeddus neu wybodaeth na ellir ei datgelu'n gyhoeddus trwy Orchymyn Llys. Nid yw'r gwaharddiad yn destun Prawf Budd y Cyhoedd.

14.

I ystyried yr ymateb a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn llythyr dyddiedig 3 Hydref, 2019

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan OGCC.

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ohebiaeth a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi gofyn am wybodaeth bellach mewn perthynas ag adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2019 yng Nghoflyfrau Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar y pryd at yr Ombwdsmon ar 27 Medi 2019, a derbyniwyd yr ymateb ar 3 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1 a 2.

  Nodi a derbyn casgliadau’r Ombwdsmon ynglŷn â’r achos.

 

Gweithredu:  Dim

15.

Eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 134 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

O dan Adran 100 (A) (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae'r wasg a'r cyhoedd i gael eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth ar yr eitem hon ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Mae gwybodaeth gyfrinachol yn golygu gwybodaeth a roddir i'r Cyngor gan Adran y Llywodraeth ar delerau sy'n gwahardd ei datgelu cyhoeddus neu wybodaeth na ellir ei datgelu'n gyhoeddus trwy Orchymyn Llys. Nid yw'r gwaharddiad yn destun Prawf Budd y Cyhoedd.

16.

Adolygiadau a gynhaliwyd yn dilyn derbyn Adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC)

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar adolygiadau yn dilyn derbyn adroddiadau gan y Swyddfa Archwilio Cymru (SAC). 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiadau a gynhaliwyd mewn Cynghorau Cymuned yn dilyn cyhoeddi adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) er bod y mwyafrif o gynnwys adroddiadau SAC tu allan i gyfrifoldebau’r Pwyllgor Safonau, gallai rhai materion llywodraethiant arwain at dorri’r Côd Ymddygiad i Aelodau, sydd wrth gwrs yn un o gyfrifoldebau’r Pwyllgor Safonau.

 

Nodwyd yr anfonwyd llythyrau cychwynnol at glercod pob cyngor cymuned ym mis Mai 2019 yn cynnig adolygiadau ar yr un telerau ag y bydd y Pwyllgor Safonau yn arfer cynnal ei adolygiadau o’r Gofrestr o Ddiddordebau. Cynhaliodd y Pwyllgor Safonau adolygiadau ym mis Gorffennaf a Hydref 2019 ac anfonwyd llythyrau personol at bob cyngor cymuned a adolygwyd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

  Nodi’r camau a gymerwyd gan y Pwyllgor Safonau yn dilyn cyhoeddi

   adroddiadau diddordeb cyhoeddus SAC.

  Bod y Swyddog Monitro yn rhoi adborth i SAC ar ganfyddiadau’r

   Pwyllgor Safonau.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod.