Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag

unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cais am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 3 MB

Ystyried cais am ganaitâd arbennig.

Cofnodion:

Cafwyd cais gan y Cynghorydd Carwyn Jones yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig iddo mewn perthynas â diddordebau a oedd yn rhagfarnu o ran y ddarpariaeth o addysg ôl-16 yn Ynys Môn. 

 

Mae diddordebau’r ymgeisydd yn ymwneud â’i blant a all gael eu heffeithio gan benderfyniad ar addysg ôl-16 yn Ynys Môn a’i waith fel Darlithydd yng Ngrŵp Llandrillo/Menai, Bangor, sy’n ddarparwr addysg ôl-16.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jones i’r cyfarfod a rhoes gyfle iddo gyflwyno ei gais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod ganddo 3 o blant a bod un ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Dywedodd ei bod yn debygol y bydd ei ddau blentyn arall yn mynychu’r ysgol uwchradd hon yn y man. Nodwyd y gallai canlyniad unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch dyfodol addysgol ôl-16 yn Ynys Môn effeithio plant y Cynghorydd Jones a’i gyflogwyr, ond nid ei waith. Nid yw’n dysgu Lefel ‘A’, yn hytrach, mae’n dysgu busnes ar gwrs galwedigaethol. Nid oes unrhyw sail dros gredu y byddai hynny’n newid.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod hefyd yn Llywodraethwyr yn Ysgol David Hughes.  Nodwyd ei fod wedi cael ei benodi yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod Etholedig o’r Cyngor Sir yn unol â Pharagraff 10(2)(a)(viii) y Côd Ymddygiad. Nodwyd ymhellach fod eithriad awtomatig yn bodoli ym Mharagraff 12(2)(a)(iii) o’r Côd ac o’r herwydd, nid oes gan y Cynghorydd Jones ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn sgil y swyddogaeth hon. Yn ogystal, mae wedi ei leoli ym Mangor, felly byddai unrhyw effaith ar ei gyflogaeth yn Llangefni gyda’r posibilrwydd y byddai myfyrwyr Lefel ‘A’ yn trosglwyddo.

 

Cynigiodd y Swyddog Monitro y dylid ystyried y cais yn bennaf yng nghyd-destun sail (b) – y bydd o leiaf hanner Aelodau’r Pwyllgor gwaith yn ystyried y busnes neu â diddordeb yn y busnes hwnnw. Dygodd y Swyddog Monitro Sylw at y ffaith bod 6 o 9 Aelod y Pwyllgor Gwaith wedi cael caniatâd arbennig ac nad oes gan 2 ddiddordebau i’w datgan.  Dywedodd y bydd Paragraffau (d) neu (e) hefyd yn berthnasol.

 

Cafodd Aelodau’r Panel drafodaeth mewn sesiwn breifat. Yn dilyn y drafodaeth honno, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig rhannol i’r Cynghorydd Jones mewn perthynas â’r diddordebau hynny y cyfeirir atynt yn y cais sy’n caniatáu i’r Cynghorydd:-

 

  ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Pwyllgor/Cyngor Cymuned] mewn perthynas â’r mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor am y mater ar yr amod y gwneir nodyn o unrhyw drafodaethau o’r fath;

  siarad mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith/Pwyllgorau/Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater;

  pleidleisio mewn cyfarfodydd o’r fath;

  arall: cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd allanol a chyfarfodydd o unrhyw gyrff allanol yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod etholedig.

 

Rhoddir y caniatâd arbennig ar sail y ffaith bod gan o leiaf hanner Aelodau’r Pwyllgor Gwaith (h.y. yr Arweinydd a’r Pwyllgor Gwaith) a fydd yn ystyried y mater, ddiddordeb yn y busnes hwnnw ac na  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.