Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

To receive any declaration of interest from a Member or Officer regarding any item of business.

Cofnodion:

Gwnaeth y Swyddog Pwyllgor ddatganiad o ddiddordeb personol yn y cyfarfod gan fod ei gŵr yn berthyn pell i’r ymgeisydd.

2.

Cais am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 5 MB

Ystyried cais am ganaitâd arbennig.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod cais am ganiatâd arbennig wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Derek Owen, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig mewn perthynas â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn nalgylch Amlwch. Mae’r Cynghorydd Owen yn dymuno cymryd rhan yn y trafodaethau yn ystod y broses. 

 

Mae’r Cynghorydd Owen yn ystyried fod ganddo ddiddordeb bersonol gan ei fod yn daid i blant sy’n mynychu Ysgol Penysarn, sef un o’r ysgolion sydd dan ystyriaeth fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer ardal Amlwch. Ysgol Cemaes yw’r ysgol leol ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbadrig ac mae’r ysgol hon hefyd dan ystyriaeth fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer ardal Amlwch. Mae diddordeb rhagfarnus y Cynghorydd Owen yn codi o’r ffaith bod Ysgol Penysarn ac Ysgol Cemaes yn rhan o’r un gyfres o ysgolion y bydd eu dyfodol yn cael ei adolygu.

  

Roedd y Panel Caniatâd Arbennig, drwy’r Cadeirydd wedi cytuno i ystyried y cais ar sail ymarfer papur yn unig. Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.  

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) at y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbadrig a thynnodd sylw at y sail perthnasol dros ddiddordeb personol y Cynghorydd Owen, sef Paragraff 10(2)(c)(i) ac mae’r cwestiwn a yw’r diddordeb yn rhagfarnus yn cael ei ystyried o dan Baragraff 12(1). 

 

Eglurodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i’r Panel, petai’n cytuno bod gan y Cynghorydd Owen ddiddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu, y byddai wedyn angen i’r Panel benderfynu a fyddai’n rhoi caniatâd arbennig, ac os felly, ar ba sail ac a fyddai’n ganiatâd arbennig llawn neu rhannol. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, wrth benderfynu ar ddiddordeb sy’n rhagfarnu, nad dim ond rôl y sawl sy’n gwneud y penderfyniad sy’n rhaid ei ystyried, ond dylanwadu ar benderfyniad pwysig, sy’n creu diddordeb rhagfarnus. Nododd fod y posibilrwydd o gau ysgol neu ysgolion yn fater sylweddol ar gyfer yr ardal a’r rhai a effeithir arnynt.  

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio ysgolion, y gallai Cadeiryddion Cyrff Llywodraethwyr fynychu cyfarfodydd o Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor Sir er mwyn cyflwyno eu safbwyntiau. Yna, bydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cyflwyno ei safbwyntiau i’r Pwyllgor Gwaith, a fydd yn gwneud y penderfyniadau.

 

Trafododd y Panel yr amgylchiadau unigol mewn perthynas â’r cais ac fe gytunwyd fod diddordeb y Cynghorydd Owen yn bersonol ac yn rhagfarnu. Gan fod y Pwyllgor Safonau wedi rhoi caniatâd arbennig o dan amgylchiadau tebyg yn y gorffennol (h.y. Nain neu taid plant sy’n mynychu Ysgolion a effeithir gan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion) ystyriwyd fod gan yr ymgeisydd ddiddordeb personol a diddordeb rhagfarnus yn y cyswllt hwn hefyd.

 

Cynhaliodd Aelodau’r Panel drafodaeth breifat. Yn dilyn trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig llawn i’r Cynghorydd Derek Owen o Gyngor Cymuned Llanbadrig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.