Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 6 MB

Ystyried ceisiadau am Ganiatâd Arbennig.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod 29 aelod y Cyngor Sir wedi gwneud cais ar y cyd am ganiatâd arbennig mewn perthynas â’r hyn a ystyriant yn ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Chyfansoddiad y Cyngor Sir yn nodi os yw aelod yn methu â mynychu cyfarfod perthnasol o’r Cyngor am gyfnod di-dor o 6 mis, yna mae’r “rheol 6 mis” yn weithredol; h.y. mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod etholedig a bydd isetholiad yn cael ei sbarduno. Nodwyd y gellir osgoi anghymhwyso aelod os yw’n gofyn i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r absenoldeb cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) nad yw’r Cyngor wedi gallu cynnal “busnes fel arfer” oherwydd y pandemig Coronafeirws (Covid-19). Cyfeiriodd at Ddeddf Coronafeirws 2020 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cymru) 2020, sy’n lleihau’r rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol ac yn caniatáu i aelodau fynychu cyfarfodydd o bell. Nodwyd bod y Cyngor wedi adolygu ei amserlen Bwyllgorau a bod llai o gyfarfodydd ffurfiol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd nac yn y cyfnod cyn y Coronafeirws ac felly mae llai o gyfleoedd i aelodau fedru cydymffurfio â gofynion y “rheol 6 mis”.

 

Nodwyd y cyflwynir adroddiad i gyfarfod llawn y Cyngor ar 8 Medi 2020, yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo fod y pandemig Coronafeirws yn rheswm i holl gynghorwyr CSYM beidio â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd, a bod pob aelod yn cael eu gwarchod yn yr ystyr na fydd eu diffyg presenoldeb, oherwydd yr achosion o Coronafeirws, yn arwain at eu hanghymhwyso’n awtomatig am gyfnod pellach o chwe mis o’r dyddiad y daw cyfnod chwe mis gwreiddiol pob aelod unigol i ben.

 

Cyfeiriwyd at Reoliad 10 Deddf Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 sy’n nodi, at ddibenion cyfrifo’r chwe mis, y dylid diystyru’r cyfnod rhwng y diwrnod y daeth y Rheoliadau i rym (22 Ebrill 2020), a dyddiad cyfarfod y gwahoddir yr aelod i fod yn bresennol ynddo yn ei rôl fel aelod etholedig. Nodwyd bod y cloc yn stopio am y tro am y cyfnod rhwng 22 Ebrill a’r cyfarfod cyntaf y gwahoddir aelod i fod yn bresennol ynddo; fodd bynnag, nid yw’n cychwyn o’r newydd.

 

  Cyflwynodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y Canllawiau

  (Atodiad 4) i sylw’r Panel.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) gyfarwyddyd i’r Panel ynghylch diddordebau personol a diddordebau sy’n rhagfarnu, fel y cyfeirir atynt yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau (Atodiad 1). Dim ond os ystyriant fod aelodau â diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn unol â’r ystyr yn y Côd y dylent wedyn ystyried rhoi caniatâd arbennig.

 

Pe byddai angen caniatâd arbennig (oherwydd i’r Panel ddod i’r canlyniad fod gan yr aelodau ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu), cynghorodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y Panel i gyfeirio at y seiliau statudol ar gyfer rhoi caniatâd arbennig (y seiliau a gynhwysir yn Atodiad 2, ac mae’r aelodau etholedig wedi nodi’r seiliau perthnasol yn eu cais yn Atodiad 3). Os yw sail yn berthnasol, gall  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

Ar ran y Panel, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol, staff y Cyngor ac aelodau am eu diwydrwydd wrth addasu i newid yn ystod y cyfnod heriol hwn. Diolchodd i’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor am y modd y bu iddynt gynnal eu busnes yn ystod y misoedd diwethaf.