Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod, Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 15fed Rhagfyr, 2020 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar:-

 

   17 Medi 2019

   11 Mawrth 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir, yn amodol ar y canlynol-

 

• 17 Medi 2019

• 11 Mawrth 2020 (Arbennig)

 

Adroddodd y Cadeirydd, oherwydd nad oedd cworwm yn y cyfarfod diwethaf, fod cofnodion 17 Medi 2019 wedi’u cyflwyno i gyfarfod heddiw i’w cymeradwyo.  Nodwyd bod y Cadeirydd wedi derbyn y cofnodion yn flaenorol, a chadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas fod y cofnodion yn gywir

 

Materion yn codi o’r cofnodion

 

  Eitem 2 - Cadarnhaodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod gohebiaeth wedi’i hanfon at yr Adain TGCh yn dilyn cais ynghylch a ellid newid presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd ipresennol”. Nodwyd na dderbyniwyd ymateb gan yr Adain TGCh hyd yma.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at yr Adain TGCh yn gofyn am ymateb i gais y  Pwyllgor Safonau.

 

  Eitem 3 - Cadarnhawyd, oherwydd Covid-19, nad yw’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi gallu mynychu cyfarfodydd Arweinwyr Grŵp i drafod Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau a materion perthnasol eraill.  Adroddodd y Cadeirydd eu bod wedi cyfarfod ag un Grŵp, ac wedi gohebu ag un arall. Nodwyd unwaith y bydd cyfyngiadau'r cyfnod clo wedi eu llacio, bydd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn ceisio cwrdd ag Arweinwyr Grŵp.

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd a ddylai'r Pwyllgor gymryd agwedd fwy rhagweithiol, a gofyn am gyfarfod gydag Arweinwyr Grŵp trwy Zoom neu Teams, ac fe gytunodd y Pwyllgor. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Arweinwyr Grŵp yn aml yn cwrdd trwy Teams ac felly byddai’n gwneud trefniadau i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd fynychu cyfarfod rhithwir o'r Arweinwyr Grŵp.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Arweinwyr Grŵp i ofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau fynychu cyfarfod Arweinwyr Grŵp maes o law.

 

  Eitem 4 - Cyfeiriwyd at baragraff ar Dudalen 4 yr adroddiad a oedd yn dweud  Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y byddai'n edrych i mewn i'r mater o gofnodi presenoldeb ar gyrsiau hyfforddi yn ganolog ar y system AD, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law”.  Nodwyd nad oes diweddariad wedi'i ddarparu ar gofnodi presenoldeb hyd yma.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn codi'r mater gyda'r Rheolwr Hyfforddiant AD ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau.

  Eitem 5 - Canslwyd Sesiwn Gadeirio ar y cyd a oedd wedi'i threfnu gydag awdurdodau lleol Gwynedd a Conwy oherwydd y pandemig. Mae'r hyfforddiant Cadeirio  bellach ar gael ar borth E-Ddysgu'r Cyngor.

 

  Eitem 11 - Adroddodd y Swyddog Monitro fod angen adolygu a chryfhau Protocol Datrysiad Lleol y Pwyllgor Safonau. Argymhellodd y dylai'r Pwyllgor adolygu'r Protocol ymhellach, ac ymgymryd â hyfforddiant cyfryngu yng nghyd-destun y Protocol.

 

PENDERFYNWYD:-  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 504 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar ddatblygu Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Rheolwr Hyfforddiant AD ar gynnydd y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau etholedig ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn ar 11 Mawrth 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod y Cynllun Datblygu Aelodau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn gynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, a bod rhai materion ynddo heb eu cwblhau. . Dywedodd fod gwybodaeth am sesiynau hyfforddi wedi'i hamlygu yn Atodiad 1 ac wedi derbyn sgôr o ran y cynnydd a wnaed, a bod  hyfforddiant a gyflawnwyd wedi ei nodi ynghyd ag unrhyw anghenion hyfforddi i'w dwyn ymlaen i Gynllun Datblygu 2020/22. Nodwyd bod atborth wedi dod i law gan Wasanaethau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar lunio Cynllun diwygiedig ar gyfer y cyfnod cyfredol hyd at yr etholiadau yn 2022.

 

Er bod dulliau traddodiadol o roi hyfforddiant wedi eu gohirio am y tro,  darparwyd peth arweiniad a hyfforddiant ar gyfryngau cymdeithasol. Bu'n rhaid i aelodau a staff addasu, a defnyddio Teams a Zoom fel ffordd newydd o ddysgu. Mae hyfforddiant helaeth wedi'i ddarparu ar ddefnyddio gweminarau, ac mae aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi mynychu sesiynau gweminar gyda CIPFA. Nodwyd bod modiwlau E-Ddysgu ar gael, a gellir eu cyrchu ar blatfform Cronfa Ddysgu'r Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod y Tîm Dysgu a Datblygu yn ystyried datblygu adranAelodau Etholedigar y platfform E-Ddysgu, fel y gall gwybodaeth am hyfforddiant / digwyddiadau fod ar gael yn rhwydd. Dywedodd fod Arweinwyr Grŵp wedi gofyn am gymorth gyda hyfforddiant TGCh ar gyfer rhai Aelodau etholedig, sydd hefyd ar gael.

 

Codwyd pryderon y byddai'r llwyth gwaith ar gyfer swyddogion ac Aelodau'n cynyddu'n sylweddol, pe bai mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y Cynllun. Codwyd cwestiwn a fyddai'r llwyth gwaith hyfforddi yn cael ei flaenoriaethu neu ei gywasgu i flwyddyn o waith? Ymatebodd y Rheolwr Hyfforddiant AD yr ymgynghorwyd ag Uwch Reolwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer hyfforddi a datblygu i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu ar gyfer 2020/22.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi bod trafodaethau hefyd wedi digwydd gyda Swyddog Polisi a Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sefydlu pa adnoddau sydd ar gael. Mae atborth yn awgrymu y dylai'r Cyngor ganolbwyntio ar barhau â sesiynau briffio mewn meysydd sy'n cynnwys Cynllunio, Tai, Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Ar ôl cwblhau'r Cynllun, bydd angen iddo gael ei gymeradwyo gan yr UDA a'r Arweinwyr Grŵp, ac yna'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Cyngor llawn.

 

O ran Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP) ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae'r ffocws yn debygol o fod ar sgiliau cadeirio a darparu hyfforddiant TGCh pellach. Bydd hyfforddiant yn cael ei flaenoriaethu, a bydd y Cynllun yn cael ei ddiweddaru yn dilyn atborth ym mis Chwefror 2021.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at Bwynt 3 (Cyllid) yn yr Atodiad, a thynnodd sylw at risgiau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cwynion am ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 622 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â:-

 

(a)      Cynghorwyr Sir, a

(b)      Cynghorwyr Tref/Cymuned

        ar gyfer Chwarter 4, 2019/20, a Chwarter 1 a 2, 2020/21. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol ynghylch cwynion, a hynny ar ffurf matricsau ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref / Cymuned yn Chwarter 4 2019/20, a Chwarteri 1 a 2 yn 2020/21.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) na chafwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir gan aelodau o'r cyhoedd rhwng:-

 

  Ionawr i Fawrth 2020 (Chwarter 4)

  Ebrill i Fehefin 2020 (Chwarter 1)

  Gorffennaf i Fedi 2020 (Chwarter 2)

 

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Tref / Cymuned am yr un cyfnodau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad ac Atodiadau 1-6.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn paratoi ac yn dosbarthu cylchlythyr i Aelodau etholedig a chyfetholedig, ac aelodau Cynghorau Tref a Chymuned, gan atodi dolen i'r adroddiad; a hefyd

  Bod materion eraill sy'n codi yn y cyfarfod heddiw yn cael eu cynnwys yn y cylchlythyr (fel sy'n briodol).

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

 

5.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 252 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer Hydref - Rhagfyr 2019 (Cyfrol 23 - cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020).

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar Goflyfr chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ynghylch Cwynion Côd Ymddygiad ar gyfer Hydref - Rhagfyr 2019 (Rhifyn 23).

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) y cafwyd gwybod am ddau achos o dorri'r Côd Ymddygiad, y ddau yn cynnwys Aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Roedd yr achos cyntaf yn ymwneud ag Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a oedd wedi torri'r Côd Ymddygiad trwy bleidleisio ar osod cyfradd y Dreth Gyngor mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn, er bod ganddo ddyledion Treth Gyngor. Nid oedd yr Aelod wedi datgan diddordeb ac roedd wedi dwyn anfri ar y Cyngor o dan y Côd.

 

'Roedd yr ail fater yn cyfeirio at Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a oedd wedi derbyn swydd benodol yn y Cabinet, yn groes i gyngor y Swyddog Monitro, ac roedd hynny wedi creu gwrthdaro diddordeb gyda'i gyflogaeth ar y pryd. Roedd yr Aelod hefyd wedi methu â datgan diddordebau personol a rhagfarnus  mewn perthynas â'r mater. Er bod yr Ombwdsmon o'r farn bod y Côd wedi ei dorri, nid ystyriwyd y byddai er budd y cyhoedd i ymchwilio ymhellach i'r mater.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor Safonau, a dylid rhannu'r un neges ag Aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig eraill y Cyngor hwn, y dylent gysylltu â'r Swyddog Monitro i gael cyngor ar faterion Côd Ymddygiad, gan gynnwys datgan diddordebau personol a rhagfarnus.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod nifer y cwynion a gyflwynwyd i'r Ombwdsmon yn genedlaethol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod clo. Dywedodd fod y rhan fwyaf o’r cwynion yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac mae’r Ombwdsmon yn gweithio drwyddynt ac yn eu didoli ar hyn o bryd. Cadarnhawyd nad yw'r un o'r cwynion a dderbyniodd yr Ombwdsmon yn ymwneud ag Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y crynodebau achos.

  Bod yr eitem hon yn cael ei chynnwys yn y cylchlythyr i Aelodau etholedig a chyfetholedig, ac aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Gweithredu: Dim

6.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 253 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethat y Pwyllgor Safonau ar 11 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ynghylch penderfyniadau diweddar a ystyriwyd gan Banel Dyfarnu Cymru (PDC), ac a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor ar 11 Mawrth 2020.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod apêl wedi'i chyflwyno i Banel Dyfarnu Cymru gan Aelod o Gyngor Sir Caerdydd, yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Caerdydd i'w atal o'i swydd am gyfnod o 4 mis am fethu â chydymffurfio â'r darpariaethau'r Côd Ymddygiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo:

 

(a)  Dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill;

(b)  Peidio â defnyddio ymddygiad bwlio nac aflonyddu ar unrhyw berson; a

(c)  Peidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried y byddai'n dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.

 

Nodwyd bod Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Caerdydd o'r farn bod y modd y torrwyd y Côd Ymddygiad yn ddigon difrifol i haeddu atal y Cynghorydd. 

 

Er ei fod yn derbyn ffeithiau'r achos - fel y'u canfuwyd gan y Pwyllgor Safonau - rhoddodd Panel Dyfarnu Cymru sylw i'r apêl yn erbyn y ddedfryd, a phenderfynodd bod cyfiawnhad dros y gosb a ddyfarnwyd i'r Cynghorydd, sef ei atal am bedwar mis.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y crynodeb o'r achos.

  Bod yr eitem hon yn cael ei chynnwys yn y cylchlythyr i aelodau etholedig a chyfetholedig ac aelodau  o Gynghorau Tref a Chymuned.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhannu'r ddolen i'r hyfforddiant E-Ddysgu sydd ar gael i Aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor [fel y cyfeirir yn y Pwyntiau Dysgu i Aelodau yn Atodiad 1 yr adroddiad] pan ddosberthir y cylchlythyr.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

7.

Panel Dyfarnu Cymru - Canllawiau'r Llywydd pdf eicon PDF 985 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Ganllawiau’r Llywydd a gyhoeddwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar (a) Anonymeiddio; (b) Datgelu a (c) rôl y Swyddog Monitro yn achosion Panel Dyfarnu Cymru.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod yr Ombwdsmon yn cyfeirio cwynion at Banel Dyfarnu Cymru os ystyrir bod y modd y torrwyd y Côd Ymddygiad yn ddigon difrifol, fel y gallai fod yn briodol rhoi cosb o atal am dros 6 mis. Mae PDC wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar y 3 maes penodol a ganlyn: -

 

(a) Anonymeiddio

(b)  Datgelu; a

(c)  Rôl y Swyddog Monitro yn Nhrafodaethau PDC

 

Gan gyfeirio at y Canllawiau aranonymeiddio”, nodwyd y dylid cynnal gwrandawiadau PDC yn gyhoeddus. Mae gan PDC a'r Pwyllgor Safonau yr hawl i gau allan y wasg a'r cyhoedd o wrandawiad, neu ran o wrandawiad ac i anonymeiddio'r cofnodion neu ran ohonynt. Ym mhob achos, bydd y Panel yn adolygu'r hyn sy'n deg ac yn angenrheidiol er budd cyfiawnder. Nodwyd bod PDC yn pryderu mwy am drydydd partïon a thystion, yn hytrach nag Aelodau a swyddogion etholedig.

 

Mewn perthynas â'r ail Ganllaw arddatgelu”, nododd y Swyddog Monitro, unwaith y bydd adroddiad wedi'i baratoi gan Swyddfa'r Ombwdsmon, y bydd atodlen o ddeunydd nas defnyddiwyd ond sydd ar gael hefyd yn cael ei atodi i'r adroddiad (yn ychwanegol at yr Adroddiad a'r Dystiolaeth y mae'r Ombwdsmon wedi dibynnu arnynt).

 

Nodwyd y gall PDC ofyn am wybodaeth bellach gan yr Ombwdsmon, os bydd angen. Mae gan yr Aelod yr hawl hefyd i ofyn am dystiolaeth bellach.

 

Mewn perthynas â'r trydydd Canllaw, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai'r Pwyllgor Safonau dderbyn copi o Weithdrefn y Pwyllgor ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys Canllawiau'r Llywydd gan Banel Dyfarnu Cymru sydd wedi'u cynnwys yn Atodiadau  1-3 yr adroddiad.

  Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn anfon copi o'r Weithdrefn ar gyfer Cynnal Gwrandawiadau i ystyried achosion o dorri'r Côd Ymddygiad at aelodau'r Pwyllgor Safonau.

  Bod yr eitem hon yn cael ei chynnwys yn y cylchlythyr i Aelodau etholedig a chyfetholedig, ac aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

8.

Caniatâd(au) Arbennig pdf eicon PDF 539 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywoidraethiant Corfforaethol) yn manylu ar y ceisiadau am Ganiatâd Arbennig a ystyriwyd gan Banel o’r Pwyllgor Safonau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 11 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ganlyniad gwrandawiad ynghylch caniatâd arbennig  a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2020, i ystyried cais bloc a wnaed gan holl aelodau’r Cyngor Sir hwn mewn perthynas â’rrheol chwe mis”.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod y Panel wedi rhoi caniatâd arbennig heb gyfyngiad i'r holl Gynghorwyr a enwyd a oedd wedi gwneud cais am y fath ganiatâd mewn perthynas â diddordebau a oedd yn rhagfarnu ynghylch y “rheol chwe mis”.

 

Nodwyd cywiriad yn y cofnodion Cymraeg a oedd yn nodi bod y caniatâd wedi ei roi hyd ddiwedd Mai 2020, pan ddylai fod wedi darllen 2022.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor Safonau yn nodi'r caniatâd arbennig a roddwyd, a'r rhesymau a'r amgylchiadau dros wneud hynny.

  Bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2020 wedi eu cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau'r Panel yn unig (John R Jones, Rhys Davies a Sharon Warnes).

 

Gweithredu: Dim

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan y Cadeirydd pdf eicon PDF 363 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr Adroddiad Blynyddol a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yng nghyfarfod y Cyngor ar 8 Medi 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019/20, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyngor Sir yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 8 Medi 2020. Mae'r adroddiad yn manylu ar y gwaith y mae'r Pwyllgor hwn wedi'i gyflawni yn ystod 2019/20, ac mae'n cynnwys y rhaglen waith ar gyfer 2020/21.

 

Adroddodd y Cadeirydd y bu'n hapus iawn i gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith, er bod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i gwblhau yn ystod tymor cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr Michael Wilson. Dywedodd fod yr adroddiad wedi anfon neges gadarnhaol am waith y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi'r wybodaeth a gyflwynir yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019/20 a'r Rhaglen Waith ar gyfer 2020/21.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn anfon fersiwn Saesneg o'r ddolen yn yr adroddiad i aelodau'r Pwyllgor Safonau

 

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.

10.

Adolygiad o'r Gofrestr Doddordebau mewn Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 403 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiad sydd I’w cynnal yn y Cynghorau Tref a Chymuned fel y nodir yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2020-21.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad ar adolygiad arfaethedig o'r cofrestrau diddordebau a gedwir gan Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) mai'r Pwyllgor Safonau sy'n gyfrifol am benderfynu pa Gynghorau Tref a Chymuned sydd i'w hadolygu. Nodwyd bod 4 neu 5 o Gynghorau Tref a Chymuned wedi cael eu hadolygu ar bob achlysur  dros y blynyddoedd diwethaf.

           

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ffurf yr adolygiadau y byddai'r Pwyllgor Safonau yn ei mabwysiadu. Ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau sydd ar gael, a chytunodd i barhau â'r trefniant blaenorol, ac adolygu 10% - 5 Cyngor Tref a Chymuned. Penderfynwyd y dylai Cynghorau sydd wedi cael gwybod o’r blaen na fyddent yn destun adolygiad yn cael eu heithrio.  Penderfynwyd hefyd, lle mae Clerc yn gweinyddu mwy nag un Cyngor Tref neu Gymuned, na fydd mwy nag un o'r Cynghorau hynny yn destun adolygiad.  Awgrymwyd amrywio'r Cynghorau Tref a Chymuned a adolygir yn ôl eu maint, a chynnwys un Cyngor Tref; un Cyngor Cymuned mawr ac un bach. Cadarnhawyd y byddai dau aelod o'r Pwyllgor Safonau (dau aelod annibynnol, neu un annibynnol ac un cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned) yn cynnal yr adolygiadau.

 

Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor Safonau awdurdodi'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd a'r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol)  benderfynu pa Gynghorau Tref a Chymuned i'w hadolygu. Cytunodd y Pwyllgor i'r cynnig.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor y dylid mabwysiadu dull ffurfiol a dull llai ffurfiol hefyd. Cysylltir â Chlercod Unigol dros y ffôn yn y lle cyntaf, i egluro pwrpas yr adolygiad. Yna anfonir llythyr i gadarnhau'r trefniant ac i ofyn am gopïau o'r dogfennau perthnasol ar gyfer yr adolygiad. Yna trefnir cyfarfod rhithwir gyda phob Clerc i drafod y ddogfennaeth a adolygir fel rhan o'r broses. 

 

Bydd pob Cyngor unigol yn derbyn ei grynodeb ei hun o'r canfyddiadau. Ni fydd y Pwyllgor Safonau yn cyhoeddi canfyddiadau ar y cynghorau unigol ond bydd yn rhannu adroddiad cyffredinol ar y canfyddiadau  gyda'r holl Gynghorau Tref a Chymuned, a bydd hyn yn rhestru arfer da ac yn cynnwys pwyntiau dysgu.                         

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad a'r atodiadau.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor Safonau pa Gynghorau Tref a Chymuned a  adolygwyd yn flaenorol.

  Cadarnhau bod y Pwyllgor Safonau yn awdurdodi'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd, ar ôl cael cyngor gan y Cyfreithiwr (Corfforaethol

Llywodraethu) i benderfynu pa 5 Cyngor Tref a Chymuned sydd i'w hadolygu.

  Bod y Pwyllgor Safonau yn cysylltu â Chlercod pob Cyngor Tref a Chymuned a ddewiswyd i'w hysbysu y byddant yn destun adolygiad.

  Cytuno ar amserlen ar gyfer yr adolygiadau gyda Chlercod pob Cyngor Tref a Chymuned a ddewiswyd.

  

Gweithredu:  Gweler y Penderfyniad uchod.