Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 340 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 yn gywir.

 

Diweddarwyd y cofnod o’r materion a godwyd gyda manylion y camau gweithredu a gwblhawyd yn unol â chofnodion y cyfarfod diwethaf ac anfonwyd copi i aelodau’r Pwyllgor Safonau.  Cyfeiriwyd at eitem 3 yn y cofnodion - Datblygu Aelodau – a holwyd ynglŷn â chais y Swyddog Monitro ar gyfer hyfforddiant rheoli risg ar gyfer yr Aelodau. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei bod wedi cael ymateb gan yr Adran Gyllid ar 18 Chwefror 2020, a’i bod wedi rhannu’r ymateb gyda’r Pwyllgor Safonau.

 

Bydd y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn dilyn y cyfarfod heddiw.

3.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 620 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant - Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu i aelodau Etholedig yn ystod 2021/22.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD mai cyfyngedig fu’r cyfleodd hyfforddi dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig, a bod yr Aelodau wedi derbyn hyfforddiant drwy sesiynau E-Ddysgu a sesiynau briffio.

 

Nodwyd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Penaethiaid Gwasanaeth ac Arweinyddion Grŵp ynglŷn ag anghenion hyfforddi’r Aelodau, a chyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 16 Mawrth 2021. Canolbwyntir ar yr hyfforddiant canlynol yn ystod 2021/22:-

 

  Hyfforddiant mandadol

  Hyfforddiant iPad

  Hyfforddiant Deddfwriaethol

  Sesiynau Briffio

 

Adroddodd y Rheolwr AD ei bod hi’n debygol y bydd y sesiynau hyfforddi / briffio yn parhau i gael eu cynnal dros MS Teams, Zoom, a phlatfform E-Ddysgu’r Awdurdod, y Porth Dysgu, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Dywedodd bod cymorth mewn perthynas â chael mynediad at hyfforddiant ar-lein / materion TGCh cyffredinol yn dal i fod ar gael i Aelodau drwy’r Tîm Hyfforddi. Mae nodiadau canllaw a fideos hefyd ar gael gan y Tîm i gynorthwyo gyda materion yn ymwneud â mynediad.

 

Adroddodd y Rheolwr AD bod Llywodraeth Cymru’n ystyried disodli platfform y GIG, a fabwysiadwyd gan y Cyngor, â phlatfform E-Ddysgu cenedlaethol ledled Cymru. Os caiff y newidiadau eu gweithredu, mae’n bosib y caiff modiwlau’r GIG eu trosglwyddo o blatfform y GIG i’r Porth Dysgu cenedlaethol, gan ddarparu dewis ehangach o fodiwlau hyfforddi i Aelodau etholedig.

 

Gofynnwyd am eglurder ar yr hyfforddiant mandadol i Aelodau’r Pwyllgor Safonau. Ymatebodd y Swyddog Monitro bod yr hyfforddiant ar y Cod Ymarfer yn fandadol i’r holl Aelodau, a’i fod wedi’i gynnwys yn y Cod.

 

Holwyd a oedd hyfforddiant i Aelodau ar gyllideb y Cyngor? Ymatebodd y Swyddog Monitro y bydd Aelodau newydd yn cael cynnig hyfforddiant ar y modd y mae’r Cyngor yn cael ei ariannu fel rhan o’u hyfforddiant cynefino.  Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD bod Aelodau’n cael trosolwg o waith a blaenoriaethau’r Cyngor gan uwch Reolwyr y Cyngor, a bod hyn wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Datblygu Aelodau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y ddarpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned yn y dyfodol. Ymatebodd y Swyddog Monitro bod Un Llais Cymru wedi darparu hyfforddiant yn y gorffennol a’u bod yn arbenigo yn y maes. Dywedodd y bydd sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnig i aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022 fel rhan o ddyletswydd statudol y Pwyllgor Safonau.  Cadarnhawyd mai Un Llais Cymru fyddai’n darparu’r hyfforddiant.

 

Mae hyfforddiant Cod Ymarfer wedi’i drefnu ar gyfer y ddau Aelod Etholedig newydd o’r Cyngor Sir (yn dilyn yr isetholiad ym Mai 2021). Darperir y rhain gan y Swyddog Monitro a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ystod yr wythnosau nesaf. 

 

O ran paratoi tuag at y Cyngor newydd, adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Materion yn ymwneud ag Aelodau pdf eicon PDF 502 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar amryw o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar faterion amrywiol yn ymwneud ag Aelodau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cadeirydd wedi briffio’r Arweinwyr Grŵp ar y trefniadau ar gyfer 2021/22, ac amlygodd bwysigrwydd annog Aelodau i gwblhau Adroddiadau Blynyddol. Gofynnir i Aelodau Etholedig gyflwyno eu hadroddiadau erbyn 12 Mai 2021, i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn diwedd mis Mehefin 2021. Nodwyd bod 13 Adroddiad Blynyddol drafft wedi’u derbyn hyd yma.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod CLlLC wrthi’n diweddaru’r disgrifiadau swydd ar gyfer Aelodau, a fydd yn cael eu haddasu’n lleol a’u rhoi i’r Aelodau wedi iddynt gael eu hethol. Mae’r disgrifiadau wedi eu cynllunio i gael eu defnyddio ar y cyd â’r Fframwaith Datblygu Aelodau (Cymhwysedd), a gyhoeddwyd yn Ebrill 2021, ac sydd ar gael ar wefan CLlLC.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Gweithredu: Dim

 

5.

Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 775 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â:-

 

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref/Cymuned

ar gyfer Chwarteri 3 a 4, 2020/2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd diweddariad chwarterol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro am y cwynion a anfonwyd at yr Ombwdsmon yn erbyn (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir wedi eu cyflwyno i’r Ombwdsmon rhwng HydrefRhagfyr 2020 (Chwarter 3), ac IonawrMawrth 2021 (Chwarter 4). 

 

Nodwyd bod un gŵyn yn erbyn Cynghorydd Tref wedi’i chyflwyno i’r Ombwdsmon yn ystod yr un cyfnod o chwe mis. Mae’r Ombwdsmon wedi ystyried y gŵyn, a phenderfynu peidio ymchwilio ymhellach i’r gŵyn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1-4.

  Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn rhannu Atodiadau 1-4 ag aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor, ac aelodau’r Cynghorau Tref a Chymuned fewn y Newyddlenni.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

6.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 306 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar Goflyfr Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer Ionawr - Rhagfyr 2020 (Cyfrol 24 – cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am gwynion Cod Ymddygiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei Goflyfr ar gyfer Ionawr - Rhagfyr 2020.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod 13 o achosion wedi’u cyfeirio at yr Ombwdsmon am benderfyniad yn ystod 2020, fel y nodir yn y Coflyfr (Rhif 24) a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021.

 

Amlygwyd y prif bwyntiau dysgu ar gyfer Aelodau etholedig a Chynghorwyr Tref a Chymuned:-

 

  Gall dangos edifeirwch gynorthwyo aelodau sydd wedi torri’r Cod Ymddygiad ond efallai na fydd yn ddigon bob amser i’r Ombwdsmon ystyried nad oes angen cymryd camau pellach.

  Mae pob Aelod unigol yn gyfrifol am gwblhau hyfforddiant, neu geisio cyngor y Swyddog Monitro mewn perthynas â datgan buddiant personol / rhagfarnllyd.

  Gellir ystyried bod ymwneud y Swyddog Monitro a Chadeirydd y Pwyllgor   Safonau i ddatrys anghydfod yn ddigonol i’r Ombwdsmon beidio ag ymchwilio i ymhellach.

  Gall Aelodau etholedig a Chynghorwyr Tref a Chymuned gyfeirio achosion o dorri’r Cod i’w hystyried gan yr Ombwdsmon.  

 

Rhennir diweddariad mewn perthynas ag achosion rhif 11 a 12 maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

 

Gweithredu: Dim

7.

Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 336 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 15 Rhagfyr 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) mewn perthynas â dau benderfyniad a waned ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers i’r Pwyllgor Safonau gyfarfod ddiwethaf ar 15 Rhagfyr 2020.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) at yr achos cyntaf honedig o dorri’r Cod Ymddygiad gan gyn-Gynghorydd Cymuned yng Nghyngor Cymuned Sili a Larnog, a oedd yn ymwneud â Chynghorydd yn postio tair neges yn gyhoeddus ar Facebook, a oedd yn cynnwys rhegfeydd a barn gref am dri gwleidydd proffil uchel yn y DU.

 

Yn ystod ymchwiliad yr Ombwdsmon, gwnaed cyhuddiad pellach yn erbyn y Cynghorydd, sef ei fod wedi gwrthod cydymffurfio â chais yr Ombwdsmon am wybodaeth a thystiolaeth bellach ynglŷn â’r achos.

 

Daeth Tribiwnlys yr Achos i’r casgliad er bod y Cynghorydd wedi gweithredu fel unigolyn wrth bostio’r negeseuon ar Facebook, barnwyd bod cynnwys y negeseuon tu hwnt i fynegiant gwleidyddol a bod yr Aelod wedi gweithredu’n anghyfrifol. Oherwydd difrifoldeb yr honiadau fe’i cosbwyd drwy waharddiad o 15 mis.

 

Fe wnaeth y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) atgoffa’r Pwyllgor ei bod hi’n arfer da dilyn Canllawiau CLlLC ar gyfer Aelodau ar ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol, sydd eisoes wedi’u rhannu â’r Pwyllgor Safonau, ac mae dolen wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.  Fe wnaeth hefyd atgoffa’r Pwyllgor o’r Canllawiau PDC a ddefnyddir wrth ystyried sancsiynau.

 

Roedd yr ail achos yn cyfeirio at chwe honiad yn erbyn Cynghorydd Sir o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a oedd wedi torri’r Cod Ymddygiad mewn perthynas â buddiant personol a rhagfarnllyd yn ymwneud ag eiddo cyfagos (drws nesaf i’w gyfeiriad cartref), a pheidio â dangos parch at y cyn Brif Weithredwr yn ystod cyfarfod. Cafodd y Cynghorydd ei wahardd am saith mis gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

Fe wnaeth y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) atgoffa’r Pwyllgor y bydd mynychu hyfforddiant ar y Cod Ymarfer yn cynorthwyo Aelodau i wella eu dealltwriaeth o ddarpariaethau’r Cod, ac y byddai hefyd yn gweithredu fel ffactor lliniarol cyn y Panel Dyfarnu. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y crynodeb.

 

Gweithredu: Dim

 

8.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig

Mae’n arferol i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro baratoi adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Safonau.

 

Yn ystod y cyfnod rhwng y Pwyllgor Safonau ar 15 Rhagfyr 2020 a dyddiad cyhoeddi’r rhaglen hon, does dim ceisiadau.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad, ond nodwyd nad oedd dim ceisiadau am ganiatâd arbennig wedi’u derbyn ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau, a dyddiad cyhoeddi’r agenda hwn.

 

9.

Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor pdf eicon PDF 359 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Blynyddol a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yng nghyfarfod y Cyngor ar 18 Mai 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau a oedd yn cynnwys manylion prif gyflawniadau’r Pwyllgor yn ystod 2020/21 a’r blaen raglen waith ar gyfer 2021/2022.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod gofyniad statudol ar y Pwyllgor Safonau, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, i gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor; a bod hyn yn dod yn weithredol ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor eisoes yn cynhyrchu adroddiad blynyddol, a chyflwynwyd yr adroddiad cyfredol gan y Cadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2021, a chafodd ei dderbyn.

 

Cynigodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Safonau’n adolygu strwythur a fformat yr adroddiad blynyddol maes o law, a chytunodd y Pwyllgor.

 

Mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol yn y dyfodol, gofynnwyd bod y Pwyllgor Safonau’n adolygu fersiwn drafft cyn ei gwblhau.  Ymatebodd y Swyddog Monitro y byddai’n hapus i dderbyn unrhyw adborth gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau, ond mai’r Cadeirydd sydd berchen yr adroddiad. Cytunodd y Cadeirydd i ystyried cyfraniad y Pwyllgor i unrhyw adroddiadau yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

  Adolygu strwythur Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau cyn paratoi’r Adroddiad nesaf.

  Cynnal cyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor Safonau i adolygu copi drafft o Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

10.

Adolygiad o'r Gofrestr Diddordebau mewn Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 822 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y canfyddiadau cyffredinol wnaethpwyd yn yr adolygiadau gynhaliwyd ym Mawrth, Ebrill a Mai 2021 yn y Cynghorau Tref a Chymuned, fel y nodir yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2020-2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr arolwg i Gofrestrau Diddordebau Aelodau mewn sampl o’r Cynghorau Tref a Chymuned, i sicrhau cydymffurfiaeth mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2020, wedi cytuno mai’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fyddai’n penderfynu pa bum Cyngor Tref a Chymuned i’w hadolygu. Cysylltwyd â Chlercod dros y ffôn yn y lle cyntaf, ac yna anfonwyd llythyr eglurhad at Glerc a Chadeirydd y pum Cyngor a ddewiswyd.

 

Cadarnhawyd bod yr adolygiadau wedi cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a Mai 2021 gan ddau aelod o’r Pwyllgor Safonau, a bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) hefyd wedi bod yn bresennol.

 

Cafwyd adborth positif gan yr aelodau a gymerodd ran yn y broses adolygu. Teimlwyd hefyd bod Clercod Cynghorau Tref a Chymuned yn awyddus i symud ymlaen ac addasu i’r newidiadau diweddar oherwydd y pandemig, a’u bod nawr yn cynnal cyfarfodydd dros Zoom.  Dywedodd ambell Glerc y byddent yn croesawugrŵp cefnogi cymheiriaidi rannu syniadau ac arfer da, a chafodd y neges hon ei hanfon ymlaen i’r Pwyllgor Safonau.  

 

Mynegwyd yr un peth gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau, a’r rhan fwyaf o’r Clercod a Chadeiryddion a oedd yn rhan o’r adolygiadausef eu bod o’r farn bod y profiad wedi bod yn fuddiol.  Diolchodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor Safonau i’r Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) am ei phroffesiynolrwydd a’i chefnogaeth yn ystod y broses adolygu. Diolchwyd hefyd i Glercod y Cynghorwyr Tref a Chymuned am eu cydweithrediad a’u cyfraniad rhagorol yn ystod yr adolygiadau.

 

Nodwyd y bydd llythyr personol yn cael ei anfon at bob Cyngor a oedd yn rhan o’r adolygiadau, i nodi’r canfyddiadau a darparu cyngor penodol i bob Cyngor. Ni fydd y Pwyllgor Safonau’n cyhoeddi’r llythyrau hyn.

 

Rhennir newyddlen gyda’r canfyddiadau a phwyntiau dysgu cyffredinol a nodwyd yn ystod y broses adolygu â Chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned (mae Adroddiad drafft wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 o’r  adroddiad hwn), gyda chais ei fod yn cael ei rannu ag aelodau, a’i gynnwys fel eitem ar yr agenda yn ystod eu cyfarfod nesaf. Ni enwir yr un Cyngor yn yr adroddiad cyffredinol. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad yn Atodiad 1.

  Cadarnhau y caiff yr adroddiad cyffredinol yn Atodiad 1, gyda diwygiadau i’r adranFforwm Clercod”, ei anfon at bob Cyngor Tref a Chymuned, o dan lythyr esboniadol a gynhwysir fel Atodiad 2, gyda chais i drafod yr adroddiad mewn cyfarfod o’r Cynghorau Tref / Cymuned, ynghyd ag anfon copi o’r Cofnodion ymlaen at y Pwyllgor Safonau; a

  Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau gyda manylion yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Canllaw Diwygiedig ar yr Cod Ymddygiad i Aelodau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 292 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar y Canllaw diwygiedig sydd wedi ei gyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr uchod.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Safonau wedi cyfarfod yn anffurfiol ar 10 Mawrth 2021 i drafod ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r diwygiadau arfaethedig i’r Canllawiau ar y Cod Ymddygiad ar gyfer (a) Aelodau etholedig o’r Cynghorau Cymuned a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned. Lluniodd y Pwyllgor ymateb a gafodd ei gyflwyno i a’i derbyn gan yr Arweinwyr Grŵp ar 18 Mawrth 2021. Anfonwyd llythyr ymateb ffurfiol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyn y dyddiad cau ar 21 Mawrth 2021.

 

Nodwyd bod y Canllaw terfynol wedi’i gyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac mai dim ond ychydig iawn o newidiadau sydd wedi’u gwneud i gynnwys y Canllawiau ar y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau o’r farn nad oedd eu cyfraniad hwy i’r ymgynghoriad, na’r 22 Pwyllgor Safonau arall, wedi’i ystyried yn llawn gan Swyddfa’r Ombwdsmon oherwydd y cyfyngiadau amser.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Cytuno y dylid tynnu sylw’r Aelodau etholedig a Chynghorwyr Tref a Chymuned  at y Canllawiau newydd yn y Newyddlen; a

  Bod y Nodyn Briffio sy’n cael ei baratoi gan y Pwyllgor Safonau ar ddiddordebau personol a rhai sy’n rhagfarnu yn cael ei ddiweddar i gynnwys y Canllawiau newydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod

12.

Adroddiad am Ddosbarthiad y Newyddlen yn y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 518 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion sydd wedi eu derbyn gan y Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch y Newyddlen ddosbarthwyd ym Mawrth 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned i’r Newyddlen a anfonwyd ym mis Mawrth 2021.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod y Pwyllgor Safonau, yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2020, wedi cytuno i rannu gwybodaeth yn dilyn pob cyfarfod ffurfiol o hyn allan drwy anfon Newyddlen at (a) Aelodau etholedig a (b) Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Anfonwyd y Newyddlen i’r holl Gynghorau Tref a Chymuned ar 4 Mawrth 2021. Yn yr ohebiaeth honno, gofynnwyd i'r Clercod gynnwys y Newyddlen yng nghyfarfod nesaf y Cyngor (mae copi o’r llythyr a anfonwyd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yn yr adroddiad). Yna dylid anfon copi o Raglen / Cofnodion fyddai’n cadarnhau fod y Newyddlen wedi ei thrafod. Nodwyd (yn unol ag Atodiad 2 yn yr adroddiad) bod ymateb wedi’i dderbyn gan 9 o’r deugain Cyngor Tref a Chymuned hyd yma. 

 

Awgrymwyd y dylid atgoffa’r Cynghorau Tref a Chymuned sydd heb ymateb i gais y Pwyllgor Safonau, gan bwysleisio bod y Pwyllgor yn awyddus i gynnig cefnogaeth. Cytunwyd y dylid cynnwys yr wybodaeth yma yn y Newyddlen nesaf, yn dilyn y cyfarfod heddiw.

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro, a derbyniwyd y cynnig, bod y Pwyllgor Safonau, wedi’r etholiadau’r flwyddyn nesaf, yn adolygu sampl o Gynghorau Tref a Chymuned sydd heb ymateb i’r cais am adborth ar yr adolygiad eleni.  Rhoddir rhybudd ymlaen llaw ar y broses adolygu, a bod methiant i ymateb i gais y Pwyllgor Safonau’n rhan o’r rheswm pam bod y Cynghorau yn / wedi cael eu dewis.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yn yr adroddiad mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned; ac

  Adolygu sampl o Gynghorau Tref a Chymuned sydd heb ymateb i’r cais yn dilyn yr etholiadau Cynghorau Tref a Chymuned yn 2022.

  Bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn trefnu bod yr adborth a dderbyniwyd gan y naw Cyngor Tref a Chymuned ar gael i Aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod