Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni cafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (diweddariad 2018).
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod y Strategaeth Addysg wreiddiol - Moderneiddio Ysgolion wedi'i chyhoeddi yn 2013 a bod y ddogfen hon yn diweddaru’r Strategaeth. Nododd fod yr Awdurdod hwn wedi gweithio'n agos gyda Phenaethiaid ac Aelodau Etholedig o ran y rhaglen moderneiddio ysgolion a bod10 o ysgolion cynradd llai sydd wedi cael eu cyfuno’n 3 ysgol 21ain ganrif fodern mewn tair ardal ym Mand A. Erbyn diwedd y rhaglen Band A, bydd 10% o ddisgyblion Ysgolion Cynradd Ynys Môn yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau 21ain ganrif. Yn yr Ysgolion Uwchradd ar yr Ynys, mae'r gostyngiad yn y niferoedd a’r cynnydd mewn lleoedd gwag, ynghyd â'r toriadau a wynebwyd, wedi arwain at heriau cyllidebol sylweddol ar draws y sector uwchradd. O ganlyniad i'r uchod, ynghyd â rhaglen lymder llywodraeth ganolog, nododd yr Aelod Portffolio bod rhaid i'r Gwasanaeth Addysg ddod o hyd i arbedion o £ 5m dros y tair blynedd nesaf. Bydd Band B Rhaglen Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno yn 2019, a bydd cyfle i foderneiddio ysgolion Ynys Môn ymhellach er mwyn mynd i'r afael â heriau cyllidebol lleol. Rhagwelir y bydd yn rhaid blaenoriaethu dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch o fewn Band B gan fod nifer y lleoedd gwag yn uchel ac na fydd y cynnydd disgwyliedig yn nifer y disgyblion yn sgil Wylfa, sef oddeutu 200, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Dywedodd ymhellach fod angen mynd i'r afael ag addysg ôl-16 ar yr Ynys hefyd.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai uchelgais yr Awdurdod hwn yw sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol yn y sector cynradd ac mae'r gwahaniaeth mewn gwariant fesul disgybl yn y sector cynradd yn achos pryder ac yn anghynaladwy ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ymhellach fod 28% o leoedd gwag yn y sector uwchradd ar Ynys Môn ac y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hynny os yw addysg uwchradd am fod yn gynaliadwy mewn rhai ardaloedd. Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at raglen lymder llywodraeth ganolog, sy'n golygu y bydd angen i’r Gwasanaeth Addysg dod o hyd i £5 o arbedion dros y tair blynedd nesaf ac y bydd angen adolygu'r Strategaeth Foderneiddio er mwyn sefydlu system ysgolion a fydd ag adeiladau modern sy'n addas ar gyfer y 30 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau i ddisgyblion yr awdurdod. Nododd fod y broses addysg yn wynebu newidiadau helaeth na welwyd eu tebyg ers blynyddoedd. Mae angen i benaethiaid gael amser digyswllt digonol i arwain eu hysgolion yn effeithiol. Mae angen adolygu'r addysg ôl-16 a'i asesu i weld a yw'r patrwm presennol yn addas ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegodd y Pennaeth Dysgu ymhellach bod Estyn yn 2013 wedi cyfeirio at yr heriau sy'n wynebu ysgolion bach yn eu hadroddiad 'Ysgolion Cynradd Bach yng Nghymru'. Mae'r rhain ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2017/18 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol ac Adnoddau Dynol. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol mewn perthynas â'r uchod.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol bod y Cynllun Perfformiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor ar gyfer 2017/18 ynghyd â chynnydd y Cyngor yn erbyn Amcanion Llesiant yr Awdurdod. Amlinellodd yr Aelod Portffolio gyflawniadau'r Cyngor yn ystod 2017/18 fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd ymhellach at y Dangosyddion Perfformiad ar gyfer 2017/18 a bod gwasanaethau'n gwella er bod y Cyngor yn wynebu gorfod gwneud arbedion o £ 2.5m o fewn y gyllideb. Cyhoeddir y Dangosyddion Cenedlaethol, a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM ) ac fe gymherir pob awdurdod lleol yn erbyn yr un dangosyddion. Yn 2017/18, roedd 50% o'r dangosyddion ar gyfer yr Awdurdod hwn wedi gwella, 36% wedi gostwng o ran perfformiad ac roedd 14% o'r dangosyddion yn newydd. Nododd bod y dangosyddion PAM yn cael eu hadolygu bob blwyddyn a dangosyddion perfformiad newydd yn cael eu cyflwyno i fonitro perfformiad yn genedlaethol.
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Swyddog a'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol: -
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y modd y mae dangosyddion perfformiad 2017/18 yn effeithio ar raglenni gwaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf ac a oes angen rhoi blaenoriaeth i rai gwasanaethau sydd wedi cael eu hamlygu fel risgiau. Atebodd y Prif Weithredwr fod yr Adroddiad Perfformiad yn rhoi arwydd o’r modd y mae'r Cyngor yn perfformio ar amser penodol. Dywedodd mai'r peth pwysicaf yw fod y Cyngor yn parhau i wella'r gwasanaethau a ddarperir; · Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr Ynys wedi dioddef pocedi o amddifadedd gyda lefelau uchel o bobl ifanc yn ddi-waith a phobl ifanc hefyd yn gadael yr Ynys i ddod o hyd i waith. Codwyd cwestiynau ynghylch faint o bobl a oedd wedi gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn dilyn datblygiadau diweddar ar yr Ynys h.y. Ffordd Gyswllt Llangefni, prosiect Bluestone, Msparc yn Gaerwen ac ati, ac a yw hyn wedi gwella economi'r Ynys. Ymatebodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid fod pobl, os ydynt mewn cyflogaeth, yn gallu gyfrannu at yr economi leol ac yn gallu gwella ansawdd eu bywydau. Bydd angen i adran arall ofyn am y ffigurau o ran y bobl ifanc sydd wedi llwyddo i gael gwaith gyda sefydliadau newydd a bydd y wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at aelodau maes o law. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr amcanion o fewn y Cynllun Perfformiad wedi'u pennu gan y Cyngor a chyfeiriodd at Barc Gwyddoniaeth Menai, sef yr unig gyfleuster yng Nghymru sy'n cynnig adnoddau o'r fath a’i bod yn gynamserol ar hyn o bryd i werthuso effaith cyfleuster o'r fath ar economi'r Ynys; · Gofynnwyd am eglurhad a yw 36% o'r PAM sydd wedi dirywio mewn perfformiad yn achosi mwy o bryder nag eraill. Atebodd y Prif Weithredwr fod pob dangosydd perfformiad yn bwysig a bod angen ymchwilio i'r rhesymau pam y mae perfformiad yn erbyn dangosyddion wedi gostwng; · Mynegwyd pryderon bod un o'r dangosyddion perfformiad yn dangos nad yw lefel ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |