Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Dylan Rees, sef Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Etholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones i wasanaethu fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 265 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -
· 13 Ionawr, 2020 · 14 Ionawr, 2020 (arbennig)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2020 a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir . |
|
Proses Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyd-destun y broses gosod cyllideb. ‘Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2020. Ynghlwm yn Atodiad 2 roedd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a'r Gwasanaeth Trawsnewid yn crynhoi'r prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw drafft.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb yn dilyn cyhoeddi setliad cyllid terfynol Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror, 2020 fel a ganlyn–
• Y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru
• Bod cyllideb ddigyfnewid gychwynnol o £142.147m wedi'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Ionawr, 2020. Ers cwblhau'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb, gwnaed gwaith pellach i adolygu a diwygio'r gyllideb ddigyfnewid a gwnaed rhai mân addasiadau ychwanegol a oedd yn dod i gyfanswm o £28k, gan olygu bod angen £142.175m ar gyfer y gyllideb ddigyfnewid. • Bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, er yn aflwyddiannus, yn gofyn am bennu llawr ar gyfer y setliad fel na fyddai unrhyw gyngor yn derbyn llai na chynnydd cyllidol o 4% - tra bod y cynnydd i Ynys Môn yn 3.8% byddai cynnydd o 4% wedi golygu £200k ychwanegol i'r Awdurdod. • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol ar gyfer Cynghorau Cymru ar 25 Chwefror. Nid oedd y ffigyrau a gyhoeddwyd wedi newid ers y setliad dros dro gan olygu y bydd Ynys Môn yn derbyn £101.005m fel Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2020/21. Ar ôl cymryd ffigwr terfynol y setliad i ystyriaeth byddai’r gofyniad cyllideb diwygiedig o £142.175m yn golygu bod angen £41.172m o gyllid o’r Dreth Gyngor, gan arwain at gynnydd o 4.58% ar y lleiaf yn lefel y Dreth Gyngor. • Bod y gyllideb arfaethedig yn ymgorffori nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae yna nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Mae dwy o'r prif risgiau yn ymwneud â’r galw am wasanaethau a’r dyfarniad cyflog i staff. Bu cynnydd yn y galw am wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf yn enwedig yn y Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a gwasanaethau addysg arbenigol ac mae’r cynnydd hwn wedi rhoi straen ariannol ar yr Awdurdod gan arwain at orwariannau sylweddol mewn cyllidebau. O ran tâl staff, cytunwyd ar ddyfarniad cyflog yr athrawon hyd at fis Medi, 2020 ac mae’r swm sydd raid wrtho wedi’i gynnwys yn y cynigion cyllidebol. Nid yw'r dyfarniad cyflog ar gyfer y cyfnod Medi, 2020 ymlaen wedi ei gytuno ac er y gwnaed darpariaeth am gynnydd o 2% , efallai na fydd hynny’n ddigonol. Ni chytunwyd ar y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn staff dysgu ac sy'n weithredol o 1 Ebrill, 2020. Mae'r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae'r Undebau yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Proses Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21 fel y'u cyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr, 2020. Ynghlwm yn Atodiad 2 roedd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a'r Gwasanaeth Trawsnewid yn crynhoi'r prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb gyfalaf drafft.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, ar wahân i ddiweddaru'r ffigyrau ar gyfer llithriad o 2019/20, nad oedd sefyllfa'r Gyllideb Gyfalaf wedi newid ers iddo adrodd yn ystod y cyfnod drafftio cychwynnol. Cyfyngedig fu’r ymateb o'r ymgynghoriad cyhoeddus i'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft gyda 53% o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynigion a 47% yn eu herbyn.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r diweddariad a ddarparwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor ailgadarnhau i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn argymell y Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu llithriad. |
|
Eitem Er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2018/19 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd, er gwybodaeth y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar asesiad (MALD) Llywodraeth Cymru o Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgell 2018/19 a’r materion sy’n codi. Nododd y Pwyllgor y canlynol -
• Bod yr Asesiad yn dangos bod y gwasanaeth yn perfformio'n dda gan ei fod yn cwrdd ag 11 hawl graidd yn llawn ac 1 yn rhannol. O'r 10 dangosydd ansawdd, llwyddodd Ynys Môn i gwrdd â 7 yn llawn, 1 yn rhannol ond methodd â chyflawni 2 - gostyngiad bach ar y flwyddyn adrodd flaenorol. Fodd bynnag, newid yn y broses adrodd / asesu gan MALD yn hytrach na gostyngiad yn y gwasanaeth sydd wedi arwain at y newid hwn. • Bod perfformiad yn cael ei gynnal yn gyffredinol yn y chweched fframwaith gyda gwelliannau mewn rhai meysydd a gostyngiadau mewn meysydd eraill. Mae ffocws cryf yn cael ei gynnal ar wasanaethau plant ynghyd â chefnogaeth i'r Gymraeg ac mae tystiolaeth o ethos o weithio mewn partneriaeth ddefnyddiol gyda gwasanaethau eraill yng Ngogledd Cymru a darparwyr lleol. • Bod y gwasanaeth yn parhau i berfformio'n dda mewn meysydd eraill y mae’r hawliau yn berthnasol iddynt, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti staff.
Nododd y Pwyllgor asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol Llyfrgelloedd Gwasanaethau Llyfrgell 2018/19 a'r materion sy'n codi. |