Rhaglen a chofnodion

Monitro Perfformiad, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 13eg Mawrth, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel y rhestrir nhw uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

3.

Diweddariad y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd

Cofnodion:

           Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol ar 8 Chwefror wedi iddo gael ei enwebu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Bwrdd hwnnw. ‘Roedd nifer o faterion wedi cael sylw, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Diogelu; y Fframwaith Llywodraethu ar gyfer Diogelu Corfforaethol; y Polisi ar gyfer defnyddio ataliaeth gorfforol, argaeledd adnoddau hyfforddi ar gyfer y pedwar maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynnwys y rhaglen Prevent, caethwasiaeth fodern, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin domestig, ynghyd â diweddariad ar y rhaglen ar gyfer ymweliadau Laming. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y gall fod yn sicr bod swyddogion yn mynd i’r afael â materion diogelu allweddol a’u bod yn cael sylw o fewn yr Awdurdod. Os bydd unrhyw Aelod yn dymuno codi materion penodol, yna byddai croeso iddo / iddi eu trafod gyda'r Cadeirydd neu gellid ystyried eu cynnwys o fewn y Rhaglen Waith ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

           Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi cyflwyno barn Sgriwtini am y cynigion terfynol ar gyfer Cyllideb 2017/18 i'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2017.

4.

Cofnodion Cyfarfodydd 6 Chwefror, 2017 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar

 

·         6 Chwefror, 2017 (bore)

 

·         6 Chwefror, 2017 (prynhawn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar fore 6 Chwefror 2017 ac ar brynhawn 6 Chwefror, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar fore 6 Chwefror, 2017 –

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sefyllfa o ran cyhoeddi a chyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli salwch / absenoldeb. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi bod yn pwyso am i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ers peth amser gan ei fod yn un pwysig yng nghyd-destun y  Pwyllgor hwn ac o ystyried y flaenoriaeth a roddir gan yr Awdurdod i gyfraddau salwch fel maes ar gyfer ei wella. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) nad oedd yr adroddiad wedi dod i law a bod y mater yn cael ei ddilyn i fyny gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn rheolaidd.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar yr arbedion effeithlonrwydd o £490k o ran costau cynorthwywyr dysgu neu arbedion eraill yn y cyllidebau a ddirprwyir i ysgolion yn 2018/19. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod gan ysgolion yr hyblygrwydd i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £490k drwy ddulliau eraill oni fyddai’r arbedion hyn am gael eu gwneud trwy ostwng costau cynorthwywyr dysgu.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar yr amseru o ran cynnwys y Gwasanaeth Anabledd Dysgu fel un o'r pynciau ar gyfer y sesiwn friffio fisol i'r Aelodau. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y rhaglennwyd y bydd y Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn cael ei ystyried mewn sesiwn friffio i Aelodau ar 21 Mawrth, 2017.

 

CAM GWEITHREDU: Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) i fynd ar drywydd yr adroddiad rheoli salwch gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

5.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Chwarter 3 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio am Chwarter 3 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'r Pwyllgor i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy'n nodi sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac a gytunwyd rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth / y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol ar ddiwedd Chwarter 3 2016/17.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad ar y materion canlynol –

 

           Mewn perthynas â Rheoli Perfformiad, ‘roedd llawer iawn o waith wedi'i wneud yn Chwarter 3 o ran gweithgarwch lliniaru. Adlewyrchir hyn yn y gwelliant a welir yn y sefyllfa, gyda mwyafrif y dangosyddion yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, mae 5 dangosydd yn tanberfformio ac yn dangos yn Ambr neu’n Goch yn erbyn eu targedau blynyddol; mae tri o'r rhain yn y Gwasanaethau Oedolion ac amlinellir nhw yn adran 2.1.3 o'r adroddiad; mae un dangosydd yn y Gwasanaethau Plant yn parhau i ddangos tanberfformiad o Chwarter 2 ac ‘roedd y manylion i’w gweld yn adran 2.14. Mae un dangosydd newydd erbyn hyn yn dangos yn Ambr yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac fe’i hamlinellir yn adran 2.1.5. Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cydnabod bod y meysydd hyn yn tanberfformio ac yn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i liniaru yn erbyn risgiau sy'n codi ac i wella perfformiad.

           Mewn perthynas â Rheoli Pobl, mae cyfraddau salwch y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 yn dangos gwelliant sylweddol (7.21 o ddiwrnodau o salwch am bob swyddog amser llawn cyfatebol (ALLC) o gymharu â'r llynedd (8.4 o ddiwrnodau salwch). Os bydd y duedd a welwyd yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn parhau, sef cyfraddau salwch uwch yn Chwarteri 3 a 4 nag yn Chwarteri 1 a 2, mae hyn yn dangos y bydd y canlyniadau a ragwelir erbyn diwedd y flwyddyn yn cyfateb i golli 10.5 o ddiwrnodau ar gyfer pob swyddog amser llawn cyfatebol oherwydd salwch. Fodd bynnag, os bydd y perfformiad cryf yn Chwarter 3 yn cael ei gynnal yn Chwarter 4, yna mae'n debygol y cyrhaeddir y targed o 10 diwrnod. Bydd yr Awdurdod yn gofyn am arweiniad pellach gan Swyddfa Archwilio Cymru o ran arferion da y mae wedi'u nodi mewn perthynas â rheoli lefelau salwch.

           Mae’r Gwasanaethau Plant wedi bod yn destun archwiliad gan AGGCC a bydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Panel Plant yn goruchwylio gweithrediad y Cynllun Gwella sy’n deillio o’r arolygiad er mwyn mynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed.

           Cynigir bod y prosesau o gasglu dangosyddion Addysg / Dysgu yn cael eu gwerthuso yn Chwarter 4 ac i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd. Darparwyd cymorth ychwanegol fel bod modd gwneud hyn.

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau canlynol -

           Nododd y Pwyllgor y targedau a fethwyd mewn perthynas â thri dangosydd yn y Gwasanaethau Oedolion a holodd a oedd capasiti staff yn ffactor yn y tanberfformiad. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad nad oedd y mesurau lliniaru yn dangos bod capasiti yn cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Refeniw Chwarter 3 2016/17 pdf eicon PDF 459 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 3 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer trydydd chwarter 2016/17 ynghyd â'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir yn Chwarter 3 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £16k a bod hynny’n welliant sylweddol o gymharu â’r sefyllfa a ragwelwyd yn ystod chwarter 2. Fodd bynnag, rhagwelir gorwariant o £756k (0.70%) ar wasanaethau erbyn 31 Mawrth, 2017, gyda’r amrywiadau mwyaf arwyddocaol yn digwydd yng nghyllidebau’r Adran Dysgu Gydol Oes a’r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, lle rhagwelir gorwariant o £700k a £718k yn y drefn honno. Rhagwelir tanwariant ar gyllid cyfalaf o ganlyniad i gostau benthyca is gan fod yr Awdurdod wedi bod yn defnyddio arian dros ben ei hun yn hytrach na benthyca’n allanol ar y rhaglen gyfalaf. Hefyd, mae'r ffordd o rannu’r costau wedi ei diwygio fel bod y Cyfrif Refeniw Tai yn ysgwyddo cyfran uwch o daliadau llog gan leihau'r costau i Gronfa'r Cyngor. Mae’r newid hwn yn ceisio rhannu’r costau’n decach rhwng y Cyfrif Refeniw Tai a Chronfa’r Cyngor; nid yw'n cynyddu’r risg i'r Cynllun Busnes ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai sydd wedi'i baratoi ar y sail diwygiedig. Mae hyn wedi creu arbediad untro sydd wedi cyfrannu tuag at gyflawni  cyllideb gytbwys yn 2016/17 ac fe’i cymerwyd i ystyriaeth wrth osod cyllideb 2017/8. Ni fydd y glustog hon ar gael yn 2017/18 ac felly gallai unrhyw orwariant gan wasanaethau yn ystod 2017/18 fod yn broblem. Er y gallai'r sefyllfa bresennol newid yn Chwarter 4 wrth i bwysau galwadau barhau yn y Gwasanaethau Plant ac yn sgil lleoliadau all-sirol arbenigol yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, oherwydd y bydd cyfnod y gaeaf a'r costau ychwanegol a all ddod yn ei sgil wedi pasio erbyn hynny,  rhagwelir gorwariant bychan erbyn diwedd y flwyddyn a gellir defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i’w gyllido.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor y gorwariant yn y Gwasanaethau Plant, yn arbennig felly mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â’r gorwariant yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â lleoliadau all-sirol arbenigol. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar strategaeth liniaru’r Awdurdod i ddelio â'r pwysau ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig mewn cyd-destun lle mae cyllidebau awdurdodau lleol yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod y pwysau ar y cyllidebau gwasanaeth hyn yn broblem genedlaethol. Mae canlyniadau eraill o fewn y gyllideb gyffredinol wedi bod yn ffafriol ac felly llwyddwyd i leihau effaith gorwariant y gwasanaethau hyn. Fodd bynnag, bydd y pwysau ar y ddau wasanaeth hyn yn parhau a gallai waethygu oni bai y gellir rheoli’r galw. I'r perwyl hwnnw, buddsoddir mwy mewn gwasanaethau ataliol e.e. Tîm Trothwy Gofal yn y Gwasanaethau Plant i ddarparu ymyrraeth gynnar os oes  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Gyfalaf Chwarter 3 2016/17 pdf eicon PDF 401 KB

Cyflwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Gyfalaf am Chwarter 3 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y gwariant gwirioneddol hyd yma (£14m) yn erbyn cyllideb gyfalaf o £ 52.8m fel y nodir yn fanwl yn Nhabl 4.1 yr adroddiad. Cyfeiriodd y Swyddog at y prosiectau sydd â’r risgiau mwyaf sylweddol o ran cyllid Grant Cyfalaf fel y nodir yn adran 3.1.2 o'r adroddiad a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf  i'r Pwyllgor ynghylch eu statws cyfredol.

 

Nododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed hyd yma a'r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Penderfynwyd nodi'r gwariant a’r derbyniadau hyd yma yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

8.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno Blaen Raglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor hyd at Ebrill, 2017 er gwybodaeth a sylwadau.

 

Gan nad oedd ond un mater ar raglen y Pwyllgor yn Ebrill 2017 adroddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro fod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi gofyn i'r Fforwm Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini ystyried eitemau i'w hystyried gan y Pwyllgor ym mis Ebrill.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Flaenraglen Waith ddiweddaraf.

 

CAM GWEITHREDU: Rheolwr Sgriwtini Dros Dro i gadarnhau a gynhelir cyfarfod ym mis Ebrill ai peidio yn dilyn cyfarfod Fforwm Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini.

 

Wrth ddod â busnes y cyfarfod i ben, diolchodd y Cadeirydd, ar ran ei gyd-Aelodau, i’r holl Swyddogion a oedd wedi rhoi arweiniad a chymorth i'r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.