Rhaglen a chofnodion

Arbennig - Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 6ed Chwefror, 2017 1.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

           

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth y Pwyllgor, Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2017 i 2022. Pwrpas y Strategaeth yw ceisio sicrhau bod Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn yn cael ei osod ar sylfeini cynaliadwy a chadarn fydd yn caniatáu i’r gwasanaeth wasanaethu anghenion preswylwyr yr ynys a chyflawni gofynion statudol yn y blynyddoedd i ddod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell bod Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth llyfrgell statudol sy’n gynhwysfawr ac effeithlon yn ôl gofynion Adran 7 Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn cael eu gosod a’u hasesu gan Lywodraeth Cymru ac yn un o’r mesurau o ran p’un a yw Awdurdod Llyfrgelloedd yn cyflawni ei ddyletswydd statudol. Yng nghyd-destun y Safonau, y prif bryder ynglŷn â’r Gwasanaeth yn Ynys Môn yw bod lefelau staffio islaw’r safonau a osodir a bod hynny o bosib yn cael effaith ar y gwasanaeth a ddarperir.

 

Mae Cynllun Corfforaethol Ynys Môn ar gyfer 2013-17 yn datgan y nod o leihau cyfanswm cost y Gwasanaethau Hamdden, Diwylliant a Llyfrgelloedd i’r Cyngor gan 60% yn ystod cyfnod y cynllun. O ganlyniad i’r ymrwymiad hwn, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd, y Gwasanaeth Ieuenctid, Amgueddfeydd a Diwylliant er mwyn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau y manylir arnynt yn y Cynllun Corfforaethol i archwilio opsiynau ac i weithredu model ddarparu Llyfrgelloedd diwygiedig.

Yn ystod yr hydref 2015 cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn adolygiad a oedd yn edrych ar ystod o feysydd ac a arweiniodd at adnabod nifer o opsiynau ar gyfer datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod Hydref 2015 i gasglu barnau am yr opsiynau a nodwyd ac i wahodd syniadau eraill; rhoddir manylion am yr ymgynghoriad ym mharagraff 3.2 yr adroddiad. Er nad oes unrhyw opsiwn clir a ffefrir wedi ymddangos o’r atebion hyn, roedd tystiolaeth y byddai’n fanteisiol i geisio cyfleoedd ar gyfer modelau cefnogaeth gymunedol, yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol neu ddarparwyr amgen i weithio gyda’r Cyngor i gynnal y gwasanaeth yn hytrach nag unrhyw berygl o ddileu’r gwasanaeth.

 

Mae Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell yn cyflwyno model a ffefrir o ran ymgynghori a gafodd ei datblygu er mwyn ymateb i’r heriau a’r anghenion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Nodwyd barn preswylwyr, sydd wedi eu crynhoi ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, a’u hymgorffori yn y strategaeth ddrafft. Mae’r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell ac yn amlinellu fframwaith ddarparu sydd â’r nod o gwrdd ag anghenion y Safonau Llyfrgell ac anghenion cwsmeriaid y gwasanaeth. Wrth wraidd y weledigaeth, mae chwe nod craidd sy’n cael eu disgrifio ym mharagraff 5.2 yr adroddiad. Mae’r strategaeth ddrafft yn argymell symud i batrwm o ddarpariaeth yn seiliedig ar Lyfrgelloedd Ardal; Llyfrgelloedd a Gefnogir gan y Gymuned dan arweiniad yr Awdurdod, Gwasanaethau Symudol a phwyntiau Mynediad posibl yn y Gymuned (yn ddibynnol ar ddosbarthiad y ddwy  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.