Rhaglen a chofnodion

Arbennig - Gwasanaethau Plant, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 13eg Mawrth, 2017 1.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a restrwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

AGGCC: Adroddiad Arolwg Gwasanaethau Plant Tachwedd 2016 - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 443 KB

·        Cyflwyno adroddiad arolwg  AGGCC o Wasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn .

 

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro yn ymgorffori Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor, adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar ganlyniadau’r arolygiad o’r gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016.

 

Croesawodd y Cadeirydd Ms Bobbie Jones, Arolygydd Arweiniol ar gyfer yr arolygiad a Mr Marc Roberts, aelod o dîm Arolygu Rhanbarthol AGGCC i’r cyfarfod ac fe’u gwahoddwyd i gyflwyno eu canfyddiadau yn deillio o’r arolygiad o Wasanaethau Plant yn y Cyngor.

 

Adroddodd Ms Bobbie Jones, yr Arolygydd Arweiniol, bod yr arolwg wedi’i gynnal fel rhan o raglen arolygu graidd AGGCC a’i fod yn canolbwyntio ar ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer plant sydd angen cymorth, gofal a chefnogaeth a/neu eu diogelu. Edrychodd y tîm arolygu’n ofalus ar wasanaethau ataliol yn cynnwys trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth; llwybr unigolion at y gwasanaethau gofal a chefnogaeth, ac yn benodol mynediad at y gwasanaethau ataliol a statudol a’r cyswllt rhwng y gwasanaethau hyn ac unrhyw faterion diogelu sy’n codi. Roedd yr arolygwyr hefyd yn gwerthuso sut oedd y Cyngor yn asesu ei berfformiad a pha wahaniaeth yr oedd yn ei wneud i’r unigolion yr oedd yn ceisio eu cynorthwyo, gofalu amdanynt a’u cefnogi a/neu eu diogelu. Edrychwyd hefyd ar sut oedd y Cyngor wedi dechrau gweithredu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Er mai ansawdd y ddarpariaeth oedd prif ffocws yr arolygiad, edrychodd yr arolygwyr hefyd ar elfennau sy’n cefnogi’r ddarpariaeth yn cynnwys trefniadau’r Cyngor ar gyfer arwain, rheoli a llywodraethu’r gwasanaethau Plant.

 

Methodoleg

 

Cynhaliwyd y gwaith maes dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Tachwedd 2016; cynhaliwyd adolygiad achos; cyfweliadau â staff, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau partner, siaradwyd â phlant a’u teuluoedd lle bynnag roedd hynny’n bosib a gydag aelodau etholedig; arsylwyd ar ymarfer, cynhaliwyd arolwg staff, adolygwyd cwynion a chofnodion gwerthuso staff.

 

Canfyddiadau – Mynediad a Diogelu

 

Meysydd oedd yn cael eu gwneud yn dda

 

           Roedd trefniadau mynediad at y gwasanaethau wedi eu sefydlu ac yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Ni welodd yr arolygwyr unrhyw enghreifftiau lle'r oedd mater diogelu brys angen sylw neu lle'r oedd plentyn wedi ei roi mewn perygl.

           Derbyniodd plant a oedd yn amlwg mewn perygl sylw prydlon ac ymatebol

           Gwelwyd rhai enghreifftiau o ymarfer gwaith cymdeithasol da

           Roedd gweithwyr cymdeithasol yn gyson yn eu hymdrechion i wireddu dymuniadau a theimladau’r plant

 

Meysydd ble cafodd gwendidau eu nodi

 

           Nid oedd y gwasanaethau Ataliol a gwybodaeth, cyngor a chymorth wedi datblygu’n ddigonol

           Nodwyd bod nifer fawr o atgyfeiriadau yn ogystal ag atgyfeiriadau a oedd o ansawdd gwael

           Roedd trothwyon mynediad at wasanaethau’n anghyson, ac nid oeddent yn cael eu rhannu’n ddigonol â phartneriaid neu nid oedd ganddynt ddealltwriaeth ddigonol ohonynt

           Roedd diffyg capasiti staff

           Roedd ansawdd a phrydlondeb ymateb i ymholiadau diogelu plant yn anghyson

           Roedd oedi o ran gweithredu trafodaethau strategaeth neu ddiffyg ymwneud gan rai partneriaid

           Nid oedd asesiadau bob amser yn rhoi sylw i ddadansoddi risg

           Roedd amrediad y gwasanaethau a’r adnoddau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Perfformiad y Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant ar Berfformiad y Gwasanaethau Plant. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn y dangosyddion penodol canlynol -

 

           SCC/025 – Canran yr ymweliadau statudol â phlant sy'n derbyn gofal yr oedd angen eu cynnal yn ystod y flwyddyn ac a gwblhawyd yn unol â’r rheoliadau.

           PM24 - Canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn yr amserlenni statudol (42 diwrnod gwaith).

           PM32 - Canran y plant sy'n derbyn gofal ac sydd wedi newid ysgol o leiaf unwaith mewn cyfnod neu gyfnodau pan oeddent yn derbyn gofal, ac eithrio oherwydd trefniadau trosiannol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth.

           PM33 - Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi gofyn am adroddiad ar berfformiad y Gwasanaethau Plant wedi iddo ystyried y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2016/17. Er iddo dderbyn y mesurau lliniaru a gyflwynwyd ar y pryd, ac na ofynnwyd i Swyddogion roi esboniad am y perfformiad gan yr ystyrid bod Ch1 yn rhy gynnar yn y flwyddyn i wneud hynny, roedd y Pwyllgor wedi adnabod y Gwasanaethau Plant fel maes oedd angen ei fonitro’n ofalus. O’r herwydd roedd y Pwyllgor wedi gwahodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd y cyfnod adrodd ar gyfer Chwarter 2. Fodd bynnag, gohiriwyd yr adroddiad oherwydd yr arolygiad o’r Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd gan AGGCC ym mis Tachwedd 2016.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant ar berfformiad y gwasanaeth yn erbyn pob un o’r pedwar dangosydd gan dynnu sylw at y rhai sy’n cwrdd â’r targedau ar hyn o bryd (PM32 a PM33); y rhai lle rhagwelir na chyrhaeddir y targed (SCC/025 a PM24) ac adroddodd ar y ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad a’r camau sy’n cael eu cymryd i adfer y sefyllfa.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor bod gostyngiad amlwg yn y perfformiad yn erbyn Dangosydd PM24 o 100% yn Ch1 i 81.62% yn Ch3 a gofynnodd am esboniad dros y cwymp. Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Plant fod materion yn ymwneud â’r gweithlu, yn arbennig trosiant staff uchel, yn ffactorau sy’n dylanwadu ar y tanberfformiad yn erbyn y dangosydd hwn. Ar hyn o bryd mae 5 swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn wag gyda staff asiantaeth yn llenwi’r bwlch. Mae recriwtio staff sydd â phrofiad addas yn parhau i fod yn her. Derbyniodd y gwasanaeth yr hawl i recriwtio staff ychwanegol ar sail dros dro ond collwyd yr aelod staff i swydd barhaol. Mae hyn wedi cael effaith ar berfformiad yn ystod chwater tri. Mae’n annhebygol y bydd yr Awdurdod yn gallu recriwtio staff profiadol ar sail dros dro; mae modd llenwi’r bwlch drwy gyflogi staff asiantaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.