Rhaglen a chofnodion

Ch4, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 26ain Mehefin, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 10 Ebrill, 2017 pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·         10ed Ebrill, 2017

·         31  Mai, 2017 (ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod –

 

           10 Ebrill, 2017 a gafodd eu derbyn a'u nodi fel rhai a oedd yn berthnasol i’r Cyngor blaenorol

           31 Mai, 2017 a gafodd eu derbyn a'u cymeradwyo

3.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2016/17 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 4 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - Adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn portreadu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 4 2016/17 mewn perthynas â Rheoli Perfformiad, Rheoli Pobl, Rheolaeth Ariannol a Gwasanaeth Cwsmer.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod y cerdyn sgorio fel yr ymddengys yn Atodiad A yn portreadu darlun cymysg ar y cyfan ar ddiwedd 2016/17. Er bod y mwyafrif helaeth o ddangosyddion wedi perfformio'n dda yn erbyn eu targedau ar gyfer y flwyddyn, roedd meysydd nad oedd eu perfformiad cystal ac yn achos pedwar dangosydd, mae perfformiad yn adlewyrchu dirywiad blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae dau o’r dangosyddion, y naill yn y Gwasanaethau Oedolion a'r llall yn y Gwasanaethau Plant yn ymddangos yn Ambr neu’n Goch yn erbyn eu targedau blynyddol ar gyfer y flwyddyn. Manylir ar y rhain ym mharagraffau 2.1.3 a 2.1.4 o'r adroddiad, ynghyd ag esboniad am y tanberfformiad ac amlinelliad o'r camau gwella arfaethedig. Er bod y mwyafrif o'r dangosyddion yn Wyrdd neu’n Felyn, nid yw hyn yn golygu y byddai sefyllfa'r Awdurdod ar sail genedlaethol yn gwella o ganlyniad. Bydd sefyllfa'r Awdurdod o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru yn hysbys unwaith y bydd y data cenedlaethol ar gyfer 2016/17 wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

O ran Rheoli Pobl, roedd cyfraddau absenoldeb salwch yr Awdurdod ar ddiwedd 2016/17 wedi bodloni’r targed corfforaethol o 9.78 diwrnod o salwch fesul aelod o staff Amser Llawn Cyfatebol (FTE) yn erbyn y targed o 10 niwrnod salwch ac mae'n Wyrdd ar y cerdyn sgorio. Mae hyn yn welliant sylweddol o gymharu â pherfformiad 2015/16 pryd cofnodwyd 11.68 diwrnod o salwch fesul FTE ac mae’n cynrychioli cyfanswm o 4,737 yn llai o ddiwrnodau o salwch nag yn 2015/16. Er bod rhai problemau’n parhau gydag absenoldeb oherwydd salwch yn y Gwasanaethau Plant ac yn y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, mae'r cyfraddau absenoldeb salwch ar gyfer 2016/17 yn y gwasanaethau hynny yn dal i adlewyrchu darlun sy’n gwella.

 

Mae adroddiad Archwilio Cymru ar reoli absenoldeb o fewn y Cyngor yn gadarnhaol ei naws a daw i’r casgliad fod y Cyngor wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ei drefniadau corfforaethol ar gyfer rheoli presenoldeb, ar ôl rhoddi sylw iddynt fel mater o flaenoriaeth. Ymhellach, daw’r adroddiad i’r casgliad bod y Cyngor yn awr yn rhagweithiol yn dal ysgolion i gyfrif am reoli presenoldeb. Mae'r adroddiad yn gwneud dau gynnig ar gyfer gwelliant o ran y modd y mae'r Cyngor yn cefnogi ysgolion gyda'u trefniadau rheoli presenoldeb.

 

Mewn perthynas â Gwasanaethau Cwsmer, mae canran yr ymatebion a wnaed o fewn yr amserlen o ran cwynion a cheisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi gwella o gymharu â pherfformiad 2015/16. Mae canfyddiadau'r ymarfer Siopwr Cudd a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn yn cadarnhau bod safon gofal cwsmer yn Ynys Môn wedi gwella ers yr archwiliad diwethaf yn 2015/16, ond serch hynny, mae’r adroddiad ar yr ymarfer yn argymell bod lle i wella ymhellach fel yr amlinellir ym  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2016/17.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016/17. Mae'r adroddiad yn darparu adolygiad o ba mor dda y darparwyd gwasanaethau cymdeithasol ar Ynys Môn yn 2016/17 gan gynnwys llwyddiannau allweddol yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn ogystal â'r heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y flwyddyn i ddod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod 2016/17 wedi bod yn flwyddyn heriol o ran y cyd-destun y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu y tu mewn iddo. Cafodd y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu ei drawsnewid i gwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWB). Yn ogystal, mae’r cyni ariannol a’r pwysau parhaol ar gyllidebau, ynghyd ag ymwybyddiaeth o’r tueddiadau a’r gofynion tebygol yn y dyfodol yn golygu bod angen ailfeddwl yn radical am y modd y darperir gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant, dywedodd y Swyddog fod llawer o'r gwaith yn cael ei yrru gan yr argymhellion a wnaed yn adroddiad AGGCC yn dilyn ei harolygiad o’r Gwasanaethau Plant. Mae'r argymhellion hyn yn cael eu gweithredu drwy Gynllun Gwella'r Gwasanaethau Plant a bydd yn cael ei fonitro gan y Panel Plant a fydd yn adrodd yn ôl ar gynnydd i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Yn dilyn adroddiad AGGCC, bu’r ffocws ar ddatblygu strategaeth gweithlu sy'n canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff; gwella goruchwyliaeth i weithwyr cymdeithasol; gwella ansawdd ymarfer mewn perthynas ag amddiffyn plant; cryfhau partneriaethau a chydweithio o fewn y Cyngor ac yn allanol gydag asiantaethau partner; cynnal adolygiad o leoliadau preswyl a cheisio lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

 

Mae’r Gwasanaethau Oedolion wedi gweld cyfnod o sefydlogrwydd sydd wedi galluogi'r gwasanaeth i ganolbwyntio ar y dyfodol ac i atgyfnerthu cynnydd mewn perthynas â datblygu ac adeiladu Hafan Cefni; ehangu’r capasiti i ofalu am bobl sydd â dementia ar yr Ynys; ail-dendro’r contract ar gyfer gofal cartref; datblygu mentrau atal megis y Tîm Gofal Ychwanegol Môn a'r Gwasanaeth Tylluanod Nos; cynyddu’r niferoedd sy'n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol a chryfhau'r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad. Bydd blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys moderneiddio gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a datblygu cyd-gynhyrchu gyda darparwyr ar yr Ynys.

 

O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cyfanrwydd, bu pwyslais ar ddatblygu a hyfforddi’r gweithlu ac ar baratoi ar gyfer cyflwyno system TG genedlaethol (WCCIS) yn y Cyngor yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn galluogi'r gwasanaeth i weithio'n fwy effeithiol. Mae gwella ymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaeth yn enwedig o ran gwrando ar farn defnyddwyr drwy gael sgwrs Beth sy'n Bwysig ar adeg yr asesiad cychwynnol a chan ystyried hefyd eu profiadau wrth lunio gwasanaethau a darpariaeth yn parhau i fod yn faes allweddol. Mae angen parhaus ar draws y gwasanaethau cymdeithasol i ddatblygu'r agenda ataliol – bydd cymryd camau ataliol yn gwella bywydau a lles unigolion a bydd hefyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Strategaeth Tai Gwag 2017 - 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Tai Gwag ar gyfer 2017-2022. Mae'r Strategaeth yn nodi'r cyflawniadau hyd yma yn ogystal â’r modd y bydd yr adnoddau yn cael eu targedu yn y dyfodol.

 

Canmolodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Strategaeth fel dogfen gadarnhaol a fyddai’n cynorthwyo'r Awdurdod i barhau gyda'r gwaith da a ddechreuwyd o ran dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a thrwy hynny helpu i fodloni'r angen am dai ar yr Ynys.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddogfen Strategaeth a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sail ar gyfer cyfrifo bod 840 o gartrefi ar yr Ynys ar hyn o bryd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag bod yr adran Treth Gyngor yn cadw data ar berchnogion tai gwag a pherchnogion ail gartrefi ac yn cyflwyno’r wybodaeth hon yn flynyddol i'r Swyddog Tai Gwag; defnyddir y wybodaeth hon i ddiweddaru'r gronfa ddata tai gwag. Mae'r gronfa ddata’n cael ei diweddaru ymhellach bob tri mis fel y daw tai gwag yn ôl i ddefnydd ac eraill yn dod yn wag. Un o’r amcanion strategol yw cynnal a gwella cywirdeb y data tai gwag. Gall y rhesymau pam fod tai yn dod yn wag amrywio o eiddo i eiddo.

           Nododd y Pwyllgor fod dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn ymdrech gydunol ac mae'n golygu cydweithio rhwng nifer o wasanaethau ar draws y Cyngor, gan gynnwys y gwasanaeth gorfodi. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod gan y Tîm Gorfodi gapasiti digonol i allu ymdopi â’r pwysau cynyddol ac amrywiol. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag mae ei chyfrifoldeb hi yw cydlynu ymagwedd y Cyngor tuag at orfodaeth yn y maes tai gwag ac mae hyn yn cynnwys gwneud gwaith paratoi ar ffurf casglu tystiolaeth, drafftio adroddiadau ac amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd. Nid yw camau gorfodaeth fodd bynnag yn ateb cyflym ac mae’n rhywbeth a wneir pan fydd pob opsiwn arall wedi methu â chynhyrchu canlyniad boddhaol. Rhaid rhoi amser i berchenogion tai sydd wedi derbyn rhybuddion i ymateb ac i fynd i'r afael â'r mater.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y broses a ddilynir wrth geisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag y bydd Swyddogion bob amser yn ceisio gweithio gyda pherchnogion tai gwag yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyngor, cymorth ac opsiynau a ddyluniwyd i helpu perchnogion tai gwag fel yr amlinellir yn y pecyn cymorth a ddisgrifir yn adran 6 yr adroddiad. Lle mae trafodaethau wedi methu, a pherchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn gwrthod neu'n methu â dychwelyd eu heiddo yn ôl i ddefnydd, gellir cymryd mesurau cadarnach i fynd ar drywydd hyn. Pan fydd angen cymryd camau o’r fath, bydd y Cyngor yn glynu wrth ei egwyddorion gorfodi sy’n golygu gorfodaeth deg a chyson.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Aelodaeth Panelau a Byrddau pdf eicon PDF 862 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro yn gofyn am enwebu Aelodau Sgriwtini i wasanaethu ar banelau a byrddau. Roedd yr adroddiad yn nodi’r panelau, y byrddau rhaglen gorfforaethol a’r byrddau rhaglen gwasanaeth yr oedd angen cynrychiolwyr ar eu cyfer, eu swyddogaeth a'u trefniadau adrodd.

 

Penderfynwyd –

 

           Enwebu'r canlynol i wasanaethu ar y panelau a’r byrddau a restrwyd –

 

Panel Gwella Gwasanaethau Plant (1 Aelod) - Y Cynghorydd Richard Griffiths

Panel Sgriwtini Cyllid (2 Aelod) - Y Cynghorwyr Aled Morris Jones a Dylan Rees

 

Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion (4 Aelod) - Y Cynghorwyr J. Arwel Roberts ac Alun Roberts (enwebiad y 2 Aelod arall i'w ohirio tan y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhelir ar 11 Gorffennaf er mwyn caniatáu i’r Aelodau hynny nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfod hwn i fynegi diddordeb)

 

Panel Rhiant Corfforaethol (1 Aelod) - Y Cynghorydd Richard Griffiths

 

Bwrdd Trawsnewid Llywodraethiant a Phrosesau Busnes (1 Aelod) - y Cynghorydd Aled Morris Jones gyda'r Cynghorydd Dylan Rees yn gweithredu fel dirprwy

 

Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion (1 Aelod) - Y Cynghorydd Alun Roberts

 

Bwrdd Rhaglen Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Threftadaeth (1 Aelod) - Y Cynghorydd J. Arwel Roberts

 

(Enwebiadau ar gyfer y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a’r Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer i’w gwneud gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio).

 

Bwrdd Diogelu Corfforaethol (1 Aelod) - y Cynghorydd Aled Morris Jones gyda'r Cynghorydd Dylan Rees yn gweithredu fel dirprwy.

 

           Nodi'r trefniadau adrodd ar gyfer y paneli a’r byrddau a restrwyd fel y cânt eu hamlinellu yn adran 4 yr adroddiad.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 666 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro yn ymgorffori Blaen Raglen Waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2017/18

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro bod y Flaenraglen Waith fel y'i cyflwynwyd yn cynnwys rhestr hir o eitemau posibl a gyflwynwyd yn wreiddiol gan y Cyngor blaenorol. Bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi yn awr i sicrhau bod y rhaglenni gwaith ar gyfer y ddau bwyllgor sgriwtini wedi'u halinio’n glir. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y Fforwm Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini. Yr amcan yw lleihau nifer yr eitemau a fydd yn cael eu hystyried ym mhob cyfarfod er mwyn i'r Pwyllgor ganolbwyntio yn fanylach ac yn fwy effeithiol ar faterion allweddol. Mae'r Rhaglen Waith fel y'i cyflwynir yn cynrychioli’r drafft presennol a bydd yn cael ei hadolygu’n barhaus.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Flaenraglen Waith fel amlinelliad drafft cychwynnol o raglen fusnes y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro i adolygu'r rhaglen waith mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd gan gyfeirio at raglenni gwaith perthnasol y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.