Rhaglen a chofnodion

Cyllideb - Cynigion Terfynol, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 5ed Chwefror, 2018 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a Swyddogion i’r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i gynrychiolwyr y Panel Dinasyddion a Chyngor Ieuenctid Môn (Llais Ni).  

1.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 13 Tachwedd, 2017 pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –

 

·        13 Tachwedd, 2017

 

·        14 Rhagfyr, 2017 (Galw i Fewn)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2018 a 14 Rhagfyr, 2018 (cyfarfod galw i mewn) a chadarnhawyd eu bod yn gywir.  

3.

Gosod Cyllideb 2018/19 (Refeniw a Chyfalaf) pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori’r canlynol -

 

           Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ynglyn â’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf am 2018/19 (Atodiad 1)

 

           Y negeseuon allweddol o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2018/19 (Atodiad 2)

 

           Adroddiad gan y Panel Dinasyddion a’r Cyngor Ieuenctid (Llais Ni) ar ymateb dinasyddion i gynigion arbedion y gyllideb a’r trefniadau craffu ar y gyllideb. (Atodiad 3)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad y cyd-destun ar gyfer y broses o osod y gyllideb ynghyd â’r materion allweddol a’r cwestiynau ar gyfer Sgriwtini o ran gwerthuso’r cynigion terfynol ar y Gyllideb yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac roedd yn cynnwys y ddogfennaeth ganlynol –  

 

3.1       Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb refeniw Arfaethedig ar gyfer 2018/19. Rhoes yr adroddiad ddatganiad sefyllfa ar yr ystyriaethau ariannol allweddol sydd wedi dylanwadu ar y modd y mae’r cynigion cyllidebol terfynol wedi eu llunio (Atodiad 1)

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Cyllid i’r Gwasanaeth Cyllid am ei waith ers dechrau’r broses o osod cyllideb 2018/19 a hefyd i benaethiaid Gwasanaeth, adrannau ac Aelodau Etholedig am eu cyfraniad i broses sydd wedi cymryd nifer o fisoedd ac sydd wedi cynnwys gwaith trafod a herio. Mynegwyd diolch hefyd i Llais Ni a’r Panel Dinasyddion am eu cyfraniad i’r broses sgriwtini. Adroddodd yr Aelod Portffolio y daw’r cyfraniad mwyaf i gyllideb y Cyngor ar ffurf cyllid Llywodraeth Cymru (LlC) ac er y gwelwyd cynnydd o £0.888m (0.7%) yn ffigwr y setliad terfynol o gymharu â’r ffigwr dros dro, nid yw’n ddigon i allu ymateb yn llawn i effeithiau codiadau cyflog cyffredinol a chwyddiant  nac i allu bodloni’r pwysau cynyddol ar gyllidebau’r Cyngor ac o ganlyniad mae angen dod o hyd i arbedion mewn modd sydd mor deg â phosibl ar draws holl wasanaethau’r Cyngor. Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, 2017 fe gymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb digyfnewid yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru, y cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd ar y pryd a chynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor (gyda 1% o hwn wedi’i glustnodi ar gyfer Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol sef y mannau lle mae’r pwysau mwyaf difrifol ar y gyllideb). Mae’r adroddiad fel y’i cyflwynwyd yn cyfeirio ar gyllideb ddigyfnewid wedi’i hadolygu o £133.127m, yn seiliedig ar setliad grant refeniw o £95.812m gan Lywodraeth Cymru, arbedion o £3.3m gyda’r gweddill yn cael ei gynhyrchu gan y Dreth Gyngor. Mae’r her y mae’r Cyngor yn ei hwynebu’n flynyddol o geisio cydbwyso’r gyllideb yn un sylweddol. Mae’r hinsawdd barhaus o gyni ariannol yn golygu bod yr angen i ddod o hyd i arbedion yn parhau ac ychydig iawn o sicrwydd sy’n bodoli o ran natur a maint yr heriau a wynebir yn y dyfodol. Rhaid i’r Cyngor felly ystyried yr holl opsiynau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod mor effeithiol â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael a bod toriadau’n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar drigolion Ynys Môn.     

      

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini mai dyma ail gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a oedd yn canolbwyntio ar gyllideb 2018/19 yn dilyn cynnal y cyntaf ym mis Hydref 2017 pan fu’r Pwyllgor yn craffu ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb a gyflwynwyd ar y pryd. Ym mis Hydref, gofynnodd y Pwyllgor i’r Panel Sgriwtini Cyllid edrych yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 1008 KB

Derbyn adroddiad cynnydd ar waith y Panel Sgriwtini Cyllid hyd yma.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini yn cynnwys diweddariad ar gynnydd gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Yn yr adroddiad, cafwyd crynodeb o’r materion sydd wedi derbyn sylw’r Panel yn ystod Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018 ynghyd â fersiwn wedi’i diweddaru o raglen waith y Panel hyd at fis Mawrth, 2018.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Panel Sgriwtini Cyllid bellach wedi cyfarfod ar chwe achlysur ac yn ystod y cyfnod hwn bod y Panel wedi edrych ar sawl agwedd o wariant y Cyngor ac wedi derbyn mewnbwn arbenigol gan CIPFA Cymru. Mae dau adroddiad wedi eu comisiynu gan y Panel mewn perthynas â Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu sef dau faes lle mae pwysau ar gyllidebau penodol a lle mae gorwariant o ganlyniad i hynny. Cyflwynwyd yr adroddiadau hynny i’r Panel yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror, 2018 a nododd y Panel fod y ddau wasanaeth yn gweithio ar ffyrdd o leihau’r gorwariant a hynny fel mater o flaenoriaeth. Tra’n parhau i fonitro’r Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Dysgu, bydd y Panel hefyd yn ymestyn ei waith sgriwtini ariannol dros y misoedd nesaf i feysydd yn cynnwys gwasanaethau Oedolion, gwasanaethau Hamdden a gwasanaethau Gwastraff.   

 

Penderfynwyd nodi

           Y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid.

           Bod prosesau’n ymwneud â monitro’r gyllideb ar gyfer 2017/18 a gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19 i weld fel eu bod ar y trywydd iawn hyd yma.

           Y rhaglen datblygu sgriwtini cyllid ar gyfer aelodau o’r Panel sy’n cael ei ddarparu gan CIPFA Cymru. 

           Pryder y Panel mewn perthynas â’r gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu. Mae’r Pwyllgor yn nodi, fel cam cyntaf, fod y Panel wedi gwahodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Pennaeth y Gwasanaethu Plant a’r Pennaeth Dysgu i roi esboniad o’r sefyllfa ariannol yn y ddau wasanaeth ynghyd â’r mesurau lliniaru a argymhellir er mwyn rheoli gorwariant a nodir ymhellach y bydd y Panel yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ei ganlyniadau yn y man.  

 

NI CHAFODD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL EU CYNNIG

 

5.

Blaen Raglen Waith 2017/18 pdf eicon PDF 701 KB

Cyflwyno er gwybodaeth ac adolygiad, Rhaglen Waith gyfredol y Pwyllgor am 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor  hyd at fis Mehefin, 2018 ar gyfer ei adolygu ac ar gyfer derbyn unrhyw sylwadau. 

 

Cafwyd diweddariad gan y Cadeirydd mewn perthynas â’r canlynol

           Y bydd yr eitemau ar raglen cyfarfod 12 Mawrth, 2018  Pwyllgor yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch3 2017/18; Rhaglen Moderneiddio ysgolion Ardal Seiriol; Rhaglen Moderneiddio ysgolion ardal Llangefni (Talwrn/Y Graig); Asesiad Gofal Plant/Digonolrwydd Chwarae a’r Flaen raglen Waith.

           Efallai y bydd cyfarfod 9 Ebrill y Pwyllgor yn cael ei ail drefnu ar ddyddiad yn hwyrach yn y mis, dyddiad i’w gadarnhau. 

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Blaen Raglen Waith gyda’r newidiadau fel yr adroddwyd arnynt.

 

NI CHAFODD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL EU CYNNIG