Rhaglen a chofnodion

Ch3, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 12fed Mawrth, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Oherwydd absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Dylan Rees, yr Is-Gadeirydd. Etholwyd y Cynghorydd J. Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig o'r Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gan gynnwys Aelodau, Swyddogion a chynrychiolwyr Ysgol a chymuned Biwmares ac Ysgol a chymuned Talwrn.

 

Gyda chaniatâd y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n newid y trefn yr eitemau ar yr rhaglen ac yn cymryd eitemau 4 a 5 cyn eitem 3. Cytunodd y Pwyllgor i'r newid.

1.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu o ran eitem 4 ar y rhaglen fel aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu o ran eitem 5 ar y rhaglen fel aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol y Graig ac fel rhiant plentyn sy'n ddisgybl yn yr ysgol.

 

Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 a y rhaglen fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llangoed.

2.

Cofnodion Cyfarfod 31 Ionawr, 2018 pdf eicon PDF 483 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         31 Ionawr, 2018 (arbennig)

·         5 Chwefror, 2018 (cyfarfod Cyllideb)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir yn amodol ar y gwelliant a nodwyd:

 

           31 Ionawr, 2018 (arbennig)

           5 Chwefror, 2018, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Shaun Redmond yn y rhestr o’r rheini a oedd yn bresennol.

3.

Monitro Perfformiad : Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2017/18 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio ystyried yr eitem hon oherwydd diffyg amser. Roedd yr eitem wedi cael ei symud ar raglen y cyfarfod er mwyn caniatáu i eitemau 4 a 5 gael eu trafod yn gyntaf.

4.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol ynghyd ag argymhellion ar gyfer symud ymlaen gyda hynny.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant adroddiad ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd o 20 Tachwedd, 2017 hyd 6 Chwefror, 2018 a oedd wedi cynnwys cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni yn Ysgol Llangoed, Ysgol Biwmares ac Ysgol Llandegfan. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn niferus; roedd yr adroddiad yn nodi'r negeseuon o'r sylwadau a wnaed gan randdeiliaid yn y tair ysgol yn ogystal â'r ymatebion i'r arolwg ar-lein. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr argymhellion a wnaed yn dilyn y broses ymgynghori sy’n cynnwys cau Ysgol Biwmares; gofynnir i'r Pwyllgor Sgriwtini ystyried y rhain ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith eu mabwysiadau yn ei gyfarfod a gynhelir ar 26 Mawrth, 2018. Eglurodd yr Aelod Portffolio fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i foderneiddio ei ysgolion fel rhan o, ac yn unol â, Rhaglen Gyfalaf Ysgolion  21ain Ganrif Llywodraeth Cymru 21, sef rhaglen y mae’r Awdurdod a’r Weinyddiaeth yn ei chefnogi ar sail y gyrwyr ar gyfer newid a ddisgrifir yn yr adroddiad ymgynghori. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae'r Cyngor yn cydnabod bod moderneiddio addysg a sicrhau bod ei adeiladau ysgol yn creu amgylchedd dysgu dymunol sy'n ysgogi plant a phobl ifanc i ddod yn ddysgwyr effeithiol a datblygu sgiliau bywyd, yn flaenoriaeth uchel.

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er y gall y broses ymddangos yn gymharol syml, codwyd materion arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n amlwg o weithredu'r rhaglen foderneiddio ar yr Ynys hyd yma bod rhai ysgolion wedi gorfod cau fel bod eraill yn gallu datblygu ac, mewn rhai achosion, fel y gall ysgolion newydd sbon gymryd eu lle. Cydnabu'r Aelod Portffolio nad yw cau ysgol yn benderfyniad hawdd i'w ystyried nac i'w gymryd ond weithiau, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau o'r fath ac mae hwn yn un o’r achlysuron hynny. Os yw'r Awdurdod am fod yn gyson â'r egwyddorion moderneiddio y mae wedi'u gweithredu hyd yn hyn, mae'n rhaid iddo gario ymlaen a chymryd penderfyniadau anodd. Serch hynny, mae'r Awdurdod wedi ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac yn cydnabod bod hwn yn fater sy'n creu teimladau ac emosiynau cryf ymhlith rhieni am ei fod yn ymwneud ag addysg eu plant. Fodd bynnag, mae'r argymhellion a wnaed yn seiliedig ar y casgliadau y daethpwyd iddynt, er eu bod yn cynnwys cau Ysgol Biwmares, yn mynd y tu hwnt i'r un ysgol honno ac yn cymryd i ystyriaeth anghenion addysgol ardal Seiriol yn ei chyfanrwydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod yr adroddiad ymgynghori yn ceisio rhoi crynodeb o'r ymatebion i'r broses ymgynghori statudol a gynhaliwyd - mae Rhan 4 yr adroddiad yn crynhoi prif sylwedd y sylwadau o'r cyfarfodydd ymgynghori yn y tair ysgol. Mae Adran 5 yr adroddiad yn nodi'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr o Ysgol Biwmares sydd, ar y cyd, yn adlewyrchu teimlad cryf  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig) ynghyd ag argymhellion ar gyfer symud ymlaen.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd o 26 Medi, 2017 hyd 13 Tachwedd, 2017, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r sylwadau o'r cyfarfodydd ymgynghori yn ogystal ag atborth gan  disgyblion y ddwy ysgol. Dywedodd yr Aelod Portffolio, yn seiliedig ar y casgliadau y daethpwyd iddynt yn dilyn y broses ymgynghori statudol, fod 5 o argymhellion yn cael eu cyflwyno er ystyriaeth y Pwyllgor a bod y rhain eto yn anffodus, yn golygu cau ysgol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yn yr achos hwn, fod mwyafrif yr ymatebion wedi dod gan randdeiliaid yn Ysgol Talwrn, a bod hynny i’w ddisgwyl o ystyried y bod yr ysgol dan fygythiad o gael ei chau. Mae'r cynigion wedi cael eu diwygio ychydig o gymharu â'r rhai yr ymgynghorwyd yn wreiddiol arnynt oherwydd ar ôl asesu'r sefyllfa mewn perthynas ag Ysgol y Graig, ystyriwyd bod angen bloc neu adeilad newydd i'r ysgol yn hytrach na dim ond estyniad i’r adeilad a dod â dai disgyblion o Ysgol Talwrn i’r safle presennol. Cafodd nifer o gynigion amgen eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori gan gynnwys defnyddio Ysgol Talwrn i hyfforddi penaethiaid; moderneiddio neu adeiladu ysgol newydd yn Nhalwrn neu uno Ysgol Talwrn gyda naill ai Ysgol Llanbedrgoch neu Ysgol Pentraeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr holl gyflwyniadau a'r holl sylwadau a gafwyd, mae'r Awdurdod yn argymell y dylid nodi’r cynigion fel y'u nodir yn yr adroddiad.

 

Anerchodd Mr Islwyn Humphreys (Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn) a Bethan Wyn Jones (Grŵp Rhieni a Thrigolion) ill dau y Pwyllgor yn lleisio eu barn nhw a barn cymuned Talwrn ar y cynigion mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Pwysleisiodd y ddau wrthwynebiad cryf Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn a chymuned Talwrn i'r bwriad i gau ysgol y pentref a gofynnodd y ddau am i’r cynigion gael eu hailystyried. Wrth gyflwyno eu sylwadau, tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y pwyntiau canlynol –

 

           Ar hyn o bryd nid oes ond 6 lle gwag yn Ysgol Talwrn. Adeiladwyd pedwar tŷ yn ddiweddar yn yr ardal ac mae teuluoedd yn y rhan fwyaf ohonynt.  Yn ogystal, mae teulu o 6 wedi symud i'r pentref yn ddiweddar ac mae'r plant yn mynychu Ysgol Talwrn.

           Mae safonau addysg yn Ysgol Talwrn yn dda. Mae gan yr ysgol Bennaeth ifanc a brwdfrydig sy'n parhau i adeiladu ar lwyddiannau'r ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gan yr ysgol record ragorol o ran datblygu elfennau personol, cymdeithasol a lles addysg y plant. Mae'r ysgol hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o gyflawniad yn CA2 ac o ran canlyniadau, mae ymysg y goreuon o ysgolion Ynys Môn yn CA2.

           Mae Confensiwn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Asesiad Digonolrwydd Chwarae pdf eicon PDF 773 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio ystyried yr eitem hon oherwydd diffyg amser.

 

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 806 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio ystyried yr eitem hon oherwydd diffyg amser .