Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 2ail Hydref, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Estynnodd groeso penodol i Vicky Poole, Cyfarwyddwr Ardal Gogledd Cymru AGGCC a Marc Roberts, Arolygydd Arweiniol AGGCC a hefyd i gynrychiolwyr Ysgol Biwmares a Chyngor Tref Biwmares a oedd yn bresennol i gyfrannu i’r cyfarfod mewn perthynas ag Eitem 4 ar yr agenda.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Lewis Davies (nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Llangoed. Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol a’i fod wedi’i gynghori nad yw’r diddordeb yn un sy’n rhagfarnu.  

 

Bu’r Cynghorydd Carwyn Jones (nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Llandegfan. Datganodd y Cynghorydd Jones diddordeb pellach sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r mater hwn, sef bod ei gefnder cyntaf yn cael ei gyflogi yn Ysgol Biwmares a bod mab ei gefnder yn mynychu Ysgol Llandegfan. Dywedodd y Cynghorydd Jones, yn dilyn cais i’r Pwyllgor Safonau, ei fod wedi derbyn caniatâd arbennig ar 18 Gorffennaf i gael cymryd rhan yn llawn yn y broses moderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol ond nid i bleidleisio ar y mater.  

 

Bu’r Cynghorydd Lewis Davies (nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4 ar y rhaglen gan ei fod yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Biwmares. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol a’i fod wedi’i gynghori nad yw’r diddordeb yn un sy’n rhagfarnu a bod modd iddo gymryd rhan a phleidleisio ar y mater.  

 

2.

Perfformiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/17 pdf eicon PDF 406 KB

·        Derbyn cyflwyniad gan y AGGCC

 

·        Cyflwyno ymateb Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) bod mynd i’r afael ag anghenion gofalwyr ifanc wedi’i nodi fel eitem 12 yn y Cynllun Blaenoriaethau ar gyfer Gwella; mae opsiynau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd sy’n cynnwys gweithio rhanbarthol ac isranbarthol. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr; gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd lefel y pryder, o ochr y Rheoleiddiwr mewn perthynas ag agweddau penodol ar y ddarpariaeth gwasanaeth, wedi lleihau wrth i’r Awdurdod symud ymlaen â’r gwaith.

 

Dywedodd Arolygydd Arweiniol CSSIW, tra bo pryder wedi’i fynegi am rai pethau fel a nodir yn y llythyr e.e. cynnydd araf yn y ffordd mae gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn cael eu comisiynu, mae’r Arolygiaeth yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud, yn enwedig ar y cyd â phartneriaid, er mwyn datblygu materion yn y maes hwn. Mae’r Awdurdod yn asesu sut mae’r risgiau mewn perthynas â gofal cartref yn cael eu rheoli; tra bo’r Awdurdod yn cymryd agwedd systematig tuag at y mater mae’r canlyniad yn anodd ei ddarogan gan fod y sefyllfa yn datblygu ac yn parhau’n fyw. Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod perfformiad mewn perthynas â threfniadau diogelu rhag colli rhyddid yn broblem casglu data yn bennaf a does dim tystiolaeth i awgrymu bod defnyddwyr gwasanaeth wedi dioddef effaith anffafriol o ganlyniad i’r mater hwn. Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud yn seiliedig ar y Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant manwl ac er bod gan yr Arolygiaeth bryderon o hyd am y Gwasanaethau Plant, mae’n cydnabod fod cynnydd wedi’i wneud, yn enwedig mewn perthynas â’r agwedd strategol tuag at wasanaethau ataliol a thuag at faterion gweithlu a sicrwydd ansawdd.   

 

           Gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad o ddefnydd yr Arolygydd o’r gair gofal (caution) yn y rhan o’r llythyr sy’n cyfeirio at wasanaethau i bobl hŷn a darpariaeth breswyl i gefnogi pobl sydd â dementia ac anghenion cymhleth. Cadarnhaodd yr Arolygwyr fod yr angen i fod yn ofalus yn ymwneud ag ailgomisiynu gofal cartref ar sail ardal (mae Awdurdodau eraill yng Nghymru wedi ceisio gwneud hyn ond wedi cael problemau) ac nid mewn perthynas â’r agwedd tuag at ofal preswyl ar gyfer pobl â dementia, rhywbeth nad oes gan yr Arolygwyr bryderon amdano. Mae risgiau mewn perthynas â throsglwyddo’r bobl gywir i ddarpariaeth gofal ychwanegol; mae’r Awdurdod yn ymwybodol o hyn ac yn defnyddio’i brofiad blaenorol o leoli unigolion mewn darpariaeth gofal ychwanegol. Mae’r Awdurdod hefyd yn ymwybodol o'r angen i barhau i ddarparu gofal priodol ar gyfer pobl hŷn fregus yn eu cartrefi eu hunain.     

 

           Nododd y Pwyllgor y bydd y Panel Plant yn ystyried y gweithredoedd o fewn y Cynllun Blaenoriaethau Gwella sy’n benodol i Wasanaethau Plant ac y bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2016/17. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor ar gyfer 2016/17 ac yn benodol y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion gwelliant a nodir yn y 7 maes allweddol o fewn Dogfen Darpariaeth Flynyddol 2015/2016.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod yr Adroddiad Perfformiad blynyddol yn cyfleu neges gadarnhaol am berfformiad y Cyngor yn 2016/17. Llwyddodd y Cyngor i barhau i gyflawni nifer o’i ymrwymiadau mewn nifer o feysydd blaenoriaeth gan gynnwys o fewn Gwasanaethau Oedolion, Addysg, Datblygiad Economaidd a Chymunedol a Thai. Mae’r llwyddiannau hyn yn cael eu trafod yn fanylach o fewn naratif yr adroddiad. Gwelwyd gwelliant mewn dros 64% o Ddangosyddion Perfformiad y Cyngor (DP) yn ystod y flwyddyn a tra gwelwyd gostyngiad ym mherfformiad rhai DP, mae canran y rheini hefyd i lawr o 45% yn 2015/16 i 24% yn 2016/17. Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol ei fod yn falch iawn o allu adrodd bod Cyngor Sir Ynys Môn, am y tro cyntaf erioed, ymysg y pedwar awdurdod lleol gorau yng Nghymru mewn perthynas â pherfformiad DP cyffredinol ac yn seithfed o’r cyfanswm o 22 awdurdod lleol o ran perfformiad yn y chwartel uchaf. Mae hyn heb os yn gyrhaeddiad sylweddol a chlodwiw yn enwedig yng nghyd-destun y newidiadau sydd wedi digwydd yn y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf a’r sefyllfa ariannol gynyddol heriol.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y Cyngor blaenorol wedi gweithio’n ddiwyd dros gyfnod y Cyngor diwethaf er mwyn gallu symud y Cyngor yn ei flaen a drwy wneud hynny gosodwyd her i’r Cyngor newydd gynnal yr un momentwm. Nododd bod angen diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant a bod yr Adroddiad Perfformiad yn glod iddynt.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe nodwyd y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflawni’r amcanion a osodwyd gan y Cyngor yn 2016/17 a oedd hefyd wedi nodi diwedd cyfnod Cynllun Corfforaethol 2013/17. Nododd y Pwyllgor ymhellach tra mai un o’r dyheadau a nodir gan y Cyngor oeddgyrru adfywio cymunedol drwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned holistig ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys gan flaenoriaethu Caergybi, Llangefni ac Amlwch”, nid oedd unrhyw sôn am y cynlluniau ar gyfer Amlwch fel un o’r aneddiadau  blaenoriaeth a enwir ac nid oedd yn gysylltiedig â’r cynlluniau y cyfeiriwyd atynt yn y rhestr o gyraeddiadau. Yn ychwanegol at hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gyfeiriad at gynlluniau adfywio cymuned ar gyfer Biwmares fel y brif dref yng nghornel de-ddwyreiniol yr Ynys ac ‘roedd o’r farn y dylid ei gynnwys mewn unrhyw raglen adnewyddu.    

 

Nododd y Pwyllgor mai’r cyfnod y mae’r Adroddiad Perfformiad yn berthnasol iddo yw cyfnod Gweinyddiaeth flaenorol y Cyngor cyn yr Etholiadau Llywodraeth leol ym Mai 2017 a gofynnwyd am gadarnhau hynny yn yr adroddiad. 

 

 

Yn dilyn ystyried yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys canlyniad yr ymgynghoriad anstatudol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol. Roedd yr adroddiad yn nodi elfennau canlynol y broses –

 

           Y cyd-destun yn cynnwys y prif yrwyr newid ar gyfer moderneiddio’r ddarpariaeth o addysg gynradd yn Ynys Môn sy’n sail i’r rhaglen moderneiddio ysgolion gyffredinol ac a fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad o ran y ddarpariaeth orau ar gyfer ardal Seiriol (adran 2)

           Y broses ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 19 Mehefin 2017 a 30 Gorffennaf 2017.

           Y sylwadau a’r ymatebion a gafwyd gan staff, llywodraethwyr a rhieni ysgolion yn ystod y cyfarfodydd ymgynghori yn yr ysgolion a effeithir arnynt – Ysgol Biwmares, Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed (adran 4) 

           Y rhanddeiliaid eraill y cafodd y ddogfen ymgynghori ei chylchredeg iddynt (adran 5)

           Y rhestr estynedig o yrwyr newid y cafodd yr opsiynau eu sgorio allan o 10 yn eu herbyn (adran 9)

           Dadansoddiad manwl o 9 opsiwn yn cynnwys y rhai hynny a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori yn ogystal ag eraill a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymarfer ymgynghori a’u sgorau (adran 9).

           Dadansoddiad cost o’r opsiynau a chrynodeb o’r sgorau ar ffurf tabl (adran 10)

           Argymhelliad ar y ffordd ymlaen o ran yr opsiwn/opsiynau a ffafrir er mwyn ffurfio sail i’r cam nesaf yn y broses ymgynghori (adran 11). 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg mai’r ymgynghoriad ar ddarpariaeth addysg ysgol gynradd yn ardal Seiriol yw’r cam diweddaraf yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn ac mae’n dilyn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 21 Gorffennaf, 2016 i awdurdodi Swyddogion Addysg i barhau ag ymgynghoriad anstatudol ar y ddarpariaeth o addysg gynradd yn yr ardal ac i baratoi opsiynau i barhau â nhw. Mae nifer o opsiynau wedi eu hystyried ac wedi eu sgorio gyda 2 opsiwn yn cael yr un sgôr uchaf (79), sef – 

 

Cau Ysgol Biwmares a rhoi’r dewis i rieni anfon eu plant i’r ddwy ysgol arall , ailwampio’r ddwy ac efallai ffederaleiddio (opsiwn 2), a

 

Cau Ysgol Biwmares a rhoi’r dewis i rieni anfon eu plant i’r ddwy ysgol arall ac i adolygu’r dalgylchoedd (opsiwn 3)

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi mynychu’r cyfarfodydd ymgynghori yn y tair ysgol a’i fod wedi treulio amser yn adlewyrchu ar yr holl ystyriaethau materol a'i fod wedi dod i’r casgliad anorfod bod y rhan fwyaf o’r opsiynau sy’n sgorio’n uchel yn erbyn y gyrwyr ar gyfer newid yn cynnwys cau Ysgol Biwmares. Er bod ystyriaeth wedi’i rhoi i ffyrdd o geisio osgoi’r opsiwn hwn, mae’r cyfuniad o ffactorau a’r sgorau terfynol yn dod i’r un canlyniad sef bod cau Ysgol Biwmares yn dod i’r amlwg yn yr opsiynau sy’n bodloni’r angen ar gyfer newid. Er hynny, ychwanegodd yr Aelod Portffolio Addysg ei fod yn dal yn agored i opsiynau amgen ymarferol.

 

Mewn ymateb i gais am esboniad gan y Cadeirydd am ddilysrwydd y broses gan fod yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Tai Gofal Ychwanegol - Ardal Seiriol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu cynnig i ymgysylltu â chymuned Seiriol ynghylch datblygu tai gofal ychwanegol yn yr ardal.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod elfen allweddol o'r Rhaglen Trawsnewid i Oedolion yn ymwneud ag ailgyflunio darpariaeth llety a symud i ffwrdd o ofal preswyl traddodiadol tuag at fodel tai Gofal Ychwanegol. Ym mis Hydref, 2015, gwnaed ymrwymiad i ystyried opsiynau ar gyfer safle priodol yn Ne Ynys Môn i ddatblygu tai gofal ychwanegol, a nodwyd ardal Seiriol fel y lleoliad a ffafrir pe bai safleoedd ar gael yn yr ardal honno. Yn ystod 2016 comisiynwyd arolwg o safleoedd posibl trwy Wasanaethau Eiddo'r Cyngor a oedd yn ystyried y ffactorau a restrir yn yr adroddiad. Mae'r ffactorau hynny wedi dylanwadu ar y broses ar gyfer dewis safle ac adroddir ar y broses honno yn Atodiad A. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi mai’r dewis a ffafrir yw datblygu Tai Gofal Ychwanegol ar safle'r ysgol gynradd gyfredol, naill ai i’w gydleoli gyda'r ysgol er mwyn  sicrhau defnydd effeithiol o’r tir, neu fel arall, fel yr unig denant. Aseswyd dau leoliad o fewn y safle, sef lleoliad y ganolfan ddydd sydd bellach yn wag, a'r llall y tu cefn i’r ysgol. Mae'r ail yn darparu ar gyfer gwneud gwell defnydd o'r ardal a allai, o bosib, gynorthwyo i sicrhau bod dyluniad yr adeilad yn gyson â statws rhestredig yr ysgol ac a allai ganiatáu rhannu cyfleusterau arlwyo gyda'r ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol, y byddai'r safle yn fwy addas i dai cymdeithasol sydd yn brin ym Miwmares. Mae’r bwriad i ddatblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol ar y safle hwn yn cynyddu’r demograffig pobl hŷn ym Miwmares ac mae hynny, ynghyd â’r posibilrwydd o gau'r ysgol gynradd, yn atgyfnerthu’r argraff o’r dref fel lle i bobl hŷn yn bennaf. Pwysleisiodd y Cynghorydd Davies bwysigrwydd cael cynllun corfforaethol ar gyfer yr ardal i fynd i'r afael â’r ystyriaeth hon a’r ystyriaethau eraill sy'n berthnasol i ddyfodol yr ardal a'i ffyniant economaidd a'i hyfywedd.

 

Eglurodd y Cadeirydd y bydd cyfleoedd i wneud sylwadau ar y cynigion yn fanwl yn ystod y cyfnod ymgysylltu. Gofynnodd am adroddiad ar ganlyniad yr ymgysylltiad â'r ardal leol ar gyfer y Pwyllgor hwn cyn cyflwyno'r atborth i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnal cyfnod o ymgysylltu’n lleol yn ardal Seiriol yn ystod mis Tachwedd, 2017 ynglŷn â’r materion canlynol:

 

           Datblygu darpariaeth Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol i ddarparu lleiafswm o 39 o fflatiau hunangynhaliol yn unol â’r modelau darpariaeth a gymeradwywyd yn genedlaethol

           Mai’r lleoliad a ffafrir ar gyfer y datblygiad hwn yw safle presennol Ysgol Biwmares naill ai fel cyfleuster wedi’i leoli ar y cyd ag ysgol wedi’i haddasu, neu fel y prif ddefnydd ar gyfer y tir hwn

•  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.