Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrnhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Griffiths ddiddordeb personol ond nad oedd yn rhagfarnu ar y sail bod ei ferch yn gweithio yn  yr Adran Dai.

 

Datganodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiddordeb personol ond nad oedd yn rhagfarnu oherwydd ei fod yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Biwmares.

2.

Tai Gofal Ychwanegol - Ardal Seiriol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cynnwys crynodeb o'r atborth a gafwyd o'r broses ymgysylltu a'r argymhellion terfynol mewn perthynas â’r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol arfaethedig ar safle Ysgol Biwmares yn ardal Seiriol. ‘Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed ar 15 Ionawr, 2018 ac ymateb y Cyngor i'r materion a godwyd, ynghyd ag Adroddiad Dewis Safleoedd gan Uwch Swyddog Prisio’r Awdurdod ac atborth o holiadur ar-lein.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymrwymiad wedi ei wneud yn 2015 i ddatblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol; nodwyd safle Ysgol Biwmares wedi hynny fel y safle mwyaf addas ar gyfer y datblygiad i drigolion ardal Seiriol ac ar gyfer De'r Ynys yn gyffredinol. Cefnogodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith y bwriad i ymgysylltu yn lleol yn ward Seiriol mewn perthynas â’r cynnig ac yn benodol ynghylch lleoliad y cynllun arfaethedig.  Cynhaliwyd y broses hon yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2017 a chafwyd cyfarfodydd gyda'r cynghorau tref a chymuned lleol, sesiynau galw heibio, arolwg ar-lein a chyfarfod cyhoeddus. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod yr ymatebion i'r cynnig yn gymysg ac er bod cefnogaeth gyffredinol i gynllun Tai Gofal Ychwanegol (TGY) fel ffurf o ddarpariaeth, mae anghytundeb ynghylch y lleoliad gorau ar gyfer datblygiad TGY yn Seiriol yn ogystal â phryderon am effaith y cynllun arfaethedig ar ddyfodol Cartref Preswyl Haulfre.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad gweledol i'r Pwyllgor yn seiliedig ar y cyflwyniad a roddwyd i'r cynghorau tref a chymuned a’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed ar 15 Ionawr, 2018. ‘Roedd y cyflwyniad yn mynd i'r afael â'r materion canlynol –

 

           Y dystiolaeth o blaid gofal ychwanegol yn hytrach na gofal preswyl. Mae gofal ychwanegol yn cefnogi bywyd annibynnol ac o ansawdd uwch ac, yn gyffredinol, mae’n rhatach i drigolion ac yn fwy cost-effeithiol i awdurdodau lleol.

           Prif nodweddion Tai Gofal Ychwanegol.

           Darpariaeth Gofal Ychwanegol yn Ynys Môn ar ffurf y Cynllun Gofal Ychwanegol a sefydlwyd ym Mhenucheldre, Caergybi a'r datblygiad a gynlluniwyd yn Hafan Cefni, Llangefni ac y rhaglennwyd y bydd yn agor yn haf 2018.

           Y safleoedd a ystyriwyd ar gyfer y cynllun Gofal Ychwanegol yn Ne Ynys Môn (ardal sy'n cynnwys ardal Seiriol) a’r sefyllfa yn dilyn gwerthuso a sgorio’r lleoliadau ar gyfer eu haddasrwydd.

           Y ddau opsiwn a ffefrir (Canolfan Gofal Dydd Biwmares ac Ysgol Biwmares) sydd ar safle Ysgol Biwmares. Ystyrir bod y rhain yn well oherwydd eu hygyrchedd i dref a mwynderau Biwmares; oherwydd eu lleoliad yng nghanol Ward Seiriol ac oherwydd bod digon o le i ddatblygu'r cynllun y tu ôl i'r ysgol pe bai'n parhau fel ysgol.

           Y model 3 ydd llawr arfaethedig ar gyfer y datblygiad ym Miwmares y dangoswyd lluniau ohono, yn ogystal ag enghraifft o fflat Tai Gofal Ychwanegol nodweddiadol

           Adborth o'r broses ymgysylltu y gellir ei grynhoi fel a ganlyn:

o          Cytundeb cyffredinol gyda'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant - Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 2 MB

·        Cyflwyno adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

·        Cyflwyno diweddariad o’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu'r Cynllun Gwella ar gyfer y Gwasanaeth Plant. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma yn y meysydd ffocws canlynol

 

           Ailstrwythuro'r Gwasanaeth

           Recriwtio a Chadw

           Diweddaru Polisïau a Chanllawiau, gan gynnwys y Strategaeth Gweithlu

           Sicrhau Ansawdd

           Gweithio gyda Phartneriaid

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer iawn o waith wedi'i wneud hyd yma a bod gwaith yn parhau. Ynghlwm yn Atodiad 3 roedd  hunanasesiad manwl sy'n crynhoi'r cryfderau, yr hyn a gyflawnwyd a'r meysydd sydd ar ôl i’w gwella yn erbyn pob un o’r argymhellion yn adroddiad Arolygu AGGCC wedi iddo arolygu Gwasanaethau Plant y Cyngor ym mis Tachwedd, 2016. Mae llythyr gan Bennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol AGGCC dyddiedig 11 Ionawr, 2018 yn nodi, er bod y newid wedi bod yn araf, bu gwelliant cadarnhaol graddol yn gyffredinol ac y gwnaed cynnydd sylweddol o ran  gweithredu'r strwythur gwasanaeth newydd. Mae'r llythyr yn cydnabod bod yr ymrwymiad corfforaethol i sicrhau gwelliant yn y Gwasanaethau Plant yn parhau a bod mwy o graffu a herio gan aelodau etholedig wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'r Rheoleiddiwr yn datgan y bydd yn parhau i fonitro cynnydd cyn cynnal adolygiad mwy ffurfiol trwy ailarolygiad yn nes ymlaen yn 2018.

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ei fod yn falch o weld bod llythyr y Rheoleiddiwr yn cydnabod y cynnydd sy’n parhau i gael ei wneud gan y Cyngor i weithredu argymhellion yr arolygiad ac i wella ei Wasanaeth Plant a Theuluoedd. Dywedodd y Swyddog, wrth gydnabod bod llawer o waith i'w wneud eto, nad yw newid ymarfer yn digwydd dros nos. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn ymwybodol o'r meysydd y mae angen iddo ganolbwyntio arnynt ac mae'n blaenoriaethu ar y sail honno.

           Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori diweddariad ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant. ‘Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r materion sydd wedi derbyn sylw gan y Panel ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2017 ynghyd â fersiwn wedi'i ddiweddaru o raglen waith y Panel hyd at fis Mai 2018.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, fel cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel, ei fod yn ymddangos fod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yma. Fodd bynnag, hoffai’r Panel ddwyn sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y ffaith, er bod cynnydd da wedi'i wneud o ran gweithredu'r strwythur staffio diwygiedig, fod gweithwyr asiantaeth yn parhau i lenwi rhai swyddi gwaith cymdeithasol. Mae angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r wybodaeth a gyflwynwyd a chymerodd sicrwydd o’r atborth a gafwyd gan y Panel a'r meysydd yr oedd wedi rhoi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Y Stâd Mân-ddaliadau - Mater a gyfeiriwyd i Sgriwtini gan y Cyngor Llawn pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo). ‘Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa mewn perthynas â stad mân-ddaliadau'r Cyngor ar ôl cwblhau'r Cynllun Gwella 5 mlynedd a oedd yn ceisio mynd i'r afael â’r dirywiad yng nghyflwr y stad wledig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff bod Stad Mân-ddaliadau’r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnwys 98 o ddaliadau ac ‘roedd dadansoddiad ohonynt yn adran 5.13 yr adroddiad. Mae 51% o'r daliadau ar gytundebau dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu Denantiaethau Busnes Fferm mwy modern, tra bod y 49% sy'n weddill ar denantiaethau sy’n fwy caeth dan Deddf Daliadau Amaethyddol 1996. Wrth i ddaliadau ddod yn wag, fe'u trosglwyddir i’r cytundeb mwy newydd dan y Ddeddf Daliadau Amaethyddol sy'n gytundebau tymor penodol ar renti marchnad agored. Ers cychwyn ar y rhaglen wella, gwelwyd cynnydd o £120k yn yr incwm rhent a gynhyrchir gan y daliadau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Prisio ei fod o'r farn bod y Rhaglen Wella wedi bod yn llwyddiant yn gyffredinol; cynyddwyd gwerth y stad yn sylweddol a llwyddwyd i wella  cyflwr cyfran fawr o'r stad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaeth y pwyntiau canlynol:

 

           Nododd y Pwyllgor broffil oed tenantiaid stad mân-ddaliadau'r Cyngor a nododd yn arbennig y duedd demograffig sy’n dangos mai dim ond 10% o’r tenantiaid sy’n 40 oed neu’n iau, a bod 30% rhwng 51 a 60 oed a 25% rhwng 61 a 70 oed. Er ei fod yn derbyn y rhesymau am hynny fel y nodwyd hwy yn yr adroddiad, gofynnodd a oes  arfer gydnabyddedig ymhlith awdurdodau Cymru y gallai'r Cyngor fanteisio arni i hyrwyddo symudedd a chynyddu cyfleoedd ar gyfer tenantiaid newydd. Dywedodd y Prif Swyddog Prisio bod adroddiad Llywodraeth Cymru - Ffermydd Sirol: Ffordd Ymlaen - yn tynnu sylw at y ffordd y mae Ynys Môn yn rheoli ei stad wledig fel un gadarnhaol a rhagweithiol o gymharu â'r dull a fabwysiadwyd gan awdurdodau eraill yng Nghymru nad ydynt mor rhagweithiol.

           Nododd y Pwyllgor y cafwyd trafodaeth yn y Cyngor Llawn am beidio â gwerthu mân-ddaliadau heb ganiatâd y Cyngor. Felly, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar yr ymagwedd bresennol tuag at werthu mân-ddaliadau. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod yr hawl i werthu yn aros gyda'r Aelod Portffolio ond bod unrhyw benderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â'r Swyddogion. Bu angen cael gwared ar fân-ddaliadau i gynhyrchu'r cyfalaf i ariannu'r rhaglen wella ac o ran rheoli'r stad - er mwyn cael gwared o'r asedau a oedd yn tanberfformio ac asedau nad oedd eu hangen mwyach.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â sefyllfa gyfredol Stad Mân-ddaliadau’r Cyngor ar ôl cwblhau'r Rhaglen Wella 5 mlynedd.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL 

5.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 119 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 6 ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

 

 

 

Cofnodion:

Ystyriwyd a PHENDERFYNWYD dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 6 ar y sail y byddai’n golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A o'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

6.

Cludiant Ysgol - Mater a gyfeiriwyd i Sgriwtini gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) a’r Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Cyfeiriwyd y mater i sylw'r Pwyllgor Sgriwtini  gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn sgîl adolygiad gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gludiant ysgol a oedd wedi arwain at farn Sicrwydd Cyfyngedig sy’n golygu bod gwendidau sylweddol yn y system o reolaethau mewnol ar gyfer Cludiant Ysgol.

 

Dywedodd Rheolwr Cymorth y Gwasanaeth Priffyrdd y cyflwynwyd adroddiad adolygu’r gwasanaeth Archwilio Mewnol ar Gludiant Ysgol i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 21 Medi, 2017. ‘Roedd yr adroddiad yn cynnwys Cynllun Gweithredu yn dwyn sylw at 16 o eitemau yr oedd gofyn mynd i'r afael â nhw dros gyfnod o amser, yn ôl blaenoriaeth. Yn ogystal â'r cynllun gweithredu gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, cyfarfu'r Pennaeth Adnoddau / Swyddog Adran 151, y Pennaeth Dysgu a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ym mis Awst, 2017 i sefydlu rhaglen o gamau gweithredu ar gyfer y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir. Mae'r Gwasanaeth Dysgu wedi penodi Ymgynghorydd i weithio fel Rheolwr Prosiect ar y mater hwn. Mae'r Gwasanaeth Dysgu hefyd yn elwa o amser penodol gan swyddog yn y tîm Gwasanaeth Trawsnewid sydd â gwybodaeth arbenigol am systemau TG ac a fydd yn gweithio gydag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru sydd eisoes yn defnyddio'r feddalwedd ONE y mae Ynys Môn hefyd wedi tanysgrifio iddi. Mae'r system ONE wedi'i dylunio fel y gellir tracio llwybrau bysys a thacsis i sicrhau bod y llwybrau gorau posib yn cael eu mabwysiadu er mwyn darparu gwell gwerth am arian.

 

Aeth y Swyddog ymlaen i dynnu sylw at y cynnydd a wnaed ers Medi, 2017 fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys cynnydd yn erbyn yr argymhellion a wnaed yn y cynllun gweithredu gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.

Dywedodd y Pennaeth Dysgu y gofynnwyd am adolygiad gan y gwasanaeth archwilio mewnol o drefniadau cludiant ysgol ar ôl gorwariant ar wasanaethau tacsis i ysgolion yn 2016/17. Mae'r gwasanaeth bws ysgol yn parhau i wario o fewn y gyllideb ac o ran gwariant y pen hwn yw’r gwasanaeth rhataf o’i fath yng Nghymru. Mae'r galw am gludiant i’r ysgol yn newid yn gyson a gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer sydd angen gwasanaeth tacsi; o ganlyniad, cynhelir adolygiad o’r polisi cludiant ysgol i ganfod a yw  gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n ddiangen mewn rhai achosion neu'n cael ei ddyblygu. Fodd bynnag, mae gwaith a wnaed dros y misoedd diwethaf yn golygu bod y gwasanaeth bellach yn gwybod mwy am natur a maint y galw am gludiant ac mae'n gweithio ar sefydlu’r systemau fel y gall reoli’r galw’n well yn unol â gofynion statudol. Mae gwaith ar werthuso a thracio llwybrau bysus a thacsis wedi dechrau ac o ganlyniad, rhagwelir y bydd y gorwariant yn lleihau eleni. Mae hyn cyn i'r gwaith ddechrau ar y systemau.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Eitem er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor mewn sesiwn agored ar gyfer yr eitem ganlynol

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori  Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2016/17 yn nodi perfformiad yn erbyn pumed Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2014-17.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod raid i’r Cyngor, yn unol ag adain polisi MALD Llywodraeth Cymru (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), gyflwyno Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad o ran cyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys crynodeb o berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn ystod 2016/17 ac fe'i cyflwynwyd i MALD ar ffurf ddrafft oherwydd yr amserlen asesu. Mae'r Asesiad yn dangos bod y gwasanaeth yn perfformio'n dda a'i fod wedi cwrdd â 17 o'r 18 o hawliau craidd yn llawn, gan gynnal ei berfformiad felly o  2015/16. O'r 7 dangosydd ansawdd, cyflawnodd Ynys Môn 4 ohonynt yn llawn a 3 yn rhannol, sy'n berfformiad tebyg i 2015/16. Fodd bynnag, mae MALD yn mynegi pryderon mewn rhai meysydd, yn enwedig mewn perthynas â staffio. Mae perfformiad yn debyg iawn i'r llynedd, gyda rhai gwelliannau nodedig yn y lefelau defnydd. Mae'r lefelau staffio isel yn parhau i fod yn destun pryder yn enwedig yn ystod cyfnod o gynllunio newidiadau i’r dyfodol. Er gwaethaf hynny, dywedodd y Swyddog fod y gwasanaeth wedi llwyddo i gynnal ansawdd y gwasanaeth ac wrth i ni symud tuag at chweched fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cymru, fod y broses drawsnewid yn argoeli’n dda o ran gallu’r gwasanaeth i gynnal perfformiad yn erbyn y safonau hynny.

 

Cydnabu'r Pwyllgor berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell ar adeg anodd ac mewn cyfnod o drawsnewid.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor –

 

           Yn awgrymu bod yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2016/17.

           Yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Llyfrgelloedd Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2016/17 a'r materion sy'n codi ynddo.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL