Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gan gynnwys Aelodau, Swyddogion a chynrychiolwyr Ysgol Bodffordd, Ysgol Henblas ac Ysgol Corn Hir.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Griffiths ddatganiad o ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen oherwydd bod plant ei nith yn ddisgyblion yn Ysgol Henblas.

 

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Bodffordd.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 3 ar y rhaglen oherwydd bod ei nith yn ddisgybl yn Ysgol Corn Hir.

 

Datganodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws (ddim yn aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol) ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol - 12 Mawrth, 2018 pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Dylan Rees, yr Is-gadeirydd am gadeirio'r cyfarfod yn ei absenoldeb.

3.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Corn Hir, Bodffordd ac Henblas) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ymgorffori'r adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ail-gyflunio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas) er ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi dau opsiwn ar gyfer symud ymlaen gyda'r broses foderneiddio yn ardal orllewinol Llangefni –

 

           Adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd, Ysgol Henblas ac Ysgol Corn Hir, neu

           Adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a chynnal darpariaeth addysgol yn Llangristiolus. Gallai hyn olygu cynnal Ysgol Henblas yn ei ffurf bresennol neu fel rhan o ysgol aml-safle ar yr amod y ceir sicrwydd ymhen blwyddyn bod y safonau yn Ysgol Henblas yn gwella, bod y gwelliant yn digwydd yn gyflymach a bod y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn parhau'n gyson.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod proses foderneiddio ysgolion yn golygu asesu a phwyso a mesur dyfodol ysgolion a'r effaith a gaiff hyn ar rieni, plant, athrawon, llywodraethwyr ysgol ac ystod o randdeiliaid eraill. Yn aml, mae'n fater dadleuol ac mae hefyd yn un o elfennau mwyaf heriol o fusnes y Cyngor. Fel yr Aelod Portffolio, roedd yn cydnabod hyn, ac roedd yn deall pryderon rhieni a rhanddeiliaid. Ar y llaw arall, yr hyn sy'n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion efallai am y 50 mlynedd nesaf; gwasanaeth ysgolion sy'n sigo dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad o ran gwaith cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm yn ogystal â nifer o faterion eraill. Rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall y disgyblion a'r athrawon lwyddo, a hefyd i'w gwneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol a bod pob ysgol yn cael cyfran deg o'r gyllideb. Mae'r Cyngor wedi cychwyn ar ei raglen foderneiddio er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac ansawdd yr addysgu a'r dysgu a sicrhau bod ysgolion sector arweiniol ym mhob ardal. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg at y ffactorau sy’n gyrru’r newid o ran moderneiddio ac a fydd yn dylanwadu ar unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r ddarpariaeth orau ar gyfer yr ardal fel y nodir yn adran 2 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at rôl Aelodau Etholedig yn y broses foderneiddio sy'n cwmpasu cyfrifoldebau lleol a chorfforaethol - sy'n golygu bod ganddynt ddyletswydd i'w cymunedau unigol ond hefyd ddyletswydd i ddarparu cyfeiriad strategol i'r Cyngor trwy arweiniad cadarn a chlir. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, er y bydd sylwadau penodol yn cael eu gwneud ar ran y tair ysgol yn y cyfarfod hwn, roedd yn hyderu y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei graffu er mwyn hwyluso'r broses yn ei chyfanrwydd a hefyd er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor Gwaith yn benodol yn y mater hwn ac yn gyffredinol ar gyfer y dyfodol. Diolchodd i bawb a oedd wedi mynychu'r sesiynau ymgynghori a phawb a oedd wedi cyflwyno eu barn er bod llawer o sylwadau wedi cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol - Cynnydd ar y Meysydd Blaenoriaeth pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yma yn erbyn y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i Lythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Darparwyd y Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol bod AGGCC, sydd ers Ionawr 2018, yn cael ei adnabod fel Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), wedi cyhoeddi ei Lythyr Adolygu Blynyddol ym mis Mehefin 2017. Roedd y llythyr yn crynhoi’r cynnydd ar feysydd allweddol ar gyfer gwelliant dros y flwyddyn flaenorol ac yn cynnwys adborth ar themâu ymgysylltu blynyddol (Diogelu a Gofalwyr); cynnydd ar argymhellion sy'n deillio o arolygiadau AGGCC yn ogystal â meysydd y mae angen ffocws ychwanegol arnynt. Ffurfiwyd Cynllun Gweithredu i ymateb i bob mater a godwyd gydag amserlen ar gyfer eu cwblhau a chyflwynwyd hwn i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Hydref, 2017. Cytunwyd bryd hynny y byddai cynllun wedi'i ddiweddaru yn cael ei rannu gydag aelodau'r Pwyllgor o fewn 6 mis er mwyn adolygu'r cynnydd a wnaed.

 

Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a oes unrhyw oblygiadau i'r broses ailstrwythuro y mae Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) wedi'i chynnal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd AGC yn awr, o ganlyniad i’r ailstrwythuro, yn gweithio ar lefel leol yn hytrach na rhanbarthol gyda’r nod o sicrhau cysondeb ar hyd a lled Cymru o ran ei ymagwedd ar draws yr amrediad o gyfrifoldebau.  Bydd y rhaglen arolygiadau yn parhau ac mae CIW yn parhau i fod mewn cyswllt monitro rheolaidd gyda Gwasanaethau Plant Ynys Môn ac mae'n fodlon â chynnydd yr Awdurdod hyd yn hyn. Disgwylir y bydd Gwasanaethau Plant yr Awdurdod yn cael eu hail-arolygu erbyn diwedd y flwyddyn. Mae AGC wedi cychwyn ar raglen o arolygiadau thematig cenedlaethol gan gynnwys un mewn perthynas â Phlant mewn Gofal y mae pob awdurdod wedi ymateb iddo. Nid yw Ynys Môn ymhlith y chwe awdurdod lleol lle bydd AGC yn cynnal gwaith maes mwy manwl fel rhan o'r arolygiad thematig hwn.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi newid ei enw i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o 15 Ionawr, 2018.

           Cymeradwyo Cynllun Gweithredu diweddaredig Ebrill 2018 fel y'i cyflwynwyd.

           Nodi bod AGC wedi cadarnhau mewn gohebiaeth ddyddiedig 23 Chwefror, 2018, na fydd, yn dilyn gwerthusiad, yn cyhoeddi llythyr perfformiad blynyddol yn 2018.

 

DIM CAMAU PELLACH WEDI EU CYNNIG

5.

Trawsnewid Gwasanaethau Anableddau Dysgu pdf eicon PDF 539 KB

Cyflwyno adroddiad  Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cynnwys wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu gyda chyfeiriad penodol at Raglen Trawsnewid y Gwasanaeth er ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn Atodiad 1 yn cynnwys manylion pob un o'r pum prosiect sy’n mynd rhagddynt fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid gan gynnwys statws cyfredol pob prosiect, effaith ar randdeiliaid, gweithgaredd hyd yn hyn a gweithgaredd y chwarter nesaf.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gwnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd hysbysu tenantiaid presennol Llawr y Dref o bwrpas prosiect Symud Ymlaen Llawr y Dref a'r hyn y mae'n ei olygu h.y. rhoi cyfle i 3 unigolyn ag anabledd dysgu gael eu hasesu am gyfnod o 3 i 18 mis ar gyfer y prosiect byw'n annibynnol.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a oes gan y prosiect Gwasanaethau Dydd Mewnol awgrymiad ar gyfer dyfodol y canolfannau dydd presennol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y gwasanaethau dydd mewnol mewn perthynas ag Anableddau Dysgu yn eu cyfanrwydd yn cael eu hadolygu i asesu a ydynt yn gallu diwallu anghenion defnyddwyr i'r dyfodol, p'un a ydynt yn cael eu modelu yn y ffordd gywir ac yn y lle cywir ac a ydynt yn darparu cefnogaeth briodol i alluogi unigolion i fod yn annibynnol.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdeithasol fod Aelodau wedi cael eu briffio ychydig fisoedd yn ôl ar yr adolygiad arfaethedig o’r gwasanaethau dydd mewnol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n briodol, a’i fod yn gofyn am i adroddiadau mewn perthynas â'r adolygiad o’r gwasanaethau dydd mewnol gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini cyn i’r Pwyllgor Gwaith wneud unrhyw benderfyniad ar y mater.

 

Penderfynwyd –

 

           Derbyn yr adroddiad fel datganiad sefyllfa ar y Gwasanaeth Anableddau Dysgu

           Cefnogi'r datblygiadau arfaethedig i'r gwasanaeth.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL: Adroddiadau mewn perthynas â'r adolygiad o’r gwasanaethau dydd mewnol mewn perthynas ag Anableddau Dysgu i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini cyn i’r Pwyllgor Gwaith wneud unrhyw benderfyniad ar y mater.

6.

Enwebiad i Banel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 70 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Sgriwtini sy'n gofyn am enwebiad y Pwyllgor ar gyfer aelod arall i gymryd lle’r Cynghorydd Shaun Redmond ar y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion. Roedd yr adroddiad yn cynnwys fel Atodiad 1, gylch gorchwyl a chyfarfodydd y Panel a'r trefniadau adrodd fel gwybodaeth ategol.

 

Penderfynwyd enwebu Mr Keith Roberts (Yr Eglwys Gatholig) i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 805 KB

Cyflwyno Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2017/18 i 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2017/18 i 2018/19 ar gyfer sylwadau ac i’w hadolygu.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor y disgwylir i ddau gyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor i ystyried materion addysgol gael eu hychwanegu at y Rhaglen Waith ar gyfer Gorffennaf, 2018.

 

Penderfynwyd derbyn y Rhaglen Waith fel y'i cyflwynwyd, yn amodol ar nodi cynnwys dau gyfarfod ychwanegol ar gyfer Gorffennaf, 2018.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL