Rhaglen a chofnodion

Arbennig - Moderneiddio Ysgolion (Llangefni Y Graig a'r Talwrn), Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 5ed Gorffennaf, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cynnwys Aelodau, Swyddogion a chynrychiolwyr Ysgol Talwrn a chymuned Talwrn.

 

Talodd y Cynghorydd Lewis Davies deyrnged i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ben-blwydd y Gwasanaeth yn 70 oed ac i weledigaeth y rhai hynny a’i wnaeth yn bosibl. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor â’r sylwadau gan gytuno bod ein dyled yn fawr i’r GIG a’r gofal iechyd y mae’n ei ddarparu.  

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Griffiths ddatganiad o ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda gan fod ei ddarpar ferch yng nghyfraith yn cael ei chyflogi yn Ysgol y Graig.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o diddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda gan ei bod yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol y Graig a Chorff Llywodraethu Ysgol Talwrn ac hefyd yn rhiant i blentyn sy’n ddisgybl yn Ysgol y Graig. 

2.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2017/18.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Drafft Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi newid yn sylfaenol y ffordd y mae Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod yn gweithredu ers ei gyflwyniad. Mae hefyd yn nodi’r fformat y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Gyfarwyddwyr Statudol pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ei weithredu wrth fynd ati i lunio cynnwys yr adroddiad blynyddol sy’n cynnwys Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Corfforaethol. Bwriad yr Adroddiad Blynyddol yw darparu gwybodaeth am berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i gynulleidfa eang yn cynnwys Aelodau Etholedig, y cyhoedd yn gyffredinol, defnyddwyr gwasanaeth ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae hyn er mwyn sicrhau bod ei gynnwys yn darparu cydbwysedd rhwng bod yn hygyrch ar un llaw a darparu’r Arolygiaeth â digon o fanylion ar y llaw arall. Fel rhan o’r broses o baratoi’r Adroddiad Blynyddol fe gynhaliwyd sesiwn herio gwasanaeth ym mis Mehefin lle gwahoddwyd amrywiaeth o bartneriaid gyda’r nod o gael eu mewnbwn ar weithgareddau Gwasanaethau Cymdeithasol yn y flwyddyn a aeth heibio ynghyd â chynlluniau’r Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.  

Gan gyfeirio at y Gwasanaethau Oedolion, dywedodd y Swyddog ei bod yn falch â’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn 2017/18, yn enwedig y cydweithio â’r Gwasanaeth Iechyd sy’n bartner allweddol. Yn ystod y flwyddyn, cafodd Garreglwyd yng Nghaergybi ei ail fodelu i ddarparu cymorth arbenigol i bobl hŷn â dementia ac mae’n adnodd lleol gwerthfawr sy'n galluogi’r rhai hynny sy’n dioddef o ddementia i aros ar Ynys Môn yn agosach at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd Hafan Cefni, y cyfleuster gofal ychwanegol yn Llangefni yn agor yn hwyrach yn 2018 a bydd yn galluogi mwy o bobl i aros yn eu cymunedau wrth i’w anghenion gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gynyddu. Bydd yr adnodd hefyd yn darparu gofal ar gyfer nifer fechan o gleientiaid dementia. Mae gwaith sylweddol hefyd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth iechyd a chymunedau lleol er mwyn cryfhau gwasanaethau dementia ar gyfer pobl yn ei cymunedau eu hunain ac ar draws yr Ynys.  

 

Mae’r cynnydd sylweddol a wnaed er mwyn gwella Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod 2017/18 wedi’i gofnodi’n helaeth mewn nifer o adroddiadau a gyflwynwyd i bwyllgorau’r Cyngor ac hefyd wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yn ei lythyr dyddiedig Ionawr, 2018. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio nifer o elfennau newydd yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan gynnwys y Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar, y Tîm Teuluoedd Gwydn a Teulu Môn. Ynghyd â’r mentrau newydd, mae’r Gwasanaeth yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau craidd h.y. gofalu am blant mewn gofal a phlant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Er bod llawer iawn wedi’i gyflawni o ran gwella’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd dros y deunaw mis diwethaf, nid yw trawsnewid y Gwasanaeth yn mynd i ddigwydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Y Graig a'r Talwrn) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ddiwygio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig) a gynhaliwyd rhwng 1 Mai a 18 Mehefin, 2018 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod y broses moderneiddio ysgolion yn cynnwys asesu ac ystyried dyfodol ysgolion a’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar rieni, plant, athrawon, llywodraethwyr ysgol ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill. Mae’n fater cynhennus yn aml ac hefyd yn un o elfennau mwyaf heriol busnes y Cyngor. Roedd yn cydnabod hyn fel y deilydd portffolio ac yn deall pryderon y rhieni a rhanddeiliaid. Ar y llaw arall, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf o bosibl; gwasanaeth ysgolion sy’n gwegian o dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm ynghyd â nifer o faterion eraill. Rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifri i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ac athrawon lwyddo ac hefyd er mwyn ei wneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod ysgolion yn cael cyfran deg o’r gyllideb. Er mai Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r materion sy’n effeithio arnynt sydd o dan sylw yn y cyfarfod hwn, mae’r materion hynny yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach sy’n edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd a’r Gwasanaeth Addysg ynddi. Maent yn cysylltu â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor ac yn enwedig ei ddyhead bod pob plentyn, person ifanc a phob dysgwr, beth bynnag fo eu cefndir a’u hamgylchiadau, yn cyflawni i’w potensial llawn. 

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod cyllideb y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor a bod angen dod o hyd i arbedion o tua £5.2 miliwn yn y Gwasanaeth dros y 3 blynedd nesaf. Yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi ceisio amddiffyn Addysg rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol; nid yw hynny bellach yn bosibl ac mae disgwyl i’r Gwasanaeth Addysg gyfrannu ei siâr o’r arbedion y bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ychwanegol at hyn y mae’r ôl-groniad cynnal a chadw sydd tua £16 miliwn. Mae’r pwysau ariannol a wynebir gan Ynys Môn a chynghorau eraill yn dod yn y pen draw o gyfeiriad Llywodraeth San Steffan a’r agenda o gynni parhaus. Dywedodd yr Aelod Portffolio, er nad ar chwarae bach y gwneir penderfyniad i gau ysgol, nid yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei raglen moderneiddio ysgolion er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu ac er mwyn sicrhau bod ysgolion sy’n arwain o fewn y sector ym mhob ardal. Mae’r gyrwyr ar gyfer newid yn parhau i fod yr un fath; mae’r rhain wedi eu nodi yn yr adroddiad ac un o’r rhai amlycaf  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.