Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Cydymdeimlodd â’r Cynghorydd Robin Williams ar ei brofedigaeth o golli ei dad. Bu hefyd longyfarch y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaeth) ar ddod yn Nain. 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitme o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfodydd Blaenorol - 4 Mehefin, 2018 pdf eicon PDF 373 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –

 

·         4 Mehefin, 2018

 

·         5 Gorffennaf, 2018 (arbennig)

 

·         13 Gorffennaf, 2018 (arbennig)

 

·         2 Awst, 2018 (galw i fewn)

 

·         6 Awst, 2018 (galw i fewn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir –

 

           4 Mehefin, 2018

 

           5 Gorffennaf, 2018 (arbennig)

 

           13 Gorffennaf, 2018 (arbennig)

 

           2 Awst, 2018 (galw i mewn)

 

           6 Awst, 2018 (galw i mewn)

3.

Adroddiad Cynnydd - Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 568 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd ar waith y Panel Sgriwtini Cyllid yn ystod y cyfnod rhwng Gorffennaf ac Awst, 2018 a gyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts (Aelod Sgriwtini ar y Panel Sgriwtini Cyllid) bod yr Awdurdod yn gweithio mewn amseroedd ariannol heriol gyda’r angen i leihau cyllidebau heb effeithio ar wasanaethau yn uniongyrchol yn dod yn dasg gynyddol anodd. Mae’r Panel Sgriwtini Cyllid yn ymwybodol o’r pwysau ariannol ar wasanaethau, yn enwedig y pwysau ar wasanaethau a arweinir gan y galw amdanynt megis y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac elfennau o’r Gwasanaeth Dysgu. Un o nodau’r panel oedd adnabod a deall y materion sylfaenol sy’n gyfrifol am y pwysau parhaus ar y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod y gorwariant sy’n codi o ganlyniad yn cael ei liniaru gan weithredoedd parhaus a phriodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts fod craffu ar y pwysau ariannol yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu felly wedi parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Panel yn y cyd-destun o fonitro’r gyllideb yn ystod Chwarter 1 o 2018/19. Comisiynodd y Panel wybodaeth bellach gan y ddau Bennaeth Gwasanaeth, a ystyriwyd yng nghyfarfod mis Gorffennaf, gyda sylw penodol yn cael ei roi i’r meysydd hynny a oedd o dan fwyaf o bwysau ynghyd â’r mesurau lliniaru a gynigwyd a/neu a weithredwyd. Mae’r Panel wedi gwahodd y ddau Bennaeth Gwasanaeth o gyflwyno diweddariad pellach i gyfarfod Medi 2018.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Panel hefyd wedi bod yn ystyried ei rolyn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2019/20 ynghyd â chraffu pa mor dda mae arbedion a gynlluniwyd yn cael eu darparu hyd yma yn y Gwasanaeth Dysgu, Gwasanaethau Oedolion a Phriffyrdd, Gwastraff ac Eiddo er mwyn gallu ffurfio barn ar y canran debygol o arbedion i’w cyflawni yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyllid) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas sefydlu’r Panel Cyllid Sgriwtini oedd galluogi grŵp bach o Aelodau i graffu’n fwy manwl ar gyllidebau gwasanaethau na mae rhaglen waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei ganiatáu a hynny er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r materion cyllideb sy’n effeithio ar wasanaethau gan arwain at heriau fwy ystyrlon ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Yn y cyswllt hwn, mae mewnbwn y panel yn ychwanegu gwerth i’r broses o osod y gyllideb a’i monitro. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwysau ar y gyllideb yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu yn parhau i achosi pryder i’r Panel a’i fod wedi uwchgyfeirio’r mater hwn at sylw’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor ymhellach y gall y term “gorwarioachosi argraff gamarweiniol o wasanaeth yn gwario mewn modd anghyfrifol neu heb roi ystyriaeth i’w gyllideb ond yn achos y Gwasanaethau Plant, mae’r gwariant yn digwydd gan fod yn rhaid i’r gwasanaeth fodloni anghenion y nifer gynyddol o blant sy’n dod i ofal yr Awdurdod er mwyn sicrhau eu bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd - Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 491 KB

Cyflwyno’r canlynol –

 

·        Adroddiad cynnydd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant.

 

·        Adroddiad cynnydd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar weithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaeth ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Tynnwyd sylw gan yr Arweinydd, sydd hefyd yn Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, at rai o’r sylwadau a wnaed yn adroddiad terfynol y Tîm Cefnogi Annibynnol (IST) a gafodd eu hatgynhyrchu yn adroddiad y Swyddog. Mae’r IST, ar gais y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaeth er mwyn cefnogi gwelliant yn dilyn yr arolygiad o’r Gwasanaethau Plant ym mis Tachwedd, 2016. Mae’r IST yn cyfeirio at y nifer o nodweddion calonogol a chadarnhaol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ei waith sy’n cynnwys ond sydd ddim yn gyfyngedig i arweinyddiaeth glir a strwythur rheoli; recriwtio effeithiol i swyddi gwag a rhaglenni hyfforddiant a datblygu staff; gwell rheolaeth a chymorth mentora ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant ynghyd â lefel uchel o ddealltwriaeth wleidyddol o’r materion sy’n cael sylw gan y Gwasanaethau Plant.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio hefyd ar y gwelliant amlwg mewn Dangosyddion Perfformiad fel a welir yn y tabl yn Adran 3 o’r adroddiad sy’n cymharu’r perfformiad yn Chwarter 1, 2018/19 â’r perfformiad cronnus ar gyfer 2017/18. Mae cymhariaeth tebyg at ei debyg â pherfformiad Chwarter 1 2017/18 yn dangos y gwelliant hyd yn oed yn fwy amlwg. Yn debyg, mae gwelliannau sylweddol wedi bod mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaeth o ran cyflawni safonau perfformiad corfforaethol. Nododd yr Aelod Portffolio fod y Gwasanaeth wedi trefnu Dathliad ar gyfer Gofalwyr Maeth yn ddiweddar a gynhaliwyd fel cydnabyddiaeth o’r gwaith amhrisiadwy a wneir gan ofalwyr maeth yr Awdurdod a’u teuluoedd a’u ffrindiau (pobl gysylltiedig) wrth iddynt ddarparu gofal i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd diogel pan nad oes modd iddynt fyw adref.    

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ers arolygiad CSSIW (CIW bellach) ym mis Tachwedd, 2016 a’r adroddiad dilynol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym Mawrth, 2017 a oedd yn cynnwys 14 o argymhellion ar gyfer gwella. Dywedodd y Swyddog fod CIW bellach wedi cadarnhau y cynhelir arolygiad arall o’r Gwasanaeth ym mis Hydref, 2018. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Cynllun Gwella Gwasanaeth wedi cael ei adolygu a’i ychwanegu ato yn rheolaidd ers iddo gael ei roi at ei gilydd yn dilyn yr archwiliad. O ran y gwaith o recriwtio a chadw staff, a oedd yn faes allweddol ar gyfer gwelliant ac sydd wedi bod yn un o’r pethau sydd wedi cael ei ganolbwyntio arno ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor, mae’r gwaith o ail-strwythuro’r Gwasanaeth bellach yn dod i ben. Mae’r Gwasanaeth wedi llwyddo i recriwtio 5 Gweithiwr Cymdeithasol Plant sydd newydd gymhwyso a chafwyd ychydig o lwyddiant hefyd wrth benodi Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i hysbysebu am weithwyr profiadol tebyg. Bu i hysbyseb diweddar am y swydd Arweinydd Ymarfer ennyn diddordeb o du allan i’r Awdurdod, sy’n adlewyrchiad o’r gwelliant yn enw da yr Adran Gwasanaethau Plant.  Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi gwneud cynnydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2018/19 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol bod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn adlewyrchu safle’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd hwy ac fel y cytunwyd arnynt rhwng yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth / y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol mewn gweithdy a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2018. Mae’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 1 yn galonogol ac yn cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa yn ystod Chwarter 1 2017/18 gyda mwyafrif y dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Fodd bynnag, mae 2 ddangosydd wedi dechrau’r flwyddyn yn tanberfformio yn erbyn eu targed blynyddol ar gyfer y flwyddyn – y rhain yw’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion. Mae’r dangosydd yn y ddau achos yn cynnwys nifer fach o unigolion sy’n golygu y gall unrhyw amrywiad effeithio ar berfformiad; bydd y dangosyddion yn parhau i gael eu monitro. Mae gweddill y dangosyddion a adroddir arnynt ar gyfer Chwarter 1 o ran rheoli perfformiad i gyd â statws RAG Gwyrdd neu Felyn. Yn ogystal, o gyfanswm nifer y dangosyddion a gafodd eu dynodi’n Goch neu Oren ar ddiwedd 2017/18, mae’n braf nodi, o’r rhai hynny y gellir eu tracio yn ystod Chwarter 1 o’r flwyddyn bresennol, bod 5 o’r 6 wedi gwella o ran perfformiad a dim ond un sy’n tanberfformio ar hyn o bryd. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, o ran Rheoli Pobl, bod y perfformiad mewn perthynas ag absenoldeb salwch ar ddiwedd Chwarter 1 wedi dirywio ychydig o’r gymharu â’r un cyfnod y llynedd gyda graddfa salwch o 2.69 diwrnod ar gyfer pob aelod o staff cyfwerth ag amser llawn o’r gymharu â 2.23 diwrnod ar gyfer pob aelod o staff yn ystod Chwarter 1 yn 2017/18. Ar lefel gwasanaeth, mae Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Dysgu yn tanberfformio ac yn y Gwasanaeth Oedolion mae hynny’n ganlyniad i nifer yr achosion o salwch hirdymor yn yr Uned Ddarparwyr ac yn y Gwasanaeth Dysgu mae’n ganlyniad i lefelau salwch tymor hir a lefelau salwch uchel yn yr ysgolion cynradd. Mae nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith – sy’n declyn effeithiol er mwyn rheoli salwch – sy’n cael eu cynnal ar amser wedi cynyddu ar gyfer y Chwarter.  

 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae’r defnydd o App Môn er mwyn cysylltu â’r Cyngor yn parhau i gynyddu. O ran rheoli Cwynion Cwsmeriaid, ar ddiwedd Chwarter 1 roedd 12 o gwynion wedi eu derbyn o gymharu ag 20 ar gyfer Chwarter 1 2017/18. Mae hyn yn welliant ar ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn enwedig wrth nodi bod yr holl gwynion yr oedd angen ymateb erbyn diwedd y chwarter (12) wedi derbyn ymateb o fewn yr amser angenrheidiol. O fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, derbyniodd 56% o’r cwynion ymateb o fewn yr amserlen gyda 4 ymateb hwyr. Roedd canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gafodd eu hymateb iddynt o fewn yr amserlen yn 80% - i fyny o 78% ar ddiwedd 2017/18.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 820 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn cynnwys Blaen Raglen Waith presennol y Pwyllgor ar gyfer 2017/18 – 2019/20 ar gyfer ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor. 

 

Nodwyd y bydd cyfarfod y Pwyllgor i ystyried y cynigion cychwynnol ar y gyllideb 2019/20 yn gallu mynd yn ei flaen ar 24 Hydref, 2018 gan y disgwylir cyhoeddiad am y setliad grant ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ddechrau mis Hydref.

 

Penderfynwyd derbyn Rhaglen y Flaen Raglen Waith heb unrhyw sylwadau pellach.

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL 

7.

Eitem er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol 2017/18 : Gwrando ar Gwynion a Dysgu oddi Wrthynt pdf eicon PDF 879 KB

Cyflwyno er gwybodaeth y Pwyllgor, Adroddiad Blynyddol Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2017/18.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar weithrediad Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2017/18 er gwybodaeth i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ffordd y gweithredwyd y Weithdrefn o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion ar gyfer y cyfnod Ebrill 2017 i ddiwedd Mawrth 2018.  

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad blynyddol 2017/18: gwrando a dysgu o gwynion, yn cynnwys y canlynol 

 

           Nodi’r sylwadau a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod 2017/18 ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Nodi perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu’r Weithdrefn Sylwadau a Chwynion ac yn delio â chwynion.

           Nodi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer datblygu’r trefniadau i ddelio’n effeithiol gyda’r sylwadau a chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.