Rhaglen a chofnodion

Galw i Mewn Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar Foderneiddio Ysgolion Ardal Seiriol, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 6ed Awst, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiddordeb personol sydd ddim yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda gan ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares.

 

Datganodd y Cynghorydd Carwyn Jones (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol) ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda gan fod ei gyfnither yn gweithio yn Ysgol Biwmares. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau ar 18 Gorffennaf, 2017 i gynrychioli'r safbwynt lleol drwy gydol y broses ond nid i bleidleisio ar y mater.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Glyn Haynes yn cynrychioli’r Cynghorydd J. Arwel Roberts er mwyn siarad ar y cais galw i mewn.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod yr hawl i siarad yn y cyfarfod yn ôl disgresiwn y Cadeirydd. Fodd bynnag, ni chaniateir penodi aelodau dirprwyol er mwyn pleidleisio.

 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai siarad cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Darllenodd gyngor a ddarparwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â'r mater a oedd yn cadarnhau nad oes hawl cyfansoddiadol cyfreithiol i siarad cyhoeddus mewn pwyllgor sgriwtini ac mai mater i'r Cadeirydd yw penderfynu pryd ac os yw hynny’n briodol. Yr unig ofyniad mewn cysylltiad â'r disgresiwn hwn yw ei fod yn cael ei ddefnyddio'n deg ac yn gyson. Ymhellach, mae'r Swyddog yn cynghori bod bwriad y Cadeirydd yn ddefnydd rhesymol o'r disgresiwn hwn dan yr amgylchiadau, gan fod hwn yn achos o alw i mewn penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ac nid yw'n rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniad lle mae'r Pwyllgor Sgriwtini yn casglu tystiolaeth.

2.

Galw Penderfyniad i Fewn - Moderneiddio Ysgolion Ardal Seiriol pdf eicon PDF 3 MB

Penderfyniad a waned gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion ardal Seiriol sydd wedi’i alw i fewn gan y Cynghorwyr John Arwel Roberts, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen, Peter Rogers ac Aled Morris Jones.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn :-

 

           Y Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf, 2018

 

           Y Cais Galw i Fewn

 

           Y adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 ynghylch Moderneiddio Ysgolion Ardal Seiriol.

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2018 i gymeradwyo Opsiwn 1, sef adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen, John Arwel Roberts a Peter Rogers. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Bryan Owen, Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, esboniodd y  Cynghorydd Peter Rogers y rheswm dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2018 fel y nodwyd yn y ffurflen gais galw i mewn, sef nad oedd y syniad o ysgol wedi ei lleoli ar safle newydd ar gyfer disgyblion Llandegfan, Biwmares a Llangoed wedi cael ei archwilio'n llawn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at yr ansicrwydd mawr iawn ynglŷn â pha ysgolion fyddai disgyblion yn eu mynychu petai Ysgol Biwmares yn cau ac y gallai hynny effeithio ar niferoedd disgyblion Ysgol Llangoed. Nododd nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd rhieni yn anfon eu plant i Ysgol Llangoed ac y mae deall dewisiadau rhieni yn hanfodol yn y mater hwn oherwydd ei fod hefyd yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol Biwmares. Yn ogystal, gallai gael effaith ar niferoedd yr ysgol uwchradd sy'n gwasanaethu'r dalgylch. Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers y bydd llawer o bobl wedi deall bod moderneiddio ysgolion yn golygu adeiladu ysgol ardal newydd fel sydd wedi digwydd mewn ardaloedd eraill lle mae'r ddarpariaeth addysg gynradd wedi cael ei hadolygu. Roedd yn credu bod cyflwyno ysgol ardal newydd yn briodol yn yr achos hwn hefyd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Robert Llewelyn hefyd fel un o lofnodwyr y cais galw i mewn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddiffyg Cynllun Busnes manwl,  rhywbeth yr oedd o’r farn y dylid fod wedi ei ddarparu gyda’r cynnig i ddangos yn gliriach oblygiadau ariannol ac arbedion posib o ganlyniad i wireddu’r cynnig. Nid oedd yn amlwg chwaith fod y risgiau wedi cael eu hasesu. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith na chafodd unrhyw gynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth cyn-ysgol, sydd mor boblogaidd ac uchel eu parch yn Ysgol Biwmares, eu cynnwys a chyfeiriodd at yr angen am sensitifrwydd wrth ddelio gydag Ysgol Biwmares fel adeilad rhestredig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes a oedd yn siarad ar ran y Cynghorydd J. Arwel Roberts, un o lofnodwyr y cais galw i mewn, er bod y cymunedau dan sylw yn amau cynigion ar gyfer ysgolion ardal newydd ar y dechrau, maent bellach yn ganolbwynt i’r gymuned ac yn cael eu croesawu gan rieni yn yr ardaloedd hynny lle cawsant eu datblygu e.e. Ysgol Cybi. Dywedodd y Cynghorydd Haynes ei fod o'r farn mai ysgol newydd oedd yr ateb cywir ar gyfer Seiriol yn yr un modd â mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.