Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 4 ar y rhaglen gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig, Llangefni ac yn rhiant i ferch sydd yn ddisgybl yn Ysgol y Graig.

2.

Monitro Cynnydd - Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod cyflymder y gwelliant o fewn y Gwasanaeth wedi bod yn sylweddol ers i’r Cynllun Gwella Gwasanaeth gael ei greu ym mis Chwefror 2017 o ganlyniad i arolygiad AGC yn ystod mis Hydref a Thachwedd 2016 ac erbyn hyn mae 13 o’r 21 cam gweithredu â statws gwyrdd. Nid oes unrhyw gamau gweithredu yn Goch a dim ond 2 yn Ambr, gyda 6 yn Felyn. Mae’r ddau faes Ambr yn ymwneud â gwella ansawdd ymarfer ac adolygu’r holl blant mewn gofal er mwyn gwneud yn siŵr bod cynlluniau cymorth a gofal yn seiliedig ar ganlyniadau mewn lle er mwyn sicrhau fod ganddynt sefydlogrwydd tymor hir. Dywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn ymwybodol y bydd rhai agweddau angen mwy o amser i gydymffurfio’n llawn ac mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant, sydd yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun yn ofalus, wedi trafod y mater. Rhagwelir y bydd gwaith ar y Cynllun yn parhau er mwyn sicrhau fod yr holl bwyntiau gweithredu a godwyd gan AGC yn symud i statws Gwyrdd erbyn mis Mawrth, 2019.

 

Yn ogystal, mae’r Dangosyddion Perfformiad wedi parhau i wella yn ystod y chwarteri diwethaf fel y dengys y tabl ym mharagraff 3 yr adroddiad sydd yn dangos gwelliant yn ystod Chwarter 1 a 2 2018/19 o gymharu â ffigyrau cronnus 2017/18 ar gyfer y DP cenedlaethol a lleol a restrir. Mae’r Gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau fod y gwelliant hwn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu ymhellach.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Gwasanaeth, yn ogystal â chanolbwyntio ar symud y meysydd Ambr a Melyn i statws Gwyrdd, yn cadw golwg ar y meysydd “Gwyrdd” er mwyn sicrhau nad oes llithriad yn digwydd. Mae’r Gwasanaeth wedi parhau i recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol profiadol a gwnaethpwyd nifer o benodiadau gan olygu mai dim ond un swydd Gweithiwr Cymdeithasol sydd angen ei llenwi erbyn hyn. Er bod y Gwasanaeth yn parhau i gyflogi staff asiantaeth dros y sefydliad i gefnogi Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso, fel y cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith, mae’r ddibyniaeth ar staff asiantaeth i lenwi swyddi gwag wedi lleihau’n sylweddol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad roedd y Pwyllgor yn cydnabod y camau sylweddol y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi eu cymryd i roi sylw i’r meysydd yr oedd angen eu gwella a amlygwyd gan AGC yn eu harolygiad yn 2016 a diolchwyd i staff y Gwasanaeth am eu hymdrechion, a hefyd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaeth am eu harweiniad wrth lywio’r Gwasanaeth i gyrraedd y pwynt hwn. Hefyd, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn - 

 

           Nododd y Pwyllgor fod y pwysau ariannol sy’n mynd law yn llaw â chynnydd mewn galw yn effeithio ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan arwain at orwariant; gofynnodd y Pwyllgor sut mae’r Gwasanaeth yn asesu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Monitro Cynnydd - Panel Gwella Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 878 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant ar waith y Panel hyd yma.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, ddiweddariad i’r Pwyllgor ar waith y Panel yn ystod y cyfnod o fis Medi i fis Tachwedd 2018 ac adroddodd fod y Panel wedi cyfarfod 16 o weithiau ers mis Gorffennaf, 2017 ac yn ystod y cyfnod hwnnw bod yr aelodau wedi datblygu llawer gwell dealltwriaeth o’r materion a’r cymhlethdodau sydd ynghlwm â darparu’r Gwasanaethau Plant. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffiths at y rhestr o ymweliadau Laming a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod mis Hydref 2017 i fis Medi 2018 a oedd wedi ei gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad a oedd hefyd yn rhoi crynodeb o bwrpas a chynnwys pob ymweliad a gynhaliwyd.

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Panel wedi bod o gymorth mawr i’r broses wella a’r bwriad yw y bydd y Panel yn parhau, er y bydd y trefniadau tymor hir yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Swyddog nad yw’r daith wella wedi gorffen a bod y Gwasanaeth yn llwyr ymwybodol fod angen gwneud mwy o waith er mwyn cwblhau pob elfen o’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a bod y gwaith hwnnw’n debygol o gymryd 9 i 12 mis arall.

 

Wrth dderbyn a nodi’r diweddariad gofynnodd y Pwyllgor beth yw’r sefyllfa mewn perthynas â gwaith partneriaeth a phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac yn benodol a oes protocol cenedlaethol ar gael ynglŷn â hynny.

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Plant wedi ymgynghori â’r Gwasanaeth Oedolion er mwyn datblygu trefniadau i ddarparu cymorth i’r bobl ifanc hynny sy’n trosglwyddo o’r Gwasanaethau Plant i’r Gwasanaethau Oedolion. Yn ogystal, mae cydweithio mewnol gyda’r Gwasanaeth Dysgu ac ysgolion, ac yn allanol gyda BIPBC a Heddlu Gogledd Cymru, wedi gwella. Erbyn hyn mae’r Gwasanaeth yn cydgynllunio â’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Tai yn hytrach nac yn rhannu gwybodaeth yn unig. Mewn perthynas â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, mae’r Gwasanaeth yn ceisio sicrhau ei fod yn ymwybodol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ar Ynys Môn ond y Gwasanaeth Dysgu sy’n gyfrifol am fonitro ansawdd yr addysg y maent yn ei dderbyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, oherwydd y cynnydd yn nifer y plant sydd yn derbyn addysg gartref ar yr Ynys, fod y Gwasanaeth wedi cynnal tri chyfarfod er mwyn deall y tuedd ar i fyny a’r rhesymau tu ôl iddo. Mae trefniadau mewnol yn cael eu hystyried ar gyfer rhannu gwybodaeth ac asesu’r plant os oes angen yn ogystal â threfniadau ar gyfer ymyrryd yn briodol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau posib a allai olygu fod plant angen cynllun amddiffyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

 “O dan Adran 100(A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth  eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd wedi’i atodi.”

 

Cofnodion:

Penderfynwyd, o dan Adran 100(A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth  eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd wedi’i atodi.

5.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Achos Strategol Amlinellol ac Achos Busnes Amlinellol - Ehangu Ysgol y Graig a Chau Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd i ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a chau Ysgol Talwrn er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod yr adroddiad ASA/ABA yn un technegol sydd yn nodi’r sail strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd a chau Ysgol Talwrn, yn unol a phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn derbyn arian cyfalaf ar gyfer y prosiect.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr ASA/ABA yn amlinellu’r achos dros foderneiddio ysgolion yn ardal ddwyreiniol Llangefni fydd yn cael ei wireddu drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig i dderbyn y nifer cynyddol o blant yn y dalgylch ac i dderbyn plant o Ysgol Talwrn a fyddai’n cael ei chau. Cyfeiriodd at agweddau allweddol y cynnig a chostau tebygol y prosiect ynghyd â safle posib ar gyfer y bloc newydd, trefniadau caffael a manyleb y gwaith adeiladu. Mae’r achos ariannol yn rhoi sylw i sut fydd y prosiect yn cael ei ariannu a’i fforddiadwyedd cyffredinol ac mae’r achos rheoli yn nodi cynllun amlinellol y prosiect a’r amserlen gyflenwi.

Dangosodd y Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol gynllun o’r safle posib ar gyfer y Bloc Cyfnod Sylfaen Newydd i’r Pwyllgor, safle a gafodd ei nodi yn dilyn ymarfer arfarnu safleoedd a oedd yn rhoi pwyslais penodol ar yr angen i leoli’r bloc newydd cyn agosed â phosibl at adeilad presennol Ysgol y Graig. Wrth esbonio’r cynllun, cyfeiriodd y Swyddog at yr ystyriaethau a ganlyn –

 

           Nid yw’r safle a nodwyd ar gyfer y bloc newydd wedi cael ei gadarnhau.

           Ni chynhaliwyd arolwg manwl o’r safle. Fodd bynnag, gan fod y safle yn wlyb iawn, mae’n debygol y bydd angen gwneud gwaith draenio sylweddol er mwyn datrys y problemau draenio dŵr ar y safle.

           Yn ogystal, mae’n debygol y bydd rhaid gwneud gwaith archwilio archeolegol dwys a helaeth er mwyn sefydlu a oes unrhyw nodweddion archeolegol posib o dan y tir.

           Gallai gwaith uwchben yn ogystal â gwaith posib arall e.e. symud y llinell bŵer uwchben, gael effaith ar gyfanswm cost y prosiect.

           Mae safleoedd posib eraill yn yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried, gan gadw’r ffactor agosatrwydd mewn cof.

           Mae problemau traffig sylweddol ar safle presennol Ysgol y Graig. Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd wedi nodi fod rhaid datrys y problemau traffig ar gyfer y campws cyfan fel rhan o’r datblygiad, ac mae hynny’n golygu creu maes parcio newydd fydd yn cydymffurfio â’r gofynion parcio sylfaenol ar gyfer ysgolion ac yn diwallu anghenion  adeilad presennol yr ysgol yn ogystal â’r bloc Cyfnod Sylfaen newydd. Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys maes parcio newydd wedi ei leoli rhwng adeilad presennol Ysgol y Graig a’r bloc Cyfnod Sylfaen newydd a bydd yn gwasanaethu’r ddau adeilad.

Ystyriodd y Pwyllgor y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.